Neidio i'r cynnwys

Ystorïau Bohemia (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Ystorïau Bohemia (testun cyfansawdd)


wedi'i gyfieithu gan T. H. Parry-Williams
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Ystorïau Bohemia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
T. H. Parry-Williams
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cyfres y Werin
ar Wicipedia

YSTORÏAU BOHEMIA.

CYFRES Y WERIN.

Golygyddion:

IFOR L. EVANS HENRY LEWIS



RHIF 6.

YSTORIAU BOHEMIA.

T. H. PARRY-WILLIAMS.





Cyhoeddwyd gan
Y CWMNI CYHOEDDI ADDYSGOL, CAERDYDD.
THE EDUCATIONAL PUBLISHING CO., LTD., PENARTH ROAD, CARDIFF.




Amcan CYFRES Y WERIN:—"i ddyscu, helpu, diddanu, a pherffeiddio gwyr fy ngwlad, ymhob peth a fo golud iddynt, hyglod yngolwg y byd.' (Geiriau'r Dr. Griffith Roberts yn y Rhagymadrodd i'w Ramadeg a gyhoeddwyd yn 1567.)

Copi yw'r wyneb-ddalen o honno sydd ar y llyfr cyntaf a argraffwyd yn Gymraeg, sef "Yn y lhyvyr hwnn gan Syr John Prys, a ymddangosodd yn 1546.

Ar y clawr ceir pais arfau Bohemia.

CYNNWYS.


RHAGAIR Y CYFIEITHYDD.

CYFIEITHWYD ystorïau'r gyfrol hon o'r Almaeneg am na wyddai'r cyfieithydd ddim am iaith Bohemia. Ni chymerodd y cyfieithydd ei ryddid, ond glynodd yn weddol glos wrth ieithwedd y cyfieithiad Almaeneg. Ni adodd allan bethau y gallesid yn hawdd eu hepgor mewn cyfieithiad Cymraeg heb niweidio'r ystori, ond dododd bopeth i mewn yn ei grynswth. Effaith y ffyddlondeb hwn ydyw bod y cyfieithiad yn aml iawn yn bur anystwyth a thywyll, fel y gwêl y darllenydd. Nid anturiwyd ychwaith gyfieithu i iaith lafar unrhyw ranbarth arbennig o Gymru. Effaith hyn eto ydyw'r anystwythter a deimlir yn yr ymddiddanion. Ni newidiwyd enwau priod am rai Cymreig neu Gymraeg rhag andwyo'r awyrgylch. Maddeued y darllenydd beirniadol ffurfiau fel i'n gilydd, dofednod, adenydd, glöyn byw, etc.

Ymgymerodd un o olygyddion y gyfres ag ysgrifennu Rhagymadrodd, ac y mae'r cyfieithydd yn ddiolchgar iawn iddo am hyn.

RHAGYMADRODD.

DYLAI llên cenedl fechan arall fod yn ddiddorol i bob Cymro Cymreig: efallai nad oes yr un genedl ar y Cyfandir mor ddiddorol ynddi ei hunan â'r Tsechiaid, er mor ychydig a wyddys am danynt ym Mhrydain Fawr.

Perthyn y genedl fechan ddewr hon i deulu mawr y cenhedloedd Slaf, a'i hiaith yn debig iawn i'r Rwsieg neu'r Bwyleg. Rhannwyd y wlad a elwir heddyw yn Tsecho-Slofacia rhwng Almaenwyr Awstria a Magyariaid Hwngaria ganrifoedd maith yn ol, ond ni lwyddodd y gormeswyr i ladd enaid yr hen genedl. Ar yr ochr arall, dysgodd Tsechiaid Bohemia lawer iawn oddiwrth eu cysylltiad agos â hen ddiwylliant yr Almaen; ac at ddychymyg a chyfriniaeth y Slaf ychwanegwyd dyfalbarhad a threfn wyddonol yr Almaenwr. Ni ddylid anghofio, ychwaith, mai Bohemia yw'r wlad Slaf agosaf at ein byd ni, a ffurfia'r genedl Tsechaidd ddolen yn cysylltu'r Dwyrain Slaf, ieuanc, a llawn posibiliadau mawrion, â hen wledydd Gorllewin Ewrob. Nid rhyfedd, ynteu, fod ei llenyddiaeth yn ddiddorol, ac nid rhyfedd ychwaith fod pensaerniaeth cestyll, plasau ac eglwysi Praha (Prague—prifddinas Bohemia) yn swyno llygaid y teithiwr. Gwêl fod dau fyd a dau ddiwylliant yn cwrdd yma, a'r naill yn gyfoethocach am ei gysylltiad â'r llall.

Y mae'r byd cyfan yn ddyledus i'r mudiad cenedlaethol Tsech am ei gampweithiau ymhob cangen o'n diwylliant cyffredinol. Erbyn heddyw y mae llawer o Gymry yn gyfarwydd â rhai o brifweithiau Dvorak, cerddor mwyaf y Dadeni Tsech: a phwy glywodd ei "Stabat Mater" heb barchu ei allu a theimlo swyn ei awen? Ond nid oedd cyfle hyd yn hyn i'r Cymro nad oedd yn medru ond Cymraeg a Saesneg i wybod dim am lenorion mawr y Tsechiaid—ar wahân i Jan Hus, diwygiwr, llenor, a gwleidydd mwyaf y genedl yn ystod yr Oesoedd Canol. Amcan y gyfrol hon yw ceisio gwneuthur rhyw ychydig i lenwi'r gwall hwn, fel y caffo'r llenor Cymreig gyfle i werthfawrogi rhan fechan o waith prif ysgrifenwyr y Dadeni Tsech.

Ganed Svatopluk Čech (llefarer: Tsech) mewn tref fechan yn Neheudir Bohemia yn 1846. Gwladgarwr selog oedd ei dad, yn hoff iawn o weithiau Gogol a rhamantwyr eraill ac, yn anad dim, yn llawn brwdfrydedd dros y mudiad Holl-Slaf. Yn yr ysgol, cafodd Svatopluk addysg Almaenaidd hollol, a chwanegodd hyn yn enfawr at ei frwdfrydedd gwladgarol. Dechreuodd farddoni yn gynnar, ac enillodd ddigon wrth ysgrifennu nofeli ac ystorïau byrion i rai papurau i fedru rhoi'r goreu i'w waith mewn swyddfa cyfreithiwr. Bydd y darllenydd yn gweld ôl ei alwedigaeth gyntaf yn yr ystori: "Y Pren Afalau." Daeth yn enwog ymhlith llenorion y wlad yn fuan iawn, a chynhygiodd llywodraeth Awstria, oedd am ennill ewyllys da y Tsechiaid y pryd hynny, bensiwn iddo. Ond gwrthododd yntau, gan ddywedyd nad oedd am fod yn ddyledus i'r estron am ei fywoliaeth. O'i holl waith i gyd, nid oedd dim mor boblogaidd yn ei wlad ei hun â "Chaneuon Caethwas." Mae saerniaeth farddonol y gyfrol yn berffaith, medd y rhai sy'n gymwys i farnu: ond gwladgarwch bur a ffydd ddiymdroi yr awdur sy'n gyfrifol am lwyddiant mawr y caneuon hyn. Fel y dywed ei hun: "Rhai gwan, bychain ydym. Ond nid oes ond y rhai gwan eu calon sydd, mewn gwirionedd, yn wan ac yn fychan. Yr oedd Groeg yn llai na Rhufain, ond cododd ei thalcen anfarwol hyd at y sêr. Hwnnw yn unig sydd wan a gollodd ffydd ynddo'i hun a bychan yr hwn na chyrcho ond at nod bychan."

Ychydig iawn oedd dyled Čech i ddiwylliant y Gorllewin. Yr oedd wedi teithio yn Rwsia, ac erys ôl y Dwyrain Slaf ar ei waith i gyd. Carai olygfeydd amryliw y Môr Du; carai fynyddoedd y Crimea ; ond carai ei wlad ei hun yn angherddol fwy. "Fy Mohemia, fy Mohemia dlos."

Gwladwr a gwladgarwr ydoedd: a phan fu farw yn 1908 bu galar dros y wlad i gyd. Ychydig iawn o lenorion sydd wedi ennill serch eu cydwladwyr mewn unrhyw wlad fel efe.

Soniwyd eisoes am ddylanwad dau ddiwylliant ar fywyd a llên y Tsechiaid, a gwelwyd mai cynrychiolydd yr ysgol Slaf oedd Svatopluk Čech. Ond nid oes yr un ymhlith llenorion y Dadeni Tsech a saif mor uchel â Yaroslav Vrchlický (llefarer: Forchlitsci). Cydnabyddir ef gan ei gyd-wladwyr fel prif fardd ei genedl, ac edrychir arno'r tuallan i'w wlad hefyd fel cynrychiolydd pennaf llên Bohemia.

Ganed Emil Frida yn 1853, a phan oedd eto yn yr ysgol cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth. Ond nid oedd hawl i fechgyn ysgolion Awstria gyhoeddi dim yr amser hwnnw, ac am hynny, cymerodd yntau y ffugenw Yaroslav Vrchlický. Petai'n gwybod y pryd hynny fel yr elai ei weithiau dros Ewrob gyfan, tebig y buasai wedi dewis enw haws ei lefaru ar wefusau estroniaid. Dechreuodd baratoi ar gyfer bod yn offeiriad, ond newidiodd ei feddwl, ac astudiodd Athroniaeth ym Mhrifysgol Praha. Ar ol gorffen yno, cafodd swydd yn nheulu Iarll Montecuccoli, ac aeth gyda'i feistr am flwyddyn i'r Eidal. Bu'n athro ym Mhraha wedi iddo ddychwelyd o wlad y gwinwydd a'r olewydd, a thawel iawn oedd ei yrfa mor bell ag y mae pethau allanol yn mynd. Ond gweithiodd yn galed iawn, ac erbyn 1894 yr oedd wedi cyhoeddi tair cyfrol ar ddeg ar hugain o'i weithiau barddonol, heb sôn am dros ugain o ddramodau, tri chasgliad o ystorïau byrion, a chyfres hir o gyfieithiadau o bob iaith bron. Yr hyn sydd yn rhyfedd yw ei fod wedi llwyddo ymhob cangen o lenyddiaeth, er mai ei farddoniaeth yw'r rhan fwyaf o'i waith. Yn 1893 penodwyd ef i gadair Llên Gymharol ym Mhrifysgol Praha, ac enwodd Ymherawdr Awstria ef yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi. Ymddengys ei lwyddiant personol yn rhyw fath o ymgorfforiad o hynt fuddugol llenyddiaeth ei wlad yn ystod y ganrif ddiweddaf.

Os Slaf pur oedd Čech, dinesydd y byd oedd Vrchlický. Daeth o dan ddylanwad diwylliant y Gorllewin a gwêl y darllenydd ôl llenyddiaeth Ffrainc ar ei ystoriau. Yr oedd yn meddu ar lygad craff a chlust fain, a chyfoethogodd lên ei wlad gan liw a sŵn llenyddiaeth cenhedloedd eraill. Ond nid efelychydd gwan ydoedd: arhosodd hyd y diwedd yn Tsech i'r carn. Llwyddodd i ddod â syniadau eang y byd diwylliedig, a ffrwythau pêr ei synfyfyrdod dwys ei hunan yn nherfynau llên Bohemia, a fu ryw ychydig yn blwyfol ei safbwynt cyn ei ddyfodiad ef. Un peth a red drwy ei waith i gyd: yr ymgais i gadw delfrydau bywyd yn lân, i amddiffyn popeth a wna fywyd yn llawn, i gydymdeimlo yn ddwys â galar a llawenydd, â chodiad ac iselder ysbryd dyn. Erys ei waith mewn diwyg Tsecheg, ond at yr holl fyd gwareiddiedig y mae ei neges. Bu farw yn 1912, ar ol gadael ôl mawr ar lenyddiaeth ei wlad, a chyfrannu yn helaeth at ystôr anfarwol llên y byd.

Ffraethineb ac ysmaldod yw prif nodweddion gwaith Jan Neruda (1834- 1890). Ysgrifennodd yntau delynegion yn ogystal a nofeli ac ystorïau byrion, ond yr un meddwl sy'n rhedeg drwy ei waith i gyd. Daw ei arabedd ambell waith yn chwerw ac yn watwarus, ond er nad oes cymhariaeth posibl rhyngddo ef a Vrchlický neu Čech, gŵyr yn iawn y ffordd i ysgrifennu ystori fer.

IFOR L. EVANS.

YSTORÏAU BOHEMIA.

Y FFLIWT.
(Gan Y. VRCHLICKÝ.)

FRY ym mynyddoedd yr Apenninau safai mynachlog unig. Ymgodai ar ymyl creigle serth oerlwm a di-goed, a thywynnai'r haul i lawr yn ddidrugaredd ar y muriau llwydion. Yr oedd rhywbeth arbennig yn perthyn i'r fynachlog hon; o'i mewn trigai Duw a Diawl yn gytûn. Ymguddiai Duw yn allor yr eglwys, Satan yng nghell y prior ar ei fwrdd ysgrifennu, a thu ol i'r darlun (Duw a ŵyr i ba ysgol y perthynai) a arddangosai demtiad Antwyn Sant, testun dewis arlunwyr lawer, a driniwyd yn ysmala iawn gan Tenier a Tassaert ac yn ffansïol iawn gan Schon a Bosch, ac a roes trwy Callot i'r byd Hoffmann, bardd campus y cawgiau aur a'r trwythi dieflig, ond sydd heddyw wedi ei anghofio'n anniolchgar.

Ymysg yr angenfilod amryfal a ddawnsiai'n arswydol ogylch y meudwyaid tlawd, sanctaidd, fe geid, mewn congl ar ei gwrcwd, lyffant mawr, gwyrdd, â thrwyn fel pig aderyn, a chŵydd gwyn mawr ar ei wddf. O'r tu ol i'r llyffant hwn cyrcydai Satan weithiau, ac heb ei weled syllai drwy lygaid y llyffant nid efallai ar Antwyn Sant yn ei lieinwisg, ond ar y prior byw a'i dylwyth meudwyol.

Rhaid i mi ddywedyd bod Satan ers amser maith wedi hen flino yn ei gornel ddistaw. Yr oedd y prior yn ŵr crefyddol iawn, a llusgai'r myneich eiriau eu gweddi oriol yn aml yn gysglyd ddigon. Yr oedd eu poeni â meddyliau cnawdol yn beth rhy gyffredin erbyn hyn fel y dechreuodd Satan gywilyddio o'i blegid—ac eto mynnai ymddifyrru. Lawer tro caeodd gyda chlep ddalennau llyfr gwasanaeth y prior ddengwaith dan ei drwyn, ond gyda thawelwch stoicaidd agorodd y prior y llyfr am y ddeuddegfed waith a nodi man y weddi â llyfrnod oedd a chroes yn ei ganol rhwng dwy galon fflamllyd—rhyw gofarwydd tyner, y mae'n debig, "o'r byd"—wedi ei brodio â pherlau. Mynnai'r Diawl ei berswadio'i hun mai peth plentynnaidd fyddai cau'r dalennau y ddeuddegfed waith, ond eto rhaid oedd iddo gywilyddio, oherwydd, ac efe eto heb gynyddu llawer mewn rhyddhad, ofnai'r groes. Ni buasai ef yn rhyw fodlon iawn i addef hyn, ond dywedaf ef wrthych chwi'n gyfrinachol.

Yn y fynachlog hon trigai hefyd fynach ieuanc. Buasai Shelley, y bardd hwnnw oedd yn lladmerydd calon dyn, yn ei alw yn Alastor, yma gelwid ef yn syml y Brawd Cölestin. Gŵr mwyn, breuddwydiol ydoedd, ac yn sicr yn haeddu gwell ffawd na dihoeni rhwng muriau llwydion, moelion. Ni hoffid ef yn arbennig yn y fynachlog, ac yr oedd mor dawel, mor ostyngedig. Nid ymgeisiai am edrychiad cyfeillgar gan y prior, ac os cyfarfyddai â'r brodyr yn eu cerdded trist, llefarai ei "memento" wrthynt yn wylaidd—ond â gwyleidd—dra'r Efengyl, nid â gwyleidd—dra ffug-peth nad adwaenai ef.

Anodd dywedyd paham yr ymunodd Cölestin â'r fynachlog. Efallai mai rhaid oedd i hyn fod. Y mae dynion i'w cael a thyngedfenyddiaeth hen yn mynnu ei hawl yn eu bywyd, a chanol oes wedi ceisio'n ofer ei gadwyno trwy gred mewn Rhagluniaeth, a'r oes newydd trwy oleu gwybodaeth wedi ei ddallu ond heb ei wneuthur yn ddall. Yr oedd yn amlwg nad oedd Cölestin wrth ei fodd yn y fynachlog. Beth oedd Natur ogoneddus a hudol dlos iddo ef, heb gael syllu arni ond yn unig trwy ddellt ffenestr ei gell! Yr oedd y brodyr yn hen ac yn anghyfeillgar; efallai hefyd fod eu breuddwydion, a ddygasant gyda hwy dros y trothwy hwn, heb ddyfod i ben.

Yr oedd cell y brawd Cölestin yn gyfyng, diaddurn, a gwael. Yr oedd iddi, fodd bynnag, un fantais: yr oedd mewn hen dŵr, gweddill amddiffynfeydd yr hen amser gynt pan ddygai'r mynach ar ei wregys gleddyf ochr yn ochr â'i baderau a phan oedd raid iddo ufuddhau nid yn unig i alwad y gloch weddi ond hefyd i sŵn y gloch a'i galwai i ymladd yn erbyn minteioedd ysbeilwyr y mynydd. Y tŵr hwn, gyda'i un ffenestr wedi ei rhwyllo'n sicr, oedd nythfa holl freuddwydion y mynach ieuanc.

Un fatras oedd ei wely, Beibl a llyfr gwasanaeth ei lyfrgell. Ymddangosai popeth iddo'n oer a dieithr. Ond taflai'r olwg ar y mynyddoedd uwch ei ben ryw hud drosto a chreai yn ei enaid ryw angerdd breuddwydiol fel y gwnâi'r olwg ar wynepryd ei fam weddw amser maith yn ol.

A safai Cölestin wrth y ffenestr am oriau meithion, gan amlaf pan ymdywalltai harddwch y machlud dros y mynyddoedd a thanio'u hymylon tywyll â gwrid fioled, a phan ddisgynnai'r niwloedd, gan ymlusgo hyd y clogwyni ysgafellog, i lawr i'r dyffryn, yn ddisglair fel cawod o ddail rhos yng ngwrid yr hwyr.

A safai Cölestin am oriau meithion, meithion, ger y ffenestr—ac yn sydyn tennid copaon y mynyddoedd tywyll â melynwawr, fel llewych disglair goleu'r gogledd, a'r sêr pell yn crynu fel blodau gwynion ynddo. Mor hudol y tawelwch! mor freuddwydiol yr aroglau! Draw acw yng nghesail y mynydd-felly y meddyliai'r brawd Cölestin, lle'r ymddangosai'r cymylau a'r niwl, y sêr, y tonnau, a'r adar, draw acw yr eistedd rhyw dduwdod anwybod gan freuddwydio'i freuddwyd trwm, a alwn ni'n Natur, byd a bywyd, a'i lewych gwan yn crynu yn enaid dyn, fel pelydryn olaf y lloer wrth fachlud dros y mynyddoedd duon.

Yn ystod y dydd, yng ngwres yr haul, nid edrychai Cölestin tua'r mynyddoedd yr oeddynt mor brudd y pryd hwnnw—ymddangosent yn bendrist ac yn gystuddiol.

Dygaf ar gof unwaith eto i'r darllenydd, sydd wedi fy nilyn yn astud trwy freuddwydion y brawd Cölestin, fod Satan yng nghell y prior wedi hen ddiflasu arno'i hun. *** Dylwn ddywedyd bod y fynachlog yn dlawd iawn. Dibynnai'r myneich yn llwyr ar garedigrwydd pobl y wlad oedd yn trigo oddiamgylch iddynt. Ond yr oedd hynny'n ddigon. Yr adeg honno yr oedd pethau'n wahanol, ac yr oedd yr offeiriad a'r mynach yn fwy fyth mor sanctaidd yng ngolwg dyn â'r wennol a ehedai bob blwyddyn dan do'i fwthyn.

O bryd i bryd anfonai'r prior un o'r brodyr i'r mynydd. Rhoddai iddo ddau gydymaith y brawd Andreas, oedd yn fwy cyfarwydd â'r mynyddoedd na llawer ysbeiliwr, a hen asyn llwyd ac arno amryw fasgedi gweigion at gario bwyd. Swydd y brawd Andreas oedd arwain yr asyn. Efallai mai oherwydd hyn y galwai'r brodyr ei gydymaith llwyd yn "Andreas" hefyd, ac os dywedid, "Y mae Andreas yn dyfod o'r mynyddoedd," yr oedd pob un yn rhydd i gredu mai'r brawd Andreas a feddylid neu'r asyn neu'r ddau gyda'i gilydd. Hen fachgen grwgnachlyd oedd y brawd Andreas, ac ni byddai byth yn fodlon. Os byddai'n cerdded hyd y ffordd, poenai'r haul ef; os ciliai hwnnw tu ol i'r mynyddoedd, grwgnachai ar y ffordd garegog. Os deuai i ffermdai, achwynai ar y fynachlog, ac yn y fynachlog achwynai ar bobl y ffermydd. Nid oedd y prior call yn dymuno digio'r bobl trwy'r ymddygiad anghyfeillgar hwn, ac felly rhoes y swydd o ddelio â'r bobl i frawd arall, ac am fod pawb yn awyddus i ennill ffafr y pennaeth, dygai gydag ef bob amser ddarluniau, paderau, a chroesau i'w rhannu ymysg plant y ffermwyr, ac felly ennill ffafr y tad a'r fam.

Felly y dychwelai'r brawd Andreas i'r fynachlog, a'r basgedi'n llawn o ymenyn, cig o'r simnai, bara a bwydydd eraill, a phob hwyrddydd pan ddychwelai, swniai'r salmau'n llonnach yn y fynachlog a llosgai'r goleuadau'n hwyrach yn y ffreutur eang, wyngalchog.

Safai'r brawd Andreas unwaith yn rhagor wrth y drws gyda'i faich o fasgedi, gan ddisgwyl ei gymrawd. Aethai Andreas y mynach at y prior i dderbyn gorchmynion ynghylch y siwrnai newydd. Edrychai'r brawd Cölestin yn drist tua'r mynyddoedd. Teimlai hiraeth annirnad. Gwelai gerllaw yno'r asyn gyda'i lwyth basgedi. Meddiannodd awydd gwyllt ef i wybod calon y mynyddoedd, i anadlu'n ddwfn am unwaith yr awyr iach, i orfoleddu gyda'r ehedydd a gweled dynion unwaith yn rhagor, dynion byw ac nid y mwmïod sychlyd hyn oedd wedi suddo mewn meudwyaeth ac yn diferu gan darth-aroglau a gweddi. Ni phetrusodd o gwbl, ac am y tro cyntaf yn ei fywyd aeth yn syth at y prior, ac i mewn i'w gell heb rybudd na chyfarch.

"O dad," meddai wrtho, "y mae gennyf gais, cais angherddol, y cyntaf er pan ddeuthum yma. Gwrando arnaf, er mwyn Duw!

Edrychodd y prior yn syn arno, a dywedodd â thôn dawel, ond ceryddgar," Yr wyt yn pechu, fy mab, yn erbyn y drefn a'i holl reolau sanctaidd. Ni oddefir unrhyw gais i ti. Canys y mae mynegi cais yn meddwl dymuno rhywbeth, a gorchfygu'r ewyllys yw'r cam cyntaf at berffeithrwydd offeiriadol. Y mae'r cais yn esgor ar orchymyn, a'r gorchymyn ar allu."

Tawodd Cölestin, gwridodd, a lleithiodd ei lygaid. Ychwanegodd y prior: "Teimlaf gydymdeimlad â'th ieuenctid. Felly dywed dy gais; efallai y gallaf ei roddi iti; ond yn y dyfodol arbed fi, a phaid â gadael dy gell, heb dy alw trwof i gan yr Hwn yr ydym oll yn weision. annheilwng Iddo."

Mynegodd Cölestin ei ddymuniad yn floesg. Dymunai fyned gydag Andreas i'r mynyddoedd.

Ystyriodd y prior; yna, â llais dwys dywedodd, "Boed felly! Nid, efallai, oherwydd dymuno ohonof wneuthur d'ewyllys, ond oherwydd y deuai dy dro dithau i fyned allan heb gais. Dos felly gyda Duw, a dychwel dan Ei fendith." Penliniodd Cölestin gerbron y prior a gwlychodd ei law â dagrau poethion wrth ei hestyn at ei wefusau.

Ond ni ddeallai'r prior y dagrau hyn.

Aethant allan i'w taith. *** Ni buasai'r brawd Andreas erioed mor sarrug â'r tro hwn. Yr oedd ganddo, efallai, reswm da. Ofnai aflwyddiant y lawenydd dirgel, am nad oedd ganddo ddim i'w gludo, ond gorfoleddai'n rhy fuan. daith y diwrnod hwnnw, ac yn ei fryd taflai'r bai ar y gŵr da Cölestin. Fe'i teimlai hwn ei hun, am y tro cyntaf yn ei fywyd, efallai, yn orhapus. Ni all claf sy'n gwella wedi hir nychtod, neu ddrwg—weithredwr a ryddhawyd wedi blynyddoedd o garchar, deimlo'n hapusach. Teimlai fel pe creasid y byd er ei fwyn ef yn unig; tybiai weled ei enaid ymhobman, ym mlodau'r briallu ac yn adenydd yr eryr, a ymgollai uwch eu pennau yng nglas y nefoedd. Pe buasai heb ei rwystro gan ei safle a'i glog ddu, buasai wedi dringo ar ol y geifr oedd yn pori'r llwyni llus gwylltion ar y llethrau creigiog. Fflachiai ei lygaid, crynai ei ddwylo.

Yr oedd y brawd Andreas—y mynach a feddyliaf—yn ofni'n gywir. Yr oedd fel petai tynged ei hun wedi gofalu cloi drysau a dwylo'r ffermwyr oedd o'r blaen mor garedig, a theimlai'r brawd Andreas—yr asyn a feddyliaf y tro hwn, os gwelwch yn dda—y canlyniadau'n eglur ar ei gefn. Gallai'r hen fynach ofalu am ei achos. Ni ddygasai Cölestin ddarluniau na phaderau gydag ef; ni ddeallai ychwaith y gelfyddyd o ganmol dofednod ac anifeiliaid y ffermwyr a chwarae gyda'r plant. Yr oedd ei galon yn orlawn o swyn Natur, ei enaid yn fud gan syndod, a siaradai ei lygaid, ond ni ddeall y byd mo'r iaith hon, ac ni ddaw byth i'w deall. Yn fyr, rhaid oedd iddynt ddychwelyd gyda basgedi gweigion. Mewn ambell le, aethai pawb i'r dref, nid oedd neb gartref ond y plant a ysbïai'n chwilfrydig trwy'r ffenestri papurog ar y bodau dieithr.

Yr oedd y brawd Andreas mewn tymer ddrwg dros ben. Teimlai ei frawd llwyd o'r un enw Ymlusgent yn araf hyd y ffordd garegog, ddi-goed. Yr oedd Andreas yn flin a sarrug; chwiliai Cölestin yn ofer am ryw ffordd allan o labrinth ei feddyliau.

Y foment hon chwyddai'r llyffant trwyn caneri ei ben gwyn yn aruthrol ar y darlun yng nghell y prior, fel y mae'n arfer gan lyffaint a fo'n ymheulo ar ymyl pwll o ddŵr wedi cawod yn y gwanwyn. Ni sylwodd y prior ar hyn o gwbl, gan ddyfned ei fyfyr ar ei lyfr gwasanaeth.

Cyrhaeddodd ein pererinion o'r diwedd drum y mynydd. Yno tyfai ychydig flodau a llwyni. Bwriadent orffwyso am dro yma, yn flin gan y ffordd a'r tês. Ond O syndod! Yng nghysgod coeden, a'i dalcen ar y ddaear, gorweddai dyn, a'i ddillad yn garpiau. Yr oedd ynghwsg neu'n farw. Wrth ei ochr gorweddai ffliwt.

Murmurodd y brawd Andreas rywbeth am gnafon o bob math, a mynnai fyned yn ei flaen, yn union fel y Lefiad yn yr Efengyl, ond tystiai Cölestin dwym-galon mai ei ddyletswydd oedd ymgeleddu'r tlotyn oedd efallai'n farw. Cyfododd cweryl, a chafodd Andreas lwyd y fantais oreu ohono—gorweddodd i lawr yn rhydd a dilestair yng nghysgod y llwyn a phori draenen uchel, lasflodau. Gwrth-ddadleuodd y brawd Andreas yn hir, a haerai y dylid bod yn ystyriol, oherwydd gwyddai Duw, ond odid, i bwy i roddi cymorth. Er ei fawr syndod, fodd bynnag, dadleuai Cölestin yn dra egnïol y dylid codi'r tlotyn ar yr asyn a'i gludo i'r fynachlog i'w ymgeleddu. Ysgydwodd y dieithryn, troes drosodd yn sydyn, a chan riddfan yn boenus, agorodd ei lygaid. Yn sicr ddigon, yr oedd mewn dygn ymdrech ag afiechyd neu ag angeu. Plygodd Cölestin uwch ei ben a syllu ar ei wyneb. Wynepryd eithaf cyffredin heb nodwedd arbennig!

"Cerddor! Diogyn, fel miloedd ohonynt sy'n crwydro ar y mynydd," ebr Andreas yn sarrug.

A'r naill yn dal i wrthdystio, a'r llall yn arfer perswâd cryf gan roddi enghreifftiau o gariad Cristionogol, cododd ddau y gŵr dieithr ar yr asyn, ac wedi ei rwymo'n ddiogel cychwynnodd y garafan ar ei thaith tua'r fynachlog a ymgodai o'r niwl ar gopa'r mynydd oedd gyferbyn fel petai'n awyddus i wybod pa roddion gwerthfawr a ddygai Cölestin gydag ef.

"Dyma anrheg odidog!" ebr y brawd Andreas yn sarrug. Cododd Cölestin y ffliwt. Ni welsai erioed y fath offeryn; gwenodd; yr oedd yn amlwg fod y bib hon yn ei foddio. Cuddiodd hi'n ei fynwes, ond rhuthrodd Andreas arno yn wyllt ac eglurodd iddo y dylid trosglwyddo'r ffliwt i'r prior neu'n hytrach i'r fynachlog fel tâl am y treuliau a achosid gan ymgeleddu neu farw a chladdu'r gŵr anhysbys. I derfynu'r ddadl, dododd Cölestin y ffliwt ym mhoced gesail côt garpiog y gŵr anhysbys, a riddfannai'n boenus bob yn awr ac eilwaith gan agor ei lygaid.

Yn y cyfamser ymgasglodd yr holl frodyr a'r prior ar derras y fynachlog ar y grib, gan ddisgwyl yn hiraethus am ddychweliad y ddau Andreas. Yr oedd yr ymborth bron wedi darfod, a theimlai'r brodyr yn fwy nag erioed awydd anghenog i eistedd o flaen cwpanau a phlatiau llawnion yn y ffreutur oleuedig. Ond, y fath siomiant! Trwy'r drws daeth Andreas rif un yn guchiog, dygai Andreas rif dau ddyn dieithr ar ei gefn—cnaf meddw, dyna'r farn gyffredinol—ac yn olaf daeth Cölestin a'i ben i lawr a'i ddwylo ymhleth, ac arno gywilydd fel euog o flaen ei farnwr.

Syndod a dig ac achwyn,—dyna fu, a hynny'n ddibaid! Dim ymborth! Dim cig o'r simnai a hoffai'r brawd Kleofas gymaint; dim march-ysgall gardd yr oedd y brawd Zeno mor arw amdanynt, dim un melon, a'r brawd Sulpicius mor hoff ohonynt. Yn lle'r pryd bwyd a addawsid, dim ond cardotyn, bwndel o ddillad carpiog. O Gölestin, beth a wnaethost!

Lliniarodd y prior soriant y brodyr ag edrychiad llym. a chyda llymder mwy fyth yn ei wynepryd gofynnodd i Gölestin grynedig: "Pwy sydd gennyt yna, fy mab?" "Iesu Grist!"atebodd yntau, gan godi ei lygaid glasawyr at y prior.

Datseiniodd chwerthin ar bob llaw.

"Y mae'n gwirioni!--Peth fel hyn oedd i'w ddisgwyl!—Y mae'n cael hwyl am ein pennau!" Dyna'r geiriau a glywid o'i amgylch.

"Paid â chablu, fy mab," ebr y prior yn chwerw.

Nid wyf yn cablu, dad, ond dywedaf eto: Iesu Grist sydd gennyf. Oni ddywedodd Ef Ei Hun, Pa beth bynnag a wneloch i'r distadlaf o feibion dynion, i Mi y'i gwnewch? Yr oedd y tlawd hwn yn gorwedd ar ochr y ffordd garegog, yn ddiymgeledd, a gwres yr haul yn ei ddirboeni. Oni ddanfonodd Duw Ei Hun yn Ei drugarowgrwydd tragwyddol ni ato, i leddfu ei boenau? Ie, dad, hyd yn oed petawn yn euog o gabledd mwy fyth, dywedaf hyn,—yr oedd y drysau'n gaead i ni ymhobman yn unig er mwyn gallu ohonom ddwyn gyda ni yma y gŵr hwn sydd yn trengi. Petasai'n basgedi'n llawn o ymborth, ni allasem gynorthwyo, ond fel hyn yr ordeiniodd Rhagluniaeth bopeth yn ddoeth."

Aeth murmur ysgafn trwy reng y myneich. Yr oedd y prior ei hun bron wedi ei argyhoeddi. Ymhen ennyd, dywedodd:" Fy mab, yn ol trefn cariad Cristionogol, da y gwnaethost; ond y mae'r Ysgrythur yn dywedyd hefyd, Byddwch gall fel seirff. Onid yw'n bosibl mai cymryd arno y mae hwn? Pwy a ŵyr nad rhyw anturiaethwr ydyw a'i fryd ar ddyfod i'n mynachlog yn ysbïwr, ac wedyn ddisgyn arnom gyda'i gyd-droseddwyr a'n hysbeilio yn ein tlodi! Ond pa les ystyried, a hyn eisoes wedi digwydd! Boed hyn yn gosb iti, am iti weithredu heb fy nghaniatâd a'm cyngor i,—rhaid iti dy hun ymgeleddu dy ddyn cael yn ei afiechyd. Frodyr, dowch i'r weddi oriol!

Yr oedd y gwasanaeth yn drist a thrymaidd y diwrnod. hwn. Wrth arwain y canu gwelai'r brawd Zeno farch-ysgall aneirif mewn olew persawrus o'i flaen yn y llyfr gwasanaeth; ofnai'r brawd Sulpicius godi ei olwg ar yr allor; gwelai ymhobman felonau aur, anhygoel; tybiai'r gŵr da Kleofas ei fod yn arogleuo cig mwg yn lle'r tarth-aroglau. Ac mor ddigalon oedd y swper! Dim ond bara sych, maip, a hen gaws gwyrdd! A Chölestin oedd yn cael y bai am y cwbl.

Pan oedd y pryd bwyd digalon hwn ar orffen, hysbysodd y brawd Koch fod y dieithryn wedi marw.

Yna cyffro newydd, a chawod arall o geryddon am ben Cölestin. Ni allai'r prior ychwaith ymatal mwy, a grwgnachai'n hanner-hyglyw gan droedio'i gell: "Dim ond costau, costau dianghenrhaid!

Arosasai'r brawd Cölestin gyda'r claf hyd ei anadl olaf. Nid oedd ond prin wedi cau llygaid y dieithryn pan ddaeth rhyw deimlad rhyfedd ar ei warthaf—yr oedd fel petai'n teimlo awydd lladrata oddiar y Sancteiddiaf Ei Hun. Â llaw grynedig palfalodd hyd gorff y marw oedd yn oeri fwyfwy o hyd—o'r diwedd cafodd yr hyn a geisiai, a bu bron iddo orfoleddu'n uchel wrth dynnu'r hen ffliwt allan o boced gesail y gŵr dieithr. Dododd hi yn ei fynwes fel petai'n drysor gwerthfawr.

Crwydrodd o gwmpas fel hurtyn drwy'r dydd.

Claddodd y myneich y dieithryn wrth fur y fynachlog. Ond yn lle gweddïau danfonasant ar ei ol i'r bedd ymadroddion anghariadus a dyrnaid o bridd.

Noswaith bersawrus o haf ydoedd.

Safai Cölestin wrth ffenestr ei gell gyfyng gan edrych draw tua'r mynyddoedd. Ymagorai ei holl enaid fel blodyn Periw.

Ni buasai ffliwt erioed yn ei law—tynnodd hi allan yn chwilfrydig, fel plentyn a fo'n estyn tegan newydd, a cheisiodd, yn drwstan ddigon, ei gosod wrth ei wefusau a chodi a gostwng ei fysedd ar y tyllau. Anturiodd anadlu i'w cheudod. Ac wele! daeth sain bur feddal o'r ffliwt, gan nofio trwy awyr yr hwyrddydd, yn araf i gychwyn, fel pe dymunai ymdroi, yna darfu drachefn yn atsain dyner gan fynd yn ddistawach a gwannach—yr oedd fel cân alarch ar y llyn.

Synnodd Cölestin, a chynigiodd eilwaith, yn ddewrach a grymusach y tro hwn. Os oedd y sain gyntaf fel cwyn ddistaw, yr oedd hon fel cerydd, ac nid atseiniai yn raddol ond diweddodd gydag un chwibaniad treiddgar.

Tybiai Cölestin yn ei symlrwydd na allai bod dim arall, mai chwythu ei anadl i mewn i'r ffliwt oedd yr holl gelfyddyd, ac y gwnâi hi'r gweddill, ac felly chwythodd yn eofn i mewn iddi.

A dyna beroriaeth ddigyffelyb!

Ymddangosai holl farddoniaeth yr hwyrddydd hyfryd yn nhonnau'r miwsig cyfriniol hwn. Fel petai gwrid yr hwyr wedi ei wasgar dros y seiniau hyn! Dros y seiniau hyn a ymdoddai'n alarnad brudd a chrynu fel ysbrigau'r gwyddfid a ddringai o ardd y fynachlog rhwng hopys gwylltion hyd y mur, a'i flodau mawr amryliw'n llewyrchu trwy'r dellt i'r gell dywyll! Fel petai ellyll yn eistedd ar ymyl pob blodyn, yn wynnach nag ifori, tryloyw fel niwl! Ac ymddangosai pob un fel petai'n ysgwyd ei ben bach aur wrth fesur, a'r naill yn estyn ei law i'r llall a dawnsio'n nwyfus ar gareglau'r blodau cyfagos fel petai mil o löynnod byw'n eu siglo eu hunain yn y blodau! Daeth y nefoedd yn nês, ac aeth y mynyddoedd yn uwch a dwysach. Suganai'r ffrwd fel mewn breuddwyd wrth ymdroelli rhwng y clogwyni, ac fe'u hadlewyrchai'r creigiau tywyll eu hunain yn y tywod aur, dan wylio'i thaith fel gwarchodwyr mawr, a gwyro'n ddyfnach—disgleiriai'r llwyni meryw yn y gwyrddliw smaragdaidd, digyffelyb. A phob nodyn—fel petai wedi darganfod ei frawd! Y naill yn lliwiau cymylau'r hwyr, y llall yn arianlliw'r tonnau, ac un arall drachefn yng nghysgodion fioled y mynydd pell! Fe'i dyblai pob nodyn ei hun trwy ei atsain a suddai i gilfachau hen furiau'r fynachlog neu ddawnsio ar feddau mynwent y fynachlog yn ei chrwydr heibio i ffenestr liwiog yr eglwys A chanai Cölestin yr offeryn o hyd, o hyd.

Tybiai fod pob poen a gofid a gwae a bwysai arno yn ymadael ag ef trwy'r miwsig, Teimlai fel y gwnâi y bore hwnnw yr aeth am y tro cyntaf i'r mynydd, ond yn rhyddach, fel yr eryr yr eiddigeddai wrtho yr adeg honno, yn hapusach na'r briallu y gwelsai ei enaid yn eu caregl eiddil. Daliai i'w ganu ac edrych tua'r mynyddoedd, a'r haul yn machlud mewn gogoniant hudol y tu ol iddynt. Ymdoddai'r wlad o'i flaen yn llinellau llydain, lliwiog, disglair; yr oedd y ffrwd fel petai'n ymgodi o'r ceunant a lluchio i'w ffenestr gawod o feini onyx, perlau, a rhuddemau. Yr oedd rhuddliw'r hwyr fel môr; tyfai'r blodau gwyddfid mewn llestri grisial, ymgodai odalisciaid a sylffiaid ohonynt gan siglo'n gwmnïau hudol. Dros bobman seiniai nodau clir, hir, melodaidd a rhyfedd, cwynfannus, cynhyrfus ac ymbilgar, fel perlau cawod Fai yng nghoetlan blodau'r iasmin pan fo'r blodau'n niferus a phersawrus.

A daliai Cölestin i ganu'r offeryn—caeai llif y ffansïau o'i amgylch, fel llif dros un a fo wedi boddi—yr oedd rhywbeth anfarwol o dlws iddo ef yn y telori hwn, fel sŵn symbal a sain clychau. Yn raddol aeth y cwbl yn ddistawach, ddistawach, heb ddim ond y nos yn syllu i'w ffenestr â'i sêr-lygaid gwlithlawn, rhyfedd.

Safai'r brawd Kleofas ar y trothwy fel un a fai wedi caregu. Syrthiodd y ffliwt o law Cölestin a hysbysodd Kleofas â llais gwannaidd orchymyn y prior: "Yr oedd Cölestin i ymddangos ar unwaith yn yr ystafell fwyta a'r ffliwt gydag ef."

Cafwyd prawf ffurfiol. Wedi ymgolli yn ei ganu, anghofiasai Cölestin y weddi hwyrol yn llwyr, a pheth oedd waeth, fel y dywedai'r prior, torasai ar fyfyr y lleill â'r miwsig Satanaidd hwn. Disgwyliai'r brodyr, oedd erbyn hyn wedi chwerwi yn erbyn Cölestin, mewn llawenydd maleisus am ddedfryd y prior. Tybiai ef ar y cychwyn fod Cölestin yn gallu canu'r ffliwt, ond addefodd hwnnw'n onest na wyddai ddim am ffliwt cyn hynny, a'i fod yn credu nad oedd angen dim ond chwythu i mewn iddi. Chwerthin cyffrous y brodyr oedd yr ateb iddo. Ystyriai'r mwyafrif ef yn rhagrithiwr; credai eraill yn ei symlrwydd, ond ofnent fod rhywbeth goruwch-naturiol yn y canu. Ystyriodd y prior yn hir. Yr oedd wynepryd gonest Cölestin yn ei amddiffyn yn llwyr. Y diwedd fu i'r prior gyhoeddi'r ffliwt yn eiddo'r fynachlog a'i rhoddi i'r brawd Kleofas i'w chadw, gan orchymyn iddo beidio â gadael i neb ei chael, neu o leiaf i Gölestin, oedd erbyn hyn wedi ei anfon allan.

Treuliodd Cölestin noson ddigwsg. Swniai'r miwsig hudol yn ddibaid yn ei glust. Yr oedd yn ddiwrnod tywyll a niwlog drannoeth. Yr oedd tymer Cölestin fel eiddo dyn a fo wedi treulio'r nos mewn cyfeddach. Teimlai ryw wacter dychrynllyd yn ei enaid. Ymddangosai fel dieithrddyn yn yr eglwys ac yn ei gell. Llosgai rhyw hiraeth annirnad ynddo; ofnai siarad, ac eto gwyddai mai poeni am y ffliwt yr oedd.

Daeth yr hwyr eilwaith, yn drist ac annifyr. Ymwisgai'r mynyddoedd yn eu clog o niwl, fel gweddwon galarus. Cerddai Cölestin yn ol ac ymlaen yn ei gell a'i freichiau ymhleth. Gwingai rhyw feddwl ynddo, ac fe'i poenydiai â thân uffernol.

Y ffliwt! Dim ond y ffliwt!

Yna clywodd guro ysgafn ar y drws.

Agorodd, ac yn yr adwy hanner-tywyll safai un o'r brodyr. Yr oedd yn rhy dywyll iddo allu adnabod ei brydwedd, ond yr oedd ei ffurf yn debyg i eiddo Kleofas.

"A oes eisiau imi ddyfod at y prior eto?" gofynnai Cölestin yn syn.

Yn lle ateb, dododd y mynach ei fys ar ei wefus a thynnodd allan odditan ei abid—y ffliwt. Beth arall a allasai fod a phwy arall ond Kleofas, ceidwad y ffliwt, traflyncwr mawr cig mwg?

"Kleofas! Frawd!" llefai Cölestin yn llawen. "Y mae un felly sy'n cydymdeimlo â mi—un sydd heb f'anghofio—sy'n barod i ddwyn arno'i hun lid y prior a'r brodyr er fy mwyn i! Diolch iti, frawd—tybiwn bob amser dy fod yn elyn i mi; maddeu, frawd, maddeu! O lawenydd, fy ffliwt!"

Estynnodd ei law am yr offeryn dihafal.

Amneidiodd y mynach arno i fod yn ddistaw, ac estynnodd y ffliwt iddo. Cyn i Gölestin allu diolch iddo, diflanasai yn nhywyllwch y neuadd.

Yn ei gyffro, angofiasai'r gŵr da Cölestin fod y brodyr wedi ymgynnull yn y côr ers cryn amser. Daliai i gredu na allai'r mynach mud hwnnw fod yn neb amgen na Kleofas. Nid oedd lle i ddim yn ei ymennydd ond i'w ffliwt.

Symudodd at y ffenestr a chanodd.

Yr oedd y gerdd yn drist a galarnadol, fel petai'n cynganeddu ag ysbryd yr hwyr. Dylifai ocheneidiau gwasgedig a dagrau ataliedig drwyddi yn ffrwd lawn; cwynai miliynau o eosau eu gofid ynddi. Yn sydyn newidiodd y miwsig yn rhuthr gwyllt y carnifal, yn llawenydd cyfeddach ofer, yn chwerthin gwallgofrwydd. Ni wn am ba hyd y canodd Cölestin, ond y tro hwn Kleofas oedd a ddaeth yn gynddeiriog fel teigr i'w lusgo gerbron brawdle'r prior. Yr oedd rhywbeth amgen na dirgelwch yn y cwbl. Tystiai Kleofas iddo fario'i gell a sicrhau'r ffliwt ar y mur cyn dyfod i'r gwasanaeth. Cadarnhâi'r brodyr a'r prior ei hun hefyd iddynt weld Kleofas yn yr eglwys. Haerai Cölestin iddo gael y ffliwt yn ol gan Kleofas ei hun. Yn y diwedd, rhoddwyd y bai ar Gölestin; nid oedd neb yn barod i'w goelio. Gwelsid Kleofas gan bawb, ond nid oedd neb wedi gweld Cölestin. Ond dyna syndod a ddaeth ar bawb, pan aethant i gell Kleofas a gweld y ffliwt yno ar y mur!

Yr oeddynt wedi eu syfrdanu. Dododd y prior ei law ar ei dalcen fel petai'n chwilio yno am ryw feddwl rhesymol. Syllai'r brodyr y naill ar y llall, fel petaent wedi disgyn o'r lleuad a disgwyliai Cölestin yn boenus i rywbeth ddigwydd. Estynnodd y prior y ffliwt oddiar y mur a dug hi i'w ystafell. Cludwyd Cölestin gan ddau o'r brodyr i garchar y fynachlog i fyw ar ei ben ei hun ar fara a dwfr nes iddo egluro sut y cafodd y ffliwt a sut y dysgodd ei chanu, ac felly ddwyn ei benyd am anufuddhau ohono ac esgeuluso'r gwasanaeth yn yr eglwys.

Daeth y nos. Ni wyddai Cölestin hynny. Yr oedd yr ystafell a wasanaethai fel carchar y fynachlog, bob amser yn dywyll. Yr oedd yr unig ffenestr yn union dan y bargod, ac wedi ei rhwyllo'n drwm. Yr oedd y drws ar agor, ac yn yr hanner—gwyll ymddangosodd y brawd Kleofas. Gan fwmian rhywbeth yn sarrug yn ei farf, gosododd lestr llawn o ddŵr a darn o fara ar fainc Cölestin, crogodd lamp fechan bridd ar y mur moel, a throes i fynd. Ceisiodd Cölestin siarad ag ef, ond caeodd y drws ar ei ol heb yngan gair a throes yr allwedd yn y clo. Yr oedd Cölestin druan yn unig drachefn.

Fe'i taflodd ei hun ar y fainc dlawd i gysgu. Dechreu ofer! Daeth drychiolaethau twymyn o flaen ei olwg; yr oedd ei arleisiau ar dân; caeai ei lygaid fel petaent blwm, ond y tro hwn yr oedd cwsg yn fyddar ac annhrugarog.

Âi'r oriau'n araf heibio.

"Dyma fywyd digalon!" meddyliai Cölestin. "Oni byddai'n well marw?

Dechreuodd fyfyrio ar angeu. Ymddangosai marw yn beth hawdd a melys.

Gwasgarai'r lamp wrth fflachio'n betrusgar dawch a mwg drwy'r ystafell fechan; crynai cysgod dellt y ffenestr hyd y llawr gan ymestyn i gongl yr ystafell. Tybiai Cölestin fod y cysgodion yn amlhau tua'r drws. Ai hud ydoedd ? Rhwbiodd ei lygaid i weld yn well. Tyfai'r cysgodion yn ffurf, a dyfod yn nês ato. Yr oedd mewn gwisg lwyd, a honno'n blygion i gyd, ac wedi ei gwnïo'n hynod. Yr oedd yr wyneb hir, cul, a melyn fel hen femrwn yn llyfrgell y fynachlog. Neshaodd y ddrychiolaeth gan gamu'n fras a distaw. Edrychodd Cölestin yn ddigyffro ar y bod ysbrydol hwn; nid oedd arno'r ofn lleiaf. Yn awr safai'r ymwelydd dieithr o'i flaen gan edrych i'w wyneb â llygaid gwyrdd a thanbaid.

"Satan wyt ti!" ebr Cölestin yn dawel, heb dynnu ei olwg oddiarno.

"Efallai nad wyt yn camgymryd," atebai'r dieithryn, â llais cryg.

Bu distawrwydd hir.

"O'r boen a ddyry bywyd!" ocheneidiai Cölestin, gan syllu ar y to.

"Poen? "chwarddai'r ymwelydd rhyfedd; "ni wyddost ddim amdano, fy machgen i! Poen! Hen gân plant ac oferwyr! Meddylddrych gwag yw bywyd, ac y mae'n dibynnu ar sut yr wyt ti'n ei lenwi. Dy fai di ydyw os poen a ddyry i ti.'

"Beth? Oni wn i beth yw bywyd?" gofynnai Cölestin yn nwydwyllt. "Beth ynteu yw ein hymwadiad, ein hymdrech, ein breuddwydion—?"

"Ymwadiad, ymdrech, breuddwydion, ond nid byth fywyd!" atebai Satan yn wawdlyd. "Y mae gennyt amcan amdano, O dydi blentyn â hiraeth cawr a syrffed henwr yn dy galon."

"Ond paham na wn i beth yw bywyd?" gofynnai'r mynach yn betrusgar.

"Am na wyddost beth yw gwraig!" atebai Satan, gan chwerthin yn gryglyd.

"Gwraig?" ebr Cölestin, fel mewn breuddwyd; "oni bu gennyf fam, mam dda, angylaidd—"

"Paid â sôn am dy fam!" ebr Satan, gan dorri ar ei draws. "Enaid yw mam, duwdod—os mynni, duwdod ymgnawdoledig, ond nid gwraig,—corff yw honno ac ni wyddost ddim amdani. Yr wyt yn ddiniwed iawn, blentyn annwyl."

Crynai ysbryd cydymdeimlad dwfn yng ngeiriau olaf Satan.

"Ond pa fodd y gall gwraig gyfrannu at fy hapusrwydd? Byddwn i'n hapus pe gallwn grwydro ym myd Natur, dringo'r mynyddoedd gyda'r geifr, ehedeg i'r awyr gyda'r eryr, byw yng nghwpanau'r blodau, ac—"

"Aros yn ffŵl, fel yr wyt hyd yn hyn," ebr y dieithryn ar ei draws. "Na, ni wyddost ddim yn wir beth yw gwraig! Ni wyddost mai Natur yw gwraig, holl Natur, tragwyddoldeb mewn person; fod pelydryn o Eden yn disgleirio yn enaid gwraig ac yn ei chorff uffern gyfan o fflamau! Yr wyt ti'n rhoddi dy freuddwydion anaeddfed i orffwys mewn sêr a blodau a hedfan adar, ac nid yn y lle y dylent fod, y lle y deuthant ohono ac y cyrchant ato, mynwes gwraig, allor y gwir dduwdod, unig aberthfan hedd. Ni wyddost mai gwraig yw dy enaid di dy hun, mai gwraig yw angeu, mai gwraig yw mam popeth, sef tragwyddoldeb. Yr wyt wedi ymwadu â gwraig ac felly plentyn wyt a hiraeth cawr a syrffed henwr yn dy galon. O fel y tosturiaf wrthyt!

Daeth dagrau i lygaid yr offeiriad ieuanc.

"Os felly, dysg imi adnabod gwraig, a chymer fy mywyd yn dâl, fy enaid a'm hiechydwriaeth!" Felly y llefodd a phenlinio gerbron yr ymwelydd erchyll. Ond chwarddodd hwnnw a dyfod yn nês. "I ba beth y mae'r llusern dywyll hon yn dda?" Gyda'r geiriau diffododdd y lamp; daeth Fel oddiwrth y ffenestr gan balfalu â'i law drwy'r awyr. edefyn sidan, gwyn, disgleiriai rhywbeth o'r tuallan drwy'r hofran ffenestr; crwydrodd yn belydryn ariannaidd ar unwaith rhwng y dellt fel seren danbaid a fai'n gwasgar ei phelydr ar bob llaw. Llanwyd yr ystafell gan wawl melyn brwmstanaidd, a droai'n raddol yn wahanol liwiau. Gafaelodd Satan yn ei fynwes, a thynnodd allan dri darn bychan, crwn, o bren, a dechreu eu gosod wrth ei gilydd. "Fy ffliwt!" gwaeddai Cölestin, gan godi oddiar y fainc.

"Ie, dy enaid," chwarddai Satan yn wawdlyd; "paid â chodi, nid oes raid i ti ymboeni."

Ufuddhaodd Cölestin, a thynnodd y cwrlid drosto. Dododd Satan y ffliwt wrth ei wefusau. Nid oedd y nodyn cyntaf ond prin wedi seinio pan syrthiodd ei amwisg ddu oddiarno. Ar ymyl y fainc eisteddai cawr noeth, a'i freichiau aruthr yn cuddio dwy adain ystlum a hongiai o'i ysgwyddau anferth fel dwy faner ddu. Canodd gan nodio'i ben purddu. Yr oedd sŵn od, amhersain ac anghelfydd yn y gân; nid oedd peroriaeth yn y miwsig hwn, a theimlai Cölestin fel petai cawod danllyd o farwor llosg yn disgyn ar ei arleisiau. Swniai'r nodau'n arwach yn awr, ac yn dreiddgar fel nodwyddau dur. Daeth arswyd rhyfedd Yna dros Gölestin, a thynnodd y cwrlid dros ei ben. ymledodd rhywbeth fel niwl drosto gan bwyso ar ei fynwes. Ymgododd lluniau amryfal, digyffelyb. Gwelai ddinasoedd a thyrau a thai hynod, fforestydd mawrion a diffeithleoedd tywodlyd, hen erddi'n llawn o gerrig, cerfluniau mwsoglyd a ffynhonnau hysbion. Daeth yn hwyrddydd, daeth yn fore, daeth yn nos—ni pheidiodd y glaw. Yn sydyn fe'i cafodd ei hun mewn gardd gypreswydd wyllt. Yn y tu cefn ymgollai tyrau adeiladau'r Canol Oesoedd. Disgleiriai tywod aur ar y llwybrau llydain ac anadlai'r blodau serennog foethusrwydd i'r awyr. Ger y ffynnon dan y cypreswydd safai gwraig o osgedd teyrnaidd ac aruthr.

Yr oedd gwisg o felfed du amdani. Disgleiriai ei gwddf a'i mynwes hanner-cudd gan wynder pur a cheinder perlog. Estynnodd yntau ei fraich yn awchus, ond ymdoddodd y wraig yn ddim fel niwlen. O'i amgylch ymdaenodd niwl drachefn, ac yr oedd popeth fel petai'n tyfu ac yn ymdoddi'n gylchau melynion oedd yn troi'n gyflymach, gyflymach o hyd. I fysg y rhain daeth y pelydryn oedd hyd yn hyn yn hofran rhwng y dellt gan fflachio'n hir a glas fel blodyn iasmin neu smaragdus-troes a newidiodd yn sydyn yn gorff merch, wedi ei wisgo â niwl arian fel pali tryloyw. Dyna oedd hi, breuddwyd ei enaid cwsg, hyhi hefyd oedd honno a welodd dan y cypreswydd. Amneidiodd arno. Gwelai ei glendid, teimlai ei hanadl poeth—ni welai ef Satan oedd yn nodio'i ben yn gyflymach o hyd—fe'i gwelai hi ac ni welai neb arall. Llifai dagrau poethion dros ei ruddiau—ac yntau'n benfeddw—estynnodd ei fraich amdani, ond ar y funud, pan deimlai ei fod yn gwasgu ei chalon at ei galon ei hun, brysiodd hithau at y ffenestr a chan ddawnsio ym mhelydr y lleuad, denodd ef i'w dilyn. Cyfododd yntau'n frwysg oddiar y fainc-syrthiodd y delltwaith gyda thwrf i'r llwch—gwthiodd ef o'r neilltu. Ar gorn simnai'r fynachlog eisteddai'r Diawl, gan chwythu'r ffliwt, ac o'i flaen yn hofran yn lledrith yr hafnos yr oedd breuddwyd ei enaid—y wraig hudol honno.

Rhaid oedd iddo'i dilyn. Taith anghyffredin dros y to. Satan ar y blaen yn chwythu'r ffliwt, yna hithau a niwl rhosliw o'i chwmpas, a rhos ac eiddew a bwtias y gog a blodau'r fioled a'r rhododendron yn gadwynau ogylch ei gwallt a'i haelodau meinion, lliw'r eira-yna Gölestin, a'i lygaid ynghau, yn estyn ei freichiau, a hiraeth gwyllt, tanbaid yn ei galon, a chariad gwyllt, tanbaid yn ei enaid. Dawnsiai'r lloer o'u blaen gan daflu ei phelydr fel edafedd dan eu traed. Crynai'r sêr â goleu ffosfforaidd, a chodai to'r fynachlog dan eu camre fel cefn rhyw anghenfil chwedlonol, cynddilywaidd . . .

Lle yr oedd tro'n y to, neidiodd gwreath mawr du allan, a'i lygaid yn tanio fel rhuddemau, a gwreichion trydan yn fflachio o'i flew melfed . . Yr oedd y fynachlog o'r tu ol; brysient ymlaen yn awr ar belydr y lloer yn unig. Safai'r coed obry hyd ochr y ffordd fel ysbrydion anferth, cobog. O'u brigau codai cigfran weithiau, gan grawcian yn ddychrynllyd, a'i hadenydd ar led. Danynt disgleiriai fflamau bychain gleision. Ar y gors dawnsiai goleuadau'r hudlewyrn fel sêr disberod, ar lan y pwll eisteddai llyffaint, a'u croen smaragdaidd yn disgleirio'n y goleu gwelw. Trymhaodd yr awyr-ymguddiodd y lloer y tu ol i'r niwl, yr oeddynt yn awr yn croesi trum y mynydd-tawodd seiniau'r ffliwt. Safent yn awr o flaen dibyn, ac ar un o belydr gwelwon y lloer aeth y wraig a'r chwerthin hudol i lawr i'w hafn ddiwaelod—a diflannu. Fry ar grib y clogwyn anferth eisteddai Satan—dododd y ffliwt o'r neilltu a chwarddodd yn uchel a dychrynllyd. Agorodd Cölestin ei lygaid. Yr oedd popeth o'i gwmpas yngholl mewn tywyllwch.

"Dyro imi'r ffliwt!" taranodd wrth Satan, " dyro imi'r ffliwt i hudo'n ol o'r dyfnder yr wyneb disglair!

Chwerthin treiddgar, gwawdlyd oedd ei ateb.

"Dyro imi'r ffliwt, a chymer fy enaid!" Daeth y chwerthin eilwaith.

Yna rhuthrodd Cölestin yn nwydwyllt ar Satan, i ddwyn y ffliwt oddiarno. Ond dododd hwnnw ei freichiau amdano a'i orchuddio â'i adenydd cryfion. Syrthiasant gyda'i gilydd yn araf i'r ddaear. Ni ddihunodd Cölestin mwy.

Yn y bore edrychai'r brodyr yn syn ar y delltwaith toredig yng ngharchar y fynachlog. Nid oedd dim o ôl Cölestin. Aeth syndod y prior yn fwy pan welodd golli'r ffliwt a osodasai ef ei hun y diwrnod cynt dan ddarlun Sant Antwyn. Wrth chwilio am y ffliwt ac edrych ar ddamwain ar y darlun, sylwodd am y tro cyntaf ar fflam anfad gwawd yn disgleirio yn llygad y llyffant gwyrdd ac ar y chŵydd gwyn. Aeth â'r darlun o'i gell y diwrnod hwnnw. Bu son am y digwyddiad rhyfedd am amser maith ymhlith y brodyr, ond o dipyn i beth fe'i anghofiwyd fel yr anghofir popeth gydag amser.

Aeth y brawd Andreas unwaith yn rhagor ar daith hel ymborth gyda'i gymrawd. Wrth ei groesawu a'i wledda'n gyfeillgar gan y ffermwyr caredig, yfodd fwy o win nag oedd yn dda iddo—ond yr oedd hi mor boeth, 'welwch! Yr oedd hi eisoes yn hwyr pan droes yn ol adref gyda'i lwyth goludog i'r fynachlog, lle y disgwyliai'r brodyr yn anniddig fel arfer. Ond y tro hwn cymerasai Bacchus a Morpheus y gŵr da Andreas dan eu nawdd. Wrth yrru ei asyn, collodd ei ffordd yn yr hanner-gwyll, a chan ddibynnu ar wybodaeth ei frawd o'r un enw o'r wlad, arweiniwyd ef i ryw hafn, lle y cysgodd yn esmwyth gan flinder ac angerdd y gwin. Yn naturiol iawn dilynodd ei gydymaith ffyddlon ei esiampl.

Ond yn y bore! Deffroes yr awel fain y cysgadur a gwasgaru'r niwl o'i ymennydd. Gan rwbio'i lygaid, edrychodd o'i gwmpas. Dduw annwyl! gyda phwy y treuliodd y nos yn y fan yma! Heb fod nepell oddiwrtho, gorweddai dyn â'i wyneb ar y ddaear, yn abid ei urdd a hwnnw wedi hanner pydru—ysgerbwd dyn ydoedd, wedi ei ddarnio gan fwystfilod rheibus, glaw, gwynt ac amser. Ni ellid adnabod ei wynepryd, am fod pridd a gwaed wedi sychu drosto. Heb fod nepell gorweddai—ffliwt! Ysgrechiodd Andreas yn uchel gan syndod. Neidiodd yn hoyw ar gefn ei gymrawd a gyrrodd ef yn brysur i fyny'r mynydd. Nid anturiodd droi'n ol, ond ymgroesai'n aml.

Dywedodd wrth y prior iddo dreulio'r nos gydag un o'r ffermwyr. Ni wn a adroddodd ef wrth unrhyw enaid dynol hanes antur y nos honno.

YR HEN WRAIG.
(Gan Y. VRCHLICKÝ.)

DENAI haul y gwanwyn bobl lawer o'r dref. Teyrnasai prysurdeb bywiog yn yr heolydd, yr oedd popeth mewn cywair uchel. Tyrrai pawb ar frys gwyllt o flaen porth y dref. Nid oedd eto yn Natur ddim llawer o ol y gwanwyn hir-ddisgwyliedig i'w weled. Yr oedd gwellt crynedig ar y llwybrau bron yn ddi-liw, y coed yn foel, nid oedd ond y castanwydd yn agor eu blagur aur. Eto yr oedd y gwanwyn i gyd yn yr awyr. Gellid dywedyd ei fod yn hofran dros y byd. Yr oedd yr awyr yn glir a phersawrus, yr wybren yn llawn o adar ehedydd a ganai o lawenydd calon.

Ar y droetffordd a arweiniai i'r meysydd agored lle y cyrchai'r rhan fwyaf o'r dyrfa Saboth drwsiadus, cyrcydai hen wraig. Yr oedd dillad yr hen greadures yn garpiau i gyd. Eisteddai gan blygu ymlaen, a'i dwylo ymhleth am ei gliniau. Dwylo hen, rhychiog, llosg gan yr haul, caled ac esgyrniog oeddynt, fel cangau crin coeden ar lawr. Crwydrai ambell gudyn o'i gwallt brith ar ei harffedog glytiog. Ymddangosai cynhesrwydd pelydr yr haul yn garedig wrth y dwylo hen lluddedig a welsai lawer o dywydd garw.

Chwaraeai plentyn ger traed yr hen wraig. Cloddiai'r ddaear â darn o lestr pridd, crafai'r clai ynghyd a'i rannu wedyn yn ddarnau bychain unfaint. Wedi ymgolli yn ei chwarae, ni sylwai ar yr hen wraig, ac ni sylwai hithau yn ei hir-fyfyr trist a chyfrin ar y plentyn ychwaith. Cerddai'r bobl heibio'n lluoedd; yr oedd fel petai'r holl dref wedi dyfod allan i fwynhau heulwen y gwanwyn. Ac âi'r holl dref heibio i'r hen wraig, a hithau'n cyrcydu'n ddigyffro ar y ddaear a'i phen yn llwyr o'r golwg yn ei harffedog glytiog, a'i dwylo'n dyn ymhleth am ei gliniau, a'r pelydr cynnes fel petaent yn eu dal.

Pwy oedd yr hen wraig, tybed? a pham yr eisteddai yno fel petai wedi caregu?

Nid cardotes oedd hi. Efallai mai gofalu am y plentyn oedd ei gwaith? Efallai mai dyna'i dull hi o fwynhau bendith heulwen y gwanwyn? Neu a oedd ei gofid mor fawr fel na allai oddef unwaith eurbelydr caredig yr haul, nac estyn ond ei dwylo caled, geirwon i'w derbyn ? Efallai ei bod yn ei theimlo ei hun yn hapus yn y marweidd-dra hwn-ond, a dywedyd y gwir, cysgai yn esmwyth ac yn fy nychymyg i fy hun y chwareid y ddrama erchyll a osodais mewn ffansi o flaen eich llygaid.

Ni wn paham, ond bu darlun yr hen wraig ryfedd yn boen i mi. Tybiwn fy mod yn gweled yr holl ddynoliaeth wedi ei merthyru a'i phoenydio a'i baeddu a'i gorthrymu, yn cywilyddio oherwydd effaith ei gwaith ac eto'n dal i estyn ei dwylo crebachlyd i belydr yr haul-

A chanai'r adar ehedydd a gwasgarai pelydr yr heulwen eu tês.

FFYNNON ANGOF.
(Gan Y. VRCHLICKÝ.)

SAFAI'R abad Fulgentius a 'i bwysau ar wal gardd y mynachty gan edrych yn hurt i'r pellter. Syrthiodd ei lyfr gwasanaeth o'i law i'r glaswellt tew, disathr. Ychydig cyn machlud haul ydoedd. Llewyrchai coed yr ardd ym mhorfforlliw'r hwyr fel colofnau o ruddem, a disgleiriai eu dail fel smaragdus—ymddangosai'r holl ardd fel y baradwys hudol honno y sonnir cymaint amdani yn yr hen groniclau. Yn awr ac yn y man ehedai aderyn heibio, neu löyn byw, oedd yn debycach i flodeuyn ar ei adain neu seren yn syrthio. Disgleiriai a gwridai popeth; yr oedd peraroglau treiddiol anghyffredin dros bob man.

Awr gyfrin y machlud oedd, pan wisgo'r dydd yn gyfnos—nid yw na goleu dydd na gwyll yr hwyr, pan na theimlo'r enaid, er bod yng ngharchar mater, bwysau'i gadwynau, a phan gredo fod iddo adenydd ac y gall ehedeg o'r byd hwn.

Yr oedd yr abad yn anarferol o brudd. Eto nid y prudd-der hwnnw oedd a berthyn i'r dyn sy'n ymwrthod o'i fodd â'r byd ac yn ceisio diffodd gwreichionen olaf asbri bywyd mewn meudwyaeth. Yr oedd ei brudd-der ef o natur hollol wahanol.

Prudd-der ydoedd a berthyn i'r enaid sy'n hiraethu am fywyd, y prudd-der hwnnw y mae dyn yn ymestyn ynddo am y gwelltyn olaf sy'n gallu achub yr enaid sydd ar suddo, y prudd-der hwnnw sy'n tarddu o ddymuniad dyn i ysgwyd pob cloch yn ei fynwes a chyhoeddi dathlu prydferthwch, daeoni, a godidowgrwydd, ond bod un posibilrwydd yn eisiau i ni gallu anghofio'r gorffennol.

Cododd yr abad ei ben o'i ddwys-fyfyr ac edrych ar dân y machlud. O'i flaen safai dyn yng ngwisg pererin, a het lydan ddiddos am ei ben, a phastwn yn ei law, a'i ysgrepan a'i gostrel ynghrog wrth ei wregys. Yr oedd golwg fonheddig ar ei feingorff, ac ar ei wynepryd arwyddion hynawsedd tawel, ymostyngar.

Edrychodd yr abad yn gyfeillgar arno. Daeth y pererin yn nês. Nid oedd rhyngddynt yn awr ond gwal gardd y mynachty,-gwal go isel, a'r drain yn dew drosti.

Wedi dyfod o bell?" gofynnai'r abad i'r dieithryn.

"Ydwyf, o bell."

"Fy mreuddwyd a'm hiraeth pennaf innau ers talm yw ymweld unwaith â'r lleoedd sanctaidd," ebr yr abad, ond fe'm rhwystrir bob amser gan fy nyletswydd i'm hurdd a chan fy swydd. Ac o'r braidd y coeliwch fod yr hyn oedd yn anodd i'r newyddian a'r brawd yn amhosibl bron i'r abad. Sefais ar y wal hon am flynyddoedd gan syllu tua'r lle y cyll y ffordd yn y ffurfafen, gan edrych ar ol croesau a banerau'r pererinion. Dro ar ol tro parodd eu caniadau imi wylo; teimlwn fel petai adenydd yn tyfu o'm mynwes, ond O, rhaid oedd imi fygu'r teimladau a'r dyheadau hyn; rhaid oedd imi ddychwelyd eilwaith i'r mynachty a'm calon yn chwerw, wrth gân y gloch osber. Ond yn araf deuthum i gyne fino ag ef; troes y chwerwedd yn gydymdeimlad, ac wedyn edrychwn yn ddigyffro ar y pererinion oedd â'u taith i'r tir sanctaidd-goddefwn hyn iddynt, ond arhosai un peth wedyn yn f'enaid."

Wedi'r geiriau hyn suddodd yr abad drachefn dros dro i fyfyr prudd, ac ni sylwodd fod y pererin yn craffu arno â golwg ryfedd fel pe mynnai dreiddio â'i lygaid i eigion bod yr offeiriad.

Heb aros i'w holi, ymhen ennyd dechreuodd yr abad lefaru drachefn:

"Meddyliwn y gallwn fod yn fwy ffodus na'r holl bererinion, y gallwn hwyrach drwy ffawd ddarganfod yr hyn y mae'n holl ganrif ni'n cyfeiliorni wrth ei geisio, yr hyn y mae tlawd a chyfoethog, ieuanc a hen, yn chwilio am dano."

Yr oedd yn syn o beth na buasai llygaid y pererin wedi treiddio trwy'r abad! Dan swyngyfaredd eu dylanwad llefarai'r abad yn ei flaen.

Yr oedd fel petai'n cyffesu i ryw fod uwch nag ef ei hun, ac fel petai'n taflu trwy hynny oddiar ei enaid ryw faich na wyddai o gwbl beth i'w alw cyn hynny.

Siaradai'n dawel ac yn araf â rhyw gryndod na ellid bron sylwi arno yn ei lais.

"Goddefwn bopeth tra fyddwn yn y meddwl hwn. Pa sawl mordwywr a aeth ar goll mewn moroedd anhysbys, o gariad ato! Pa beth a edrydd chwedlau'r mynachtai a'r croniclau am farchogion a aeth ar grwydr i chwilio am y rhyfeddod! Eithr nis darganfuant, nis darganfuant, ond sibrydai rhywbeth cyfriniol wrthyf y byddwn i'n fwy ffodus

Gloywai llygaid y pererin fel dwy seren danbaid. Treiddiai eu pelydr i'r fan lle y curai calon yr abad yn gyffrous dan y cwfl bras.

Cyfeiriaf at ffynnon ieuenctid. Credaf ynddi, ond pa le y mae i'w chael? Credaf y darganfyddir hi rywdro, ond pwy fydd y gŵr ffodus, ac a all ef ei defnyddio er budd i'r holl ddynoliaeth? A gaiff ef ei defnyddio er ei les ei hun? Mor ddwfn yw'r cwestiynau hyn, a phwy a all eu hateb?"

Yn awr dechreuodd y pererin lefaru:

Ac a dybi di, O abad, y byddai ffynnon ieuenctid yn gynhorthwy ac yn lles iti, pe caniateid iti ei darganfod? Gymaint dy gyfeiliorni! Edrych i lawr i ddyfnder d'enaid ac ateb un cwestiwn i mi. A wyt ti'n ddibechod?

Ergrynodd yr abad wrth y geiriau hyn. Teimlai wrid cywilydd yn codi i'w wyneb. Gwyrodd ei ben yn isel a thewi.

Ychwanegai'r pererin:

"Pa fudd a fyddai ffynnon ieuenctid i ti a'th debig? Yfech ohoni, ac adnewyddu eich hieuenctid drachefn, ond adnewyddech hefyd trwy hynny ymwybod â'ch pechod, y pechod a ddodasoch gynt yn bwys ar eich cydwybod. Nid amser sy'n ein gwneuthur yn hen, ond ein pechod, y peth hwnnw y troseddasom unwaith yn erbyn urddas y ddynoliaeth trwyddo, yn erbyn ein penderfyniad i ddymuno'r da ac i fod yn dda. Trwy'r ddiod ieuenctid tyfai'r ymwybod hwn yn gryf, a deuai pwys pechod ac anhawster sefyll yn fwy beichus nag o'r blaen. A thynged pawb yna fyddai dywedyd: Pwy ohonom sydd heb bechod?

"Neb, neb!" gwaeddai'r abad dan grynu gan arswyd.

Ond dywed dithau pa beth sydd yn ol i ni?"

"Gwn am foddion gwell ac fe'i darganfûm ar fy nheithiau," atebai'r pererin. "Ffynnon ydyw hon hefyd, ond nid y ffynnon ieuenctid ryfedd honno y breuddwydiaist ti amdani; gwin chwerw, ond iachus, ydyw, sy'n gallu gwellhau'r hwn a gollodd unig wir ieuenctid yr enaid trwy bechu."

Cododd yr abad ei olwg at y pererin. Yn ei lygaid llydan-agored fflamiai tân dyhead gwyllt.

"A gefaist ti'r rhyfeddod? Pa le a pha bryd?"

"Ni waeth am hynny," atebai'r pererin gan osgoi'r cwestiwn. "Digon yw gwybod ei fod gennyf, ac y cei dithau, os dewisi ac onid oes arnat ofn, lymaid ohono." "Nid oes arnaf ofn dim; fe'i cymeraf ef," ebr yr abad. Datglymodd y pererin yr ysgrepan, a thynnodd allan lestr pren bychan a'i lenwi â gwlybwr du o'r gostrel a grogai wrth ei wregys.

Goleuodd llewych olaf haul yr hwyr wyneb gwelw y crwydryn, a cheisiodd yn ofer gynneu yn y gwlybwr du adlun gwan o liw ambr hen.

Estynnodd y llestr cyforiog i'r abad.

"Beth yw hwnyna?" gofynnai yntau, gan godi'r llestr at ei wefusau.

"Ffynnon angof," atebai'r pererin.

Diflannodd gwrid yr hwyr; dechreuodd cysgodion llwydion ymledu dros y ddaear. Yfodd yr abad y cwpan i'r gwaelod.

Edrychodd ennyd i'r cysgodion llwyd. Diflannodd y pererin yn eu mantell, yna'r holl amgylchoedd o'i gwmpas; ymledent dros ei lygaid a'i ddwyfron; teimlai law oeraidd yn symud ymaith o'i fynwes yr hyn a'i poenasai am flynyddoedd; teimlai'n ysgafn a hoyw; yr oedd yn wir yn sionc ac yn ieuanc. Gwenai yn ei freuddwyd, yna gadodd i'w ben ymollwng a daeth y cysgodion ar ei warthaf a'i amgau, ac o dipyn i beth troes yntau'n un o'r cysgodion, a diflannodd yn eu gosgordd anweledig.

Yn hwyr y nos cafodd y myneich dychrynedig ef. Disgynasai diferion oer y gwlith fel perlau ar ei wallt a'i farf, ar ei fynwes lle gynt y curai'r galon mor anniddig, gorweddai blodyn iasmin, ac ar ei wefusau chwaraeai gwên o lawenydd annhraethadwy.

BARDDONIAETH A RHYDDIAITH.
(Gan Y. VRCHLICKÝ.)

TRIGENT ill dau mewn tŷ oedd mewn strŷd o'r neilltu yn y dref fawr.

Yn yr ystefyll ar y llawr y trigai'r pobydd, gŵr o natur gref, llydan ei ysgwyddau, a chyhyrau fel haearn, wedi eu caledu a'u datblygu wrth weithio. Hen greadur hen-ffasiwn, fel y dywedir, oedd, ac un, a barnu oddiwrth ei wynepryd llydan a hynaws, oedd yn fodlon ar ei grefft, heb deimlo unrhyw awydd newid cylch ei orchwyl.

Ym mhen-draw'r ystafell bobi, oedd bob amser yn llawn o aroglau blawd llaith a bara wedi eu crasu, yr oedd siop fechan, a ffenestri mawr, rhwyllog, a drws bychan ar yr ochr, lle y crogai cloch fechan oedd yn tincian ddibaid drwy gydol y dydd.

Uwchben y pobydd trigai perarogleuydd. Nid crefftwr cyffredin oedd ef—yr oedd ef yn ddyn a deimlai fod ynddo ysbryd dyfeisgar, ac a geisiai bob amser greu peraroglau newydd a digymar. Iddo ef yr oedd aroglau fioled a rhos, minionet a charnasiwn, mwsog a mwsg, yn rhywbeth cyffredin. Nid oedd y ffaith mai'r peraroglau hyn oedd y rhai dewisaf yn mennu dim arno ef. Arhosai ar ei draed drwy'r nos yn ei ystafell fechan, gul—distyllai, cyfunai, cymysgai, toddai, rhidyllai, a chrasai. Gadai ryddid hollol i'w ffansi, hyd yn oed dros derfynau chwaeth dda, yn unig i ddarganfod byd newydd o beraroglau newydd na wyddid o'r blaen ddim amdanynt. Meddai ar ryw hoffter arbennig at y treiddgar a'r drygsawrus, fel y peth a berthyn i rai ffrwythau goraeddfed a fo'n dechreu pydru, ac at aroglau a fo'n treiddio trwy'r gwythiennau fel nodyn amhersain yng ngheudod crwth neu fel cymysgu deuliw anghydnaws.

O weithio'n ddyfal, aethai'n bur grwm a theneu, disgleiriai ei lygaid, ac yn ei ffrâm o flew du ymestynasai ei drwyn yn hirfain wrth arogleuo'n ddibaid.

Nid oedd cynnyrch ei lafur yn rhyw lawer. Ychydig o gwsmeriaid oedd iddo ac nid oedd y rheiny'n sicr. Weithiau tinciai'r gloch fechan oedd ar ei ddrws yntau â sain bur, felodaidd ymysg tincian diddiwedd cloch yr ystafell bobi—deuai morwynig i mewn neu herlodes neu lencyn neu hen goegyn—edrychent drwy ei stôr a dewis rhywbeth ac yna ddwyn ganddynt bob un mewn ffïol fechan o risial gloyw o ffasiwn ddwyreiniol neu Fenetaidd ychydig ddiferion o beraroglau anghyffredin ac ynddynt ddafnau opoponax yn cofleidio enaid lili China, neu'n codi ohonynt orfoledd persawr ambr uwch enaid hen-ifanc y minionet. Ai'r prynwyr yn lleilai o hyd-ond crymai ef uwchben ei waith, gan chwilio'n ddyfal am ryw gymysgedd newydd, a cheisio diferion newydd o eneidiau coeth y blodau.

Tinciai cloch y pobydd yn ffyrnicach o hyd; clywid bargeinio o'r llawr, sŵn arian yn disgyn ar y cownter, siarad hoyw y gweithwyr a'r pobyddesau, chwerthin y plant, trwst y gwagenni, a bloedd y gwerthwyr-berw bywiog a bywyd. Parhâi'r twrf hyd yn hwyr y nos—yna tawai. Ni chlywid mwy ond rhyw siffrwd gwan o'r ystafell bobi. Gellid sylwi ar drefnu a phoethi'r popty, ar ddodi'r bara i mewn, a'u tynnu allan wedi iddynt grasu. Am ddau o'r gloch bydd tawelwch; ond fel petai'r bobl yn methu disgwyl am y bore, dechreu'r trwst eilwaith tua phedwar o'r gloch.

Ar noson fel hon eisteddai yntau ei hunan, gan blygu uwchben llyfrau, dail blodau anghynefin, a defnyddiau oedd eisoes yn mallu,—pethau y denai ef ohonynt, trwy ddadansoddi'n gywrain neu gymysgu, eneidiau'r peraroglau oedd ynghlo neu ynghwsg ynddynt. Ar noson felly gwrandawai weithiau, megis yn y tawelwch: heb ddim sŵn arall ond trydar y cricedau, swniai cân ryfedd y bara:

"Myfi yw manna'r tlawd, afrllad bywyd y rhai sy'n flinderog a llwythog gan waith. Y mae pob briwsionyn yn sanctaidd, chwŷs y gweithiwr yw, deigryn yr amddifad. Trwythaf fywyd, am mai bywyd wyf; ymwthiaf o garchar y ddaear, ymestynnaf a thyfaf; anadlaf gynhesrwydd mamaidd, cig a llaeth wyf i, ynof i y mae'r cnewyllyn ffosfforus ar gyfer ymennydd meddylwyr, a hefyd gelloedd cyhyrau ar gyfer llaw'r gweithiwr. Myfi yw manna'r tlawd, afrllad bywyd y rhai sy'n flinderog a llwythog."

Gwrandawodd ar y gân anghyffredin; treiglai dagrau mawr dros ei ruddiau gwelw a churiedig. Esgynnodd gweddi dros ei wefusau i'r nefoedd: "O Dduw, mor ffodus yw'r rhai sy'n bendithio'r byd â phethau cyffredin, ond eto diolchaf i Ti am na chreasit y pobydd sydd islaw ohonof i, am roddi ohonot i mi opiwm yr etholedigion i'w brofi, er costio ohono bris bywyd!

Ond ar y foment gafaelodd yn ei bwrs; tynnodd ddau ddernyn tlodaidd o arian allan; daliodd hwynt yn hir ar gledr ei law, ac yna sibrydodd gan wenu'n boenus:

"Y mae'n bryd imi fynd i brynu bara."

Y PREN AFALAU.
(Gan SVATOPLUK ČECH.)

YMYSG cwsmeriaid cyfreithiol y Dr.—— ni cheir ond cymharol ychydig o bobl wledig. O'r rheiny ceir amryw na ellir yn hawdd ddywedyd amdanynt eu bod o'r wlad. Er enghraifft, ni ddwg Mr. Raubitschek, Mr. Abeles, a Mr. Koretz ddim arwyddion arnynt a fo'n dwyn y wlad i gof, yn enwedig bethau fel pwrs seimlyd, wedi hen wisgo, ac amryw adrannau iddo, a'r rheiny'n cynnwys addawebau a biliau lawer, sydd a'u llinellau llydain a'u llaw-ysgrifen gadarn yn arwyddocau trigolion y wlad. Pe gellid canu'r "consartinas" hyn o eiddo Mr. Raubitschek, Mr. Abeles, a Mr. Koretz, dïau y seinient lawer dernyn tlws o fröydd Bohemia, a pheri i'r gwrandawr wylo'n hytrach na gwenu. Ond, fel rheol, gad y boneddigion hyn i ringyll rhyw dref wledig ganu cerddi prudd eu gwahanol "gonsartinas "mewn gwasanaeth cyhoeddus byr, ar hen ddrwm gwynfanllyd.

Fel y dywedwyd, ychydig o gwsmeriaid o'r wlad sydd i'r Dr.——, ond yn iawn am hyn y mae yn eu mysg un sy'n arddangos nod pobl y wlad yn ei lawn burdeb. Y mae, ond odid, gan bob swyddfa gyfreithiwr tref un caritor gwledig o'r natur yma i'w ddangos, sy'n croywi dros dro â'i ysbryd syml henffasiwn ei hawyrgylch mwll, a heintir bob amser gan dawch llaith afiechydon cymdeithasol y dyddiau hyn. Credaf fod cwsmeriaid o'r math hwn yn anhepgorol angenrheidiol hyd yn oed i gyfreithiwr i loywi ei ysbryd. Wedi iddo ddanfon ymaith o'r dref res hir o gwsmeriaid cyfrwys a drwgdybus sy'n ymdroi bob amser, fel yr anifail cythreulig a ddisgrifir gan Goethe, yng nghylch diffaith eu hamgylchiadau marwaidd, y mae ei ben yn suo gan ffigyrau, nwyddau, cyfnewidiau, treuliau, tai, a phethau cyffelyb.

Yna agorir y drws eto a chyda chyfarch bonheddig, "Bendith Dduw! Dydd da!" daw dyn ysgwâr, lysti i mewn, gan droi a gwasgu a chrychu cap blewog yn ei ddwylo o wir yswildod. Yn ddiarwybod gloywa wynepryd gŵr y gyfraith. "Croeso, gyfaill. Eisteddwch, eisteddwch. A gawsoch chwithau hefyd law acw? Wel, beth sy'n eich dwyn yma?" Ac edrydd y cyfaill ei neges yn ei ddull syml a naturiol ei hun, gan blethu ymadroddion diarhebol, cryno i'w araith ac ysgwyd ei ddwylo'n anes- mwyth. Gwena'r cyfreithiwr. Difyr ganddo'r cyngaws ynglŷn â rhywbeth a ddigwyddodd yn ysgwâr glaswelltog y pentref y mae oddiamgylch iddo dai to gwellt mwsoglyd neu gaeau yd eurdonnog, gwlad lydan rydd nad yw ef hwyrach yn ei annedd gysurus yn y dref yn hiraethu amdani, ond sydd eto weithiau'n hyfryd meddwl amdani, pan gaffo gyfle i wthio o'r neilltu'r memrynau llychlyd a llyfrau'r gyfraith, a chael ei wynt ato. Hoff ganddo ymddiried unplyg y cwsmer gwledig yn ei hollalluowgrwydd cyfreithiol ef ac yn ei gyfrwystra dieflig.

Yn wir y mae hefyd ryw swyn gwerthfawr yn yr ewyllysgarwch distaw sy'n nodweddu gwladwr fel hwn cyn trafod pwnc, pan estynno arian-nodau allan o lyfryn drylliedig neu gongl cadach poced, ac yn ei barodrwydd hefyd i dalu'r biliau mwyaf.

Ochr yn ochr â'r agwedd ysgafn i'r busnes gyda phartïon fel hyn, fe geir hefyd agwedd brudd. Fel arfer bydd aroglau ffwr ar y fath bobl, ac eisteddant yn y gaeaf yn glos wrth stof y swyddfa, lle'r ymdoddant yn raddol yn ddŵr budr fel dynion eira.

Enw'r cwsmer diymhongar hwn o'r wlad ar restr y Dr.—— oedd Mathias Prochazka. Tua thair blynedd yn ol croesasai am y tro cyntaf drothwy'r swyddfa, ac ar unwaith enillasai galon pawb yma. Cyngaws a'i harwein- iasai yma, a'i bwnc yn fwy priodol yn addurn rhamant neu destun cân nag yn fater cyngaws.

Pren afalau oedd, y pren barddonol hwnnw sydd yr un mor hudol ym mis Mai pan heidio'r miloedd gwenyn sïol o amgylch ei frig, ag ym mis Hydref pan wyro'ï ganghennau gwyrddion dan bwys melys afalau rhuddwawr.

Dyma'r hanes. Ar y terfyn a wahanai gae Prochazka a chae Barbara Vrchab, safai pren afalau unig, a than ei gysgod yn amser y cynhaeaf arferai perchenogion y ddeu-ddarn tir ar un adeg orffwyso'n gytûn wrth ymyl ei gilydd. Ond un tro tynnwyd ffrwyth y pren afalau pwysig hwn gan Vrchab—yn ol yr ysgrifau cofnodol, dug y weithred hon iddi ryw hanner basgedaid o afalau anaeddfed—ac ychydig ddyddiau wedyn anfonodd Mathias Prochazka trwy ei gyfaill y cyfreithiwr ddau dudalen mawr o gŵyn difrifol oherwydd torri'r heddwch. Byth er hynny daeth i'r cyngaws ynghylch y pren afalau lu o gynhennau eraill rhwng y cymydog a'r gymdoges; cynhennau ynghylch y llinell derfyn, y bargod, hawl ffenestr, trawst rhy hir, a llawer o eiddo anghyfreithlon arall a ddygasai'r cymydog vi, clam, precario (h.y. trwy drais, yn lladradaidd ac ar arch),—ond safai'r pren afalau o hyd ym mlaenlle'r drafodaeth a daeth yng ngolwg y swyddfa yn arwyddlun anwahanadwy bron o bersonoliaeth Mathias Prochazka. "Wel, sut y mae hi gyda'r pren afalau?" oedd cwestiwn cyntaf y clercod bob amser, mor aml ag y caent trwy ffafr ymgom â Phrochazka, a dygai'r pennaeth bob tro y species facti i ryw gyngaws newydd rhwng ei gwsmer gwledig a'i gymdoges reibus, trwy osod pwynt ynghanol y ddalen a dywedyd: "Yma felly y saif y pren afalau ac yma ar y llaw ddehau, etc."

Gorffenasid llawer o'r cynhennau diweddarach hyn ers tro byd yn ffodus neu'n anffodus, ond ymlusgai achos y ddiddiwedd fel neidr fôr. Ni wn beth oedd pren afalau yn achos y gohirio anarferol hwn; a oedd y cyngaws yn dioddef oherwydd natur yr eiddo ac yn dwyn ffurf annelwig cwestiwn y berchenogaeth, neu a oedd efallai ryw probatio diabolica (prawf dieflig) yn rhwystr ar y ffordd- nis gwn, nid wyf yn hyddysg mewn pethau felly. Ond sicr yw bod Prochazka hyd yn hyn, bob tro y deuai, yn gofyn y cwestiwn: "A pha mor bell yr ydym gyda'r pren afalau, os gwelwch yn dda?" "Bydd mater y tystiolaethau ar ben yn fuan," atebai'r cyfreithiwr. "Costied a gostio- peidiwch ag ofni maint y treuliau, Doctor."

Nid oedd fawr ryfedd fod y gŵr da Prochazka'n dymuno pob drwg i'w gymdoges. Fel gŵr gweddw diblant a pherchennog tyddyn taclus, gallasai fwynhau perffaith hapusrwydd ar y ddaear, pe na threfnasai rhyw ffawd eiddigus yr hen Vrchab yn gymdoges iddo. Gwnaeth hyn fywyd yn anfelys iddo. Ar dair ochr amgeid ei dir gan ei heiddo hi, eto nid cofleidiad hyderus cariad cymdogol oedd hyn, ond yn hytrach gofleidiad bwystfil rheibus newynllyd, a fo'n estyn ei balfau marwol am ei ysglyfaeth. Nid oedd terfynau'r eiddo hwn yn ffurfio un llinell lonydd, farw, ond rhywbeth i ymosod arno ar bob ochr ac ysu'n nwydwyllt am dano; parai'r cerrig terfyn i ddyn ameu a symudid hwy'n raddol o flwyddyn i flwyddyn. Yn wir, ymddangosai adeilad y gymdoges Vrchab gyda'r gwesty hardd ers tro fel petai'n ymestyn yn nês at dyddyn Mathias Prochazka, a'r talcen fry fel petai'n ysgyrnygu'n faleisus arno, a'i phompiynau digywilydd yn ymwthio i'w ardd.

Rhaid imi ddywedyd na wn pwy yn yr achos hwn oedd yr oen a phwy oedd y blaidd; ni allaf ddywedyd a oedd y ddau efallai erbyn y diwedd yn chwarae rhan y blaidd; ond sicr yw y derbynnid disgrifiadau Prochazka o'r sefyllfa gyda gwên betrus gan un rhan o'r swyddfa. Ni ddiflannai'r wên ychwaith pan dyngai Prochazka'n ddifrifol y gyrrai'r gymdoges aflonydd ef o'r diwedd i werthu'i eiddo a mynd ar grwydr i rywle, i Rwsia neu'r Amerig; yr oedd wedi cael hen ddigon ar y cyfreithio diderfyn; tyngai mai Satan yn y cnawd oedd y wraig hon a marwolaeth anamserol ei gŵr yn pwyso ar ei chydwybod, ac y gallai ef adrodd pethau amdani a wnâi i wallt eich pen sefyll yn syth gan ddychryn.

Yn y cyfamser, dilynai'r naill achos cyfreithiol y llall. Yn ddiweddar daethai trawst a wthiesid gyda'i rychwant o led i awyrgylch Mathias Prochazka gan y gymdoges haerllug, eilwaith yn amlwg trwy ddedfryd cyfraith, fel yr oedd goreu'r modd, a lluniodd ceidwad achos Prochazka gŵyn newydd oherwydd torri'r heddwch, a achoswyd trwy dynnu trwy drais ddau bolyn o wrych arbennig, ac wrth hyn dechreuodd fel arfer ar ei species facti trwy osod pwynt ynghanol y ddalen a dywedyd: "Yma felly y saif y pren afalau—"

"Y safai," cywirai Prochazka, fel y gwnaethai amryw weithiau o'r blaen cyn hyn.

Rhaid imi grybwyll na welodd y pren afalau unwaith ddiwedd achos y tystiolaethau. Un noswaith ddrycinog diflannodd o olwg y byd, wedi ei ddryllio a'i ddeifio gan fellten, yn llosg a phrydferth fel seren gynffon—ac nid effeithiodd hyn yn y modd lleiaf ar gwrs pellach y cyngaws, a âi ymlaen yn araf a seremonïol ar ei yrfa dros y pren llosg, syrthiedig. Hyd yn awr safai'r pren afalau o hyd i bob un ohonynt, blagurai, blodeuai, a dygai ffrwyth chwerw— "quod non est in actis, non est in mundo!"

Rai dyddiau wedi agor y cyngaws fe'i cafodd Prochazka ei hun unwaith eto yn y swyddfa.

"Y mae'r gŵyn eisoes wedi ei dwyn ymlaen," ebr ei gyfreithiwr wrtho. "A ydych wedi gofalu nad oes neb i gyffwrdd â dim?

"Y mae'r ddau bolyn yn gorwedd fel y syrthiasant."

"Da iawn. Y mae'n angenrheidiol i'r comisiwn ynglŷn ag agwedd y lle gael darlun mor gywir ag sydd bosibl o achos y tor-heddwch."

"Ond y mae un anhawster ynglŷn â'r mater, Doctor." "Sut felly?"

Trwy fwlch yn y gwrych, 'wyddoch, y mae heidiau o ieir yn dyfod yn dorsyth o'i lle hi i mewn i'm gardd ac yno'n achosi difrod dychrynllyd. Yr oedd f'annwyl wraig yn hoff iawn o ddofednod, a byddaf innau hefyd yn hoffi edrych ar gywion gwyddau melynion a chywion ieir amryliw, pan dyrront o amgylch yr iâr hengall. Ond yn hyn o beth y mae Vrchab yn mynd dros ben y llestri. Cwt ieir ydyw ei hiard. Y mae yno geiliogod a pheunod o bob lliw yn gweu drwy'i gilydd. Ceidw hwynt nid er budd na phleser, nage, 'mwyn dyn, ond yn unig er mwyn i'w canu a'u clocian a'u clegar mhoeni i i farwolaeth o fore gwyn tan nos, ac er mwyn iddynt ehedeg dros y gwrych i'm gardd i'w handwyo, Duw a'm helpo!

"Nid oedd fy ngallu o'r blaen yn ddigon i'w llwyr yrru i ffwrdd, ac yn awr er pan gollwyd dau bren o'r gwrych, y mae'r bwystfilod hyn yn dyfod i'm gardd fel petaent gartref yno. Ond yr wyf am roddi pen ar hyn. Yr wyf am brynu gwn dau faril ac am saethu unrhyw beth a ddêl trwy'r gwrych, ni waeth gennyf petai hwnnw'r ceiliog paun tlysaf sydd ganddi."

"Ni byddai peth felly o fawr fudd i chwi. Y mae gennyf gyngor gwell i chwi. Deliwch rai o'i dofednod a chedwch hwy fel iawn. Rhyw fath ar hawl gwystl yw hyn, ac yn yr achos hwn y mae'r gyfraith yn ei ganiatau i chwi.'

Rai dyddiau ar ol cael y cyngor hwn, daeth Prochazka i'r swyddfa wedyn yn gynhyrfus yr olwg.

"Wel, a ydych wedi atafaelu'r dofednod?" gofynnai'r Doctor.

"Ydwyf."

"Beth a ddigwyddodd?"

"Wele!" Cribodd Prochazka ei wallt melyn sych oddiar ei dalcen, ac odditano gwelid ar y croen graith waedlyd ac amryw lympiau del dros ben.

"O felly, ffrwgwd aie?"

"A'r fath ffrwgwd! Daeth i ymofyn ei dofednod gyda'r gwas a'r forwyn, ac fe'm galwodd yn lleidr ac yn gnaf diddim. Trwy rym dug ei hieir oddiarnaf, a phan redais i'r ardd ar ei hol, gafaelodd yn un o'r polion toredig a thrawodd fi'n fy mhen. Gafaelais innau'n y polyn arall, a buasem wedi curo pennau ein gilydd onibai i'r cymdogion ddyfod rhyngom."

"Fe ddysgwn i mores (moesau da) iddi. Adroddwch unwaith eto yr holl hanes. Yfory ben bore fe yrrwn wŷs iddi am sarhau urddas. Deuwch chwithau eich hunan i'r Cwrt Bach; rhoddaf bob cyfarwyddyd yn fanwl i chwi sut i ymddwyn yno. Hoffwn ddyfod yno gyda chwi, ond ni allaf oherwydd busnes arall na ellir ei ohirio.

Wedi'r ymddiddan yma bu Prochazka mor hir heb ddyfod i'r swyddfa nes i bawb sylwi. Aeth wythnos heibio, dwy, tair, a theimlai'r swyddfa i'r byw golli o fysg ei hymwelwyr dyddiol berson y gwladwr gonest. Yn y cyfamser daeth yr amgylchiad hir ddisgwyliedig. Trwy ddatganiad y gyfraith pasiwyd dedfryd yn achos y pren afalau yn llwyr ymhlaid Prochazka.

Pan ddaeth hwnnw wedi cryn amser i'r swyddfa wedyn, daeth y cyfreithiwr ato'n orfoleddus gan chwifio'r ddedfryd o flaen ei lygaid.

"Buddugoliaeth, gyfaill, buddugoliaeth!"

Ond er syndod nid bychan i'r cyfreithiwr gorfoleddus ni loywodd llygad Prochazka o falchter ond yn unig am foment, ac yn ddiymdroi ymddangosodd ar ei wynepryd eilwaith fynegiant o achos ei ymweld â'r swyddfa.

"Paham y sefwch yna mor ddigyffro? Beth sydd wedi digwydd i chwi? Tybed fod cwrs y cyngaws ynghylch sarhau urddas wedi troi'n anffafriol i chwi ?"

"Nac ydyw."

"Wel, beth sy'n bod, ynteu? Darllenwch y ddedfryd ardderchog hon. Rhaid i Vrchab droi'n bob lliw wrth ei darllen. Edrychwch ar y symiau anferth y mae'n rhaid iddi eu talu i chwi.'

"Y mae'n rhy hwyr yn awr," meddai Prochazka'n floesg. Rhy hwyr? Paham yn rhy hwyr?" gofynnai'r cyfreithiwr yn syn.

Yr ydym eisoes yn gymheiriaid."

"Chwi-a Vrchab?"

"Ddoe am y tro cyntaf cyhoeddwyd gostegion ein priodas."

"A ydyw'r fath beth bosibl ? Chwi—chwi a Vrchab—ond dywedwch wrthyf, er mwyn y nefoedd, sut y digwyddodd hyn ?

"Digwydd, ydyw, y mae eisoes wedi digwydd. Y mae'r hanes rhyfedd hwn yn dechreu gyda'r llys sirol ac achos y sarhad ar urddas. Pan alwyd ni i'r swyddfa, eisteddai'r barnwr wrth ei fwrdd a'i gefn atom, wrthi'n ysgrifennu. Efallai yr adwaenoch ef, Doctor?"

"Yr wyf wedi ei weld droeon. Un o'r hen farnwyr hynny a roes y gwasanaeth goreu iddynt eu hunain ac i'w cwsmeriaid, pan fynnent eu cael eu hunain ar restr y rhai sydd wedi ymneilltuo ar ol gwasanaethu'n dda."

Eithaf gwir. Y mae hwn yn hen ŵr bonheddig. Y mae ei ben eisoes yn wyn fel yr eira. Ond y mae ei wyneb hyd yn hyn yn llawn iechyd. Wel, fe eisteddai felly wrth y bwrdd ac ysgrifennu. Wrth y bwrdd arall eisteddai'r clerc a'i bin ysgrifennu'n ei law, gan drefnu papurau oedd o'i flaen. Disgwyliasom yn ddistaw am ychydig. Yna ymollyngodd Vrchab i siarad. Agorodd holl lifddorau ei hyodledd. Ond diolch i Dduw, gallaf innau hefyd siarad. Ni chlywodd yn ystod ei holl fywyd gymaint o wirioneddau caled ag a fynegais i iddi mewn byr amser. Dywedais wrthi yr hyn oll oedd yn fy nghalon. Dodais ger ei bron restr hir o bechodau a thelais bob sarhâd yn ol yn ddau-ddyblyg. Fe gynddeiriogodd hithau, llefodd a churodd y llawr â'i thraed gan gynddaredd—mewn gair, gwnaethom y fath helynt fel yr agorodd y cyfreithwyr oedd yn yr ystafelloedd nesaf y drysau, ac edrychodd y clerc yn gyffrous ar y barnwr. Ond ni wnaeth hwnnw ond nodio â'i ben, gwenu ac ysgrifennu'n ei flaen. Cyn gynted ag y cefais fy nghalon i guro'n rheolaidd ac yr aeth Vrchab yn gryg gan lefain cymaint, gosododd y barnwr ei bin y tu ol i'w glust, cymerodd binsiad o snwff, a throi atom. 'Wel, a ydych wedi dywedyd y cwbl?' gofynnodd. Rwy'n credu mai'r peth goreu i chwi'n awr ydyw ysgwyd llaw a mynd adref yn weddaidd. Byddai'r peth goreu hefyd pe trigech bob amser mewn cariad cymdogol ac yn gytûn, a pheidio â'n poeni ninnau â'r fath bethau. Wrth gecru'n ddibaid, ni wasanaethwch mewn unrhyw fodd arbennig eich anrhydedd na'ch dylanwad.'

"Rhai felly yw'r holl henwyr hyn," meddai'r cyfreithiwr yn chwerw. "Y maent yn orhoff o gymysgu cadair y barnwr a'r pulpud. Wel, sut y digwyddodd hi wedyn ? A ddilynasoch chwi fy nghyfarwyddyd?'

"Beth oedd i mi i'w wneuthur?" atebodd Prochazka, a'i lais yn torri. "Fe ddug y barnwr y peth at ein cydwybod mor ddeheuig ac mor ddoniol fel y siglasom ddwylo o'n hanfodd megis, dan hanner-gwenu a theimlo bod popeth yn iawn yn y diwedd."

"Felly! Dyna chwi wedi cychwyn rhywbeth ardderchog!" llefai'r cyfreithiwr, gan gerdded yn ol ac ymlaen yn fywiog hyd yr ystafell.

"Ystyriwch yn awr fy nghyngor i, i ba beth y bu'r ymgyfreithio? I ba beth y bu'r achwynion? i ba beth y bu'r treuliau? Ond, yn wir, yr wyf wedi anghofio eich bod yn perthyn y naill i'r llall. Efallai i'r barnwr eich uno chwi hefyd yn y fan a'r lle?"

Do, bron iawn. Wrth i ni ysgwyd llaw, ychwanegodd y barnwr dan wenu y dylem ysgwyd llaw mewn unrhyw le arall hefyd, ac ar hynny ar un ergyd chwalwyd ein holl wrychoedd cynnen a'n llinellau terfyn oddiar wyneb y ddaear. Heblaw hynny, yr oeddym fel petaem wedi ein creu y naill ar gyfer y llall. Yna aethom adref, bob un hyd ffordd wahanol. Ond y Sul dilynol yr oeddwn ym Mokrin yn gwrando'r offeren, a phregethodd y caplan yno mor dda ar gydfod cymdogol a chariad brawdol, a thywynnai'r haul i mewn mor hyfryd trwy'r ffenestri uchel ar y pulpud goreuraid, ar y darluniau a'r rhos oedd wrth yr allor, ar blant yr ysgol wrth y delltwaith a'r holl gynulleidfa, fel y suddodd y peth yn ddwfn i'm calon. Ac fel yr ymlwybrwn adref ar hyd ffordd y cae, fel y dymunwn fendith Dduw ar y caeau yd eurdonnog o'm hamgylch, fel y syllwn ar y pryfed a'r chwilod oedd yn sïo'n hapus yn yr awyr ac yn y glaswellt, daeth i'm meddwl heb im wybod gyngor da'r hen farnwr. A pho bellaf y cerddwn, dwysaf yn y byd yr âi'r teimlad ynof mai'r peth goreu y gallwn ei wneuthur i ysgubo'r gynnen ddiddiwedd oddiar wyneb y ddaear a chael y tawelwch bendigedig yr hiraethwn gymaint am dano, oedd priodi Vrchab. Darganfûm nad oedd y gymdoges mor anolygus, ei bod yn gwybod sut i gadw gwesty, a bod ein darnau tir yn ffinio'n daclus ar ei gilydd. A hyn yn fy meddwl, deuthum o flaen ei gwesty, yn chwŷs a lludded, ac yn ddiarwybod ymroddais i syllu'n syn ar yr adeilad cyfeillgar, ar y grawnsypiau tewion a gyrhaeddai hyd y to; sefais i syllu ar yr ardd a'r blodau haul oedd ynddi; syllais ar yr iard a gafaelodd hiraeth ynof. Digwyddodd peth felly i mi pan oedd f'annwyl wraig yn fyw. Yna gwelwn Vrchab yn union o'm blaen, yn y ffenestr agored, yn rhoddi dŵr i'r blodau. Wrth ei gweled o'm blaen yn annisgwyliadwy felly, gafaelais heb wybod yn fy nghap, a chyda gwên gyfeillgar, meddai wrthyf, 'Bendith Dduw, gymydog! Oni ddeuwch i mewn am wydraid?' Euthum innau i mewn i'r gwesty, ac—, ac—.'

"Wel, paham y deuwch ataf i? A gaf i ysgrifennu'r cyfamod priodasol?

"Fe ddeuwn ein dau yma i'r diben hwnnw un o'r dyddiau hyn. Ond heddyw y mae gennyf rywbeth arall ar fy nghalon."

Da iawn; allan ag ef!"

"Yr ydym ein dau wedi bod yn trafod rhai pethau ynglŷn â'r eiddo a fydd yn perthyn i ni'n dau yn y dyfodol. Bydd f'eiddo dyfodol i, 'wyddoch, yn terfynu ar yr ochr arall ar dir sy'n perthyn i Chaluppner Mares. Mae'r cnaf wedi ei iro â phob olew, 'wyddoch, y mae ganddo ddarn o dir pabi ac y mae, 'wyddoch, yn gwneuthur llwybr dros y cae-"

Gloywodd wyneb y cyfreithiwr gan lawenydd.

"Yn araf, gyfaill," meddai. "Rhaid inni ei ysgrifennu i lawr i gyd yn drefnus. Arhoswch, rhaid inni roddi blaen ar bensil newydd at y cnafeidd-dra hwn o eiddo Mares. Yn awr, ynteu! Yma felly y saif—neu y safai'r pren afalau ac yma, etc."

TAFARN Y TAIR LILI.
(Gan JAN NERUDA.)

TYBIWN mai gwallgofrwydd oedd. Curai fy nghalon yn wyllt; berwai fy ngwaed.

Noson gynnes, dywyll o haf ydoedd. Ymgasglodd awyr brwmstanaidd, marw y diwrnod cynt o'r diwedd yn gymylau duon.

Tua'r hwyr gyrrai gwynt gwyllt hwy o'i flaen, yna rhuodd ystorm enbyd; dylifai ffrydiau dwfr i'r ddaear, a pharhaodd y ddrycin a'r glaw hyd hwyr-oriau'r nos.

Eisteddwn dan bendist coed gwesty'r "Tair Lili," ger Tŵr Strahow. Tŷ bwyta bychan oedd, a gyrchid y pryd hwnnw gan nifer o bobl ar y Suliau yn unig, am fod cad-lanciau ac is-swyddogion yn ymddifyrru yn yr ystafell fechan wrth sŵn piano.

A dydd Sul oedd hi heddyw hefyd. Eisteddwn ar fy mhen fy hun dan y pendist wrth fwrdd ger y ffenestr. Disgynnai taranfollt ar ol taranfollt yn gynddeiriog; hyrddid glaw ar y to uwch fy mhen; pistyllai'r dŵr yn ffrydlifoedd i'r ddaear, ac o'r tu mewn yn y salŵn ni châi'r piano ond ennyd fer o orffwys, ac yna dincian ymlaen drachefn.

Edrychwn dro drwy'r ffenestr agored ar ddawns y cymheiriaid llawen; yna trown fy ngolwg allan i'r ardd lwyd-dywyll. Ymysg hynny, pan fflachiodd mellten oleuach na'r lleill, gwelais wrth fur yr ardd ac ym mhen draw'r pendist dwr o esgyrn dynol. Erw Duw a fuasai yno unwaith, a chloddiasid y gweddillion yno wrth wneuthur ffordd. Yr oedd y ddaear eto'n anwastad a'r beddau'n agored.

Eithr nid arhosais yn hir wrth y bwrdd bychan, ond codais drachefn i fynd dan ddrws llydan-agored y salŵn a bod yn nês at y dawnswyr.

Yno llygatynnwyd fi gan eneth brydferth tua deunaw mlwydd oed. Main o gorff, a'i llun yn llawn a chynnes, ei gwallt du, byr, yn rhydd ar ei gwar, ei hwyneb yn hirgrwn ac esmwyth, a'i llygaid yn loyw—pictiwr o eneth!

Ei llygaid a'm swynodd ynghynt na dim arall. Gloyw fel dwfr, cyfrin fel dyfroedd dyfnion, a llwyr amhosibl eu bodloni! Dwg y fath lygaid ar gof y geiriau: "Cynt y bodlona'r coed dân a'r dwfr foroedd na dynion ferch â llygaid tlysion."

Dawnsiai'n ddiorffwys bron. Eto gwyddai'n rhy dda ei bod wedi denu fy sylw. Pan lithrai mewn cylch-ddawns heibio i'r drws lle y safwn i, edrychai arnaf yn graff bob tro, ac fel y gwibiai wedyn drwy'r salŵn gwelwn a theimlwn fod ei golwg arnaf bob gafael wrth iddi droi. Cyn belled ag y gwelwn, nid ymddiddanai â'r un o'i chyd-ddawnswyr.

Yno safwn innau o hyd dan y drws. Er bod yr eneth yn y rheng olaf, eto cyfarfyddai'n golygon ar unwaith.

Byddai'r cwadril ar ben yn fuan; yr oedd pumed tro'r ddawns eisoes wedi gorffen.

Yna daeth geneth arall i'r ystafell, a'i hanadl yn ei dwrn ac yn wlyb diferol. Aeth ymlaen at y dlos ei llygaid. Ar yr un pryd trawodd y cerddorion sain y chweched tro. Yn ystod y nodau cyntaf sibrydodd y newydd-ddyfodiad rywbeth yng nghlust y dlos ei llygaid. Nodiodd hithau'n fud â'i phen.

Parhaodd y chweched tro dipyn yn hwy, wedi ei drefnu gan ryw gadlencyn ffasiynol. Pan derfynwyd ef, edrychodd y dlos ei llygaid wedyn tua drws yr ardd, yna aeth allan drwy'r drws ffrynt. Gwelais hi oddiallan yn taflu mantell dros ei phen ac yn diflannu ar unwaith.

Dychwelais i'm lle unig. Ail-ddechreuodd y storm, fel petai heb gynddeiriogi dim o'r blaen. Dolefai'r gwynt â llais o'r newydd, a gwibiai'r mellt i fyny ac i lawr. Gwrandawn yn syn, ond meddyliwn—am yr eneth a'i llygaid rhyfedd. Nid oedd wiw meddwl am fynd adref.

Ryw chwarter awr, efallai, wedi hyn, dychwelais i'r salŵn. Yno safai'r dlos ei llygaid drachefn, gan drefnu ei dillad gwlybion a llyfnhau ei gwallt llaith. Daeth cyfeilles hŷn na hi ati i holi ei helynt.

"Yn y fath dywydd mawr! Edrych yma—paham y rhedaist adref?" gofynnai honno.

"Fy chwaer a ddaeth yma i'm cyrchu."

Clywais ei llais am y tro cyntaf; yr oedd yn esmwyth fel sidan ac yn soniarus.

A oes rhywbeth wedi digwydd gartref ?"

"Y mae fy mam druan wedi marw."

Cyffroais.

Troes y dlos ei llygad a daeth allan. Safodd wrth fy ymyl, a'i llygaid arnaf; teimlwn ei llaw wrth f'un i

Crynai fy llaw i . . ,

Gafaelais yn ei llaw; yr oedd mor esmwyth.

Tynnais yr eneth ymhellach, bellach dan y pendist; dilynai hithau'n ufudd.

Cyraeddasai'r storm ei huchafbwynt. Chwythai'r gwynt yn un pistyll cynddeiriog o ddwfr; datseiniai nef a daear; uwch ein pennau treiglai taran ar daran; o'n hamgylch oernadai'r meirw o'u beddau.

Ymwyrodd, gan bwyso arnaf. Teimlwn ei dillad gwlybion yn glynu wrth fy mynwes; teimlwn ei chorff meddal, ei hanadl cynnes, cyflym; teimlwn fel petai raid imi yfed ei henaid melltigaid o'i chorff!


THE EDUCATIONAL PUBLISHING CO., LTD
CARDIFF AND LONDON.

Nodiadau

[golygu]