Ystorïau Bohemia/Ffynnon Angof
| ← Yr Hen Wraig | Ystorïau Bohemia gan Jaroslav Vrchlický wedi'i gyfieithu gan T. H. Parry-Williams |
Barddoniaeth a Rhyddiaith → |
FFYNNON ANGOF.
(Gan Y. VRCHLICKÝ.)
SAFAI'R abad Fulgentius a 'i bwysau ar wal gardd y mynachty gan edrych yn hurt i'r pellter. Syrthiodd ei lyfr gwasanaeth o'i law i'r glaswellt tew, disathr. Ychydig cyn machlud haul ydoedd. Llewyrchai coed yr ardd ym mhorfforlliw'r hwyr fel colofnau o ruddem, a disgleiriai eu dail fel smaragdus—ymddangosai'r holl ardd fel y baradwys hudol honno y sonnir cymaint amdani yn yr hen groniclau. Yn awr ac yn y man ehedai aderyn heibio, neu löyn byw, oedd yn debycach i flodeuyn ar ei adain neu seren yn syrthio. Disgleiriai a gwridai popeth; yr oedd peraroglau treiddiol anghyffredin dros bob man.
Awr gyfrin y machlud oedd, pan wisgo'r dydd yn gyfnos—nid yw na goleu dydd na gwyll yr hwyr, pan na theimlo'r enaid, er bod yng ngharchar mater, bwysau'i gadwynau, a phan gredo fod iddo adenydd ac y gall ehedeg o'r byd hwn.
Yr oedd yr abad yn anarferol o brudd. Eto nid y prudd-der hwnnw oedd a berthyn i'r dyn sy'n ymwrthod o'i fodd â'r byd ac yn ceisio diffodd gwreichionen olaf asbri bywyd mewn meudwyaeth. Yr oedd ei brudd-der ef o natur hollol wahanol.
Prudd-der ydoedd a berthyn i'r enaid sy'n hiraethu am fywyd, y prudd-der hwnnw y mae dyn yn ymestyn ynddo am y gwelltyn olaf sy'n gallu achub yr enaid sydd ar suddo, y prudd-der hwnnw sy'n tarddu o ddymuniad dyn i ysgwyd pob cloch yn ei fynwes a chyhoeddi dathlu prydferthwch, daeoni, a godidowgrwydd, ond bod un posibilrwydd yn eisiau i ni gallu anghofio'r gorffennol.
Cododd yr abad ei ben o'i ddwys-fyfyr ac edrych ar dân y machlud. O'i flaen safai dyn yng ngwisg pererin, a het lydan ddiddos am ei ben, a phastwn yn ei law, a'i ysgrepan a'i gostrel ynghrog wrth ei wregys. Yr oedd golwg fonheddig ar ei feingorff, ac ar ei wynepryd arwyddion hynawsedd tawel, ymostyngar.
Edrychodd yr abad yn gyfeillgar arno. Daeth y pererin yn nês. Nid oedd rhyngddynt yn awr ond gwal gardd y mynachty,-gwal go isel, a'r drain yn dew drosti.
Wedi dyfod o bell?" gofynnai'r abad i'r dieithryn.
"Ydwyf, o bell."
"Fy mreuddwyd a'm hiraeth pennaf innau ers talm yw ymweld unwaith â'r lleoedd sanctaidd," ebr yr abad, ond fe'm rhwystrir bob amser gan fy nyletswydd i'm hurdd a chan fy swydd. Ac o'r braidd y coeliwch fod yr hyn oedd yn anodd i'r newyddian a'r brawd yn amhosibl bron i'r abad. Sefais ar y wal hon am flynyddoedd gan syllu tua'r lle y cyll y ffordd yn y ffurfafen, gan edrych ar ol croesau a banerau'r pererinion. Dro ar ol tro parodd eu caniadau imi wylo; teimlwn fel petai adenydd yn tyfu o'm mynwes, ond O, rhaid oedd imi fygu'r teimladau a'r dyheadau hyn; rhaid oedd imi ddychwelyd eilwaith i'r mynachty a'm calon yn chwerw, wrth gân y gloch osber. Ond yn araf deuthum i gyne fino ag ef; troes y chwerwedd yn gydymdeimlad, ac wedyn edrychwn yn ddigyffro ar y pererinion oedd â'u taith i'r tir sanctaidd-goddefwn hyn iddynt, ond arhosai un peth wedyn yn f'enaid."
Wedi'r geiriau hyn suddodd yr abad drachefn dros dro i fyfyr prudd, ac ni sylwodd fod y pererin yn craffu arno â golwg ryfedd fel pe mynnai dreiddio â'i lygaid i eigion bod yr offeiriad.
Heb aros i'w holi, ymhen ennyd dechreuodd yr abad lefaru drachefn:
"Meddyliwn y gallwn fod yn fwy ffodus na'r holl bererinion, y gallwn hwyrach drwy ffawd ddarganfod yr hyn y mae'n holl ganrif ni'n cyfeiliorni wrth ei geisio, yr hyn y mae tlawd a chyfoethog, ieuanc a hen, yn chwilio am dano."
Yr oedd yn syn o beth na buasai llygaid y pererin wedi treiddio trwy'r abad! Dan swyngyfaredd eu dylanwad llefarai'r abad yn ei flaen.
Yr oedd fel petai'n cyffesu i ryw fod uwch nag ef ei hun, ac fel petai'n taflu trwy hynny oddiar ei enaid ryw faich na wyddai o gwbl beth i'w alw cyn hynny.
Siaradai'n dawel ac yn araf â rhyw gryndod na ellid bron sylwi arno yn ei lais.
"Goddefwn bopeth tra fyddwn yn y meddwl hwn. Pa sawl mordwywr a aeth ar goll mewn moroedd anhysbys, o gariad ato! Pa beth a edrydd chwedlau'r mynachtai a'r croniclau am farchogion a aeth ar grwydr i chwilio am y rhyfeddod! Eithr nis darganfuant, nis darganfuant, ond sibrydai rhywbeth cyfriniol wrthyf y byddwn i'n fwy ffodus
Gloywai llygaid y pererin fel dwy seren danbaid. Treiddiai eu pelydr i'r fan lle y curai calon yr abad yn gyffrous dan y cwfl bras.
Cyfeiriaf at ffynnon ieuenctid. Credaf ynddi, ond pa le y mae i'w chael? Credaf y darganfyddir hi rywdro, ond pwy fydd y gŵr ffodus, ac a all ef ei defnyddio er budd i'r holl ddynoliaeth? A gaiff ef ei defnyddio er ei les ei hun? Mor ddwfn yw'r cwestiynau hyn, a phwy a all eu hateb?"
Yn awr dechreuodd y pererin lefaru:
Ac a dybi di, O abad, y byddai ffynnon ieuenctid yn gynhorthwy ac yn lles iti, pe caniateid iti ei darganfod? Gymaint dy gyfeiliorni! Edrych i lawr i ddyfnder d'enaid ac ateb un cwestiwn i mi. A wyt ti'n ddibechod?
Ergrynodd yr abad wrth y geiriau hyn. Teimlai wrid cywilydd yn codi i'w wyneb. Gwyrodd ei ben yn isel a thewi.
Ychwanegai'r pererin:
"Pa fudd a fyddai ffynnon ieuenctid i ti a'th debig? Yfech ohoni, ac adnewyddu eich hieuenctid drachefn, ond adnewyddech hefyd trwy hynny ymwybod â'ch pechod, y pechod a ddodasoch gynt yn bwys ar eich cydwybod. Nid amser sy'n ein gwneuthur yn hen, ond ein pechod, y peth hwnnw y troseddasom unwaith yn erbyn urddas y ddynoliaeth trwyddo, yn erbyn ein penderfyniad i ddymuno'r da ac i fod yn dda. Trwy'r ddiod ieuenctid tyfai'r ymwybod hwn yn gryf, a deuai pwys pechod ac anhawster sefyll yn fwy beichus nag o'r blaen. A thynged pawb yna fyddai dywedyd: Pwy ohonom sydd heb bechod?
"Neb, neb!" gwaeddai'r abad dan grynu gan arswyd.
Ond dywed dithau pa beth sydd yn ol i ni?"
"Gwn am foddion gwell ac fe'i darganfûm ar fy nheithiau," atebai'r pererin. "Ffynnon ydyw hon hefyd, ond nid y ffynnon ieuenctid ryfedd honno y breuddwydiaist ti amdani; gwin chwerw, ond iachus, ydyw, sy'n gallu gwellhau'r hwn a gollodd unig wir ieuenctid yr enaid trwy bechu."
Cododd yr abad ei olwg at y pererin. Yn ei lygaid llydan-agored fflamiai tân dyhead gwyllt.
"A gefaist ti'r rhyfeddod? Pa le a pha bryd?"
"Ni waeth am hynny," atebai'r pererin gan osgoi'r cwestiwn. "Digon yw gwybod ei fod gennyf, ac y cei dithau, os dewisi ac onid oes arnat ofn, lymaid ohono." "Nid oes arnaf ofn dim; fe'i cymeraf ef," ebr yr abad. Datglymodd y pererin yr ysgrepan, a thynnodd allan lestr pren bychan a'i lenwi â gwlybwr du o'r gostrel a grogai wrth ei wregys.
Goleuodd llewych olaf haul yr hwyr wyneb gwelw y crwydryn, a cheisiodd yn ofer gynneu yn y gwlybwr du adlun gwan o liw ambr hen.
Estynnodd y llestr cyforiog i'r abad.
"Beth yw hwnyna?" gofynnai yntau, gan godi'r llestr at ei wefusau.
"Ffynnon angof," atebai'r pererin.
Diflannodd gwrid yr hwyr; dechreuodd cysgodion llwydion ymledu dros y ddaear. Yfodd yr abad y cwpan i'r gwaelod.
Edrychodd ennyd i'r cysgodion llwyd. Diflannodd y pererin yn eu mantell, yna'r holl amgylchoedd o'i gwmpas; ymledent dros ei lygaid a'i ddwyfron; teimlai law oeraidd yn symud ymaith o'i fynwes yr hyn a'i poenasai am flynyddoedd; teimlai'n ysgafn a hoyw; yr oedd yn wir yn sionc ac yn ieuanc. Gwenai yn ei freuddwyd, yna gadodd i'w ben ymollwng a daeth y cysgodion ar ei warthaf a'i amgau, ac o dipyn i beth troes yntau'n un o'r cysgodion, a diflannodd yn eu gosgordd anweledig.
Yn hwyr y nos cafodd y myneich dychrynedig ef. Disgynasai diferion oer y gwlith fel perlau ar ei wallt a'i farf, ar ei fynwes lle gynt y curai'r galon mor anniddig, gorweddai blodyn iasmin, ac ar ei wefusau chwaraeai gwên o lawenydd annhraethadwy.