Neidio i'r cynnwys

Ystên Sioned/Nansi'r Fagaboniad

Oddi ar Wicidestun
Y Ferch o'r Beili Einon Ystên Sioned

gan Daniel Silvan Evans


a John Jones (Ivon)
Y Ddwy Goes Bren

NANSI'R FAGABONIAD.

DYNA enw oedd yn ddigon adnabyddus yng nghanolbarth Sir Aberteifi y rhan flaenaf o'r ganrif bresennol. Hen ferch hanner call, gyfrwysddrwg, a thafodrydd tu hwnt i ddysgrifiad oedd Nansi; ac yn derbyn ei chynnaliaeth gan y plwyf. Gwyddai hanes pawb a phob peth drwy y cymmydogaethau; ac os byddai rhyw anhap wedi dygwydd i neb, yr oedd y cyfan ganddi hi, a byddai yn ei adrodd gyd a "nodiadau a chwanegiadau" ym mhob man yr elai. Nid oedd neb yn dewis ei gweled yn dyfod yn agos i'w tai; ond o herwydd prinder arian yr amseroedd hynny, byddai ffermwyr y plwyf yn ei chadw yn eu tai am fis ar gylch, drwy gael tâl da gan arolygwr y tlodion am hynny. Ond yr oedd pawb yn hiraethu am weled y mis yn tynnu at ei derfyn i gael gwared o honi.

Adwaenid un o'r plwyfolion dan yr enw Nat Pen Cefn, dyn yn cadw fferm o faintioli cyffredin; a chyda hynny arferai gludo coed o Sir Faesyfed i adeiladu llongau yn y Graig Las ac Aberaeron. Un tro dygwyddodd yn anffodus, pan oedd ef a Thwm Ysgubor Hen, yng nghyd ag un arall o'r gymmydogaeth, yn llwytho coed mewn dyffryn cul ag y sydd yn troi allan o'r ffordd fawr sydd yn arwain o Raiadr Gwy i Lanfair Muallt. Hen greadur tirion, cymmwynasgar, a charedig oedd Nat yn gyffredin; ond pan y byddai rhyw beth yn ei gyffroi, gwylltiai mewn eiliad, a chollai bob llywodraeth arno ei hun, a tharawai y nesaf ato â'r peth a ddygwyddai fod yn ei law; ac felly bu y tro hwn; aeth rhyw gamddealltwriaeth rhyngddo a'i gyfaill Twm o'r Ysgubor Hen, a dygwyddodd fod y fwyell yn ei law ar y pryd; a tharawodd Twm yn ei ben, a lladdodd ef yn y fan. Nid amcanai Nat wneyd y cyfryw beth, a theimlai yn dost o herwydd yr anffawd dorcalonus; ond nid oedd dim i'w wneyd ond gwneuthur y goreu o'r gwaethaf. Ar y cychwil neu'r trengholiad, cafwyd allan fod Twm wedi cael ei ddiwedd drwy i bren mawr syrthio arno wrth lwytho y bedrolfen. Aeth hynny drosodd; ond ni allai y trydydd person, mae yn debyg, fod yn berffaith ddistaw. Sibrydid o bryd i bryd yn y gymmydogaeth nad oedd y dygwyddiad yn hollol fel y tystiwyd ar y cychwil; ond ni feiddiai neb ddywedyd dim yn eglur.

Ym mhen blynyddoedd lawer ar ol y dygwyddiad uchod, aeth Nat Pen Cefn yn sal, ac yr oedd pob arwyddion ei fod yn nesäu i farw; a theimlai Nat ei hunan fod y babell bridd yn ymollwng; a deisyfai gael ychydig nifer o gymmydogion yng nghyd i gadw cyfarfod gweddi gydag ef. Daethai cryn nifer ar ei ddeisyfiad, a chynnaliwyd y cwrdd. Wrth y tân eisteddai yr hen Nansi y soniasom am dari; gan mai Nat Pen Cefn oedd yn "cadw ei mis" hi ar y pryd. Cadwai Nansi y lle goreu, a'r nesaf at y tân, pa le bynnag y byddai yn cartrefu, er pawb ar bob amgylchiad. Ar ol diwedd y cwrdd aeth y cyfeillion at y gwely, i'r "pen isaf," i ysgwyd llaw, a chanu yn iach i'r claf. "Wel, gyfeillion bach," ebai Nat, nos da'wch i gyd, a ffsarwel hefyd; mae yn debyg mai yn y nefoedd y cwrddwn nesaf." "Beth," ysgrechai yr hen Nansi o ymyl y tân, "yn y nefoedd 'wedaist ti, aie? Mae gen' ti lawer o waith settlo a Thwm Ysgubor Hen cyn byth y cyrhaeddi di yno!" Aeth yn ddistawrwydd mawr, ac aeth pawb i'w ffordd heb ddywedyd gair. Yr oedd Nat wedi marw cyn y bore.

Dylasid hyspysu y darllenydd yn gynt y byddai y cymmydogion yn gweled yspryd Twm Ysgubor Hen yn rhodio yn hamddenol o gwmpas Pen Cefn, ac yn ysgwyd bwyell danllyd gyferbyn â'r tŷ, ac yn ymadael fel olwyn o dân dros y mynyddoedd tua Rhaiadr Gwy!

Nodiadau

[golygu]