Neidio i'r cynnwys

Ystoriau Siluria/Number 'Leven

Oddi ar Wicidestun
Y Cymro Du Ystoriau Siluria

gan Lewis Davies, y Cymer

Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau

XVIII.
"NUMBER 'LEVEN."

UN o ganlyniadau y dull newydd yn Neheudir Cymru o wneuthur dur oedd colli ambell grefft allan o fyd ein masnach. Diflannodd y gwneuthurwr golosg (charcoal burner) ers cryn amser, a dilynwyd ef gan y 'finer a'r puddler.

Dyn hynod iawn oedd y puddler. Yn un peth, yr oedd ei syched yn ddiderfyn; ac ymhob pentre lle y blodeuai "gwaith h'arn" gynt, ceir eto nifer o dafarnau bychain gylch yr hen waith, a fynychid fore, nawn, a hwyr gan wŷr y "puddlin" pan gredent na "losgai" yr haearn o herwydd absenoldeb o ryw ddeng munud neu chwarter awr.

Hawdd yw cyfrif am y syched mawr, oblegid yr oedd gwrês y ffwrneisiau hefyd yn fawr. Nid gorchwyl hawdd yw rhoddi rheswm am y llysenwau lluosog yn eu mysg.

Ped aethai dyn dieithr i "ben y gwaith" i ofyn am John Jones neu Ddafydd Dafis, anodd fyddai iddo gael ei gyfeirio at y dyn iawn, ond pe gofynnai am Shoni Cawl neu Dai 'Sgadenyn, caffai o hyd iddo ar unwaith.

Efallai mai diffyg addysg foreol oedd yr esboniad am y fath enwau, ond boed hynny fel y bo. Pan "chwythwyd ma's yr hen" weithiau h'arn" ar ol y caead allan" yn 1875, trodd y mwyafrif o'r pudleriaid yn lowyr, ac aethant i lawr i'r pyllau gan ddwyn gyda hwynt eu llysenwau, a'u hanwybodaeth.

Mewn cwm neilltuol yn Sir Fynwy aeth dau o honynt (a ddigwyddai hefyd fod yn ddau gefnder), sef Twm Celw'dd Gola' a Wil Shibwnsyn, i dorri glo, y naill mewn un pwll, a'r llall mewn pwll arall yn ymyl.

Gwyddys fod i bob glöwr ei rif neilltuol yn y lofa. Y rhif hwnnw fydd y nod yn wastad ar bob dram ddaw o'i dalcen glo i ddangos mai efe a'i llanwodd, ac mai iddo ef y mae y tâl yn ddyledus am hynny.

Fel y bu hynod y ffaith, digwyddodd i'r ddau gefnder, yn gweithio mewn dwy lofa yn agos i'w gilydd, gael yr un rhif, sef un ar ddeg, neu fel y dywedent hwy, Number 'leven"; ac nid yw y son wedi marw eto am y drafferth gawsant ynglŷn â marco'r ddram am y tro cyntaf.

Ni fu Twm awr erioed mewn ysgol o un math, ond yn gweithio gydag ef yr oedd crwt deuddeg oed a gafodd "beth ysgol" cyn "dechreu dan ddaear." Dyma'r ymgom fu rhyngddynt ar y pwnc pwysig o hawlio'r ddram, pan ddaliai y puddler y sialc yn ei law:

Twm: Wyddot ti beth yw "Number 'leven"?

Y Crwt: "Gwn, wrth gwrs!"

Twm: 'Alli di dorri a'?"

Y Crwt: "Galla', nêt!"

Twm: "Ffordd wyt ti'n 'neud a'?"

Y Crwt: "Torri one (1) yn gynta'!" Twm: Beth wetyn?"

Y Crwt: Torri one arall yn 'i hochr hi (11); dyna 'leven!"

Twm: "Nawr gofala! Wyt ti'n right?"

Y Crwt: Otw'n itha right!

Twm: Wel, 'drych 'ma! torr un one arall yto (111), i gal bod yn 'itha siwr!"

Am y cefnder yn y lofa arall, dywedir ei fod ef wedi dringo yn uwch ym myd addysg na Thwm, oblegid llwyddodd i dorri one (1) heb gymorth neb.

Ond wedi cwblhau y gamp honno rhedodd yn wyllt i'r talcen nesaf a gwaeddodd allan, Number 'leven yw'm number i, fechgyn! 'Rwy' wedi torri un one (1), ond 'dwy' i ddim yn siwr p'un ai o flan, neu ar ei hol y ma'r one arall (1-(1)-1) i fod."

Ymhen blynyddoedd ar ol hyn, digwyddodd i ni weld y ddau hen bererin gyda'i gilydd, a hwy ill dau mewn gwth o oedran. Ac er bod gennym barch mawr iddynt fel dynion syml a gonest, ni allem lai na gwenu yn yr atgof am farco'r ddram" yn y dyddiau gynt.

Nodiadau

[golygu]