Ystoriau Siluria/Y Llanc Rhyfygus
| ← The Frenchman's Patch | Ystoriau Siluria gan Lewis Davies, y Cymer |
Heolydd Sir → |
XIII.
Y LLANC RHYFYGUS.
YCHYDIG lathenni o ddrws Eglwys Fair, Aberafan, y gorwedd llech a'n hatgofia am un o ystorïau mwyaf cynhyrfus Deheudir Cymru. Yr argraff ar y llech, sydd yn awr bron yn annarllenadwy, ydyw "R. L. 1831," a dywed mai odditani y gorwedd yr hyn sydd farwol o Dic Penderyn (Richard Lewis).
Brodor oedd o Aberafan (er y llysenw "Penderyn "), a dywedir ei fod, pan yn llanc, yn llawn bywyd ac egni beunydd, ac yn anfoddog os nad efe a arweiniai bob chwarae. Anfynych yr elai i'r ysgol, a phan fyddai yno, aml y gorfodwyd ei hen ysgolfeistr i'w rybuddio rhag rhoi ffrwyn i'w dymer nwydwyllt.
Ni chofiai Dic am ei fam, ond yr oedd iddo chwaer, Gwen, oedd yn ofalus iawn o hono. Fel yr ysgolfeistr, ceisiai hithau ddenu Dic o'i ffyrdd rhyfygus; ond nid oedd dim yn tycio, parhau a wnai efe i fod yn drafferth ac yn bryder.
Un o'i bangfeydd sydyn fu yr achos iddo adael ei gartre, oblegid mewn ffrae rhyngddo a Dafi Cound, Taibach, ynghylch chwarae bando, gwthiodd efe Ddafi dros ddibyn gwàl y porthladd i'r afon islaw.
Yr eiliad nesaf neidiodd Dic ar ei ol i geisio achub y bachgen ag yr oedd efe y foment cyn hynny yn ei dymer ryfygus wedi ei wthio i lawr.
Pe byddai ond pwnc o wlychu yn unig byddai yn eithaf gwers i'r ddau, ond, druan o Dafi, pan syrthiodd i'r dwfr tarawodd yn erbyn y trawst mawr ar waelod yr argae a thorrwyd ei gefn drwy hynny. Arswydodd Dic am yr hyn a wnaeth, ac o herwydd cnofeydd ei gydwybod ciliodd i Ferthyr.
Y dref honno oedd Mecca pob crwydryn Cymreig yn yr amseroedd hynny, ac yno buan y daeth y "Dic fel 'deryn" o Aberafan yn "Ddic Penderyn " yn y lle newydd, ac yn hysbys i bawb fel un o fechgyn dewraf ond mwyaf afreolus yr ardal.
Pe bai dewrder Dic wedi ei droi i'r cyfeiriad iawn, dichon mai darllen am dano fel gwron y byddem ni yn awr, ac nid fel drwg-weithredwr a thorrwr cyfraith.
Ym Merthyr aeth i gyfeillach gŵr oedd yn hŷn nag ef, elwid Lewsyn yr Helwr, brodor, fel mae'n òd, o Benderyn yn wirioneddol, y pentref bychan ychydig hwnt i ffin Brycheiniog ger Hirwaun.
Terfysglyd iawn oedd Merthyr yr adeg hon, a'r Lewsyn hwn oedd eilun y lliaws, a'u

harweinydd ymhob cynnwrf rhwng y bechgyn afreolaidd a cheidwaid heddwch y lle.
Yn yr holl ysgarmesau hyn, nid oedd neb ffyddlonach i'w arweinydd na Dic. Efe oedd wrth ei ochr pan orfu ar gapten meirch-filwyr Abertawe ildio ei gledd i'r Helwr o Benderyn ar fynydd Aberdâr. Efe, hefyd, â'i ddynion, ollyngodd y gawod gerrig i lawr o fynydd Cilsanws ar draws meirch-filwyr Aberhonddu a geisiodd gyrraedd Merthyr o'r gogledd.
Ond o flaen gwesty y Castell yn Heol Fawr Merthyr yr ymladdwyd yr ornest fawr rhwng y Cymry afreolaidd a'r milwyr Ysgotaidd, ag a fu yn achos condemniad i'r crogbren i Lewsyn a Dic am eu rhan ynddi.
Ymgasglodd y lliaws, yn gynddeiriog gan newyn, ac yn ddi-ofn o herwydd eu llwyddiant blaenorol, yn un torf o flaen yr hen westy enwog.
Wedi eu trefnu yn "rheng sengl" ar y palmant, gyda'u cefnau ar y wàl, safai y Scottish Highlanders oedd yn ymdrechu cadw drysau a ffenestri isaf y gwesty yn glir, tra yr anerchid y dorf o'r ffenestri uchaf gan Mr. Crawshay a'r haearn-feistri eraill.
Ar y foment y cynghorid y gweithwyr i ddychwelyd i'w tai yn heddychlon wele Lewsyn yn neidio i fyny'n ffyrnig, a chan waeddi, "Gwaed neu Fara!" a gipiodd fwsged y milwr nesaf ato, ac a'i trywanodd â'i fidog ei hun.
Fel cad ar faes y bu yr ystrŷd am yr hanner awr nesaf, y Cymry yn ceisio rhuthro ar y milwyr a'r rhei'ny—bechgyn dewr bob un—yn egnio eu dà yn ol rhag dringo i mewn i'r gwesty.
Y pryd hwnnw y gwelwyd y camsyniad wnaed i osod y "rheng sengl ar y palmant o gwbl, a'r gorchwyl caletaf yn awr oedd eu cael oddiyno rhag lid y dyrfa. Rhaid oedd iddynt bob yn un ac un i redeg am eu bywyd heibio congl y tŷ, i gyrchu at ddrws mawr buarth y tafarn yn y groesheol.
Yno, i'w hatal rhag cyrraedd y noddfa, oedd Dic Penderyn gyda rhai o'r mwyaf penderfynol o'i wŷr.
Ond er gwaethaf y rhain, cyrhaeddwyd a diogelwch gan yr Ysgotiaid i gyd oddigerth yr olaf.
Hwn oedd amlycaf ei ddewrder o'r oll, ac arno ef yr arllwyswyd holl lid yr ymosodwyr. Curwyd ef yn ddidrugaredd, ond parhau i ymladd a wnai efe er ei holl glwyfau.
O'r diwedd, wele yntau yn rhedeg er ceisio ennill nodded y drws mawr; ond pan y cyrhaeddodd y fan, yr oedd Dic Penderyn a dau neu dri eraill yn hongian wrth ei ystlys fel gwaedgwn yn ceisio tynnu i lawr lew clwyfedig.
Bellach ni ddeuir byth i wybod am a ddigwyddodd i gyd y tu oli'r drws mawr, ond yr oedd y milwr dewr yn farw, a chyhuddid Dic o fod yn achos ei farwolaeth.
Yn y prawf a ddilynodd yr helynt trist, condemniwyd Lewsyn a Dic i ddioddef marwolaeth, ond cyn cwblhau y ddedfryd, newidiwyd cosb Lewsyn i benyd am ei oes. Crogwyd Dic druan, er yn dal i daeru ei ddiniweidrwydd hyd y diwedd.
Yn y dyddiau hynny, rhoddid i dylwyth yr un grogesid y fraint bruddaidd o gladdu gweddillion eu perthynas. Hawliwyd y ffafr honno gan frawd Dic. Benthyciodd gert ffermwr a chan ymdaith liw nos, dygodd gorff ei frawd drwy Fro Morgannwg bob cam o Gaerdydd i Aberafan erbyn prynhawn trannoeth.
Yr oedd yr angladd yn un nodedig o fawr, oblegid er bod Dic wedi ei gondemnio yn llys ei wlad, ymddengys ei fod o gyff parchus, a mwy na'r oll, yr oedd y werin bobl yn credu'n ddi- ysgog mai ar gam y crogwyd ef. Yr holl wasanaeth claddu a gafodd oedd canu emyn Cymraeg, a roddwyd allan, meddir, gan ei hen athro— Dafydd Jones, Ysgolfeistr, Aberafan.