Neidio i'r cynnwys

Ystên Sioned/Oriau'r Flwyddyn

Oddi ar Wicidestun
Profiad Ceispwl (2) Ystên Sioned

gan Daniel Silvan Evans


a John Jones (Ivon)
Dangoseg

ORIAU'R FLWYDDYN.

Y MAE rhai o'n rhigymau poblogaidd yn anghywir o barth ffaith, lle mae'r ffaith yn ddigon amlwg, ac o fewn cyrhaedd pob dyn a fyddo yn berchen ar synwyr cyffredin. Un o'r cyfeiliornadau gwerinaidd hyn sydd yng nghylch nifer yr oriau mewn blwyddyn, yr hwn sydd wedi myned dan ystrydeb yn y pennill canlynol:

"Deunaw mil o oriau hirion
Sydd ym mlwyddyn drom y galon,
A saith gant, a thrigain hefyd,
A thair awr a phedair mynyd."

Sef yw hynny, mewn rhifnodau, 18763 o oriau, a 4 o fynydau:ac nid gwaeth i chwi geisio llusgo yr afanc allan o Lyn Llion na cheisio darbwyllo ambell ddyn nad oes cynnifer a hyn o oriau yng nghorff y flwyddyn; pryd nad oes, mewn gwirionedd, mo hanner hynny ynddi, yr hyn sydd ddigon hawdd i bawb ei ddarganfod. Gwyddys mai 365 o ddiwrnodau sy mewn blwyddyn, a 24 awr mewn diwrnod; llaosoger y rhai hyn â'u gilydd (365 x 24), a cheir y daill yn 8760; chwaneger at hyn y 6 awr sy dros ben y 365 o ddyddiau cyfain yn y flwyddyn, a cheir yr holl gyfanswm yn 8766, sef llai o gryn lawer na hanner y nifer a grybwyllir yn yr hen rigwm. Nid pell iawn o'r nod a fuasai dywedyd:

Y mae wyth fil o oriau
O fewn blwyddyn drom y galon,
A saith gant, a thrigain hefyd,
A chwech awr, a phedair mynyd.

Yn rhyw fodd neu gilydd, ymddengys i mi fod y Cymry i raddau yn gyffelyb i bobl y Dwyrain, yn analluog i amgyffred nifer pethau, os bydd y nifer hwnnw yn nifer mawr. Y mae mil, a myrdd, a miliwn, gellid meddwl, i ambell un braidd yn eiriau cyfystyr; ac o herwydd pa ham anfynych iawn y gellir ymddibynu yn gwbl ar gywirdeb rhifedi y cyfarfyddom a hwynt yn y cylchgronau a'r newyddiaduron Cymreig. Rhaid cyfaddef fod y dull Cymreig, neu yn hytrach y dull Celtig, o gyfrif yn un lled drwstan; ond nid yw mewn un modd mor drwstan ag i gyfreithloni un o bob cant o'r camsyniadau dybryd a welir yn britho ein cyfnodolion.

Camsynied bychan mewn cymhariaeth, a wnaeth awdwr canu "Morgan Jones o'r Dolau," pan y dywedodd,

"Mae saith milltir a saith ugain
O Bont Llanbedr i Bont Llundain;
Cerddwn rhai'n ar ben fy ngliniau
Er mwyn Morgan Jones o'r Dolau;

er bod yma ryw hanner can milltir o amryfusedd; yr hyn sy gryn lawer mewn nifer mor fychan a dau gant; canys nid oes llai na dau gan milltir faith "o Bont Llanbedr i Bont Llundain."

Nodiadau

[golygu]