Ystoriau Siluria/Y Colier Bach yn Alberta
| ← Bwystfilod o Gwmtawe | Ystoriau Siluria gan Lewis Davies, y Cymer |
Achub y Plant → |
XXIV.
Y COLIER BACH YN ALBERTA.
PAN oedd yr ugeinfed ganrif ond yn rhyw bum mlwydd oed, preswyliai teulu bychan mewn ffermdy unig ym Mlaenau Tâf. Cynhwysai dad a mam—Dafydd a Sioned Morgan—ynghyd â'u dau fab, Lewis a Gruffydd, y naill tuag ugain oed, a'r llall yn llanc pedair ar ddeg.
Byd digon cyfyng oedd arnynt ar y goreu, a phan fu y rhieni farw o dwymyn o fewn wythnos i'w gilydd, nid oedd llawer o ddim ar eu hol i'w dau fachgen.
Penderfynodd Lewis fynd i'r cymoedd glo, a dygodd Gruffydd, neu Gito Bach (fel y'i galwai, gan amlaf) gydag ef.
Wedi gweithio yn y lofa, ar wahân i'w gilydd am dymor, llwyddasant o'r diwedd i gael "talcen" iddynt eu hunain. Yr oedd hyn yn llawer o gysur i Lewis, oblegid hoffai ei frawd bach yn fawr; ac er eu bod yn cyd-letya er pan ddaethant i Gwm Cynon, nid oedd y brawd hynaf heb ofn effaith drwg ambell löwr ar ieuenctid y gwaith, felly cysgai yn hapusach o fod Gito ac yntau yn cyd-weithio.
Yr oedd i Lewis lais tenor soniarus, ac o herwydd y ddawn hon yr oedd cryn alw arno i ymuno â chorau meibion y cwm. Ni ddymunai Gito well cerddoriaeth, ac amheus ganddo a ellid ei gwell fyth, na phan roddai Lewis ambell ysbonc ar y "Comrades in Arms," neu neu "Martyrs of the Arena." Edrychai ymlaen at fod yn ganwr fel ei frawd, ond gan nad oedd eto ond pymtheg oed, a'i lais felly heb sefydlu, nid oedd dim i'w wneuthur ond aros yn amyneddgar hyd yr amser dedwydd hwnnw pryd y gallai sefyll yn ochr Lewis yn y "Cynon Philharmonic" ganu y darnau mawr a hoffai gymaint.
Ond fel yr elai y misoedd heibio sylwai Gito na chanai ei frawd nemor wrth ei waith mwy, ac o'r diwedd peidiodd ei gân yn hollol. Pryder oedd hyn i'r llanc, a gofidiai na wyddai yn iawn am beth.
Ond rhyw fore, ar ganol "spel whiff," daeth esboniad ar y tawelwch.
Gito!" ebe Lewis, "'rwy' i am ofyn cwestiwn iti."
"Eitha' da," ebe'r llall," os nad yw'n rhy galad."
"Dim o gwbl! Dyma fe! Leicet ti fod yn goliar drw' dy o's?"
"Wel, gan dy fod yn gofyn, Lewis, licwn i ddim! Bechgyn fferm ŷ'n ni, ond cofia di, 'rwy'n fo'lon gw'itho yma cŷd y mynnot ti!"
"Da iawn, Gito! 'rwyt yr un teimlad a fi i'r dim. Ffermwyr ŷ'n ni'n dou, a dim ond i ni ga'l 'wara teg, fe'i gwneie'n hi'n iawn ar y tir. Cha's nhad a mam ddim 'wara teg, ti'n gweld. 'Dodd dim capital gita nhw!
'Nawr, 'rwy' i wedi bod yn meddwl 's tipyn a 'rwy' wedi g'neud 'y meddwl i fynd i Canada, lle ma' dicon o dir da yn freehold am beth nesa' i ddim, a 'isha' bechgyn fel ni ato fa! Os wyt ti'n fo'lon aros i witho yma hebddo i am beth amsar, Gito! fe af fi i Canada wrth 'm hunan, a chyn pen dwy flynadd fe fydda' i wedi anfon i dy mo'yn di, neu ddod 'noi for good!
"Cer' di, Lewis! fe witha'n galad yma nes doi di, a fe safia gym'int y gallai hefyd! Ne, os hali di i mo'yn i, fe ddo ar d'ol di, fel rwyt ti'n gweyd!"
Aeth Lewis i Canada, cafodd lwc yno, a danfonodd am Gito cyn pen deunaw mis.
Y diwrnod mwyaf ym mywyd y llanc oedd hwnnw a'i gwelodd yn cefnu ar Gwm Cynon i ymuno â'i frawd yn Alberta. Mawr oedd ei syllu ar olygfeydd y daithpont Crymlyn, gwlad fras Henffordd, a phrysurdeb yr afon Ferswy.
Ymhen wythnos, cyrhaeddodd Halifax, a phan yn tramwyo oddiyno i Winnipeg, gwelodd gyfres arall o olygfeydd a daflodd eiddo'r hen wlad i'r cysgod. Teimlodd, fel na theimlodd erioed o'r blaen, am fawredd y byd, a'r alwad oedd ato ef-Gito-i wneuthur ei ran ynddo.
Daeth Lewis i Winnipeg i'w gyfarfod, ac wedi treulio deuddydd gyda'i gilydd yno, a siarad llawer am y bywyd newydd ar y paith, troisant eu hwynebau ato.
Wedi dyfod i derfyn y relwê (cangen o'r Canadian Pacific) mentrodd Gito ofyn faint ymhellach oedd Castell Brychan—canys dyna'r enw a roddasai Lewis i'w log cabin—a rhyfeddodd y llanc yn fawr pan atebwyd "pedwar ugain milltir.'
O'r braidd na allai gredu bod Lewis yn chwarae cast ag ef, ond yr oedd hwnnw, heb wên ar ei wyneb, yn brysur iawn yn tynnu allan yr offer tir brynasai yn Winnipeg, ac yn eu gosod at ei gilydd yn llwyth taclus yn barod i'w cludo ymhellach. Gwyddai Gito fod pedwar ugain milltir yn llawer rhy bell i'w cerdded heb sôn am gludo y llwyth hefyd gyda hwy. Ond pan yn ceisio dyfalu beth allasai cynllun ei frawd parthed y pedwar ugain milltir fod, wele motor mawr yn troi i'r orsaf, a Lewis yn cyfarch y gyrrwr. Yna, dywedodd wrth y bachgennyn, "Dera 'mla'n, Gito! i ti fod yn swank am y tro cynta'!"
Syllai y colier bach ar y motor fel pe bai hwnnw wedi disgyn o'r lleuad, ac er bod y cerbyd yn lleidiog, ac yn dwyn olion amlwg o wneuthuriad trwsgl, eto, motor oedd motor, ac yn ol safon pethau yn yr hen wlad, yn perthyn i'r cyfoethog yn unig.
Neidiodd Gito i helpu Lewis i osod y llwyth ar y motor, a dringodd i fyny i'w ochr pan oedd ar fedr cychwyn.
Wrth fynd yn gyflym trwy yr awyr teimlai y Cymro bychan ryw eiddgarwch hynod yn ei ysbryd, a syllai yn fanwl ar bopeth yng nghwrs y daith.
Eglurodd Lewis iddo bod ffermio yn beth tra gwahanol yn Alberta i'r hyn oedd yng Nghymru; bod y llywodraeth yn helpu yr hwsmon ymhob modd, ac, ymhlith pethau eraill, yn cysylltu'r ffermydd ymron i gyd ar y teliffôn.
Dywedodd hefyd bod y banciau yn rhoddi arian ar lôg isel i'r ffermwr diwyd i'w alluogi i gael ceir a motor-lorries i ddwyn cynnyrch y ddaear frâs i ben y relwê.
Yr oedd hyn yn esboniad i Gito ar ddirgelwch y motor a'i cludai yn awr, a phenderfynodd na byddai yn hir cyn dysgu gyrru cerbyd ei hun. Gwnaeth hynny hefyd mewn amser byr, ond cyn i bythefnos fynd heibio digwyddodd rhywbeth i ddo a fu agos i gadw y motor, a phopeth arall oddiwrtho am byth.
Y cyfaill mwyaf gan Lewis o'i holl gydnabod yn Alberta oedd Ysgotyn-Mr. John McLeod- a driniai dir dair milltir yn uwch i fyny ar làn yr afon tua godre y mynyddoedd. Danfonwyd Gito at hwnnw un diwrnod i gludo i lawr petrol tin a addawyd dros y ffôn i Lewis y bore hwnnw.
"Hawdd fydd i ti ga'l gafa'l ar y lle," ebe ei frawd wrth Gito. Catw tu fa's ir co'd ar làn yr afon, a dilyn 'nhw bob cam, a 'mhen spel ti weli log cabin Mr. McLeod wrth fôn y mynydd."
Cychwynnodd Gito yn gynnar ar ol cinio; canfu ei ffordd yn hawdd, a chafodd bopeth fel y dywedodd Lewis. Yna, wedi mwynhau cwpanaid o dê gyda'r Ysgotyn caredig, rhwymodd lestr y petrol ar ei gefn gan ei ddiogelu â chortyn o'r naill ysgwydd i'r llall, a dechreuodd ei throedio hi'n ol i Gastell Brychan drachefn. Cerddai'n hamddenol a chysurus ar y cyntaf, gan fwmian rhyngddo ef a'i hun fel hyn:

A chalon ysgafn yn y fron, Codwn hwyl! Codwn hwyl!
Wrth droi ein hwyneb tua'r dòn, Codwn hwyl! Codwn hwyl!

Ond ymhen ychydig teimlai ei hun yn oeri, er bod cot uchaf am dano, ac yn sydyn drachefn, daeth i sylwi ei bod yn dechreu tywyllu. Ystorm eira gynta'r tymor, un o blizzards gerwin y paith, oedd wedi ei ddàl, er na wyddai Gito hynny ar y pryd. Ond nid oedd amheuaeth am yr oerfel, na'r tywyllwch ychwaith; ac felly, prysurodd ei gamrau gymaint ag a ganiatai ei lwyth iddo ei wneuthur.
Pan yn mynd gynted ag a allai, synnwyd ef gan udiad câs a ddeuai o gyfeiriad y mynydd. Er ei fod wedi clywed yr un peth o'i wely yng Nghastell Brychan unwaith neu ddwy o'r blaen, ac i Lewis ddywedyd nad oedd yr un perigl oddiwrtho, eto gwasgu ymlaen yn gynt a wnai Gito. Ond yr oedd eira erbyn hyn wedi dechreu disgyn, a rhwystrai hynny ei gerddediad.
Pan wedi mynd ychydig ymhellach rhewodd ei waed ymron wrth glywed, nid un udiad, ond llawer o honynt; fel pe yn ateb ei gilydd, a'r holl braidd yn ei ymyl.
Rhedodd y llanc nerth ei draed at goed glàn yr afon, ac heb gymeryd amser i ddiosg y llestr petrol na'r got uchaf oddi amdano, dringodd i goeden oedd ar ei gyfer. Ni orffwysodd nes cyrraedd y gangen gyntaf uwch ei ben, ryw ddeuddeng troedfedd oddiwrth y llawr.
Da oedd iddo frysio a dringo fel y gwnaeth, oblegid erbyn cyrraedd o hono y gangen yr oedd udiadau y bleiddiaid, canys dyna oeddent, yn llanw'r awyr, a'r creaduriaid eu hunain yn neidio ato i geisio ei dynnu i lawr.
Gwyddai yn dda beth fuasai ei dynged pe llwyddent yn eu hamcan. Felly, i'r diben o ddiogelu ei hun yn fwy ceisiodd ddringo yn uwch, ond nid oedd yr un gangen arall ddaliasai ei bwysau, am mai pren ieuanc oedd yr un a ddigwyddasai iddo ei ddringo, a rhaid bellach oedd gwneuthur y goreu o'r gangen gyntaf.
I wneuthur y peth yn waeth, ni allai hyd yn oed osod ei gefn ar y boncyff, o herwydd y llestr petrol. Neidiai y bleiddiaid ato yn gyson, ac unwaith bu agos iddo â chwympo, gan i bwysau un o honynt ddisgyn yn llawn ar flaen y gangen oedd eisoes ar ŵyr gan ei bwysau ef ei hunan. Ar y foment honno teimlodd ffroen blaidd arall yn gwangyffwrdd ei esgid, a mawr oedd ei ofn bod y diwedd wedi dod.
Parhau i oeri yr oedd yr hin, a dyfnach yr elai yr eira; ond yno yr arhosai y bleiddiaid o hyd gan ddàl i neidio ac udo am eu swper.
O! na ddeuai Lewis neu rywun arall heibio i'w waredu oddiwrth yr haid ofnadwy hon!
Ond ni ddaeth neb, a pharhau a wnai y cylch gwancus wrth droed y goeden yn eu hegni i'w dynnu i lawr, a gwelai y llanc, hefyd, hwnt i'r cylch, yng ngwyll y nos, barau o lygaid tanllyd bleiddiaid eraill oedd yr un mor chwannog am yr ysglyfaeth pan ddeuai i'w rhan.
Pob yn dipyn meddiannwyd Gito â rhyw nwyd dialgar at ei elynion, a theimlai y gallai farw pe lleddid hwynt yr un pryd. Ond nid oedd ganddo wn nac un arf arall namyn cyllell boced, a beth oedd gwerth honno mewn cyfyngder o'r fath? Tynnodd hi allan serch hynny a thorrodd y cortyn a ddiogelai y petrol ar ei gefn, ac wedyn trodd y llestr fel ag i fod yn ei gôl. Ni wyddai ei hun yn iawn beth oedd ei fwriad, ond уr oedd gwneuthur rhywbeth yn well nag aros am yr amser y syrthiai o oerni i'w larpio gan y fintai atgas hon.
Agorodd enau'r llestr, a phan neidiodd y blaidd nesaf ato, rhoddodd Gito ysgydwad sydyn i'r olew, nes peri i beth o hono syrthio i lygaid y creadur. Rhuodd hwnnw yn waeth o lawer, a chwarddodd Gito mewn llawenydd di-atal am allu talu peth o'r pwyth yn ol.
Cawsai pob blaidd ar a neidiai ato wedyn ddogn cyffelyb nes oedd yr udiadau yn fwy cynddeiriog fyth. Parhaodd y chwarae ffyrnig hwn nes i'r llestr fynd bron yn wag, a chyfran helaeth o'r bleiddiaid wedi eu bedyddio.
" O! na all'swn ddoti tân yndi nhw i gyd!" meddai Gito wrtho ei hun. Ar hyn daeth cynllun i'w feddwl.
Paham na allasai fflamio y gweddill o'r olew yn y llestr, a'i daflu i'w plith yn y gobaith y cydiai yr olew yn eu blew hwythau dân hefyd. Ond cofiodd fod ei got uchaf yntau yn wiyb gan y petrol, ac mai efe ei hun losgai gyntaf. Yna penderfynodd ddiosg y got er oered yr hin, ei rhwymo ynghylch y llestr, tanio'r oll, a bwrw y sypyn fflamllyd i ganol y bleiddiaid.
Trwy lwc yr oedd blychaid o fflachion yn ei logell, a chyn pen dwy funud yr oedd y cynllun mewn llawn gwaith. Pan ddisgynnodd y sypyn tân fel corff trwm i'w canol, credodd y bleiddiaid mai y llanc ei hun oedd o'r diwedd wedi syrthio, a neidiasant arno i'w rwygo'n ddarnau.
Ond y foment nesaf tasgent yn ol gyda rhyw wyth neu naw o honynt yn wenfflam-yr oedd y petrol yn eu gwrychoedd wedi cydio tân. Chwarddai Gito yn y pren fel pe bai yno leng o'r gwallgofdy, a chwarddodd fwy pan welodd y pwyntiau tân" yn ymwasgaru, a phob un o honynt yn cael ei ddilyn i gysgod y coed gan y bleiddiaid eraill a chwyrnent ac a nadent yn ofnadwy.
Rhifodd Gito un ar ddeg o'r bleiddiaid oedd ar dân, a rhyfeddod nid bychan iddo oedd y ffaith fod yr oll o'r fintai yn awr wedi ei adael ef er mwyn rhoddi eu sylw i gyd i'r fflamau o dan y coed. Ni wyddai efe y pryd hwnnw fod y blaidd yn cannibal, a bod ei elynion ar y foment honno yn tynnu eu cyd-fleiddiaid llosg yn ddarnau ac yn eu llarpio gnawd a chroen.
Ymhen ysbaid, daeth tawelwch mawr dros yr holl fro, a deallodd Gito fod y bleiddiaid wedi ei adael yn llwyr. Ond parhau i ddisgyn wnai yr eira tra Gito, yn awr heb ei got uchaf, ymron sythu.
Yr oedd eisoes wedi penderfynu disgyn oddi ar y gangen, doed a ddêl, a chyrchu Castell Brychan goreu y medrai, pan glywodd, i'w fawr lawenydd, ergyd o ddryll y tu hwnt i'r afon, a gwaedd uchel yn dilyn.
Er bod rhywbeth dieithr yn y llais, adnabu ef fel eiddo Lewis, a gwaeddodd yntau yn ol fel pe wedi colli ar ei hun. Yn fuan, canfu y ddau frawd ei gilydd, a chyda hynny, wele ergyd arall o ddryll, a bloedd drachefn, a adnabu Lewis fel eiddo Mr. McLeod.
Aethant ill tri trwy yr eira i'r Castell, ac yno, o gylch y bwrdd, adroddwyd yr hanes.
Pan welodd Lewis na ddychwelodd Gito gyda'r cyfnos, aeth ar y ffôn at Mr. McLeod, a phan ddywedwyd wrtho fod ei frawd bach wedi cychwyn o Glen Spey, sef tŷ yr Ysgotyn, cyn dechreu o'r eira, cytunasant i fynd allan ar unwaith i chwilio am dano, gan drefnu ym mha le i gwrdd â'i gilydd ymhen ysbaid neilltuol o chwilio.
Yr oedd y waredigaeth oddiwrth angau yn yr eira yn un fawr, ond pan adroddai Gito am y ddihangfå rhag y bleiddiaid hefyd, wylai Lewis fel plentyn, tra y gwrandawai Mr. McLeod mewn cydymdeimlad dwfn.