Ystorïau Bohemia/Rhagymadrodd
| ← Rhagair y Cyfieithydd | Ystorïau Bohemia wedi'i gyfieithu gan T. H. Parry-Williams |
Y Ffliwt → |
RHAGYMADRODD.
DYLAI llên cenedl fechan arall fod yn ddiddorol i bob Cymro Cymreig: efallai nad oes yr un genedl ar y Cyfandir mor ddiddorol ynddi ei hunan â'r Tsechiaid, er mor ychydig a wyddys am danynt ym Mhrydain Fawr.
Perthyn y genedl fechan ddewr hon i deulu mawr y cenhedloedd Slaf, a'i hiaith yn debig iawn i'r Rwsieg neu'r Bwyleg. Rhannwyd y wlad a elwir heddyw yn Tsecho-Slofacia rhwng Almaenwyr Awstria a Magyariaid Hwngaria ganrifoedd maith yn ol, ond ni lwyddodd y gormeswyr i ladd enaid yr hen genedl. Ar yr ochr arall, dysgodd Tsechiaid Bohemia lawer iawn oddiwrth eu cysylltiad agos â hen ddiwylliant yr Almaen; ac at ddychymyg a chyfriniaeth y Slaf ychwanegwyd dyfalbarhad a threfn wyddonol yr Almaenwr. Ni ddylid anghofio, ychwaith, mai Bohemia yw'r wlad Slaf agosaf at ein byd ni, a ffurfia'r genedl Tsechaidd ddolen yn cysylltu'r Dwyrain Slaf, ieuanc, a llawn posibiliadau mawrion, â hen wledydd Gorllewin Ewrob. Nid rhyfedd, ynteu, fod ei llenyddiaeth yn ddiddorol, ac nid rhyfedd ychwaith fod pensaerniaeth cestyll, plasau ac eglwysi Praha (Prague—prifddinas Bohemia) yn swyno llygaid y teithiwr. Gwêl fod dau fyd a dau ddiwylliant yn cwrdd yma, a'r naill yn gyfoethocach am ei gysylltiad â'r llall.
Y mae'r byd cyfan yn ddyledus i'r mudiad cenedlaethol Tsech am ei gampweithiau ymhob cangen o'n diwylliant cyffredinol. Erbyn heddyw y mae llawer o Gymry yn gyfarwydd â rhai o brifweithiau Dvorak, cerddor mwyaf y Dadeni Tsech: a phwy glywodd ei "Stabat Mater" heb barchu ei allu a theimlo swyn ei awen? Ond nid oedd cyfle hyd yn hyn i'r Cymro nad oedd yn medru ond Cymraeg a Saesneg i wybod dim am lenorion mawr y Tsechiaid—ar wahân i Jan Hus, diwygiwr, llenor, a gwleidydd mwyaf y genedl yn ystod yr Oesoedd Canol. Amcan y gyfrol hon yw ceisio gwneuthur rhyw ychydig i lenwi'r gwall hwn, fel y caffo'r llenor Cymreig gyfle i werthfawrogi rhan fechan o waith prif ysgrifenwyr y Dadeni Tsech.
Ganed Svatopluk Čech (llefarer: Tsech) mewn tref fechan yn Neheudir Bohemia yn 1846. Gwladgarwr selog oedd ei dad, yn hoff iawn o weithiau Gogol a rhamantwyr eraill ac, yn anad dim, yn llawn brwdfrydedd dros y mudiad Holl-Slaf. Yn yr ysgol, cafodd Svatopluk addysg Almaenaidd hollol, a chwanegodd hyn yn enfawr at ei frwdfrydedd gwladgarol. Dechreuodd farddoni yn gynnar, ac enillodd ddigon wrth ysgrifennu nofeli ac ystorïau byrion i rai papurau i fedru rhoi'r goreu i'w waith mewn swyddfa cyfreithiwr. Bydd y darllenydd yn gweld ôl ei alwedigaeth gyntaf yn yr ystori: "Y Pren Afalau." Daeth yn enwog ymhlith llenorion y wlad yn fuan iawn, a chynhygiodd llywodraeth Awstria, oedd am ennill ewyllys da y Tsechiaid y pryd hynny, bensiwn iddo. Ond gwrthododd yntau, gan ddywedyd nad oedd am fod yn ddyledus i'r estron am ei fywoliaeth. O'i holl waith i gyd, nid oedd dim mor boblogaidd yn ei wlad ei hun â "Chaneuon Caethwas." Mae saerniaeth farddonol y gyfrol yn berffaith, medd y rhai sy'n gymwys i farnu: ond gwladgarwch bur a ffydd ddiymdroi yr awdur sy'n gyfrifol am lwyddiant mawr y caneuon hyn. Fel y dywed ei hun: "Rhai gwan, bychain ydym. Ond nid oes ond y rhai gwan eu calon sydd, mewn gwirionedd, yn wan ac yn fychan. Yr oedd Groeg yn llai na Rhufain, ond cododd ei thalcen anfarwol hyd at y sêr. Hwnnw yn unig sydd wan a gollodd ffydd ynddo'i hun a bychan yr hwn na chyrcho ond at nod bychan."
Ychydig iawn oedd dyled Čech i ddiwylliant y Gorllewin. Yr oedd wedi teithio yn Rwsia, ac erys ôl y Dwyrain Slaf ar ei waith i gyd. Carai olygfeydd amryliw y Môr Du; carai fynyddoedd y Crimea ; ond carai ei wlad ei hun yn angherddol fwy. "Fy Mohemia, fy Mohemia dlos."
Gwladwr a gwladgarwr ydoedd: a phan fu farw yn 1908 bu galar dros y wlad i gyd. Ychydig iawn o lenorion sydd wedi ennill serch eu cydwladwyr mewn unrhyw wlad fel efe.
Soniwyd eisoes am ddylanwad dau ddiwylliant ar fywyd a llên y Tsechiaid, a gwelwyd mai cynrychiolydd yr ysgol Slaf oedd Svatopluk Čech. Ond nid oes yr un ymhlith llenorion y Dadeni Tsech a saif mor uchel â Yaroslav Vrchlický (llefarer: Forchlitsci). Cydnabyddir ef gan ei gyd-wladwyr fel prif fardd ei genedl, ac edrychir arno'r tuallan i'w wlad hefyd fel cynrychiolydd pennaf llên Bohemia.
Ganed Emil Frida yn 1853, a phan oedd eto yn yr ysgol cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth. Ond nid oedd hawl i fechgyn ysgolion Awstria gyhoeddi dim yr amser hwnnw, ac am hynny, cymerodd yntau y ffugenw Yaroslav Vrchlický. Petai'n gwybod y pryd hynny fel yr elai ei weithiau dros Ewrob gyfan, tebig y buasai wedi dewis enw haws ei lefaru ar wefusau estroniaid. Dechreuodd baratoi ar gyfer bod yn offeiriad, ond newidiodd ei feddwl, ac astudiodd Athroniaeth ym Mhrifysgol Praha. Ar ol gorffen yno, cafodd swydd yn nheulu Iarll Montecuccoli, ac aeth gyda'i feistr am flwyddyn i'r Eidal. Bu'n athro ym Mhraha wedi iddo ddychwelyd o wlad y gwinwydd a'r olewydd, a thawel iawn oedd ei yrfa mor bell ag y mae pethau allanol yn mynd. Ond gweithiodd yn galed iawn, ac erbyn 1894 yr oedd wedi cyhoeddi tair cyfrol ar ddeg ar hugain o'i weithiau barddonol, heb sôn am dros ugain o ddramodau, tri chasgliad o ystorïau byrion, a chyfres hir o gyfieithiadau o bob iaith bron. Yr hyn sydd yn rhyfedd yw ei fod wedi llwyddo ymhob cangen o lenyddiaeth, er mai ei farddoniaeth yw'r rhan fwyaf o'i waith. Yn 1893 penodwyd ef i gadair Llên Gymharol ym Mhrifysgol Praha, ac enwodd Ymherawdr Awstria ef yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi. Ymddengys ei lwyddiant personol yn rhyw fath o ymgorfforiad o hynt fuddugol llenyddiaeth ei wlad yn ystod y ganrif ddiweddaf.
Os Slaf pur oedd Čech, dinesydd y byd oedd Vrchlický. Daeth o dan ddylanwad diwylliant y Gorllewin a gwêl y darllenydd ôl llenyddiaeth Ffrainc ar ei ystoriau. Yr oedd yn meddu ar lygad craff a chlust fain, a chyfoethogodd lên ei wlad gan liw a sŵn llenyddiaeth cenhedloedd eraill. Ond nid efelychydd gwan ydoedd: arhosodd hyd y diwedd yn Tsech i'r carn. Llwyddodd i ddod â syniadau eang y byd diwylliedig, a ffrwythau pêr ei synfyfyrdod dwys ei hunan yn nherfynau llên Bohemia, a fu ryw ychydig yn blwyfol ei safbwynt cyn ei ddyfodiad ef. Un peth a red drwy ei waith i gyd: yr ymgais i gadw delfrydau bywyd yn lân, i amddiffyn popeth a wna fywyd yn llawn, i gydymdeimlo yn ddwys â galar a llawenydd, â chodiad ac iselder ysbryd dyn. Erys ei waith mewn diwyg Tsecheg, ond at yr holl fyd gwareiddiedig y mae ei neges. Bu farw yn 1912, ar ol gadael ôl mawr ar lenyddiaeth ei wlad, a chyfrannu yn helaeth at ystôr anfarwol llên y byd.
Ffraethineb ac ysmaldod yw prif nodweddion gwaith Jan Neruda (1834- 1890). Ysgrifennodd yntau delynegion yn ogystal a nofeli ac ystorïau byrion, ond yr un meddwl sy'n rhedeg drwy ei waith i gyd. Daw ei arabedd ambell waith yn chwerw ac yn watwarus, ond er nad oes cymhariaeth posibl rhyngddo ef a Vrchlický neu Čech, gŵyr yn iawn y ffordd i ysgrifennu ystori fer.
IFOR L. EVANS.