Neidio i'r cynnwys

Ystên Sioned/Pennillion (3)

Oddi ar Wicidestun
Breuddwyd Gwraig y Calchwr Ystên Sioned

gan Daniel Silvan Evans


a John Jones (Ivon)
Profiad Ceispwl (2)

PENNILLION.

52. Yr eneth deg benfelen
Sy'n byw ym Mhen y Graig,
Dymunwn yn fy nghalon
Gael honno imi'n wraig:
Hi fedra bobi a golchi,
A thrin y tamaid bwyd,
Ac ennill llawer ceiniog
Er lles i'r bwthyn llwyd.

53. Dymunol iawn a braf dros ben
Yw brigyn pren afalau:
Mae arno olwg hawddgar iawn
Pan fyddo'n llawn o flodau.


54. Yr oedd bwch yn nhroed y Wyddfa
Yn rhwym wrth aerwy pren,
A bwch yn Ynys Enlli,
Yn ymryson taro pen:
Wrth swn y rhai'n yn taro,
Mae hyn yn chwedl chwith,
Fe syrthiodd clochdy'r Bermo
Na chodwyd mo'no byth.


55. Mae brân i frân y dyffryn,
Mae Siân ar gyfer Sionyn;
Ac os yw pawb i gael rhyw garp,
Mae Huwcyn larp i rywun.


56. Mi af i Lundain Galanmai,
Os byddaf byw ac iach;
Ni arosaf ddim yng Nghymru
I dorri'm calon fach:
Nid ar y flwyddyn fach mae'r bai,
Ond dynion drwg sy o beutu'r tai.

57. Mae'n gofyn gwr synwyrol,
Mwyn, araf, call ragorol,
O ddeugain oed i hanner cant,
I ddysgu plant mewn ysgol.*

Modd arall arno:

Mae'n gofyn gwr synwyrol,
Gwr gwraig, tad plant cynneddfol,
O ddeugain oed i hanner cant,
1 ddysgu plant mewn ysgol.[1]


58. Hed drosof, aderyn pigfelyn, at ferch,
Dwg gân i fy ngwen o ias awen fy serch,
Ac arch iddi ddyfod i'r gwaelod, lle y gŵyr,
I gyffwrdd â'r bardd, y wawr hardd, yn yr hwyr.


59. Tra bo rhew yn dew ar dwyn,
Ia'n y cwm, a llwm y llwyn,
Ydd wy'n ddi fraw'n cyweiriaw cân,
Yn fardd hy mewn ty, min tân:
Byw fal hyn mewn bwthyn bach,
Brenin wyf, a'm bron yn iach.


60. Ni welodd neb o fewn fy safn
Erioed un datu o gwrw;
A thra bo'r frân yn gwneyd ei nyth
Ni'm gwelir byth yn feddw.

61. Mae llefain mawr a gwaeddi
Yn Ystrad Ffin eleni,
A'r cerryg mân yn toddi'n blwm,
Rhag ofn Twm Sion Cati.

62. Ofer ydyw saethu'r seren,
Ofer golchi traed hwyaden;
Ofer ydyw, cofia'r ddammeg,
Iro tor yr hwch â bloneg:
Ofer ceisio grawnwin deall
Ar fwyeri, drain, ac ysgall;
Ofer disgwyl y felgafod
Yn ddefnynau ar y wermod:
Ofer, ffol yw'r dyn sy'n tybied
Ei fod heb farn yn medru cerdded:
Ni chariodd ci erioed ei gynffon
Wrth fodd pawb, mae'n hyspys ddigon.

63. Mae'm calon i mor drymed
A'r march sy'n dringo'r rhiw;
Wrth geisio bod yn llawen,
Nis medraf yn fy myw:
Mae'm hesgid fach yn gwasgu
Mewn man na wyddoch chwi;
A llawer gofid meddwl
Sy'n torri'm calon i.


64. Ofer yw, er maint fo rhinwedd,
Dysg, a dawn, a hir amynedd,
Geisio byth, gwrandëwch y testun,
Ddala tafod merch ysgymmun.

65. Anhyfryd beth yw methu;
A ffwyl ar ddyn yw ffaelu;
Ni wel fwynder glwysber glân,
Nac un awr gân a gwenu.

66. Dyn cwynfanllyd ynfyd wyf,
Gwr yn wyllt i'w gur a'i nwyf,
Yn dwyn nod gresyndod serch,
Gwewyr mawr o garu merch;
Tost yw'r fron a'r galon gaeth,
Lle rhy serch yn llwyr ei saeth;
Ond gresynach, tostach twyll,
Yw ias pen heb naws y pwyll.

67. Pe tybiwn i y gwyddai'm crys
Yn yspys fy nghyfrinach,
Ni ddeuai, dros ei daflu i'r fflam,
I'm canlyn gam ym mhellach.


68. Pe caem ni fwyd y bore,
A bregwest gyda'r dydd,
A bolaid fawr o fwdran,
A chinio hanner dydd,


A bara a chaws bryd godro,
A bwyd wrth fyn'd i'r glwyd,
A swper yn ddigonol,
Ni ynganem ni am fwyd.[2]

69. Cân di benniil mwyn i'th nain,
Fe gân dy nain i tithau;
Nid yw hyny ddim i neb,
Ond talu'r echwyn adre'.

70. I'm cinio cael bresygen
Cawn yn fy nwrn erfinen,
Bara barlys coch i'm 'sgâr:—
Tewheais fel iar i'w thalcen.

Lle bai rhyw lewndid lawer,
Cawn fwdran sur i'm swper,
A chydag ef, drwy ffillach ffraeth,
Cawn faidd a llaeth dau hanner.


71. Er gweled y llysiau yn wyrdd ac yn hardd,
Mae'n enbyd bod neidr dan gel yn yr ardd;
A chwithau, wŷr trechol, 'dd wy'n ofni'n rhy dost,
Mai cariad morforwyn yw'ch crefydd a'ch bost.


72. O, rhyfedd yw'r ffoledd a'r maledd mewn merch!
Er hacred y mab, lle bo'n gadarn ei serch,
A'i fod yn flin elyn i'w thad ac i'w mam,
Hi a'i dilyn hyd angeu, bid cymhwys bid cam.


73. Caru'm mhell a charu'n agos,
Newid cariad bob pythefnos;
Er hyn i gyd ni all fy nghalon
Lai na charu'r hen gariadon.

74. Ydd wyt ti'n hardd tu hwnt i neb,
A theg yw'th wyneb serchus;
Ail i ti, 'r ysgeiddig fun,
Ni welais un o'r ynys.

75. Ffol wyf fi, a ffol yw bagad,
Ffol yw'r mab ni charo'i gariad;
A ffol iawn yw'r mab a garo
Lle na bo dim cariad iddo.

76. Os bûm fsol, mi fyddaf ffelach;
Mwy nid af i ymgais ffrilach,
I gael gair fy mod yn chwannog
I garu'r merched saith-am-geiniog.

77. Dyn a garo lwyddiant mawr,
Cwnned beunydd gyda'r wawr:
Dyn a lwyddwys yn ei waith,
Cysged beunydd hyd awr saith.


78. Er nad wyf ond dierth yma,
Fel rhyw 'dderyn ar ddisgynfa,
Nid wy'n prisio am wŷr trawsion,
Mwy na'r gath sy'n siglo'i chynffon.

79. Gwell bara haidd a heddwch
Na bara can a garrwch;
Gwell na llys brenin, Duw a'i gŵyr,
Cwr perth mewn llwyr lonyddwch.

80. Mi wrthodais, ffol yr oeddwn,
Ferch a garai'r tir a gerddwn;
Ac a gerais, do, 'n garedig,
Ferch a'm gwerthai am ychydig.

81. Yr hwn sy'n teithio môr a thir,
Er caffael gwir gyfeillion,
Gwilied ei fod yn rhy chwit-chwat
Rhag taro at elynion;
Gan fod bleiddiaid lawer haid,
Yn awr fal defaid dofion.

82. Do, mi welais heddyw'r boreu
Ferch a gawn pan fynnwn innau;
Ac a welais, do, brydnawn,
Ferch a garwn, ac nis cawn.


Nodiadau

[golygu]
  1. Yng Ngheredigion priodolir y pennill hwn i Edward Richard, o Ystrad Meurig; ond ym Morganwg, i Wiliam Ifan, o Lanelltud Nedd.
  2. Y mae'r pennill hwn yn gofyn am eglurnod. Cyffes credo nyddwragedd yr amser gynt ydyw. Codent at eu gwaith ym mhell cyn y dydd; a dalient ato nes y byddai'r nos wedi cerdded yn lled bell. Y "bwyd y bore" oedd y pryd cyntaf, yr hwn a fwytëid wrth oleu canwyll; y "folaid fawr o fwdran" oedd y trydydd pryd, yn rhywle o naw i ddeg, rhwng boreufwyd a chiniaw am ddeuddeg; "pryd godro" ydoedd o ddeutu canol y prydnawn, a'r "bwyd wrth fyn'd i'r glwyd" oedd y pryd a gymmerid pan fo'r ieir yn myned i glwydo neu gysgu ym min yr hwyr, i wella pwyll nes dyfod swper. Gwelir fod y gwragedd da hyn mor ymwadol ag ymfoddloni ar ddim ond saith bryd y dydd. Pan fyddai dim ond un yn canu'r pennill, dywedai:"Pe cawni. Ni ynganwni;" er mwyn iddo fod yn gymhwysach. Gwelir nad oes son am "ddysglaid" neu "gwpanaid o de" yn y pennill.