Ystoriau Siluria/Eglwys a Phersoniaid Blaen-gwrach
| ← Colyn Dolffyn | Ystoriau Siluria gan Lewis Davies, y Cymer |
Mab y Bardd → |
IX.
EGLWYS A PHERSONIAID BLAENGWRACH.
UN o'r dynion goreu fagodd Cymru erioed oedd yr Esgob William Morgan, y gŵr mawr hwnnw a drodd yr Ysgrythur Lân o'r ieithoedd yr ysgrifennwyd hi gyntaf i'r Gymraeg.
Gogleddwr oedd efe, ond y mae gan y De ran yn ei fywyd hefyd, canys bu am dymor yn Esgob Llandâf.
Pan yn dàl y swydd urddasol honno, digwyddodd un peth yn ei fywyd ag y mae dau le o leiaf yn falch o hono hyd heddyw.
Dyma fel y bu. Yr oedd Plwyf Glyncorrwg, yn yr amser neilltuol hwnnw, yn cyrraedd i ddau gwm, Gwrach a Chorrwg, gyda mynydd maith, anial rhyngddynt. Gan mai un eglwys yn unig oedd yn y plwyf, a honno ym mhentre Glyncorrwg, rhaid oedd i bobl Cwmgwrach gerdded y mynydd serth i'w chyrchu neu bod heb wasanaeth eglwysig o gwbl.
Wrth weled blinder y daith, a phellter y ffordd, penderfynodd gŵr bonheddig ieuanc, sef Mr. George Williams o Faglan ac Aberpergwm adeiladu, ar ei draul ei hun, eglwys newydd i blwyfolion Cwmgwrach pe caniateid iddo wneuthur hynny.
Yr un allasai roddi y caniatâd gofynnol iddo oedd Esgob Llandâf, a digwyddai mai Dr. Morgan y Beiblau oedd y gŵr a lenwai'r swydd honno ar y pryd.
I wneuthur y cais, mabwysiadodd yr ysgweier ieuanc gynllun sy'n edrych dipyn yn hynod i ni, ond nad oedd yn hynod o gwbl yn yr oes honno, sef gofyn ar gân, hynny yw, gwneuthur darn o farddoniaeth i adrodd yr hanes ac i gynnwys y cais.
Un o'r beirdd goreu a adwaenai Mr. Williams oedd un Sion Mawddwy, a hwnnw a wnaeth y cywydd gofyn drosto.
Beth feddyliech chwi oedd gwaith Sion Mawddwy pan wrth ei grefft? Pe ceisiech ddyfalu, byddech yn hir cyn rhoddi yr ateb. cywir, canys tincer ydoedd. Yr wyf yn sicr y cofiwch chwithau ar hyn am dincer enwog arall, sef John Bunyan o Bedford, a ysgrifennodd "Daith y Pererin."
Ni wyddom pa fath dincer oedd Sion gyda'i lestri alcan, ond gwyddom ei fod yn fardd da, oblegid y mae y "cywydd gofyn" eto ar gael.
Rhy faith yw ei osod yma ar ei hyd, heblaw ei fod yn afrwydd mewn mannau, ond efallai y deallwch rai o'i linellau.
Wele hwynt, gan ddechreu gyda sôn am waith mawr yr Esgob fel cyfieithydd:
Llawn dawn call nod a enwaf,
Llawn dysg wyd Esgob Llandâf."
****
Goleunod awdur glanwaith,
Goleuaist, neddaist ein hiaith,
O Roeg ac Ebryw hygwbl,
A Lladin call, dawn y cwbl,
Troest y ddau Destment trostynt
Yn Gymraeg hoywdeg hynt."
****
"I'n dwyn i gyd, enwog Iôn,
O dywyllwg rhai deillion.'
Yna, yn nês ymlaen yn y cywydd, sonia am Mr. George Williams wrth ei enw:
"O Forgannwg fawr gynnydd
Aer Blaen Baglan harddlun hydd,
Siars hael hwn yw Siors Wiliam,
Sad Nudd, gwaed Iestin di nam.
Ysgweier hael wisg aur rhwydd
Fawrglod a'th annerch f'arglwydd."
****
Wedyn, dywed am y ffordd arw i'r eglwys, a'r anhawster i'w cherdded tuag yno:
Hir yw ffordd hwn, bryttwn bro,
Hyd i'r Eglwys i dreiglo.
A'r gauaf yn dragywydd
Iôr i'r doeth pan oero'r dydd."
"O Lynn Nedd lawen wiwddawn
I Lynn Corrwg amlwg iawn.”
Fel y buesid yn tybio, rhoddodd yr Esgob Morgan y caniatâd yn galonnog; adeiladwyd eglwys newydd, a bu Glyncorrwg a Blaengwrach am genedlaethau wedyn o dan ofal yr un offeiriaid.
Mewn oes ddiweddarach, bu agos i un o'r rhai hyn golli ei fywyd mewn niwl ar y mynydd, ac er mwyn osgoi y fath berigl drachefn, cloddiodd gwter fawr i'w dilyn o'r naill le i'r llall. Erys y gwter eto yn ymyl y llwybr, a'i henw yw "Ffos y Ffeirad."
Un arall o'r clerigwyr oedd " Y Ffeirad Coch o'r Ystrad," dyn mawr, cryf, esgyrnog, a weinyddai nid yn unig yng Nghwm y Rhondda ond ym Mlaengwrach a Glyncorrwg hefyd. Yn ei amser ef, tua chanol y ddeunawfed ganrif, yr oedd lladron pen-ffordd Craig-y-Ddinas yn ddychryn i'r wlad.

Aeth un o'r rhain min hwyr i gyfarfod y "Ffeirad Coch" ar ei ddychweliad o erchwyn gwely claf. Cydiodd yn ffrwyn ei geffyl gan hawlio arian neu fywyd y person. Ni chafodd yr un o honynt, oblegid tarawodd y
"Ffeirad Coch" ef â'i ffon ar ei ben gyda'r fath nerth fel ag i'w ladd ag un ergyd.
Pan welodd efe fod y lleidr yn hollol farw cododd y corff, fel pe bai sypyn o O wair neu sachaid o yd, o'i flaen ar y ceffyl; a phan gyrhaeddodd dŷ yr ustus agosaf, taflodd y baich ofnadwy i lawr o flaen hwnnw gan ddywedyd, "Dyma fe! mi a'i tarewais o'm bodd, ond mi a'i lleddais o'm hanfodd!"