Ystoriau Siluria/Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau
| ← Number 'Leven | Ystoriau Siluria gan Lewis Davies, y Cymer |
Lelo Jenkins o'r Hendre → |
XIX.
"YN Y DYFROEDD MAWR A'R TONNAU."
LLAWER ffermdy yn ein gwlad sydd yn dwyn yr enw "Tŷnewydd."
Tŷnewydd." Mwy nag unwaith, o herwydd cynnydd y boblogaeth, yr adeiladwyd pentrefi cyfain ar dir yr hen ffermdai hyn, a chanlynodd i'r pentrefi hefyd gael yr un enw. Y mae o leiaf dri Tŷnewydd erbyn hyn sydd yn lleoedd poblog ar "Faes Glo" Morgannwg, sef:
- (1) Tŷnewydd, Cwmogwr;
- (2) Tŷnewydd, Treherbert;
- (3) Tŷnewydd, Cymmer, Rhondda.
Enillodd yr olaf sylw y byd yn ebrill 1877, oherwydd y ddamwain fu yno, a'r dewrder ddangoswyd gan lowyr Cwm Rhondda i waredu eu cyd-ddynion o safn angau.
Un prynhawn, pan oedd gweithwyr y pwll ar fedr gorffen eu llafur am y dydd, clywid yn sydyn sŵn dilyw mawr yn arllwys i'r lofa.
Yr oedd dwfr o hen lofa wedi torri i mewn atynt!
Rhedodd pawb am eu bywyd i geisio cyrraedd "y wyneb," a phan rifwyd y glowyr ar ben y pwll gwelwyd bod pedwar-ar-ddeg yn eisiau.
Er ond wedi newydd ddianc eu hunain, cynhygiodd digon i fynd yn ol i chwilio am y rhai ddaliwyd gan y dwfr. Wedi disgyn i'r gwaith unwaith eto, gwelwyd bod y rhannau pellaf o'r lofa, hynny yw, y "talcenni glo," yn llawn dwfr o'r gwaelod i'r nengraig.
Amhosibl oedd meddwl bod neb y tu ol i'r mur dwfr heb foddi; ac yr oedd y dewrion ar fedr troi eu hwynebau i'r awyr agored eilwaith pan glywsant ergydion gwan ar y golofn lo rhyngddynt a thalcen neilltuol. Yr oedd rhywun neu rywrai yn fyw yno, ac felly heb oedi moment, i lawr â'r dillad, ac i'r làn â'r mendryl!
Erbyn pedwar yn y bore nid oedd ond llafnen deneu yn gwahanu y gwaredwyr a'r gwaredigion. Yn fuan wedyn, tarawyd twll rhyngddynt, ac ar unwaith wele wynt nerthol yn chwythu trwy yr agen gyda thrwst enfawr.
Y ffaith oedd, bod y glowyr, druain, wedi eu dàl mewn congl o'r gwaith nad allai yr awyr ddianc o hono. Yr awyr hwn, 'nawr yn compressed air, a ddaliai y dwfr yn ol rhag eu boddi, ond pan roddwyd tramwyfa iddo trwy yr agen, cymaint oedd ei nerth fel y taflodd efe William Morgan, un o'r glowyr, fel pluen yn erbyn y golofn lo, a lladdwyd ef ar amrantiad. Mawr oedd y gofid am farw y glöwr ieuanc, ac yntau ar fin gwaredigaeth; a mawr hefyd y diolchgarwch am achubiaeth y lleill rhag yr un dynged.
Credid ar y pryd mai hwy oedd y diweddaf ddeuai i fyny yn fyw o'r dyfroedd, ond yr oedd pennod fwy cynhyrfus fyth i agor yn hanes y pwll hwn; oblegid ar ol wythnos ymron o weithio caled i wacau y talcenni o ddwfr, clywyd un noson, er braw a llawenydd i'r gweithwyr, guro gwan drachefn ar y pared glo.
Clustfeiniwyd drosodd a throsodd ar y curiadau, a'r un peth oedd eu neges bob tro—"un, dau, tri, pedwar, pump." Yna ysbaid fechan o dawelwch, ac wedyn "un, dau, tri, pedwar, pump" drachefn. Pump oedd nifer y rhai oedd ar goll yn y pwll, ac yr oedd yn eglur eu bod nid yn unig yn fyw, ond eu bod gyda'i gilydd yn yr un lle; a deallwyd mai talcen Thomas Morgan oedd hwnnw, sef rhyw ddeugain lath oddiwrthynt drwy y glo, ond llawer mwy na hynny dros yr heol foddedig.
Ceisiwyd cyrraedd y trueiniaid (oedd eisoes wedi bod am wythnos ymron heb fwyd) ar hyd y ddwy ffordd, ond buan y gwelwyd mai amhosibl oedd mynd atynt drwy y dwfr, gan fod cymaint o'r nengraig wedi syrthio i'r heol a arweiniai tuag atynt. Felly nid oedd ond un cynllun i'w hachub (os achub hefyd) sef i wneuthur ffordd trwy y deugain llath o lo cyfan tuag atynt.
Awd at y gorchwyl; dewrder bechgyn y Rhondda ac Angau yn rhedeg gyrfa, pa un o'r ddau gyrhaeddai dalcen Thomas Morgan gyntaf; a'r holl wlad, o'r frenhines Victoria i lawr i'r cardotyn, yn dàl eu hanadl rhwng ofn a gobaith.
Ni fu y fath dorri glo cynt na chwedyn. Nid oedd amser i siarad na dim arall, ond ergyd, ergyd, ergyd, drwy y pedair awr ar hugain. Newidid y gweithwyr bob teirawr, ac nid oedd y mendryl yn cael amser i oeri rhwng llaw a llaw. Pan fyddai lludded yn galw am arafu ychydig, yr oedd y curiadau hwnt i'r pared yn cymell yr egni mwyaf a allai y corff dynol ei ddàl.
Gwilym Thomas! Abraham Dodd! Isaac Pride! a'r holl weithwyr eraill Beth sydd yn gwneuthur i chwi ergydio mor drwm pan y mae Angau, o ran a wyddoch chwi, yn eich hudo ymlaen i brofi marwolaeth ym munudau olaf yr ymgyrch fel ag a wnaeth â William Morgan, wythnos yn ol?
Dim ond un ateb-" tinc, tinc, tinc, tinc, tinc," gwan, yn danfon eu neges o fyd y cysgodion.
O'r diwedd neshawyd i ben y deugain lath, a chymerwyd gofal i osgoi perigl mawr y compressed air, trwy osod "drysau" yn groes i'r heol y tu ol i'r gwaredwyr.
Ond yn awr wele berigl newydd-fflam las y nwy yn chwarae gylch y lampau!
Beth bynnag am hynny, ac er gwaethaf dwfr awyr, a thân, ymlaen y gweithiodd gwŷr cedyrn y Porth, gan ddiweddu'r ymdrech mewn tywyllwch hollol.
A phan, mewn ychydig funudau wedyn y torrwyd y twll, dacw Gwilym Thomas drwyddo, a dychwelyd gyda'r bachgennyn David Hughes yn ei freichiau. Dilynwyd ef i'r tywyllwch mawr gan Abraham Dodd ac Isaac Pride, a buan y cariwyd allan y pedwar dyn yr un modd, yr oll, er yn ymyl marw, eto'n fyw.
Pan aeth y newydd i'r wyneb" torrodd pob calon allan mewn gorfoledd a diolchgarwch am y ddihangfa ryfedd. Fflachiwyd y newydd dros yr holl fyd, a mawr oedd y canmol ar fechgyn Cwm Rhondda.
Pan wedi cryfhau i raddau, rhoddwyd manylion y "deng niwrnod" gan y rhai waredwyd. Moses Powell oedd eu harweinydd, a phrofodd ei hun yn dywysydd doeth, oblegid er iddo geisio cynnal ysbryd ei gyd-garcharorion yn y gobaith am waredigaeth, eto paratodd hwynt i farw os marw fyddai raid. Collodd un o'r pump ei synhwyrau yn yr adfyd mawr, a chymerid gofal arbennig o hono ef, ac o'r llanc, David Hughes. gan y tri arall.
Treuliasant eu hamser, tra'n alluog i wneuthur hynny, mewn gweddi a chanu emynau, yn enwedig yr hen emyn "Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau," oedd mor bwrpasol i'w cyflwr. Pan gyfansoddodd Dr. Parry, ein cerddor mawr, anthem o ddiolchgarwch am y wared— igaeth, gosododd yr hen emyn yn rhan o honi. Efallai i chwi ei glywed rywbryd. Dyma fe:

Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau,
Nid oes neb a ddeil fy mhen.
Beth am y gwroniaid ddangosodd boddlonrwydd i aberthu eu bywydau dros eu cyd—lowyr, pe bai raid?
Ni fydd yn rhyfedd gennych glywed eu bod mewn parch mawr gan bawb. Rhoddodd y Frenhines Victoria fathodyn i bob un, a daeth Arglwydd Faer Llundain i lawr i'w gosod ar y bronnau dewrion. Cawsant hefyd anrhegion eraill, oeddent yn eu haeddu mor gyflawn.
Nid ydym byth, oddiar 1877, wedi clywed Mr. Gwilym Thomas yn canu (a chanwr ardderchog oedd) heb gofio am y darlun o hono welsom y pryd hwnnw, yn cario David Hughes yn ei freichiau allan o'r "dyfroedd mawr a'r tonnau" yng nglofa y Tŷnewydd.