Ystorïau Bohemia/Barddoniaeth a Rhyddiaith
| ← Ffynnon Angof | Ystorïau Bohemia gan Jaroslav Vrchlický wedi'i gyfieithu gan T. H. Parry-Williams |
Y Pren Afalau → |
BARDDONIAETH A RHYDDIAITH.
(Gan Y. VRCHLICKÝ.)
TRIGENT ill dau mewn tŷ oedd mewn strŷd o'r neilltu yn y dref fawr.
Yn yr ystefyll ar y llawr y trigai'r pobydd, gŵr o natur gref, llydan ei ysgwyddau, a chyhyrau fel haearn, wedi eu caledu a'u datblygu wrth weithio. Hen greadur hen-ffasiwn, fel y dywedir, oedd, ac un, a barnu oddiwrth ei wynepryd llydan a hynaws, oedd yn fodlon ar ei grefft, heb deimlo unrhyw awydd newid cylch ei orchwyl.
Ym mhen-draw'r ystafell bobi, oedd bob amser yn llawn o aroglau blawd llaith a bara wedi eu crasu, yr oedd siop fechan, a ffenestri mawr, rhwyllog, a drws bychan ar yr ochr, lle y crogai cloch fechan oedd yn tincian ddibaid drwy gydol y dydd.
Uwchben y pobydd trigai perarogleuydd. Nid crefftwr cyffredin oedd ef—yr oedd ef yn ddyn a deimlai fod ynddo ysbryd dyfeisgar, ac a geisiai bob amser greu peraroglau newydd a digymar. Iddo ef yr oedd aroglau fioled a rhos, minionet a charnasiwn, mwsog a mwsg, yn rhywbeth cyffredin. Nid oedd y ffaith mai'r peraroglau hyn oedd y rhai dewisaf yn mennu dim arno ef. Arhosai ar ei draed drwy'r nos yn ei ystafell fechan, gul—distyllai, cyfunai, cymysgai, toddai, rhidyllai, a chrasai. Gadai ryddid hollol i'w ffansi, hyd yn oed dros derfynau chwaeth dda, yn unig i ddarganfod byd newydd o beraroglau newydd na wyddid o'r blaen ddim amdanynt. Meddai ar ryw hoffter arbennig at y treiddgar a'r drygsawrus, fel y peth a berthyn i rai ffrwythau goraeddfed a fo'n dechreu pydru, ac at aroglau a fo'n treiddio trwy'r gwythiennau fel nodyn amhersain yng ngheudod crwth neu fel cymysgu deuliw anghydnaws.
O weithio'n ddyfal, aethai'n bur grwm a theneu, disgleiriai ei lygaid, ac yn ei ffrâm o flew du ymestynasai ei drwyn yn hirfain wrth arogleuo'n ddibaid.
Nid oedd cynnyrch ei lafur yn rhyw lawer. Ychydig o gwsmeriaid oedd iddo ac nid oedd y rheiny'n sicr. Weithiau tinciai'r gloch fechan oedd ar ei ddrws yntau â sain bur, felodaidd ymysg tincian diddiwedd cloch yr ystafell bobi—deuai morwynig i mewn neu herlodes neu lencyn neu hen goegyn—edrychent drwy ei stôr a dewis rhywbeth ac yna ddwyn ganddynt bob un mewn ffïol fechan o risial gloyw o ffasiwn ddwyreiniol neu Fenetaidd ychydig ddiferion o beraroglau anghyffredin ac ynddynt ddafnau opoponax yn cofleidio enaid lili China, neu'n codi ohonynt orfoledd persawr ambr uwch enaid hen-ifanc y minionet. Ai'r prynwyr yn lleilai o hyd-ond crymai ef uwchben ei waith, gan chwilio'n ddyfal am ryw gymysgedd newydd, a cheisio diferion newydd o eneidiau coeth y blodau.
Tinciai cloch y pobydd yn ffyrnicach o hyd; clywid bargeinio o'r llawr, sŵn arian yn disgyn ar y cownter, siarad hoyw y gweithwyr a'r pobyddesau, chwerthin y plant, trwst y gwagenni, a bloedd y gwerthwyr-berw bywiog a bywyd. Parhâi'r twrf hyd yn hwyr y nos—yna tawai. Ni chlywid mwy ond rhyw siffrwd gwan o'r ystafell bobi. Gellid sylwi ar drefnu a phoethi'r popty, ar ddodi'r bara i mewn, a'u tynnu allan wedi iddynt grasu. Am ddau o'r gloch bydd tawelwch; ond fel petai'r bobl yn methu disgwyl am y bore, dechreu'r trwst eilwaith tua phedwar o'r gloch.
Ar noson fel hon eisteddai yntau ei hunan, gan blygu uwchben llyfrau, dail blodau anghynefin, a defnyddiau oedd eisoes yn mallu,—pethau y denai ef ohonynt, trwy ddadansoddi'n gywrain neu gymysgu, eneidiau'r peraroglau oedd ynghlo neu ynghwsg ynddynt. Ar noson felly gwrandawai weithiau, megis yn y tawelwch: heb ddim sŵn arall ond trydar y cricedau, swniai cân ryfedd y bara:
"Myfi yw manna'r tlawd, afrllad bywyd y rhai sy'n flinderog a llwythog gan waith. Y mae pob briwsionyn yn sanctaidd, chwŷs y gweithiwr yw, deigryn yr amddifad. Trwythaf fywyd, am mai bywyd wyf; ymwthiaf o garchar y ddaear, ymestynnaf a thyfaf; anadlaf gynhesrwydd mamaidd, cig a llaeth wyf i, ynof i y mae'r cnewyllyn ffosfforus ar gyfer ymennydd meddylwyr, a hefyd gelloedd cyhyrau ar gyfer llaw'r gweithiwr. Myfi yw manna'r tlawd, afrllad bywyd y rhai sy'n flinderog a llwythog."
Gwrandawodd ar y gân anghyffredin; treiglai dagrau mawr dros ei ruddiau gwelw a churiedig. Esgynnodd gweddi dros ei wefusau i'r nefoedd: "O Dduw, mor ffodus yw'r rhai sy'n bendithio'r byd â phethau cyffredin, ond eto diolchaf i Ti am na chreasit y pobydd sydd islaw ohonof i, am roddi ohonot i mi opiwm yr etholedigion i'w brofi, er costio ohono bris bywyd!
Ond ar y foment gafaelodd yn ei bwrs; tynnodd ddau ddernyn tlodaidd o arian allan; daliodd hwynt yn hir ar gledr ei law, ac yna sibrydodd gan wenu'n boenus:
"Y mae'n bryd imi fynd i brynu bara."