Neidio i'r cynnwys

Ystoriau Siluria/Cynan ap Rhys

Oddi ar Wicidestun
Yr Ail Leng Ystoriau Siluria

gan Lewis Davies, y Cymer

Y Gwystl Bach

II.
CYNAN AP RHYS.

CLYWSOCH yn ddiau am y Tywysog Du ym mrwydr Cresi (1346 o.c.), a'r modd dewr yr ymladdodd yn erbyn y Ffrancod yno, ac efe ond llanc pymtheg oed.

Nid peth newydd oedd i fechgynnos o'i oed ef ddwyn arfau yn y gad. Gwnaeth amryw hynny yng Nghymru o'i flaen. Un o honynt oedd Cynan ap Rhys ap Tewdwr, a ddilynodd ei dad i'r ymgyrch gwaedlyd rhyngddo ag Iestin ap Gwrgant a Rhobert Fitzhamon tua'r flwyddyn 1090 o.c.

Wedi croesi o honynt o Ddyfed hyd Fannau Brycheiniog, daeth gwŷr Rhys ar draws y gelyn ar y Waun Hir a orwedd rhwng Cwm Cynon a Glyn Nedd.

Yn ymyl hon, ar ochr Fforest Fawr Llwydcoed, mae ffermdy a erys hyd heddyw— Llety Rhys--lle cysgodd y tywysog hen a'i fab hoff y noson cyn y frwydr.

Yn gynnar bore trannoeth, aeth y ddau allan i drefnu eu llu erbyn cyfarfod y Morgeinwyr a'r Normaniaid oedd yn rhuthro i fyny drwy Gwm Cynon.

Ychydig feddylient ill dau mai hwn oedd y tro olaf y gwelent yr haul yn codi, a llai fyth mai y dyrnaid gwŷr Normaniaid hyn, pob un yn ei bais ddur, oedd i ragflaenu cenedl gyfan o orchfygwyr. Ond felly y bu. Dyma y bobl fu yn ddistryw, nid yn unig i Rys eu gelyn, ond i Iestin eu cyfaill yr un modd.

Ymladdodd gwŷr Dyfed yn ddewr o dan arweiniad eu tywysog oedrannus, ond yn y bore, wedi gradd o lwyddiant, gwthiwyd hwynt yn ol gan y newydd bobl ofnadwy a waeddai ar ei gilydd mewn iaith estronol, i'r man a elwir Blaen Hirwaun; ac yno, ynghanol celanedd mawr, yr ymladdwyd y frwydr i'r pen.

O flaen gwŷr y gorllewin rhedai nant fechan a sibrwd heddyw mor heddychol ag unrhyw nant arall. Ond yn y prynhawn aethus hwnnw rhedai ei dyfroedd yn ffrwd o waed, a llawer o'r clwyfedigion blygasent ati i dorri eu syched, a syrthiasant iddi yn farw. Nid rhyfedd i'r tadau ei galw yn Nant yr Ochain, oblegid ochain mawr fu yno, a dyna ei henw hyd heddyw.

Pan gollwyd pob gobaith, ffôdd Rhys a Chynan heibio'r Llyn Fawr, gan ddringo y graig anferth i'w chopa. Ac yno, wrth Garn y Moesau, yr ymadawsant â'i gilydd.

Trodd yr hen wron at ei anwylyn a dywedodd, 'Cynan! gwna oreu dy ffordd i Ddyfed. Byddi eto yn dywysog mawr. Am danaf fi, mae'm dydd ar ben. Dos di i ddiogelwch yr hen dalaith."

Fel y gwyddys, daliwyd a lladdwyd Rhys y dydd hwnnw.

Ffawd waeth fyth ddaeth i ran Cynan ieuanc. Cadwodd efe, a'i ychydig wŷr ddihangodd o'r maes, ar y trum rhwng Nedd ac Afan, yn cael eu dilyn gan lu o'r gelyn bob cam o Graig y Llyn' i ymyl Llansawel. Croesasant afon Nedd ar y trai, gan fwriadu ennill Llansamled a Dyfed yr ochr draw. Boethed oedd yr helfa fel уг oedd yn rhaid iddynt gynnyg myned drwy gors Crymlyn yn lle cadw y naill ochr iddi.

Ond, chwerwed y tro! wele'r tywysog penfelyn yn dechreu suddo i eigion y gors; ac yno, er aeth a braw gelyn a chyfaill ynghyd, clywid ei ddolef dorcalonnus nes i laid didostur yr hen gors fyned dros ei ben.

Gelwir y rhan hon o'r gors yn Bwll Cynan hyd heddyw, ac am ganrifoedd ar ol y boddiad, clywai yr hen frodorion, pan adroddid yr hanes ar lawer aelwyd hirnos gaeaf, waedd angau y tywysog yn y gwynt a'r ystorm.

Nodiadau

[golygu]