Ystorïau Bohemia/Rhagair y Cyfieithydd
| ← Cynnwys | Ystorïau Bohemia wedi'i gyfieithu gan T. H. Parry-Williams |
Rhagymadrodd → |
RHAGAIR Y CYFIEITHYDD.
CYFIEITHWYD ystorïau'r gyfrol hon o'r Almaeneg am na wyddai'r cyfieithydd ddim am iaith Bohemia. Ni chymerodd y cyfieithydd ei ryddid, ond glynodd yn weddol glos wrth ieithwedd y cyfieithiad Almaeneg. Ni adodd allan bethau y gallesid yn hawdd eu hepgor mewn cyfieithiad Cymraeg heb niweidio'r ystori, ond dododd bopeth i mewn yn ei grynswth. Effaith y ffyddlondeb hwn ydyw bod y cyfieithiad yn aml iawn yn bur anystwyth a thywyll, fel y gwêl y darllenydd. Nid anturiwyd ychwaith gyfieithu i iaith lafar unrhyw ranbarth arbennig o Gymru. Effaith hyn eto ydyw'r anystwythter a deimlir yn yr ymddiddanion. Ni newidiwyd enwau priod am rai Cymreig neu Gymraeg rhag andwyo'r awyrgylch. Maddeued y darllenydd beirniadol ffurfiau fel i'n gilydd, dofednod, adenydd, glöyn byw, etc.
Ymgymerodd un o olygyddion y gyfres ag ysgrifennu Rhagymadrodd, ac y mae'r cyfieithydd yn ddiolchgar iawn iddo am hyn.