Ystên Sioned/Y Ddwy Goes Bren
| ← Nansi'r Fagaboniad | Ystên Sioned gan Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon) |
Y Cydwely Anghynhes → |
Y DDWY GOES BREN.
Y MAE yn hen draddodiad yng Ngogledd Cymru er ys oesau, y bydd i bwy bynnag a elo wrtho ei hun at ddrws yr eglwys blwyfol am ddeuddeg o'r gloch y noson olaf o'r flwyddyn, ac aros yno i glustfeinio am ychydig fynydau, y caiff glywed yr holl helyntion pwysig a ddygwyddant yn ystod y flwyddyn ddilynol yn y plwyf.
Mewn treflan yn Sir Ddinbych, er ys amryw flynyddoedd yn ol, mewn tafarndy ger llaw y fynwent, yr oedd amryw gymmydogion wedi crynoi at eu gilydd i gyd-yfed y flwyddyn allan, ac i siarad am helyntion y gymmydogaeth; ac wedi iddynt ymloni nes ei myned yn lled hwyr, coffaodd un o'r gyfeillach yr hen draddodiad, a chymmerwyd y peth i fyny gydag ynni a gwresogrwydd. Annogwyd un, ac ail, a thrydydd i ymgymmeryd â'r anturiaeth, ond gwrthodai y naill ar ol y llall; ond yr oedd yno un yn fwy gwrol, neu, fe allai, yn ffolach na'r lleill, a dywedai yr ymgymmerai ef â'r gorchwyl gyda hyfrydwch; a mawr y llawenydd yn eu plith, a churent ei gefn yn annogaethol iawn, a rhoddwyd iddo amryw o hanner peintiau yn chwanegol i'w gryfhau a'i wroli yn yr anturiaeth bwysig. Ac fel yr oedd yr amser yn nesäu, cychwynodd yng nghanol bloeddiadau y cyfeillion cynnulledig drwy borth y fynwent, ac ym mlaen rhwng y beddau at ddrws yr eglwys, yn y tywyllwch a'r distawrwydd mwyaf. Yna, rhoddes ei glust wrth y drws, gan feddwl y buasai y bod uwchnaturiol yn sibrwd yr holl ddirgelion yn ddistaw bach wrtho drwy y rhigolau oedd yn yr hen ddôr; clustfeinio yr oedd nes tarawodd cloc yr eglwys ddeuddeg o'r gloch; ond nid oedd dim argoel am ddim; yna, penderfynodd fod awrlais y byd hwn yn rhyw gymmaint ar y blaen ar amser y byd arall, a chafodd amynedd i ddisgwyl wrth amser hwnnw; ac yn y man, clywai ryw beth yn araf gerdded i lawr oddi wrth y ganghell, gyda rhyw si fel pe buasai gwisgoedd sidanaidd am dano, ac yn cryfhau fel yr ydoedd yn dynesu at y drws; gwrandawai yntau yn astud, ac yn lle sisial ei newyddion yn ei glust yn arafaidd, wele hen ddrws yr eglwys yn agor yn ei hanner, a'r ddau ddarn yn cael eu tynnu yn ol fel cortynau gwely, gydag ysgrêch a thwrf ofnadwy. Methodd â dal yr olygfa ddychrynllyd, ac ymaith ag ef nerth ei draed yn ei unionsyth dros y beddfeini; a chan fod y ffordd oedd yn myned gyda gwal y fynwent gymmaint a deuddeg neu bymtheg troedfedd is law gwyneb y fynwent, aeth (druan o hono!) i lawr bendramwnwgl; daeth ato ei hun mewn amser, a chafodd allan ei fod wedi torri ei ddwy goes yn ysgyrion, a bu raid i'r meddygon dorri y ddwy i ffwrdd uwch law y benlîn; gwelwyd ef am flynyddau lawer ar ol hyn yn symmud yma a athraw drwy gymhorth dwy goes bren.