Ystoriau Siluria/Priod Ein Llyw Ola'
| ← Y Gwystl Bach | Ystoriau Siluria gan Lewis Davies, y Cymer |
Y Beirdd Teulu → |
IV.
PRIOD "EIN LLYW OLA'."
UN diwrnod tawel, tesog, ym mis Medi 127—o.c. hwyliai llong fechan, "Yr Eryr," i fyny ar hyd Môr Hafren.
Nid oedd, ar yr olwg gyntaf, ddim amgen nag un o'r llongau eraill hwylient y culfôr ar yr un pryd. Eisteddai y capten wrth y llyw, a chanai y morwyr wrth eu gwaith fel pe na bai 'storm na Môr Biscay mewn bod.
Gwyddent yn eithaf da, er hynny, am dymestl a drycin, canys yr oeddent wedi eu profi, a gallent yn briodol ddywedyd am y môr tawel o'u cylch:
"Llawn o dwyll yw ei wên deg."
ond fel morwyr yn gyffredin nid oedd ystorm y ddoe yn rhwystr iddynt fwynhau heulwen heddyw, ac felly canu a wnaethant.
Yn sŵn eu cerdd daeth chwant "taraw cân " i galon arall ar y bwrdd, a hynny a wnaed mewn canzonet Ffrengig fechan. Perchen y llais swynol oedd tywysoges o waed uchel, ac o brydferthwch ail i neb.
Pa beth a barodd i riain deg fel hon eistedd yno ynghanol y morwyr? Ni wyddai y dwylo pwy ydoedd, hyd yn oed, ond yr oedd rhywbeth yn ei holl osgo yn dywedyd mai y palas neu y castell a'i gweddai yn well na bywyd trwsgl y llong.
Yr unig un ar y bwrdd a wyddai ei hanes oedd y capten, a gwenai efe wrth ei chlywed yn ceisio canu ambell frawddeg Gymraeg ymhlith y llinellau eraill.
Gallasai ef ddywedyd nad oedd hi neb llai nag Elinor de Montfort, merch yr Iarll Leicester, eilun Lloegr, a darparwraig Llywelyn ap Gruffydd, eilun Cymru.
Bu farw ei thad ar faes Evesham (1265 o.c.) yn ymladd dros iawnder i'r Saeson, ac nid oedd iddi yn awr ym Mhrydain na châr na chyfaill o'i dosbarth ei hun, ond y tywysog Cymreig fu yn cyd-frwydro â'i thad yn Lewes (1264 o.c.), ac a geisiai ddal i fyny faner ei wlad ei hun yn wyneb y gelyn balch, Iorwerth y Cyntaf o Loegr.
Pan glybu hwnnw ddarfod i Lywelyn fwriadu priodi Elinor llidiodd yn fawr, a thyngai na ddychwelai hi byth o Ffrainc (lle yr ydoedd ar y pryd), i fod yn wraig iddo. Ond y newydd nesaf a glybu efe oedd ei bod hi eisoes wedi cychwyn am Gymru mewn llong fechan, ac na fuasai yn hir cyn glanio yno.
Danfonodd Iorwerth ar unwaith orchymyn caeth fod pob llong, bach neu fawr, oedd a'i phwynt tuag at draethau y De, i'w chwilio yn fanwl am y dywysoges.
Mae'n eglur nad oedd gorchymyn Iorwerth yn hysbys i Elinor, neu ni buasai yn gallu canu wrth ddynesu at Gymru. Ac ychydig iawn a wyddai fod llongau Hwlffordd, hyd yn oed ar y foment y canasai, yn chwilio pob llestr ddeuai i fyny heibio Dyfnaint a Chernyw.
Pan ddaeth "Yr Eryr" gyferbyn â Llanddunwyd ym Morgannwg, clywyd llais croch dros y dyfroedd yn gorchymyn i'w chapten arafu ei hwyliad, a chyn pen nemor funudau yr oedd un o'r llongau, a edrychai mor ddifrad cyn hynny, yn nesu i'w hymyl, ac yn arllwys dynion dros y gynwêl i'w bwrdd.
Vous êtez ma prisonniere, ma Demoiselle!"
("Fy ngharcharor ydych, foneddiges!") ebe'r arweinydd wrth y dywysoges, a chyda hynny cydiodd yn ei braich.
Digwyddodd hyn mor sydyn ac mor annisgwyliadwy i forwyr Yr Eryr" (y rhai, cofier, ni wyddent pwy oedd y person urddasol oedd yn eu mysg) fel na cheisiwyd gwneuthur un math o amddiffyniad iddi.
Prysurwyd Elinor ynghyd â'r capten a'r holl ddwylo i'r llong ddieithr, a chymerwyd meddiant o'r "Eryr" gan wŷr Hwlffordd. Fflemingiaid oedd y dynion hyn, a chashaent Lywelyn a'r Cymry â chasineb gymaint fel y gwnaent waith Iorwerth yn eu herbyn, boed frwnt, boed lân.

Ymhlith y carcharorion gymerwyd o'r "Eryr" yr oedd dau Gymro oedd hefyd yn dychwelyd o Ffrainc ac yn gweithio am eu cludiad fel pe yn forwyr eu hunain.
Pan glywsant mai darpar wraig eu tywysog oedd y foneddiges a gyfrifid yn awr ymhlith eu cyd-garcharorion, gofidient yn fawr am na wneuthid gwell brwydr drosti, a cheisient gynllunio i'w rhyddhau cyn glanio o honynt ym. Mryste.
Liwyddasant i siarad ychydig eiriau â hi, gan ddatgan eu bwriad, ond ei hateb hi oedd mai peryglu eu bywyd i ddim pwrpas wnaent, ond os oeddent am ei gwasanaethu, am iddynt wneuthur y goreu o'u ffordd i Gastell Buallt (lle yr addawsai y tywysog ei chyfarfod cyn yr unfed ar hugain o'r mis), a dywedyd wrtho yr hyn a ddigwyddodd iddi. "Wedi hynny" ebe hi ymhellach, "fe wna eich tywysog yr hyn fydd oreu yn ei olwg ar y pryd."
Bore trannoeth, yr oedd cwch a dau garcharor ar goll o long Hwlffordd, ond gan mai brysio i drosglwyddo'r dywysoges i frenin Lloegr oedd amcan pennaf y Fflemin, yr oedd ei gwaed-dâl hi yn llawer mwy yn ei olwg ef na cholli dau garcharor dinod; felly, ychydig fu yr amser wastraffwyd i chwilio am danynt.
Glaniodd Dafydd ac Owain (canys dyna enwau y ddeuddyn ddihangodd) ym Mhenarth. Cysgasant y noson honno yn agos i Gastell Morlais ger Ffynnon Dydfil, a'r ail noswaith mewn ysgubor yn ymyl tre Aberhonddu. Yna, wedi croesi o honynt Fynydd Epynt, daethant i Gantref Buallt, gan gyrraedd yno erbyn yr unfed ar hugain.
Pan adroddasant yr hanes wrth y Tywysog Llywelyn, ni ynganodd efe air ar y pryd ond gwelwodd fel dyn o dan siom fwyaf ei fywyd.
Derbyniwyd y ddau i'w wasanaeth yn ol llaw, a theimlai y tywysog, er mai cludwyr newyddion drwg fuont iddo, fod eu haberth yn dangos y ffyddlondeb mwyaf; ac yn sicr nid oedd ganddynt ran na chyfran yn y telerau celyd a osododd Iorwerth arno cyn cael ei anwylyd yn rhydd drachefn.
Gwelodd Dafydd ac Owain y briodas yng Nghaer Wrangon (pan ddangosodd Iorwerth ei natur Judasaidd yn llawn), a dewiswyd hwy yn swyddogion i wylied annedd eu tywysog yn Abergwyngregin, pan dderbyniodd yr hen balas briodferch dlysaf y ddwy wlad o fewn ei byrth. Ac yn ddiweddaf oll, bu y ddau farw dros Llywelyn ger Pont Orewyn, ychydig oriau, cyn ei farwolaeth ef ei hun.