Neidio i'r cynnwys

Ystoriau Siluria/Gwell Angau na Chywilydd

Oddi ar Wicidestun
Halt! Who goes there? Ystoriau Siluria

gan Lewis Davies, y Cymer

Geirfa

XXVII.
"GWELL ANGAU NA CHYWILYDD."

NID anaml y digwydd ar faes y gad mai yn wahanol i'r ffordd arferol o ymladd gyda gwn a bidog y dengys y milwr fwyaf o ddewrder.

Pan ddringodd y Rwsiaid yn llechwraidd i fryn Inkermann ar Ddydd Gŵyl Guy Fawkes yn 1854, mor sydyn oedd yr ymosodiad fel y gorfodwyd i'r Prydeinwyr ymladd gefn ynghefn yn finteioedd bychain yma a thraw, yn hytrach na cheisio gwneuthur rheng neu gyd-weithrediad trefnus arall o unrhyw fath.

Yr un peth ddigwyddodd drachefn yn Rorke's Drift yn Ionawr, 1879, pan o'r tu ol i sachau yd a blychau biscuits y llwyddodd bechgyn Gwent a Brycheiniog i ddal y bobl dduon rhag lladd y cleifion yn yr ysbyty, a difrodi Natal yn ol llaw.

At y ddwy frwydr ardderchog hyn, gallwn yn awr adrodd am un arall o'r un natur.

Pwy o honoch chwi freuddwydiai, pan efallai wrth eich gwersi ar ddydd neilltuol yn niwedd Tachwedd, 1917, fod Cymry ar y foment honno yn cynorthwyo i ddàl yn ol ymgyrch mawr yr Ellmyniaid yn Cambrai, gyda dim ond mendryl a rhofiau yn eu dwylo? Ond felly yr oedd.

Ar y diwrnod hwnnw gwyliai y Welsh Guards mewn rhan o'r maes, gyda chorfflu o weithwyr (oedd yn Gymry hefyd) yn cyweirio heol yn eu hymyl. Ond yn sydyn dyna'r Ellmyniaid yn dod, a chymaint oedd rhif eu rhengoedd fel y gwasgwyd y Guards yn ol ar draws y gweithwyr a buasid yn disgwyl i fechgyn y "gaib a'r rhaw" i droi yn eu holau hwythau ymhellach eto.

Ond pan welwyd sut yr oedd pethau, dyna orchymyn oddiwrth y capten i sefyll, ac i ddangos i'r gelyn beth allai glowyr Cymru ei wneuthur mewn amser o gyfyngder. Nid oedd angen dywedyd yr ail waith, canys dacw hwy, bob un o honynt, â'u hoffer i fyny, ac yn rhuthro ar yr Ellmyniaid fel corwynt.

Hawdd credu i'r rhei'ny gael syndod mwyaf eu hoes o weled bechgyn, heb na dryll na chledd, yn curo arnynt mor ddiofn.

Ond wedi holl ddewrder yr amddiffyniad cyntaf gorfu i'r Cymry encilio am ysbaid am fod tanbelennau y gelyn mor greulon, a hwythau leied o rif. Cymerasant gyda hwy, fodd bynnag, gymaint ag a allent o'r clwyfedigion Prydeinig, a mentrodd amryw o honynt yn ol drachefn a thrachefn, i ganol y tân, i ddwyn y lleill o'r anafusion i ddiogelwch.

Felly y parhawyd drwy gydol y dydd, ond pan ddaeth yr hwyr, wele y Welsh Guards, a'r gweithwyr wrth eu hochr, unwaith eto yn croesi meysydd y tân ac yn clirio yr Ellmyniaid allan o'r tir a enillasant yn y bore, ac yn cysgu yr ail noswaith yn y man y cysgasant y noson o'r blaen. Golygai hynny nad oedd gan yr Ellmyniaid, er eu holl danio a'u rhuthriadau, ddim i ddangos am danynt.

Pan aeth y sôn am y frwydr ar lêd gwelodd y brenin fod yn rhaid anrhydeddu y fath ddewrder eithriadol; ac un diwrnod dacw arweinydd bechgyn "y gaib a'r rhaw "—y Capten D.Watts Morgan o Gwm Rhondda—yn cael ei alw i Buckingham Palace i dderbyn y D.S.O.; a chafodd amryw eraill o honynt y D.C.M. a'r M.M. yr un modd.

Ein cyndeidiau—y Siluriaid oedd ymhlith y rhai dewraf ymladdodd â Rhufain gynt, a sicr yw bod "Siluriaid heddyw" wedi profi eu hun yn olynyddion teilwng iddynt.

Ymhen blynyddoedd i ddod, pan fydd sôn efallai am y Rhyfel Mawr rywbryd, mor falch y byddwn yn gallu teimlo am ran y Cymry ynddi; ac yn enwedig y Cymry hynny, heb ddim ond mendryl a rhofiau yn eu dwylo, a safasant yn ddiofn o flaen milwyr goreu yr Almaen, gan fynnu parch ac edmygedd hyd yn oed oddiwrth eu gelynion.

Nodiadau

[golygu]