Neidio i'r cynnwys

Ystoriau Siluria/Fox and Hounds

Oddi ar Wicidestun
Mab y Bardd Ystoriau Siluria

gan Lewis Davies, y Cymer

The Frenchman's Patch

XI.
"FOX AND HOUNDS."

YN rhandir mynyddig Sir Forgannwg preswylia ambell deulu hynafol sydd wedi trigiannu yn yr un ffermdy am lawer canrif. Eiddynt hwy y tir trin yn y cymoedd, a'r arosfeydd bortha filoedd o'u defaid ar y llethrau. O feddu wyneb y ddaear, eiddynt hwy hefyd oedd y glo anhysbydd lechai dan eu traed oddiar oesau y cynfyd.

Pan ddechreuwyd gweithio y glo, daethant yn gyfoethog mewn "arian parod" yn ychwanegol at y cyfoeth o dda a defaid a feddent cyn hynny. Eu prif ddifyrrwch oedd hela y cadno a'r ysgyfarnog, neu "y coch mawr" a'r "coch bach" fel y galwent hwynt yn eu dull chwareus. I'r perwyl o hela cadwent genelau o gŵn, a byd yr helwriaeth oedd eu pennaf siarad ar bob rhyw bryd.

Un o'r teuluoedd hyn oedd y Jenkinsiaid o'r Gelli, Llangynwyd, ac un arall oedd Jenkinsiaid Llanharan uwchben y Fro. Helwyr cedyrn oeddent oll, a mynych y gwnaent gyfuno eu cenelau am ddiwrnod cyfan o hela gyda'i gilydd.

"Mishtir!" ebe Meredydd, bugail y Gelli, un pen bore, "'rwy'n cretu y gwn am deulu o genddi bach yn y Graig ar war Coetcae Ffyrch."

"Paid â gweud, bachgan! Wyt ti'n siwr?"

"Eitha siwr, mishtir, neu dewch làn y'ch hunan i weld."

I fyny aeth yr Ysgweier, ac wedi twrio ychydig i ddod o hyd iddynt, cawsant bum canddo ieuanc yno'n chwarae ar lawr yr ogof fel cathod bychain. Aethpwyd â hwy i lawr i Blas y Gelli, a mawr fu yr edmygu arnynt ynghyd â llawer o sôn am genddi eraill yn amser y tadau.

"Meredydd!" ebe ei feistr bore trannoeth, "beth pe baet yn mynd ag un o'r cenddi bach i Sgweiar Llanharan. Dim ond i ti fynd oddiar frecwast ti elli fod yn ol cyn nos."

"O'r gore, mishtir, fe af ar unwaith, ac y mae'n argo'li tywydd teg."

Nid mor deg ychwaith, oblegid pan groesodd Meredydd y Foel Gila tua chanol dydd yr oedd yn boeth iawn, a'i syched yntau o ganlyniad yn mynd yn fwy.

Pan ddaeth i Frynmenyn, yno gerbron ei lygaid yr oedd arwydd gwesty y "Fox and Hounds" yn dywedyd yn eglur bod yno ddar—pariaeth ar gyfer dyn ac anifail. "Eitha peth," ebe yntau, dyma'r dyn beth bynnag, a dyma'r anifail hefyd gan wasgu y cwd a gariai y llwynog bychan. Ha! ha! Fox and Hounds hi heddy', ta beth."

I mewn yr aeth a'r cwd o dan ei gesail.

"Peint o ddiod, 'sglyddwch yn dda!" ebe fe wrth feistres y tŷ, a phan ddaeth y cwrw i'r bwrdd yfodd ef i gyd "ar ei ben."

"Un arall, 'sglyddwch yn dda," ebe fe drachefn, "ma'n bo'th ffyrnig heddy."

Pan yn dechreu yfed yr ail beint sylwodd fod yn yr ystafell dri o lowyr yn yfed fel yntau pob un ei beint. Cyn bod ail fesur Meredydd wedi ei yfed i'r hanner yr oedd efe a'r glowyr mewn ysgwrs fawr yn dadleu ar ragoriaethau cŵn.

"Sôn am greatur," meddai Meredydd, "wetwch chi ddim ar dri chynnyg beth sydd yn y cwtyn hyn!' Cwningen," atebai un; "Perchyll," ebe'r ail; Cilog giam!" mentrair trydydd.

"Fflat, bob un!" chwarddai'r bugail yn iachus.

"Canddo bach, boys, a hwnnw i 'Sgweiar Llanharan. 'Rwy'n right am hannar coron o leia' heddy', boys!"

Galwyd am beint arall yn "iechyd da" i'r hanner coron coron disgwyliedig, ac erbyn hyn Meredydd oedd yr awdurdod uchaf ar gi yn yr holl wlad, y goreu ei farn, a'r craffaf ei lygad. Ond nid oedd ei lygad yn ddigon craff, serch hynny, neu fe sylwai ar un o'r "boys" (ys dywedai efe) yn dwyn cwd y canddo yn llechwraidd i'r gegin tu ol i'w hystafell hwy. Yno tynnodd allan yn frysiog y canddo bach, ac a'i gosododd yng nghypwrdd y gegin, tra'r foment nesaf ymaflodd mewn gwrcath mawr du a gysgai yn ochr y tân, ac a'i gwthiodd i le'r canddo, gan fyned i fyny ystafell yr yfed o'r tu ol i Feredydd a gosod y cwd yn ei le yno fel pe bai dim wedi digwydd.

"Da bo'ch, boys!" ebai'r awdurdod mawr ar gŵn, wedi iddo yfed ei beint i'r gwaelod. Bydd y 'Sgweiar yn falch, rwy'n siwr. Nid pob dydd y caiff bresant fel hwn." "Nage'n wir," meddai gwalch y gegin.

Ni fyddai Meredydd agos mor llon ei ymadawiad pe gwyddai mai cwrcyn oedd dan ei gesail yn mynd allan, neu pe gallai glywed y chwerthin mawr yn y Fox and Hounds y munudau nesaf.

"Dydd da, 'Sgweiar!" ebe fe wedi cyrraedd Plas Llanharan.

"Hylo, Meredydd, chi sy' 'na? Shwd ma' nhw yn y Gelli?"

"Eitha da, syr, diolch i chi, ac ma' mishtir wedi'm hala i â chanddo bach i chi o Graig Coetcae Ffyrch."

"Da iawn, Meredydd, dewch i ni ga'l 'i weld !"

"Munud fach, Syr, i fi ga'l datrys y clwm cas yma, ac yna fe welwch berted canddo bach a welsoch â'ch llygaid yrioed."

Ar hyn, allan y neidiodd gwrcath du mawr tra Meredydd, â'i ben ar agor ond heb allu yngan gair, ymron llewygu mewn syndod.

"Ewch 'nol, Meredydd, ma' rhywun wedi g'neud ffwl â chi!"

"Af yn wir, syr, ac fe weta wrth mishtir beth wy'n feddwl am dano yn shimplo ei hen was fel hyn. Ac fe 'weta racor wrthoch chi, fe af â'r cwrcyn yn ol bob cam, i dowli idd 'i ddannadd a, rhag cwiddyl iddo!"

Pan ddaeth Meredydd i gyfer y Fox and Hounds ar ei daith yn ol, teimlai y gwnai peint arall fyd o ddaioni iddo cyn "cymeryd y mynydd." Felly i mewn yr aeth, ac fel y digwyddodd yr oedd yr un cwmni yno eto. Ati yr aeth ar unwaith i adrodd yr helynt, a mawr oedd y cydymdeimlad o herwydd ei sarhad gan ei feistr, ac nid y lleiaf ei deimlad oedd y gwalch a wnaeth y drwg i gyd.

Ni rwystrodd hynny ef, fodd bynnag, i wylied ei gyfle i ddwyn y cwd drachefn, a mynd i'r gegin gan dynnu allan yn awr y gwrcath yn frysiog, gosod y canddo yn ei le, ac adfer y cwd i ymyl Meredydd unwaith eto.

Digon diflas y cododd y bugail i'r mynydd a'i wyneb tuag adre, a phan y byddai unrhyw gyffro yn y sach o dan ei gesail, llawer cernod gafodd y llwynog diniwed dan y dybiaeth mai y gwreath oedd. Po nesaf y deuai yr hen was at y Gelli, poethaf i gyd yr elai ei dymer.

"B'le ma' mishtir?" ebe fe'n wyllt wrth Mali'r forwyn pan gyrhaeddodd y trothwy.

Meredydd bach!" ebe honno wrth weld ei olwg gynhyrfus" be' sy'n bod?"

B'le ma' mishtir?" meddai yntau mewn llais mwy awdurdodol fyth.

Wrth y 'scupor," atebai hithau yn ofnus, ond dewch i chi ga'l lletwated o gawl—ma'n siwr fod 'i isha fa arnoch chi."

Ni chymerodd arno ei chlywed, ond hwnt ag ef at yr ysgubor pan welodd ei feistr yn dyfod i'w gyfarfod. Cyn bod hwnnw wedi cael cyfle i siarad taflodd Meredydd y cwd wrth ei draed, a dywedodd mewn llais sarrug, "Mishtir! ar ol ucian mlynadd yn fucal y Gelli o danoch chi a'ch tad dyma fi'n 'matal â chi."

"Matal! Am beth, Meredydd?"

"Am y'n shimplo, Syr!—a nid dicon i'n shimplo i yma, ond y'm hala, yn hen ddyn, dros y mynydd i 'neud ffwl o hano' i o flân 'Sgweiar Llanharan!"

"Shimplo! G'neud ffwl! beth sy' arnot ti'r dyn? Dangos dy feddwl!"

"G'naf, Syr, mewn eiliad—'drychwch beth a halsoch gyda fi yn lle canddo at 'Sgweiar Jenkins!"—ar hyn plygodd i agor y sach, a thynnodd allan— y canddo bach!

"Mishtir! Mishtir! maddeuwch i fi, Syr, ond fe gym'ra'n llw mai dyma'r creatur oda' ar ddaear Duw yn ganddo yn y Gelli, ond yn gwrcyn yn Llanharan."

Credai Mr. Jenkins bod Meredydd wedi d'rysu yn ei synhwyrau, ac aeth i'r tŷ heb ddywedyd gair ymhellach wrtho ef nac arall am y peth.

Pan ddaeth allan o'r parlwr ymhen tua hanner awr gwelai Feredydd yn eistedd wrth ford y gegin yn ei iawn bwyll, a rhyw olwg wylaidd neilltuol arno.

Y Sadwrn canlynol cyfarfu'r ddau ysgweier ym. marchnad Penybont, a daeth hanes yr holl helynt allan mewn canlyniad i ofyniad gawsant ar yr heol gan un o weilch y "Fox and Hounds," sef, Pa bryd yr y'ch yn mynd i hela'r canddo du? Bu Meredydd yng ngwasanaeth teulu'r Gelli hyd ei fedd.

Nodiadau

[golygu]