Ystoriau Siluria/The Frenchman's Patch
| ← Fox and Hounds | Ystoriau Siluria gan Lewis Davies, y Cymer |
Y Llanc Rhyfygus → |
XII.
"THE FRENCHMAN'S PATCH."
RHYFEDD fel y mae ambell lecyn ar hyd a lled ein gwlad wedi cael enw drwg; a rhyfeddach fyth fel y mae ambell un o honynt yn haeddu hynny.
Y lle hynotaf o'r fath a glywsom erioed sôn am dano yw "The Frenchman's Patch," ger genau yr afon Nedd ar gyfer Baglan a Llansawel—llain o dir orchuddir ddwywaith yn y dydd gan y llanw, ond y sydd, ar drai lleiaf y tymor, yn gerddadwy ato o'r traeth.
Yn gynnar yn y ganrif ddiweddaf chwythwyd llong fawr Ffrengig ar y llain hwn gan ystorom o'r Werydd, ac yno yr arhosodd yn y llaid am chwarter canrif gan reibio pawb a elai ati.
Yr oedd rhyw ddirgelwch ynglŷn â'r llestr o'r cychwyn er na foddwyd neb yn y llong— ddrylliad ei hun. Enillodd y dwylo y lan ar forfa Crymlyn a cherddasant ar hyd y traeth i Abertawe yn ol llaw. Wedi cyrraedd yno, diflanasant fel pe bai yr hen long o ddim gwerth na diddordeb iddynt mwyach.
Yr oedd oes y môr—ladron a'r llong—ddryllwyr bron mynd heibio yn ein moroedd erbyn yr adeg y soniwn am dani, ond pan welodd pedwar glöwr o Faglan lestr mawr yn y llaid ar eu cyfer heb na dyn na chreadur byw arno aeth trachwant yn drech na hwy, a phenderfynasant ymweld ag ef y noson honno, llwytho eu bad â'r hyn oedd werthfawrocaf ynddo, a chuddio'r ysbail wedyn yn Hen Lefel Tŷ'r Halen hyd amser cyfaddas i'w werthu.
Pan ddringasant i'r bwrdd a dechreu ei chwilio, gwelsant fod ynddo gyfoeth tuhwnt i'w disgwyliad pennaf. Llwythwyd y bad hyd yr ymyl ac yna arhoswyd yn y prif gaban erbyn troi o'r llanw i'w helpu i gyrraedd Baglan.
Yna y dechreuwyd yfed gwirod gan yr oll, neu yn hytrach gan dri o honynt. Cynllun y pedwerydd ydoedd yfed ond ychydig ei hun, a cheisio peri i'r lleill feddwi, ac yna dwyn yr oll oddiarnynt.
Pan farnodd bod ei gymdeithion yn hollol feddw, aeth i'r bwrdd i gario ei fwriad allan, ond erbyn iddo gyrraedd ochr y llong nid oedd yno fad o gwbl.
Tebyg mai eu diofalwch oedd yr achos o hynny, ond mynnai ei gydwybod euog ef mai rhyw ysbryd a wnaeth y drwg.
Pan ddychwelodd i'r caban gyda'r teimlad hwn, cadarnhawyd ei syniad wrth weld yr ystafell yn wenfflam—yr oedd un o'r glowyr meddw wedi gosod y gwirod ar dân yn ddamweiniol. Os oedd y tri yn feddw cyn hynny, yr oedd y tân yn ddigon i'w sobri erbyn hyn. Yn ei ofn mawr gwnaeth y pedwerydd ar unwaith gyffesiad iddynt o'i fwriad ynglŷn â'r bad. Cododd y tri fel un gŵr ato am ei frad, ac ni wyddys beth fuasai ei dynged oddiar eu dwylo, ond yn sydyn clywsant oll ryw sŵn dieithr o fol y llong.
Neidiasant ar eu traed gan ruthro allan o'r caban i fyny i'r bwrdd, ac yna, gan fod y sŵn yn parhau, neidiasant i'r môr gan geisio nofio i'r lan. Glaniodd y tri meddwyn, ond ni welwyd mo'r bad na chorff y bradwr byth. Cytunodd y tri i gadw'r helynt yn gyfrinach, ac ni wybuwyd yr hanes hyd wely angau yr olaf, pan adroddodd hwnnw'r cwbl.
A'r digwyddiad uchod eto ynghudd, aeth pedwar eraill o fechgynnos Llansawel y prynhawn cyn y Nadolig i gerdded i'r hen long ar y Patch. Hyn a wnaethant yn rhwydd, ac wedi cyrraedd yno llwythasant eu hunain â pheth o dda yr hen lestr; ond oedasant ddychwelyd mewn pryd, a phan ar eu ffordd adref, daliwyd hwy gan y nos a'r llanw, a boddodd dau o'r pedwar.
Ymhen amryw flynyddoedd ar ol hyn, aeth tri o ddynion ieuainc yr ardal allan mewn bad ar noson deg, oleu-leuad, i rwyfo o gylch yr hen long oedd bellach fel rhyw ysgerbwd yn llawn dwfr a thywod. Gwelwyd, fore trannoeth, eu bod heb ddychwelyd, ac aethpwyd i chwilio pob cilfach yn agos i'r hen lestr am danynt, ac o'r diwedd cafwyd cyrff y tri yn y dwfr tu mewn iddo. Y mae eto yn gwestiwn dadl yn yr ardal am y modd mwyaf dichonadwy y daethant i'w hangau yno.
Cafodd yr hen long ofnadwy hon lonydd wedyn ond yn raddol torrodd y tonnau ei hysgerbwd hithau, ac nid yw llestr y Frenchman's Patch ond traddodiad i'r oes hon.