Ystên Sioned/Y Ffynnon Fyw
| ← Rhisiart Iorwerth Brydydd | Ystên Sioned gan Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon) |
Aeronwydd Margam → |
Y FFYNNON FYW.
YM mhlwyf Llangïan, yn Lleyn, Swydd Gaernarfon, yn agos i bentref bychan distadl, noethlwm, dadfeiliog Welington, neu, ar lafar yr ardal, "Y Wilings," yr oedd gynt Ffynnon ragorol yn bwrw allan helaethrwydd o ddwfr gloew odiaeth, ag ynddo, meddai yr hen bobl, lawer iawn o rinweddau i welläu gwahanol glefydau a doluriau. Gelwid hi y Ffynnon Fyw, ac yr oedd y dwfr bywiog a darddai i fyny ynddi, ac a redai yn ffrwd gref allan o honi, yn rhoddi iddi gryn hawl i'r cyfryw enw. Hi oedd y ffynnon glodforusaf yn yr holl ardaloedd hynny ond Ffynnon Leudad, ym mhlwyf Bryncroes, nid neppell o Aberdaron, os nad oedd hi yn rhychor i horno; a chyrchid ati gan lawer o gleifion o bell ac o agos, yn enwedig y sawl a flinid gan y cryd cymmalau, yr hwn anhwylder sy bur gyffredin yn Lleyn; ond y mae ei gogoniant drosodd, a'i defnyddioldeb wedi darfod. Amryw flynyddoedd yn ol darfu i ryw ddynionach bawaidd fod mor anystyriol ac anwar a thaflu iddi gelain ci. Peidiodd ei dyfroedd ar unwaith, a sych ydyw, haf a gauaf, o'r pryd hwnnw hyd y pryd hwn. Y tro diweddaf yr ymwelais â hi, ryw ugain mlynedd yn ol, nid oedd ynddi ddim dwfr; ond yr oedd peth o'r maenwaith a'i hamgylchasai gynt fyth yn aros; ac ond odid nad oes rhyw faint o hono yn aros hyd heddyw. Bernir mai ffynnon gyssegredig i Cir Ferthyr ydoedd y Ffynnon Fyw; canys y mae traddodiad yn y gymmydogaeth fod eglwys gyflwynedig i'r sant hwnnw yn sefyll ger llaw y fan yn yr oesoedd gynt; a chaed rhywbeth tebyg i weddillion hen fynwent yn agos yno o fewn cof rhai sydd yn awr yn fyw.