Ystên Sioned/Y Cydwely Anghynhes
| ← Y Ddwy Goes Bren | Ystên Sioned gan Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon) |
Y Ffrancwr Ieuanc → |
Y CYDWELY ANGHYNHES.
Er ys amryw flynyddau yn ol, aeth dau ddyn ieuanc, dau saer coed, o Sir Gaerfyrddin (o herwydd bod y gwaith yn brin yn eu hardal enedigol) i lawr i Loegr i chwilio am waith yn rhai o drefydd mawrion y wlad honno. Teithient yr amser hwnnw, wrth gwrs, ar eu traed; a phan oeddynt wedi cyrhaedd rhyw dref yn Swydd Gaerwrangon, gwnaethant eu meddwl i fyny i lettya mewn hen dy tafarn mawr ar eu mynediad i'r dref. Yr oedd hyn yng nghanol y gauaf, a chawsant fyned i'r gegin o flaen y tân cysurus oedd yno. Ar ol iddynt fwyta eu tamaid, a chael ychydig beintiau o ddiod, a chan ei bod yn lled hwyr, meddyliasant mai gwell oedd iddynt fyned i orphwys, gan eu bod wedi blino yn enbyd. Arweiniwyd hwynt i fyny i'r llofft, ac ym mlaen drwy fynedfa hir, o ba un yr oedd amryw ddrysau yn agor i ystafelloedd i gysgu. Enw y naill oedd Dafydd, a'r llall oedd Thomas. Aeth Dai (fel y galwai ei gyfaill ef) rhag ei flaen i'r gwely; a chyn i Tom fyned, diffoddodd y ganwyll. Erbyn hyn, cofiodd Tom fod ganddo ryw beth heb ei gyflawni cyn dyfod i fyny; ac, ebai fe wrth Dai, "Rhaid i mi fyned i lawr eto." "A wyt ti yn gwybod y ffordd," ebai Dai. "Mi treiaf hi, beth bynnag," ebai Tom; ac i lawr ag ef. Ym mhen tipyn, trodd yn ei ol ac i fyny y grisiau, ac ym mlaen, a throdd i mewn i ystafell, ac wedi ymddihatru, i'r gwely ag ef rhag blaen. "Mae hi yn oer ofnadwy, Dai," ebai Tom; ond nid oedd neb yn ateb; "nesa draw, Dai," ebai fe; "yr wyt ti yn cadw y gwely ym mron i gyd; a wyt ti'n cysgu, Dai? Wyt, mi warantaf," meddai Tom; "yr wyt ti, fel finnau, wedi blino." "Lle tost yw hwn i lettya, Dai," ebai Tom; "nid oes dim byd ganddynt hwy ar y gwely-dim ond un pilyn; pwy synwyr talu am le fel hyn?" Ac ar yr un pryd ymwasgai at Dai i geisio cynhesu. "Yr wyt ti yn oer arswydus, Dai; fachgen, yr wyt ti fel y rhew." A dyna lle y bu Tom bron a sythu am rai oriau, ac yn methu cysgu yn lân. Erbyn hyn, yn nistawrwydd y nos, clywai swn traed amryw yn dyfod i fyny y grisiau, ac ym mlaen ar hyd y corridor, ac wele ddrws yr ystafell yn agor gan ddyn â chanwyll yn ei law, ac yn ei ganlyn yr oedd dau neu dri o ddynion yn dwyn arch (coffin)! Cododd Tom ar ei eistedd, a phan welodd yr arch, ysgrechodd allan nerth esgyrn ei ben, "Mwrdwr! mwrdwr!! mwrdwr!!! o 'mywyd i! help! mwrdwr!" Ar hyn syrthiodd y ganwyll o law y dyn a'i dygai, a diffoddodd. Dychrynodd pawb, fel y taflasant yr arch i lawr, a ffwrdd â hwynt i lawr y grisiau bendramwnwgl ar draws eu gilydd mewn dychryn, a Tom yn gwaeddi, "Mwrdwr! mwrdwr!!" fel gwallgofddyn, gan dybied yn sicr eu bod wedi rhoi i fyny mewn tŷ drwg, a bod y dynion yn bwriadu eu lladd er mwyn eu harian, ac mai dyna oedd y diben o ddwyn yr arch i'w roddi ef ynddi. Ym mhen amser, daeth yr un dynion i fyny eilwaith, yn ymafael y naill yn llaw y llall, a phob o ganwyll oleuedig ganddynt y tro hwn, gan nesu yn araf ym mlaen, a chyn pen hir iawn, daethant i ddeall eu gilydd.
Fe wel y darllenydd fod Tom, druan, wedi camsynied yr ystafell, ac wedi myned i un lle yr oedd corff marw wedi ei ddodi ar y gwely a chynfas drosto.
Meddyliodd y dynion, o'r ochr arall, fod y marw wedi codi yn fyw, neu ynte fod ei yspryd yn tystio ei fod yn cael cam yn rhywle; ac o herwydd fod y goleu wedi myned allan, dychrynasant tu hwnt i fesur, a gwnaethant y goreu o'u ffordd.
Bu canlyniad y noson honno yn chwerw i Tom, druan; cafodd anwyd trwm, fel y daeth y cryd cymmalau arno, ac a'i gwnaeth yn analluog i ddilyn ei orchwyl am ei oes; a bu orfod arno symmud o'r naill fan i'r llall ar bwys dwy ffon o'r pryd hwn hyd ei fedd.