Ystoriau Siluria/Y Gweirwyr
| ← Lelo Jenkins o'r Hendre | Ystoriau Siluria gan Lewis Davies, y Cymer |
Arwyr ac Arwresau → |
XXI.
"Y GWEIRWYR."
WELSOCH chwi erioed gàr llusg" ffermydd y blaenau ym mynydd-dir Gwent neu Forgannwg?
Anfynych y gwelir ef heddyw, ond bu o ddefnydd mawr i'n tadau. Nid oedd iddo olwyn o gwbl, ac estynai y shafts ar ŵyr yr oll o'r ffordd o wddf y ceffyl i'r llawr ryw chwe troedfedd tu ol i'w gynffon. Ar y rhan o'r càr tu ol i'r ceffyl gosodid math o gawell gwiail, ac yn y cawell hwnnw y cludid y gwair, y mawn, y coed tân, neu unrhyw nwydd arall yng ngwaith dyddiol y fferm. Bychan oedd y llwyth, ac ysgafn y càr, ac felly gellid ei ddefnyddio mewn lleoedd llethrog nad ellid cymeryd cert o fath arall yn agos atynt.
Gan fod pennau isaf y shafts yn llusgo ar y borfa, atebai hynny fel drag ar y llwyth, a gwnai y càr yn fwy defnyddiol fyth mewn lleoedd anodd ac am yr un rheswm ni redodd "càr llusg" erioed ar wyllt, ni dybiwn.
Y tro olaf inni weld un o'r ceir bychain hyn oedd rai blynyddoedd yn ol, mewn cwm a egyr i'r dehau tua chyfeiriad Penybont-ar-Ogwr; ac nid yn y maes, nac ar ros na gwaun ychwaith,
ond mewn neuadd gyhoeddus; a sicr ydym nad anghofiwn byth mo'r tro. Gadewch inni adrodd yr ystori wrthych.
Pan oedd canu corawl yng Nghymru lawer yn llai perffaith na'r hyn ydyw heddyw, dysgodd côr neilltuol waith a elwid "Y Gweirwyr (The Haymakers), gan fwriadu ei ddatganu "mewn cymeriad" hynny yw, ei actio ar y llwyfan agosed byth ag a ellid i'r hyn fyddai mewn gwirionedd yn y cae gwair.
Cenid gan y côr pan yn lladd y gwair (er wedi ei ladd cyn hynny), cenid pan yn ei ysgwyd, pan yn ei wasgaru a'i gasglu ynghyd, a phan y dygid ef i'r gweirdy. A chenid drachefn gan leisiau unigol yn actio y ffermwr, ei wraig, ei was pennaf, ei was bach, a'i forwyn.
Hawdd oedd lladd y gwair ar y llwyfan, a hawddach fyth canu wrth ei ysgwyd a'i gasglu ynghyd. Bu cryn ddyfalu pa ffordd oedd oreu i wneuthur y "cywain " yn effeithiol, ac â pha gerbyd y cludid y gwair yn groes i'r llwyfan ar ei ffordd i'r ysgubor. Meddyliodd rhywun am hen gàr llusg y ffermwr cyfagos, ac yna daeth i feddwl arall bod gan yr un ffermwr asyn wnai y tro i'w osod rhwng y shafts.
"Y peth i'r dim!" meddai pawb. Aethpwyd i ofyn i'r ffermwr am wasanaeth y càr a'r asyn, a mawr oedd y digrifwch yn yr ysgol gân pan ddaeth Jaci yr asyn a'i gerbyd yno. Aeth trwy ei ran arbennig ef o'r gwaith yn ganmoladwy, a chytunai yr holl gôr mai yr olygfa honno oedd yn goron ar y cwbl.
O'r diwedd daeth noson fawr y perfformiad cyhoeddus. Llanwyd y neuadd a chafwyd canu ac actio hwylus iawn hyd at ymddangosiad Jaci. Yna, pan oedd y côr ar ei uchelfannau, a'r dorf yn dechreu curo dwylo wrth weld y llwyth gwair yn dechreu croesi'r llwyfan, penderfynodd Jaci fod ganddo feddwl ei hun.
Ar ganol y llwyfan safodd yn sydyn, tarawodd ei draed ar lêd, a nacaodd symud gam ymhellach, er holl ddyfais rhai o'r baswyr i geisio ganddo wneuthur hynny.
Canwyd y corawd yr ail waith, ond nid cystal a'r tro cyntaf am fod rhai o'r sopranos yn chwerthin. Dàl ei dir wnai Jaci er popeth, a phan ddiweddwyd y corawd y drydedd waith, ac yntau yn parhau yr un mor gyndyn, torrodd yr holl dorf i grechwen fawr. Gwylltiodd y côr, a bu raid i'r baswyr a'r tenoriaid gario Jaci a'i lwyth gwair, a'r càr llusg, oll yn un crynswth i ochr y llwyfan, er mawr ddifyrrwch i fechgyn yr oriel ucha.
Taerai rhai trannoeth mai Jaci a'r llwyth nas cludwyd oedd y peth mwyaf ysmala welsent er ys llawer dydd.