Ystên Sioned/Y Ferch o'r Beili Einon
| ← Pennill Mewn Breuddwyd | Ystên Sioned gan Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon) |
Nansi'r Fagaboniad → |
Y FERCH O'R BEILI EINON.
Tua chant a hanner o flynyddoedd yn ol, yr oedd yn trigiannu yn Aberystwyth wr o'r enw John Williams, neu, fel y gelwid ef yn gyffredin, Sion William; ei alwad oedd morwriaeth; ac yr oedd yn llywydd ar long fechan o'i eiddo ei hun, a elwid y Twenty Tons. Dywedir mai dyna oedd hi yn abl i'w gario, ond hwyrach mai dyna oedd ei mesuriad; os felly, yr oedd, yn ol yr hen fesur, yn gyfaddas i gario deg neu bymtheg tunnell ar hugain. Pa un bynnag, yr oedd yn un o'r llongau mwyaf oedd yn perthyn i'r porthladd hwnnw y pryd hynny. Y dwylaw oeddynt gynnwysedig o ddau neu dri, sef ei wraig a'i fab, a hwyrach hogyn gyda hynny.
Nid oedd ganddynt ond un plentyn, sef y mab hwn, yn fachgen glandeg, heini, a siriol dros ben; a phan aeth y llanc yn wr ieuanc, yn rhywle rhwng ugain a phump ar hugain oed, penderfynodd gael llong iddo ei hun; a'r amser hwnnw, fel am ugeiniau o flynyddoedd gwedi hynny, cyrchid agos yr holl goed i adeiladu llongau yn Aberystwyth o Sir Faesyfed. Aeth y gwr ieuanc yma, enw yr hwn, fel ei dad, oedd John Williams, i Sir Faesyfed i brynu coed at ei long newydd; ac yng nghymmydogaeth y Rhaiadr canfu wrthddrych na welodd erioed o'r blaen mo'i chyffelyb geneth ieuanc brydweddol, hawddgar, a serchog, sef merch y Beili Einon—fferm helaeth, a'r tŷ yn hanner plas, ger llaw y ffordd fawr sydd yn arwain o'r Rhaiadr Gwy i Ben y Bont. Ei rhieni oeddynt bobl gyfrifol a chyfoethog. Ymserchodd John Williams yn y ferch, a'r ferch ynddo yntau. Pan y deallwyd hyn, caed allan nad oedd y gwynt yn deg, a bod morio yn y ffordd yna weithiau yn beryglus; tymmestloedd geirwon a godent, nid o gyfeiriad y môr, ond o'r tir; a bu'r ddau mewn enbydrwydd am eu heinioes (briodasol). Dywedir nad oedd Chubb a'i "gloiau breintebol" i'w cael yn y dyddiau hynny; a phe buasent, y mae cariad yn chwerthin am ben pob dyfeisiau o'r fath, er pawb a phob peth. Er anfoddlonrwydd y fam, a digllonedd y tad, priodi a fynnent, a phriodi a wnaethant; gan na chaffai John Williams ei gariad drwy deg, aeth â hi heb wybod iddynt; ac y mae y gair ar led fod peth o'r elfen yma wedi treiglo i lawr drwy y teulu hyd yn ddiweddar iawn.
Daethant i fyw i Aberystwyth; gorphenwyd y llong newydd; ganwyd iddo fab, a bedyddiwyd ef yn William; a phan oedd y bychan yn dair neu bedair blwydd oed, cymmerodd y Cadben Williams ei wraig a'i fab gydag ef yn y llong, a buant felly am ryw gymmaint o amser yn morio.
Ar fore teg tawel yn yr haf, yn rhyw le yn Cardigan Bay, cyfarfuant â'r Twenty Tons, sef llong eu tad, yn myned adref i Aberystwyth; deisyfodd y tad cu a'r fam gu am gael William bach, sef eu hŵyr, i fyned adref gyda hwy. O'r diwedd gildiodd y tad a'r fam iddynt ei gael; a chyrhaeddodd Sion William a'i wraig a'r ŵyr yr hafn dymunol yn y prydnawn; ond y noson honno cododd yn ystorm o wynt dychrynllyd, a'r môr yn ymgodi fel mynyddau mawrion; a galarus adrodd, aeth llong John Williams i'r gwaelod; collodd ef a'i wraig, a phawb oedd ynddi, eu bywydau, heb neb i fynegu pa fodd y bu. Ym mhen rhai dyddiau ar ol hyn, daeth cyrff y ddau i'r lan yn agos i Fochras, yn Ardudwy, y naill yn cofleidio y llall, ac nid hawdd oedd eu tynnu oddi wrth eu gilydd, o herwydd eu bod wedi sythu yn yr agwedd honno; a thrueni fuasai eu hysgaru. Claddwyd hwynt felly yn yr un bedd, ac yn yr un arch, yn mynwent Llandanwg. "Cariadus ac anwyl oeddynt yn eu bywyd, ac yn eu marwolaeth ni wahanwyd hwynt."
Adnabyddid eu mab ar ol hynny wrth yr enw William Sion William, gan mai ei dad cu a'i magodd; a bu fyw oes faith, ac am lawer o flynyddoedd yn gadben llong; ac ar ol rhoddi y môr i fyny, bu yn Harbour Master yn Aberystwyth.
Bu Sion William a'i wraig fyw i gyrhaedd oedran mawr, uwch law nawdeg o flynyddoedd, a buant feirw o gwmpas wythdeg a dwy o flynyddau yn ol. Y mae eu hiliogaeth y dydd hwn yn lluosog, ac yn gwneyd i fyny ran helaeth o drigolion Aberystwyth; heb law ereill "sydd ar led y byd." Y maent ar y cyfan yn bobl gywir, onest, a chrefyddol; o natur braidd yn finiog, a'u teimlad, i raddau yn clannish; edrychant yn ammhëus a'r estroniaid a fyddant yn dyfod i gyssylltiad â hwynt; ond wedi iddynt ddyfod, cyfrifir hwynt bron fel rhai o'r teulu. Mae genym barch iddynt oll, a mwy na hyny i un ag y sydd yn orwyres i'r hawddgaraf ferch o'r Beili Einon.