Ystên Sioned/Profiad Ceispwl (2)
| ← Pennillion (3) | Ystên Sioned gan Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon) |
Lliwiau'r Gwallt → |
PROFIAD CEISPWL:—RHIF 2.
DYGWYDDODD tro lled drwstan arnaf er ys amryw flynyddoedd yn ol, ac effeithiodd ar fy nghymmeriad yn fwy na dim a gyfarfum yn ystod fy holl oes, o herwydd i mi fod mor ysgyfala yn cyflawni fy swydd. Cefais fy anfon ym mhell oddi cartref gan fy meistriaid, sef y cyfreithwyr, at dyddynwr ag oedd "wedi myned yn ol," fel y dywedir, " yn ei amgylchiadau." Yr oedd arno i'w feistr tir amryw ardrethoedd heb eu talu. Cefais bob awdurdod angenrheidiol i gymmeryd meddiant o'r cwbl o'r anifeiliaid oedd ar y fferm. Aethym â dyn ieuanc dibrofiad fel cynnorthwywr; cyrhaeddasom yno yn bur fore, a chasglasom y ceffylau, y gwartheg, ac ychydig ddefaid oedd yno, a chawsom gynnorthwy y ddau fab cyn diwedd i'w cael yn ddiogel i'r "cae tŷ" (farm-yard). Ar hyn daeth yr hen wr, sef y perchenog, allan i'n cyfarfod. " Bore da," meddwn i wrtho; "bore da, gyfaill bach," ebai yntau; "gobeitho na chawsoch lawer o drafferth gyda'r creaduriaid." "O na," meddwn innau, "dyna yw ein gwaith, ond gwaith digon diflas i ni, ac yn enwedig i chwi, yr hen wr." "O, wel," atebai yntau, "nid oes genyf le i achwyn am ddim oll; mae yn deilwng i'r meistr tir gael yr hyn sy ddyledus iddo; ac am danoch chwi, gyfaill, nid oes dim bai yn y byd; rhaid i chwi gyflawni eich dyledswydd. Yr oeddym yn myned at ein boreufwyd yn awr, ac y mae cyflawn roesaw i chwithau eich dau ddyfod i gydgyfranogi â ni; rhaid eich bod mewn angen am rywbeth i'w fwyta eich dau erbyn hyn." Gwir oedd hynny; ac aethom i mewn, eisteddwyd wrth y bwrdd, yna gofynodd yr hen frawd fendith ar y trugareddau, a dechreuai siarad yn grefyddol iawn, ei fod yn teimlo ei hun yn ymostwng yn hollol i drefn y Rhagluniaeth fawr oedd yn trefnu pob peth; nad oedd yn disgwyl dim yng wahanol, gan mai felly y rhyngai bodd y Penllywodraethwr. Buom gryn amser (o herwydd yr holl siarad) wrth y boreufwyd, a theimlwn yn wirioneddol ddrwg dros yr hen frawd a'i deulu, yn enwedig dros y plant ag oedd yno. Pan oeddym ar gychwyn allan, "O," meddai yr hen wr, "ein harferiad ni bob amser yw cynnal tipyn o wasanaeth crefyddol bob bore ar ol boreufwyd, sef darllen pennod a myned dipyn i weddi; ac os aroswch chwithau eich dau i gyduno â ni byddai yn dda iawn genyf. Teimlais ar unwaith, gan ein bod wedi cael ein porthi mor gysurus ganddo, mai gwell a gweddusach i ni aros iddo fyned drwy hynny o wasanaeth. Rhaid cyfaddef mai o barch i'r hen gyfaill, ac nid o herwydd bod genym ryw lawer o archwaeth at y gwaith, yr arosasom. Galwyd pawb yng nghyd, ymaflodd yntau yn y Beibl mawr, a darllenodd y bennod fwyaf y clywais son am dani erioed, gan wneyd sylwadau arni wrth fyned ym mlaen; aeth hynny i'r pen rywbryd, ac yna aethom ar ein gliniau; a dyna lle y bu yr hen greadur "yn amgylchynu môr a thir," ac yn son am Iuddewon a Chenhedloedd; daeth cyn y diwedd i erfyn am fendith "ar y ddau gyfaill ag oedd Rhagluniaeth wedi eu dwyn o dan ein cronglwyd;" a dyna y weddi wedi cyrhaedd yr Amen.
Gwnaethom bob brys i fyned allan, a'r hen frawd gyda ni; ond, Ow! nid oedd yr un creadur byw i'w weled yn un man, ond rhyw chwech neu saith o wyddau ar y "grein"—yr oll wedi eu hysgubo ymaith. Canfuais ar unwaith ein bod "wedi ein gwerthu" yn deg; collais bob rheolaeth ar fy nhymmerau, a bygythiais y rhoddwn y ffon oedd yn fy llaw ar gefn yr hen bryfyn. Chwarddai yntau yn iachus, yr hyn a'm cynhyrfai innau yn fwy o lawer; dywedais wrth y bachgen oedd gyda mi:—"Dos â'r gwyddau yna at eu gilydd, fel y byddo genym rywbeth i ddangos ein bod wedi bod yma." "Hysh, hwy lac," gwaeddai yr hen ddyn; a dyma y rhai hynny yn rhoi ysgrêch, ac yn cyd-godi ar eu hadenydd, a ffwrdd â hwy dros ben y tai a'r gwrychoedd na wyddai neb i ba le. Triniais yr hen ffermwr yn dda, a dannodais iddo ei ffug-grefyddolder a'i ystryw drygionus; ond atebai fi gyda phob hynawsedd, gan fy nghynghori "i gadw ac i lywodraethu fy nhymmerau yn well yn wyneb profedigaethau o'r fath," yr hyn a'm gyrrai innau yn saith gwaeth. Aethym oddi yno, fel y mae gwaethaf adrodd, dan dyngu a rhegu. Aeth yr ystori ar led, a chefais "hi yn fy nannedd," fel y dywedir, tra y bûm yn y swydd.