Neidio i'r cynnwys

Ystên Sioned/Y Llaw Oer

Oddi ar Wicidestun
Ysgolheigion Ystrad Meurig Ystên Sioned

gan Daniel Silvan Evans


a John Jones (Ivon)
Cwpan Nant Eos

Y LLAW OER.

Y mae tri pheth neillduol yn nodweddu pob bwgan, os bydd o'r iawn ryw, ac yn uniawn ei gred; sef, nas gall, neu nas myn, siarad ond â rhyw un pennodol o holl ddynion y byd; nas gall, neu nas myn, siarad â'r un hwnnw, ond pan fyddo ar ei ben ei hun; ac nas gall, neu nas myn, ddechreu yr ymddiddan. O fewn holl gylch llenoriaeth bwciod nid oes hanes fod neb o honynt erioed wedi agoryd ei ben wrth neb, os byddai rhywun arall yn wyddfodol. Nid gwaeth i chwi geisio cael bwch i'r odyn na cheisio gan fwgan ddechreu siarad cyn y siaredir ag ef; rhaid i'r dyn y byddo ef wedi penderfynu, neu wedi cael ei orfodi i, siarad ag ef, ei gyfarch ef yn gyntaf; os amgen, ni fynega yr ellyll mo'i neges; a hyd oni chaffo arllwys ei gwd a thraethu y chwedl sy ganddo i'w hadrodd, ni chaiff y dyn hwnnw byth lonydd ganddo.

Un tro yr oedd bwgan wedi gosod ei nod ar forwyn weini mewn amaethdy, ac â hi, ac nid â neb arall, y mynnai ynddiddan. Deallwyd hyn wrth ei fod yn ei dilyn braidd i bob man, ac yn ymddangos iddi ym mhob rhith ac ystum ar bob achos a chyfle, a thawelwch nid oedd iddi. Ond yr oedd arni hi ddychryn wrth feddwl am gynnal y fath gynnadledd â'r bwci bal; a gwarchodid hi yn ofalus rhag dygwyddo iddo gael cyfle arni wrthi ei hunan. Yn y dydd edrychid ar fod rhyw un neu chwaneg gyda hi pa le bynnag yr elai; ac yn y nos cysgai rhwng dwy o'i chydforwynion; felly nid hawdd oedd i'r bwci gael cyfle arni; ac oferedd oedd iddo feddwl cael ymgomio â hi. Ond ar ryw fore yn yr haf, damweiniodd iddi aros yn y gwely ychydig ar ol ei chyd-forwynion, a syrthiodd i gysgu. Aeth y morwynion ereill allan o'r ystafell, ac ni feddyliodd neb y gallasai, a hi yn ddydd goleu, ddyfod o ddim yno i'w haflonyddu. Eithr pan yr oedd hi fel hyn yn cysgu, ag un fraich iddi yn hytrach dros erchwyn y gwely, dyna rywbeth oer arswydus, saith oerach na thalp o ia mis Ionawr, yn ymaflyd yn ei llaw; a chan yr ias aethus a dreiddiodd drwy bob cymmal iddo, hi a ddeffrôdd yn drachwyllt; a phwy oedd yno yn sefyll yn ei hymyl ac yn ymaflyd yn ei llaw ond y bwgan! Nid oedd modd ei ysgoi; ymwrolodd hithau gan hynny i agor yr ymddiddan ag ef yn y dull uniongred arferol; canys rhaid cyfarch ysprydion yn yr Enw Dwyfol, os byddir am gael ganddynt ddadgan eu cennadwri. Traethodd yntau ei neges wrthi, gan fynegi yr achos ei fod yn ei haflonyddu, a'r boen a barai hi iddo wrth ymgadw rhag siarad ag ef. Dywedodd wrthi fod hen bedol, neu ryw ddarn o haiarn, neu ryw faint o arian, neu ryw gêr o'r fath, yng nghudd yn rhywle, a'i bod hithau i fyned yno a chyrchu y cyfryw, a gwneuthur y peth a'r peth a hwynt. Ac wedi traethu o hono ei lên wrthi, diflannodd, a hynny gyda llai o dwrf na bydd arferol gan fwganod ei wneuthur wrth ymadael. Gwnaeth yr eneth yn ol ei gyfarwyddyd, a chafodd lonydd byth o'r dydd hwnnw allan.

Pa ham y mae dwylaw bwganod mor ddychrynllyd o oer? Ai rhy wylaidd ydynt i nesu at dân ac ymdwymo? Ond bid yr achos y peth y byddo, dwylaw oerion ofnadwy sy ganddynt; ac os ydynt felly yn yr haf, fel y tro hwn, rhaid bod yr ewinrew wyllt ar bob cymmal iddynt yn y gauaf; gan fod eu hoerni ar bob amgylchiad y cafwyd prawf arno, yn ddigon i dreiddio trwy fêr esgryn y neb y gorfydd arno eu teimlo.

Nodiadau

[golygu]