Ystoriau Siluria/Lelo Jenkins o'r Hendre
| ← Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau | Ystoriau Siluria gan Lewis Davies, y Cymer |
Y Gweirwyr → |
XX.
LELO JENKINS O'R HENDRE.
"LLYWELYN, o b'le wyt ti'n dod yr amser hyn o'r nos?"
"O bysgota, 'nhad! Addewais bum pound o bysgod erbyn yfory i'r dyn o Aberdâr, ac yr o'dd yn rhaid eu dala heno neu dorri 'ngair."
On'd wy' i wedi gweyd wrthot ti na wela's ddaioni yrio'd o fechgyn y rhwyta' 'ma? Llywelyn! wnei di byth ffermwr! Fel'ny, etrych di ma's am rywbath arall i 'neud, a chynta' gyd gora' gyd!
"Ma'n ddrwg genny', 'nhad! ond yr o'dd yn rhaid i fi gatw at 'y ngair!"
Dyna'r ymddiddan rhwng Jenkins, Ffermwr yr Hendre, Penderyn, a'i fab Llywelyn, yn gynnar iawn ar fore o Awst, 1878. Dychwelodd y tad yn ddrwg ei nwyd i'w wely, a throdd y mab, i bob ymddangosiad, am ychydig i'w un yntau.
Ond yr oedd Llywelyn o'r un ysbryd balch a'i dad, a chlwyfwyd ef yn fawr gan y geiriau celyd. Penderfynodd ymadael â'i gartref y noson honno, ac y dangosai i'w dad y gallai ddal ei dir mewn unrhyw gwmni, ffermwyr neu eraill.
Heb ddywedyd gair o'i fwriad wrth neb, cerddodd y pymtheng milltir i Aberhonddu cyn cael brecwast. "'Listiodd yn ystod y dydd, ac ar ol rhai wythnosau o ddisgyblu cyson, danfonwyd ef dros y môr i Natal, fel aelod o'r Ail Fataliwn yn y 24th.
Disgwylid trafferth oddiwrth frenin y Zuluaid, Cetwayo, meistr ar 15,000 o filwyr, a oedd trwy hynny yn gymydog peryglus i'r gwladfawyr yn ei ymyl.
Fel y gellid disgwyl, pan fo pobl yn chwannog am gweryl, y peth hawddaf yn y byd yw cael esgus i'w hymryson. Torrodd rhyfel allan a danfonwyd "Lelo" Jenkins a'i gyd-filwyr o'r Ail Fataliwn i fyny i'r wlad i amddiffyn gwragedd a phlant y bobl wynion.
Yn anffodus, rhannwyd y fyddin Brydeinig yn bum colofn, a fwriedid i gyd-gyfarfod yn Ulundi, y brif dref, erbyn dyddiad neilltuol.
Y 24th oedd asgwrn cefn yr ail golofn, a hyhi a groesodd gyntaf o dan gysgod Mynydd Isandula i dir y gelyn. Gadawyd y cwmni y perthynai Lelo iddo ar ol mewn ffermdy neilltuol, ddefnyddid fel ysbyty i gleifion ac anafusion yr ymgyrch.
Mawr oedd siom Lelo o herwydd hynny, a digon diflas y teimlai wrth gerdded o fan i fan gylch y fferm. Yr oedd popeth welai yno yn ei atgofio am ei hen gartref, ac er iddo ddigio'n chwerw y noson y ffôdd o'r Hendre, yr oedd ganddo barch mawr i'w dad serch hynny. Gobeithiai enwogi ei hun yn y frwydr oedd wrth law, a darluniai ei hun yn adrodd yr holl helynt wrth ei dad. Ond pa helynt allasai godi yn Rorke's Drift? ac felly, pa obaith am enwog- rwydd chwaith?
Ha! Lelo! ychydig wyddost beth a ddichon ddigwydd mewn diwrnod? Y foment y meddyliai ef wrtho'i hun fel hyn oedd yr amser yr ymladdai ei gyfeillion yn y cwmnïau eraill gefn ynghein am eu bywyd. Disgynnodd yr holl fyddin Zuluaidd fel corwynt ar yr ail golofn, ac eisoes yr oedd Isandula yn goch gan waed.
Erbyn canol dydd wele ryw nifer o frodorion cyfeillgar-ffoaduriaid o faes y gyflafan—yn adrodd yn wyllt wrth swyddogion Rorke's Drift am y lladdfa fawr.
Gwelodd y ddau is-gapten, Bromhead Chard, nad oedd eiliad i'w cholli er diogelu y ffermdy rhag y dilyw fyddai yn sicr o ddyfod. Rhaid yn anad dim oedd dàl yr ysbyty yn yr ysgubor, ond prin cant o filwyr oedd wrth eu llaw i amddiffyn yr oll, yn ffermdy, ysgubor, a beudai ynghyd. Ni ellid cloddio ffosydd mewn pryd, ac nid oedd adnoddau ceyrydd o un math
wrth law. Mae'n wir fod yno ryw gannoedd o sachau grawn, a rhyw nifer o flychau biscuits, ond beth dalai y fath ddefnyddiau i gadw byddin o anwariaid allan? Rhaid er popeth oedd ceisio gwneuthur ymdrech tuag at hynny; a chan mai dim ond sachau a blychau oedd wrth law, wel, sachau a blychau oedd i fod.
Dangosodd Lelo yn fuan mai ffermwr oedd, gan y modd deheuig y trefnai ei ran ef o'r pynnau.
Yn hwyr y prynhawn daeth y gelynion i'r golwg, yn llawn sêl ac ynni ar ol ennill yn Isandula yn y bore. Uchel oedd eu chwerthin pan welsant yr amddiffynfa bynnau yn croesi eu llwybr tua Natal. Tybient mai hawdd o beth fyddai lladd yr ychydig "gochiaid" yma wrth y rhyd. Onid oeddent wedi lladd dengwaith cynifer y bore hwnnw? Ond pan aethant at y gorchwyl cawsant y fath saethu i'w hwynebau ag a wnaeth iddynt yn gyntaf i arafu, ac yna i encilio. Dro ar ol tro y daethant ar ruthr, ond nid oedd dim yn tycio. Mwy nag unwaith y cyrraeddasant y pynnau grawn, mae'n wir, ond yno yr oedd bidog y Cymro yn erbyn picell y Zulu, ac nid oedd modd mynd gam ymhellach.
O weld bod y sachau yn rhy wydn troisant at yr ysgubor. Yno yr oedd bechgyn o Went yn barod i'w derbyn, ac yn lladd yr ymosodwyr
bob yn un ac un fel y deuent at y fynedfa. Ond yn y cyfamser gosododd y Zuluaid do gwellt yr ysgubor ar dân. Lelo, heb feddwl dim am ei berig mawr, a'i diffoddodd ddwywaith trwy ruthro dros ŵyr y to a chicio y fflamau allan yn ei redegiad. Pan yn paratoi i wneuthur. hynny y drydedd waith, gorchmynnodd ei is-gapten i Private Jenkins ymatal, am fod y fflamau eisoes wedi cael gormod gafael yn y gwellt, ac nad oedd bywydau i'w taflu ymaith.
Ond yr oedd yn rhaid achub y cleifion, deued a ddel. Gorfu ar amddiffynwyr y fynedfa i encilio yn raddol, a bellach, nid oedd modd eu cario allan y ffordd honno.
Dim ond un ffordd arall ellid meddwl am dani, sef torri tyllau yn y parwydydd a rannai un ystafell oddiwrth y llall, a dwyn y cleifion drwy yr agoriadau hynny at ffenestr yn nhalcen yr ysgubor a'u gollwng i lawr drwyddi i ddiogelwch y pynnau grawn.
Ond gwaith araf a pheryglus oedd hynny oblegid pan wrth y gorchwyl o wneuthur yr ail a'r trydydd dwll, gwelid pennau duon rai Zuluaid yn gwthio drwy yr un cyntaf.
Cymerodd Lelo ei dro i wylio a gweithio bob yn ail, ac ni wthiwyd pen Zulu ar ol y cyntaf, trwy y twll a wyliai ei fidog ef.
Wedi symud y cleifion, gwelwyd mai da oedd i'r ysgubor fynd ar dân. Goleuwyd yr holl fuarth gan y fflamau, a rhwystrodd hynny unrhyw nifer o'r gelynion i ennill yr amddiffynfa rawn yn llechwraidd.
Ymgiliodd y Zuluaid gyda'r wawr. Daliodd Rorke's Drift y dilyw yn ol, ac achubwyd Natal. Nid "lle araf y cyfrifai Lelo Rorke's Drift trannoeth. Cafodd hamdden i feddwl am lawer dihangfa gyfyng gafodd yn ystod y nos. Pe llithrai ei droed ond unwaith yn ei redegfa ofnadwy ar draws y to gwellt, ni fyddai iddo obaith am ei fywyd.
Ysgrifennodd at ei dad gan roddi manylion y frwydr fythgofiadwy, ond yn sôn dim am ei ran ei hun ynddi. Ar yr un pryd gofynnodd am ei faddeuant am ymadael â chartre yn y modd ag y gwnaeth.
Ychydig fisoedd ar ol hyn, pan ddychwelodd yr "afradlon" gyda thlysau ar ei fron, nid oedd llonnach tad yn holl Frycheiniog na'r ffermwr, Jenkins o'r Hendre, Penderyn.