Neidio i'r cynnwys

Ystoriau Siluria/Arwyr ac Arwresau

Oddi ar Wicidestun
← Y Gweirwyr Ystoriau Siluria

gan Lewis Davies, y Cymer

Bwystfilod o Gwmtawe →

XXII.
ARWYR AC ARWRESAU.

HEN ddihareb Gymreig a ddywed "Ymhob gwlad y megir glew"; sef yw hynny, nad oes yr un wlad dan haul heb ei dewrion.

Gallasai yr hen ddihareb fynd ymhellach, a dywedyd nad oes yr un sir, tre, neu bentre, heb ei bechgyn, ïe, a'i merched, nad all yr un perigl eu llwfrhau, na'r un siom eu digalonni.

Profwyd hynny droion a throion cyn hyn, ond nid yn fwy pendant efallai erioed, nag yn Ionawr 1883, pan chwythwyd y llong "Admiral Prinz Adalbert " ar y creigiau ger y Mumbles yn ystorm fwyaf y flwyddyn honno.

Pan ddeallwyd bod bywydau ar gael eu colli yn eu hymyl, dyna ddwylo y bywydfad allan â'u cwch ar unwaith. Nid oedd yno neb yn dàl yn ol, er y gallasai William Rogers ddywedyd

Y mae imi saith o blant heb eu magu John Jenkins, "Y mae i minnau bump." Mynnodd hyd yn oed yr hen ŵr, George Jenkins, gymeryd ei le yn y cwch ar y neges hon o drugaredd, ac yn union, wele'r bad fel rhywbeth byw yn ymsaethu i ganol y tonnau.

Pan yn nesu at y llong, oedd yn dŷn yn nannedd y graig, collwyd, rywfodd, pob rheolaeth ar y bywydfad, a bwriwyd hi gan y tonnau ar draws ochr y llong. Taflwyd y dwylo allan o honi, ac yna gwelid nid yn unig y llong fawr a'r bywydfad ar drugaredd y tonnau, ond y pentrefwyr dewr hefyd yn y dwfr yn cael eu taflu ol a blaen yn y dilyw ofnadwy.

Gwnaethant yr oll oedd yn eu gallu i gyrraedd y tir agosaf, ond nid oedd hwnnw ond creigle enbyd, dros yr hwn yr ymlithrai'r môr bob yn ail munud, gan olchi popeth oddiarno i'w fynwes aflonydd. Ysgubwyd mwy nag un o'r trueiniaid, ar ol cael daear am ennyd, yn ol drachefn i farwolaeth yn y dyfroedd.

Hyn, yn ddiau, fuasai tynged yr oll o honynt canys gwan iawn oeddent ar ol ymladd â'r tonnau cyhyd, onibai am ddwy ddynes ddewr, merched ceidwad y goleudy, y rhai a blymiasant y dwfn hyd at eu hysgwyddau, ac a daflasant shawls yn rhaffau atynt i'w dwyn i ddiogelwch.

Pan aeth yr hanes am y llongddrylliad drwy y wlad, mawr fu y canmol ar waith y merched, ac, yn wir, teilwng oeddent o'r holl ganmol. Canodd beirdd Cymru, a beirdd Lloegr hefyd, gerddi iddynt, ac un o'r darnau adrodd goreu byth oddiar hynny yw "The Women of Mumbles Head,"[1] darn a rydd inni yr hanes mewn iaith ac arddull hynod o fyw.

Ond er cystal hwnnw, gwna gam â thri milwr oedd wrth y goleudy ar y pryd. Lliwia yr awdur hwynt fel llwfrgwn, ond dyma'r gwirionedd yn ol tystiolaeth y rhai wyddent yn well:

"The artillery men behaved bravely (Mr. Abraham Ace, tad y merched dewr, wrth y trengholydd)."

"All inhabitants of the lighthouse behaved with courage and promptitude-Artilleryman Hutchings conspicuously" (Awdurdodau swyddogol y goleudy, yn eu hadroddiad ar ol ymchwiliad manwl i'r ffeithiau).

Chwi gytunwch â mi nad oes byth raid iselhau neb pwy bynnag er mwyn codi arall. Gwnaeth merched y goleudy yn ardderchog, a gwnaeth y milwyr yr un modd.

Daeth yr hen ŵr, George Jenkins, allan o'r dwfn gyda choes doredig, ond boddodd John Jenkins, William Jenkins, William Macnamara, a William Rogers (pennau teuluoedd bob un), a gadawsant rhyngddynt oll bedair gweddw a phedwar ar bymtheg o blant.

Casglwyd £3,570 2s. 9c. i'w rhannu rhwng y tri ar hugain hyn, ond nid oedd arian yn y byd a roddai yn ol wên a gair caredig tad i'w eiddo bach.

Cofiwn am eu haberth hwy, a'r un modd cofiwn am wroldeb pobl y goleudy, un ac oll—y tad, y milwyr, a'r merched (Miss Jessie Ace a Mrs. Wright, ei chwaer)-aethant i ymladd y dòn wyneb yn wyneb er mwyn achub eu cyd-ddyn.

Nodiadau

[golygu]