Neidio i'r cynnwys

Ystên Sioned/Y Plentyn a'r Neidr

Oddi ar Wicidestun
Pennillion (2) Ystên Sioned

gan Daniel Silvan Evans


a John Jones (Ivon)
Hen Bedolau

Y PLENTYN A'R NEIDR.

Yr oedd unwaith fachgen bychan yn byw yn rhywle draw, yr hwn a gollid o'r tŷ bob dydd ar amser boreufwyd. Cynted ag y caffai ei fwyd, sef yn benaf llaeth llefrith, sopen llithrig, ac wyneb maidd, ai y bychan yn wastad allan a'i gwpan a'i fara yn ei law. Gwnaeth felly am gryn amser heb neb yn meddwl dim am y peth, ond bod y plentyn yn dewis myned i fol clawdd teg, neu i wyneb yr haul, i gymmeryd ei bryd. Ond o'r diwedd, wrth weled ei fod yn myned allan felly yn rheolaidd bob bore, fel yr oedd y bore yn dyfod, gwyliwyd ef, ac edrychwyd, heb wybod iddo, i ba le yr elai; a chafwyd ef mewn cornelyn lled ddirgel heb fod yn neppell o'r tŷ, a phwy oedd yno yn cydyfed ac yn cydfwyta ag ef o'i gwpan ond llafnes o neidr fraith! Daliwyd i sylwi arnynt wrth eu boreufwyd; cydymborthent yn hynod gyfeillgar; ond os byddai y neidr ambell waith yn dyfod braidd yn rhy fynych i'r cwpan, rhoddai y plentyn gnipws tirion iddi a'i lwy, a dywedai wrthi am beidio â myned â mwy na'i chyfran. Cymmerai hithau yr awgrym gyda phob addfwynder, a deuai drachefn toc i ymofyn am ei llymaid. Dyna'r tro diweddaf iddynt gydfwyta; ni chyfarfuant mwy; canys pan ddeallwyd arfer y plentyn, gwyliwyd y neidr; a phan ddaeth i'r fan yr amser arferol, lladdwyd hi; ond o'r dydd hwnnw allan dihoenodd yntau beunydd a pheunos o alar am ei hen gyfeilles dorchog, a bu farw o'r herwydd.

Os da yr wyf yn cofio, y mae chwedlig debyg i hon ym mhlith Chwedlau y Tylwyth Teg gan y Brodyr Grimm; ond geneth fechan sydd yno, nid bachgen, a llyffant (yn ol ystyr Deheu yn gystal a Gogledd) yn lle neidr; ond clywais y ffregel fechan yma yng Ngheredigion flynyddoedd cyn cyhoeddi gwaith y brodyr hyglod hynny; ac yr oedd yr un a'i hadroddes i mi wedi ei chlywed cyn eu geni hwynt. Mewn gair, y mae hi yn gyffredin ym mhlith gwerin Deheubarth. Y mae y chwedl gan hynny yn chwedl Geltig yn gystal a Thewtonig; a hynny a barodd iddi gael ei chyfrannu i Ystên Sioned.

Nodiadau

[golygu]