Ystên Sioned/Traddodiad am y Bardd Cwsg
← Twmpathau Arthur | Ystên Sioned gan Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon) |
Can y Ffermwr → |
TRADDODIAD AM Y BARDD CWSG.
Y MAE (neu o leiaf yr oedd) y bobl gyffredin, yng nghymmydogaethau'r Las Ynys, yn o agos i Harlech, lle yr oedd Elis Wynn yn byw, yn credu mai damweiniau a ddygwyddasent mewn gwirionedd oedd i Elis Wynn gael ei gymmeryd i fynydd gan y Tylwyth Teg oddi ar ben y mynydd a elwir Moelfre, ac iddynt ei ddwyn ef gyda nhwy drwy yr holl fyd; ac iddo feddwl ei fod ef wedi bod gyda nhwy lawer iawn o flynyddau, neu gylch einioes hir; ond pan ddaeth ef yn ol nid oedd ei foreufwyd hanner parod, er bod ei dylwyth wedi bod yn ddiwyd iawn i'w barotoi iddo erbyn yr amser yr arferai gymmeryd ei bryd bore.
Ac am Weledigaeth Uffern, y maent yn credu ei fod ef mewn gwirionedd wedi cael ei ddwyn i Uffern gan Angel o'r nef; a phan ddaeth ef yn ei ol, yr oedd, meddant, ei ddillad a'i benguwch wedi eu greidio a'u golosgi, a chymmaint o sawr ffaidd uffern ganddynt, fel na thalent mwyach eu gwisgo; eithr eu llosgi ar lan y môr a wnaed mewn lle y byddai sicr i'r llanw eu cyrhaedd, a chymmeryd ymaith yn lân eu lludw. Yn ei daith drwy uffern, ni fu ef mewn gwirionedd ond meityn bychan o amser, er iddo ef feddwl ei fod wedi bod oesoedd meithion yno.
Yr oedd amryw goelion ereill o'r cyfryw am Elis Wynn ym mhenau hen wragedd eisingrug y wlad o amgylch y Las Ynys.
Sonir yn gyffredin fod Elis Wynn wedi bwriadu cyhoeddi gweledigaeth arall, dan enw Gweledigaeth y Nef; ac yr oedd ef, meddir, wedi ysgrifenu llawer o'r weledigaeth honno; a pheth, fel y dywedir, o Weledigaeth Angeu yn ei Freninllys Uchaf, a hefyd o Weledigaeth y Farn Ddiweddaf; ond bu farw (gwae ni!) cyn gorphen un o'r tair Gweledigaeth hyn. Dywedir i Ffowc Prys, offeiriad Llanllyfni, yn Arfon, ofyn iddo unwaith pa bryd y gorphenai ef Weledigaeth y Nef. "Dim," eb yntau, "cyn myned yno, Duw yn ei dragaredd a'm dwg yno; am fod yn angenrheidiol myned yno, cyn y gellir gwybod a son yn gyfiawn am yr hyn ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth erioed ar feddwl a deall dyn ei amgyffred yn y byd hwn. Ond am Weledigaeth Uffern, hawdd oedd i mi ei hysgrifenu, am fy mod yn gweled Ufferu o'm blaen yn amlwg yn y byd hwn, i ba le bynnag yr elwyf."