Ystên Sioned/Ysgolheigion Ystrad Meurig
| ← Bwci Bryn Rhosog | Ystên Sioned gan Daniel Silvan Evans a John Jones (Ivon) |
Y Llaw Oer → |
YSGOLHEIGION YSTRAD MEURIG.
CYFRIFID yr hyglod Edward Rhisiart, sefydlydd ac Athraw cyntaf Ysgol Ystrad Meurig, gan ei gymmydogion a'i gydwladwyr, yn hynod o ddysgedig. Bernid ef ganddynt hwy y mwyaf dysgedig yn Ewrop, ac yn sicr, y penaf yn yr holl fyd am addysgu ereill. Credent hefyd am ei fod yn ddysgedig, â chanddo gymmaint o lyfrau, ei fod yn medru cwnshero (consurio), ond nid agos cystal a'i olynydd, sef y Parchedig John Williams (tad yr enwog Archiagon Williams), yr hwn a adnabyddid drwy yr holl wlad wrth yr enw Yr Hen Syr. Yr oedd hwnnw yn gallu gwneyd beth bynnag a ddymunai. Yr oedd y fantais ganddo yn hynny yn fawr ar Edward Rhisiart, o herwydd ei fod yn offeiriad hefyd. Yr oedd pob offeiriad yn medru gwneyd rhyw gymmaint ar hynny; ond po mwyaf dysgedig a fyddai, hyd yn oed offeiriad, mwyaf yn y byd o allu a fyddai ganddo i "godi ac i ddarostwng cythreuliaid."
Rhyw ddeugain mlynedd yn ol, clywais y chwedl a ganlyn gan hen lanc, yr hwn oedd y pryd hwnnw yn tynnu ar ei bedwar ugain, yr hwn a dystiai fod yr hanesyn "mor wir a'r pader." Rhaid i'r darllenydd farnu yn hyn drosto ei hun, fel y gorfu arnaf finnau wneuthur:
Mewn ymddiddan ryw bryd rhwng Edward Rhisiart, Penaeth Ysgol Ystrad Meurig, a gwr dysgedig arall, Penaeth Coleg Rhydychain (o blegid, gallwn feddwl, nad oedd ond un Coleg yn Rhydychain), yng nghylch eu hysgolheigion, nid oedd dim diwedd ar ganmoliaeth y gwr hwnnw i ysgolheigion Rhydychain. "Wel," ebai Edward Rhisiart, "nid yw eich ysgolheigion goreu chwi yno ddim ar y blaen ar fy mechgyn innau." "O'r anwyl, ydynt!"ebai hwnnw; "nid oes dim cymhariaeth rhyngddynt." "O, wel," ebai Edward Rhisiart, "y ffordd oreu yw eu treio, ac," ebai, "fe ddaliaf fi gan gini ar fy mechgyn i ym mhen eich cant chwithau ar eich bechgyn." "Purion," meddai hwnnw, "dyna ben." Ac felly y gwnaed y cytundeb; ymrwymodd Penaeth Rhydychain ddyfod â deuddeg o'r bechgyn goreu oedd ganddo ar ddiwrnod pennodol i lawr yr holl ffordd oddi yno i Ystrad Meurig, ac yntau gyda hwy; ac wedi gosod holl reolau y cytundeb ar ddu a gwyn," fel y dywedir, ymadawyd.
Dydd yr ymdrech fawr a ddaeth, a chymmerodd Edward Rhisiart ddeuddeg o'r bechgyn goreu yn yr ysgol, a pharodd iddynt roddi am danynt hen ddillad cloddwyr, a chymmeryd bawb ei gaib a'i raw, a myned ym mlaen rhwng Ystrad Meurig a Phontbren Meurig, a dechreu ar gloddio, gan roddi iddynt bob hyfforddiad pa fodd i ymddwyn pan y deuai y Rhydycheiniaid atynt:a thra yr oeddynt yn ddiwyd wrth y gwaith o gloddio, beth a welent ond y Rhydycheiniaid yn dyfod i lawr dros gefn Ffair Rhos yn fintai ar eu ceffylau. Pan ddaethant ym mlaen drwy yr afon Meurig, ebai y cyntaf o honynt wrth y cloddiwr nesaf ato, "What is the distance to Ystrad Meurig?" Atebodd hwnnw ef mewn Lladin o'r fath berffeithiaf. Gofynwyd i'r ail; atebodd hwnnw ef yn y Groeg mwyaf pur; ac at y nesaf, atebwyd ef gan hwnnw mewn Hebraeg diledryw; ac felly nes myned dros y rhan fwyaf o honynt. Yr oeddynt wedi synnu; ac wedi myned heibio i'r cloddwyr, cadwasant bwyllgor i ystyried pa beth oedd oreu i'w wneyd. Yr oeddynt yn hollol ddigalon, "canys," meddent, "gan fod y cloddwyr tlodaidd cyffredin yn ein hateb mor ddysgedig, beth a all fod yr ysgolheigion goreu yn yr ysgol?" Mynnai rhai o honynt droi yn eu hol cyn myned ym mhellach; a bu agos i'r fantol droi i'r cyfeiriad hwnnw. Barnai ereill taw gwell iddynt fyned yn eu blaen, gan eu bod wedi dyfod mor agos; ac ym mlaen yr aethant i'r pentref; ac wedi "tynnu i lawr," a rhoi eu ceffylau yn yr ystablau, cawsant bob amgeledd yn nhŷ Edward Rhisiart gan Gwenllian ei fam, y rhai oedd yn byw mewn tafarndy bychan to gwellt. Siomwyd hwy yn ddirfawr wrth weled y pentref a golwg mor dlodaidd arno, ac yn enwedig y Coleg; disgwylient hwy weled adeilad eang hardd, a'i dyrau yn esgyn i'r cymylau; ond yn lle hynny arweiniwyd hwynt i mewn i hen fwthyn isel hirgul, wedi ei adeiladu â cherryg geirwon a morter pridd, a tho brwyn arno, a simddai yn un pen, a thanllwyth o dân ar lawr o fawn "Cors Lan Teifi;" a'r myfyrwyr yn eu llodrau rib a huganau o frethyn cartref o wlan du'r ddafad, yn rhaffo yr ieithoedd dysgedig, nes yr oedd myfyrwyr boneddigaidd Rhydychain wedi eu taro â syndod. Yr oedd Edward Rhisiart, dealler, wedi rhoddi gorchymmyn i'r bechgyn newid eu dillad, ac ymolchi, a myned at eu gwersi.
"Wel," ebai Edward Rhisiart, "a gawn ni ddechreu?" "Na, yn wir," ebai Penaeth Coleg Rhydychain, "yr wyf yn rhoddi i fyny; cawsom ein digalonni, a dweyd y gwir, ychydig cyn dyfod yma;" ac adroddodd pa fodd y bu gyda'r cloddwyr; a'i fod yn gweled nad oedd ganddo yr un siawns gyda'r fath ysgolheigion ag oedd yno. "Wel," ebai Edward Rhisiart, "nid yw y cloddwyr hynny yn eithriad i holl gloddwyr ac amaethwyr y gymmydogaeth hon o amgylch." Synnai hwnnw yn fawr, gan ddywedyd fod gwahaniaeth dirfawr rhwng trigolion Cymru a thrigolion Lloegr. "Dyma y can gini." ebai efe; "chwi a'i piau hi o ddigon." Ymadawyd ar y telerau goreu. Aeth Penathraw Rhydychain a'i fechgyn yn eu hol, ond nid heb gael tâl da am y siwrnai, drwy sylwi ar y dull a'r deheurwydd anghymharol oedd gan Edward Rhisiart i gyfrannu addysg; a bu addysg Coleg Rhydychain yn llawer amgenach ar ol y tro bythgofiadwy hwn:ond dim byd i'w gymharu ag addysg Ystrad Meurig.