Ystên Sioned/Pennillion (2)
| ← Bwci Melyn Bach y Cwm | Ystên Sioned gan Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon) |
Y Plentyn a'r Neidr → |
PENNILLION.
27. Mae plas ym Mhant Ysgawen,
Am dano mawr yw'r son;
Mi welais Wâl y Filast,
A rhedyn am ei fon;
Mae carreg ar ben Rhiwtin,
Ac wrth y cornel dŷ:—
Mae gofid ar fy nghalon
Wrth wel'd y byd y sy.
28. Brysia'n ol, a dywed imi
Pa fodd y mae'r cyfolwg arni;
A dwg y serch o wreiddiau'm calon,
A'i ganu ganwaith i liw'r hinon.
29. Bydd drugarog, wenddyn fwyn,
A gwrando'm cwyn alaethus;
Mi sy fab, wen fawr ei bri.
Am danat ti'n alarus:
Ac os byddi wraig, liw'r haf,
I'th garwr claf wylofus,
Tra fo ynof anal chwyth
Mi fyddaf byth yn hapus.
30. Amser fu, ac amser fydd,
Ag amser sydd i bob rhyw hân:
Am hynny, medd yr henwr doeth,
Y rhai ni ddoeth, nhw ddeuan'.
31.
Gwed yn ddifrad gyda'r gennad
Pam y cedwi ddau mewn tel?
Peth afresymol, feinir fanol,
Yw gwneuthur ffol o fachgen ffel.
32. Hawdd rhifo'r ser, os gwr a ddyd
Ar hynny'n llwyr ei serch a'i fryd;
A rhagoroldeb o bob rhyw
Nid anhawdd yw cyrhaeddyd.
33. Mae'r gwyntoedd yn gostegu,
Mae pawb yn myn'd i gysgu;
Mae mab yn d'aros yn y llwyn,
Y gatten fwyn lygeittu!
34. Mi welais ferch benchwiban
Yn ochr llwyn o raban,
Ac yn llefain, och! yn drwm,
"Mi gollais glwm o ruban."
35. Taen dy wely cyn y nos;
Edrych cyn rhoi naid i'r ffos:
Os cynddeiriog fydd y ci
Na cherdda di yn agos.
36. Cais chwilio perfedd pob dygwyddiad,
Achos, ymmod, a dechreuad,
Ag eithaf pwyll dynoldeb hywall;
Cyn barnu ar ddim cais gyfiawn ddeall.
37. Ti'r cantor du pigfelyn,
Hed drosof at f' anwylddyn;
A gwed nad oes un gair o'm pen,
Ond enwi gwen lliw'r hiffyn.
38. Merch ifanc wy'n ei hoffi,
Dyn wasgfain, ysgawn, wisgi;
A'r man lle sango'r deg ei dawn,
Ni phlyg y cawn ddim dani.
39. Tebyg ydwyf i ddylluan;
O bren i bren bydd honno'i hunan:
A phob 'deryn yn ei churo:
Tebyg iawn wyf finnau i honno.
Neu fel hyn:
Tebyg iawn wyt i'r ddylluan;
O bren i bren bydd honno ei hunan;
A phob 'deryn yn ei churo:
Tebyg iawn wyt ti i honno.
40. Tref y Ddôl a Thal y Bont,
A chwrw stout Siân Morgan,
A'r gwaith yn brin ym mwyn y plwm,
A'm gwnaeth yn llwm o arian.
41. Tri pheth nis gallaf aros:
Ci reto heb ei annos;
Byw heb fara yn fy nghell;
A chrefydd bell Rhys Tomos.
42. Mae chwil y bwm yn canu,
Cawn dywydd teg efory:
Nid oes fawr goel ar chwil y baw;
Gall fod yn wlaw serch hyany.
43. Os ei di i garu rhyw lodes wen lân,
Cei ddillad, cei ddodrefn, cei wely plu mân;
Ond os ei di i garu rhyw goegen ry wen,
Cei wellt yn dy wely, a phlu yn dy ben.
44. Synnais lawer wrthyf f' hun,
Pan nad oedd un yn gweled,
Am fod gwen â'i phen mor ffol
A myn'd, ar ol hir wylied,
I'w phriodi â'r fath gnaf,
A hithau'r lanaf lunied.
45. Mi rois fy ngiâr i ori
Ar ben y Frenni Fawr,
A deg o wyau dani,
A deg a ddaeth i lawr;
Dydd Sul mi eis i'r Eglwys,
A'r barcud aeth â nhwy:
Tra'n berchen giâr a chywion
Nid af i'r Eglwys mwy.
Dull Gwynedd:
Mae genyf iar a eistedd
Ar ben y Penmaen Mawr;
Me eis at droed y Wyddfa
I alw honno i lawr:
Me hedodd ac me hedodd,
A'i chywion gyda hi,
I eithaf tir Iwerddon
"Good morrow, John, how d'ye?"
46. Hiraeth, hiraeth! cilia, cilia,
Paid â phwyso'n rhy drwm arna';
Nesa dipyn at yr erchwyn,
Gad i mi gael cysgu gronyn.
47. Rhodio'r oeddwn fynwent Eglwys
I ymofyn am le teg i orphwys,
Taräwn fy nhroed wrth fedd f' anwylyd,
Clywn fy nghalon drom yn symmud.
Gofyn wnawn i'r gynnulleidfa,
"Pwy yw'r un a gladdwyd yma?"
Ac atebai rhyw ddyn ynfyd,
"Dyna'r fan lle mae d' anwylyd."
48. Acw draw mae fy nau lygad,
Acw draw mae f' anwyl gariad;
Acw draw dymunwn innau
Gysgu'r nos a chodi'r boreu.
49. Mae genyf ebol melyn
Yn codi'n bedair oed;
A phedair pedol arian
O dan ei bedair troed;
Fe neidia ac fe brancia
O dan y feinir wen;
Fe redodd ugain milltir
Cyn tynnu'r ffrwyn o'i ben.
50. Bûm yn byw yn gynnil gynnil,
Aeth un ddafad imi'n ddwy-fil;
Trois i fyw yn afrad afrad,
Aeth y ddwy-fil yn un ddafad.
51. Mae digon o wroldeb, oes,
Gan bawb, os arall fydd dan groes;
Ond nid mor hawdd y ceir y dyn
A gynnal bwys ei faich ei hun.