Ystoriau Siluria (testun cyfansawdd)
| ← | Ystoriau Siluria (testun cyfansawdd) gan Lewis Davies, y Cymer |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Ystoriau Siluria |

YSTORÏAU SILURIA
YSTORÏAU SILURIA
(I—XXVII)
GAN
LEWIS DAVIES,
CYMER, PORT TALBOT.
CARDIFF:
THE EDUCATIONAL PUBLISHING COMPANY, LTD.
LONDON: 9, SOUTHAMPTON STREET, HOLBORN, W.C.1.
1921.
CYNNWYS.
I. Yr Ail Leng
II. Cynan ap Rhys
III. Y Gwystl Bach
IV. Priod "Ein Llyw Ola'"
V. Y Beirdd Teulu
VI. Lletygarwch yr hen Amseroedd
VII. Y Cymro Bererin
VIII. Colyn Dolffyn
IX. Eglwys a Phersoniaid Blaen-gwrach
X. Mab y Bardd
XI. "Fox and Hounds"
XII. The Frenchman's Patch
XIII. Y Llanc Rhyfygus
XIV. Heolydd Sir
XV. Y Ddafad Ddu
XVI. Boneddwr
XVII. Y Cymro Du
XVIII. Number 'Leven
XIX. "Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau"
RHESTR O'R DARLUNIAU.
Idwal a'r Arthes
Dal y Dywysoges Elinor
Y Ffeirad Coch a'r Lleidr Penffordd
Ffrae Dic Penderyn a Dafi Cound
Jaci ar y Llwyfan
Gito yn Wynebu Angau
YSTORIAU SILURIA
I.
YR AIL LENG.
PAN oedd ein Gwaredwr ond newydd farw yng ngwlad Canaan daeth rhai o'r bobl y perthynai Pilat a'i filwyr iddynt i'n gwlad ni-Prydain.
Yr un oedd y neges ddaeth â hwy yma ag a aeth â hwy i wlad yr Iesu, sef ceisio trechu y bobl oedd yn byw yno cyn hynny, cymeryd eu tir oddiarnynt, a'u gwneuthur yn weision i'w gwlad fawr hwy-Rhufain.
Dechreuasant ymladd â'n Caradog ni yma yn y flwyddyn 43 o.c., ond er iddynt ei gymeryd ef yn garcharor i'w prif-ddinas yn y flwyddyn 51 o.c., ni lwyddasant i'n trechu yn llwyr hyd tua 78 o.c.
"Lleng" oedd yr enw a arferent am gatrawd o'u milwyr, a rhifai honno yn aml tua chwe mil o wŷr arfog.
Galwent y llengoedd wrth rif neilltuol yn ol y drefn y dygwyd hwynt i fod, sef Y Gyntaf, Yr Ail, Y Drydedd, Y Bedwaredd, etc.
Bu yr Ail Leng, sef un o'r dewraf ym myddin Rhufain, yn hir iawn yn y rhan o'n gwlad a alwent hwy yn Siluria, ond a elwir gennym ni yn Gwent a Morgannwg. Eu prif orsafoedd yno oedd Caerlleon a Chaerwent, dau le sydd hyd heddyw yn dwyn llawer o olion y Rhufeiniaid.
Yn y dinasoedd hyn y bu pobl y Caesariaid am yn agos i bedwar can mlynedd, yn byw debyced ag a allent i'w brodyr yn Rhufain; yn
addoli yr un duwiau, yn adeiladu yr un math o aneddau, ac yn chwarae yr un campau. Trinient eu harfau yn ofalus, a gofalent gymaint a hynny am gadw y Siluriaid a'u cylchynent heb drin arfau o gwbl.
O elyniaeth y gwnawd hyn ganddynt, mae'n wir, ond rhaid inni gyfaddef hefyd iddynt roi llawer o wybodaeth inni, yn enwedig mewn gwneuthur ffyrdd, trin tir, ac adeiladu tai.
A mwy na'r cyfan, hwynthwy roddasant y wybodaeth gyntaf inni am Grist. Ni wyddom o gwbl pwy oedd y personau a'i dygodd yma, ond gwyddom i sicrwydd mai o Rufain y daeth.
Ym mywyd pob-dydd y gorsafoedd, gorfodwyd llawer o fechgyn cryfion y Siluriaid i roddi cymorth i'r milwyr o bryd i bryd, yn enwedig mewn symud a thrafod llwythi trymion; ac o herwydd hyn nid oedd braidd unpeth yn digwydd ymhlith y Rhufeiniaid na wyddai y Siluriaid ieuainc am dano yn ogystal.
Un o'r llanciau hyn ydoedd Idwal Gadarnlaw a ddaeth i Gaerlleon o'r mynyddoedd un bore, ac a fu yn foddion, ymhen oddeutu mis ar ol hynny, i achub plentyn cadfridog yr Ail Leng rhag boddi yn yr Wysg. Cymerwyd ef i wasanaeth y cadfridog o'r awr honno allan, a buan y daeth yn ffefryn gan bawb.
Ei brif waith oedd cludo negesau rhwng ei feistr a phrif swyddog Caerwent, ac i'r diben hwn mynych y cerddai efe y briffordd rhwng y ddau le. Yr oedd hefyd ffordd arall o'r naill ddinas i'r llall, yn fyrrach o lawer, ond o herwydd ei bod yn arwain trwy allt fawr a boblogid gan anifeiliaid gwylltion, ni thramwyid hi ond gan ychydig.
Un diwrnod penderfynodd Idwal, o herwydd brys neilltuol i gyrraedd Caerwent, deithio ffordd yr allt. Pan ynghanol y coed, gwelodd o'i flaen, ar y ffordd, ddau filwr yn siarad yn sobr iawn â'i gilydd.
Adnabu efe hwynt o bell oblegid bu yn cydgario llwyth ag Aaron yr wythnos cyn hynny, a gwelsai Julius bron bob dydd yng Nghaerlleon. Cyfarchodd y ddau ef yn siriol, ac ymddangosent fel pe am ymgomio ag ef. Dechreuwyd sôn am ryddid i addoli y Duw a fynnent, ac am draddodiad yn Rhufain am y gŵr mawr a alwent yn Sant Paul. Deallodd oddiwrth hynny eu bod yn perthyn i'r bobl gyfenwid mewn gwawd yn Gristionogion y rhai yr oedd eisoes sôn am eu herlid yn y brifddinas.
Cymaint oedd ei frys fel nad allai aros yn hwy yn eu cwmni, ond prysurodd ymlaen â'i wyneb tua Chaerwent.
Wedi myned encyd o ffordd oddiwrthynt, gwelodd arthes fawr yn croesi ei lwybr ychydig bellter oddiwrtho. Rhuai yn ffyrnig, ac yr oedd Idwal yn ddigon agos ati i sylwi fod ewyn yn syrthio o'i safn bob cam a roddai.
Credai ar y foment nad oedd hi wedi ei weled, ond mewn eiliad arall trodd gan garlamu yn drwm tuag ato. Mor sydyn oedd ei rhuthr. fel mai prin y cafodd efe amser i dynnu ei gyllell allan cyn ei bod ar ei draws. Amcanodd ei thrywanu â'i arf, ond y peth nesaf a wybu oedd i'w gyllell gael ei chwyrndaflu o'i law gan ei phalf nerthol, a'i fod yntau yng nghôl y creadur, yn cael ei faeddu a'i wasgu yn enbyd.
Gwaeddodd â'i holl nerth am gymorth, ac yna collodd bob hunan-deimlad.
Ymhen ysbaid o amser, na wyddai pa hyd, deffrôdd fel o hunllef poenus, a gwelodd Julius ac Aaron yn golchi ei glwyfau ac yn ei osod yn dyner i orwedd ar lecyn glas yn ymyl y ffordd. Ar draws yr heol gorweddai yr arthes anferth, yn farw.
Dywedodd y ddau filwr wrtho iddynt glywed ei waedd, ac iddynt frysio tuag ato, a hynny

dim ond mewn pryd i achub ei fywyd. Yr oedd yr arthes fel pe wedi colli ei chenawon, ac yn ffyrnicach na'r un creadur welsent erioed.
O herwydd colli o hono lawer o'i waed, crynai Idwal yn arw pan geisiodd godi, a bwriadai'r milwyr ei gario yn ol i Gaerlleon gyda hwy, ond ni fynnai efe hynny am fod ei neges i Gaerwent o gymaint pwys. Felly, wedi ei hebrwng gryn ddwy filltir yn nês i'r ddinas honno, troisant yn eu hol ac aeth yntau yn union at y cadfridog gan gyflwyno y neges oedd bron wedi costio ei fywyd iddo.
Wedi'r cyflwyniad, a chyn y gallodd ddweyd gair yn rhagor, llewygodd drachefn. Dodwyd ef mewn gwely, ac yno y cadwyd ef am dri niwrnod heb wybod dim am y byd y tu allan.
Pan y daeth, o'r diwedd, allan o'i ystafell, mawr oedd cyffro Caerwent, gydag ond un peth yn unig yn bwnc pob ymdrafod."
"Onid oeddent yn ddewr!" ebe un; ac "A fu ffyddlonach dau i'w gilydd erioed?" ebe arall.
Yna y daeth i'w glustiau yr holl ystori am ferthyrdod Julius ac Aaron yng Nghaerlleon; am y modd y cyhuddwyd hwy, yn gyntaf, o fod yn absennol oddiwrth eu dyletswydd fel milwyr heb ganiatâd, ac yn ail, o fod yn euog o amharchu y duwiau Rhufeinig drwy ddilyn y Crist.
O herwydd eu henw da fel milwyr profedig addawodd y cadfridog estyn maddeuant iddynt am y trosedd cyntaf, pe gwadent yr ail. Ond yn lle gwadu, ymfalchïent yn y Groes; ac am fod gorchymyn caeth wedi ei dderbyn oddiwrth yr ymerawdr fod y sawl a lynai wrth y grefydd newydd i gael ei bicellu i farwolaeth, daeth Julius ac Aaron i'w hangau ar lawr y chwaraedy yng Nghaerlleon, yng ngŵydd yr holl leng o'r ddwy ddinas oedd yn dystion i'w merthyrdod.
Mawr oedd gofid Idwal am hyn oll, oblegid yr oedd yn sicr yn ei feddwl mai yr adeg yr 'oeddent yn achub ei fywyd, ac yn ei hebrwng i Gaerwent oedd yr amser a gollasant o'u hymarferiad milwrol. Dywedodd hynny wrth ei feistr, ac hefyd am y cymorth a roes y ddau iddo i gyflwyno ei neges mewn pryd.
Pan glywodd yr hen ryfelwr hynny, wylai fel plentyn, a thaerai na fyddai iddo awr o gysur byth mwy, am nad oedai weinyddiad y gosb am ryw ysbaid o amser.
Y newydd nesaf ddaeth o Rufain oedd bod yr ymerawdr wedi marw yn sydyn, a bod cyfraith yr erlid wedi ei diddymu.
Cyn pen mis yr oedd yng Nghaerlleon a Chaerwent dros gant yn cyffesu yr Iesu yn Geidwad, ac yn eu plith nid y lleiaf oedd Idwal Gadarnlaw, a'i feistr!
II.
CYNAN AP RHYS.
CLYWSOCH yn ddiau am y Tywysog Du ym mrwydr Cresi (1346 o.c.), a'r modd dewr yr ymladdodd yn erbyn y Ffrancod yno, ac efe ond llanc pymtheg oed.
Nid peth newydd oedd i fechgynnos o'i oed ef ddwyn arfau yn y gad. Gwnaeth amryw hynny yng Nghymru o'i flaen. Un o honynt oedd Cynan ap Rhys ap Tewdwr, a ddilynodd ei dad i'r ymgyrch gwaedlyd rhyngddo ag Iestin ap Gwrgant a Rhobert Fitzhamon tua'r flwyddyn 1090 o.c.
Wedi croesi o honynt o Ddyfed hyd Fannau Brycheiniog, daeth gwŷr Rhys ar draws y gelyn ar y Waun Hir a orwedd rhwng Cwm Cynon a Glyn Nedd.
Yn ymyl hon, ar ochr Fforest Fawr Llwydcoed, mae ffermdy a erys hyd heddyw— Llety Rhys--lle cysgodd y tywysog hen a'i fab hoff y noson cyn y frwydr.
Yn gynnar bore trannoeth, aeth y ddau allan i drefnu eu llu erbyn cyfarfod y Morgeinwyr a'r Normaniaid oedd yn rhuthro i fyny drwy Gwm Cynon.
Ychydig feddylient ill dau mai hwn oedd y tro olaf y gwelent yr haul yn codi, a llai fyth mai y dyrnaid gwŷr Normaniaid hyn, pob un yn ei bais ddur, oedd i ragflaenu cenedl gyfan o orchfygwyr. Ond felly y bu. Dyma y bobl fu yn ddistryw, nid yn unig i Rys eu gelyn, ond i Iestin eu cyfaill yr un modd.
Ymladdodd gwŷr Dyfed yn ddewr o dan arweiniad eu tywysog oedrannus, ond yn y bore, wedi gradd o lwyddiant, gwthiwyd hwynt yn ol gan y newydd bobl ofnadwy a waeddai ar ei gilydd mewn iaith estronol, i'r man a elwir Blaen Hirwaun; ac yno, ynghanol celanedd mawr, yr ymladdwyd y frwydr i'r pen.
O flaen gwŷr y gorllewin rhedai nant fechan a sibrwd heddyw mor heddychol ag unrhyw nant arall. Ond yn y prynhawn aethus hwnnw rhedai ei dyfroedd yn ffrwd o waed, a llawer o'r clwyfedigion blygasent ati i dorri eu syched, a syrthiasant iddi yn farw. Nid rhyfedd i'r tadau ei galw yn Nant yr Ochain, oblegid ochain mawr fu yno, a dyna ei henw hyd heddyw.
Pan gollwyd pob gobaith, ffôdd Rhys a Chynan heibio'r Llyn Fawr, gan ddringo y graig anferth i'w chopa. Ac yno, wrth Garn y Moesau, yr ymadawsant â'i gilydd.
Trodd yr hen wron at ei anwylyn a dywedodd, 'Cynan! gwna oreu dy ffordd i Ddyfed. Byddi eto yn dywysog mawr. Am danaf fi, mae'm dydd ar ben. Dos di i ddiogelwch yr hen dalaith."
Fel y gwyddys, daliwyd a lladdwyd Rhys y dydd hwnnw.
Ffawd waeth fyth ddaeth i ran Cynan ieuanc. Cadwodd efe, a'i ychydig wŷr ddihangodd o'r maes, ar y trum rhwng Nedd ac Afan, yn cael eu dilyn gan lu o'r gelyn bob cam o Graig y Llyn' i ymyl Llansawel. Croesasant afon Nedd ar y trai, gan fwriadu ennill Llansamled a Dyfed yr ochr draw. Boethed oedd yr helfa fel уг oedd yn rhaid iddynt gynnyg myned drwy gors Crymlyn yn lle cadw y naill ochr iddi.
Ond, chwerwed y tro! wele'r tywysog penfelyn yn dechreu suddo i eigion y gors; ac yno, er aeth a braw gelyn a chyfaill ynghyd, clywid ei ddolef dorcalonnus nes i laid didostur yr hen gors fyned dros ei ben.
Gelwir y rhan hon o'r gors yn Bwll Cynan hyd heddyw, ac am ganrifoedd ar ol y boddiad, clywai yr hen frodorion, pan adroddid yr hanes ar lawer aelwyd hirnos gaeaf, waedd angau y tywysog yn y gwynt a'r ystorm.
III.
Y GWYSTL BACH.
YCHYDIG ŵyr plant heddyw am y caledi ddioddefwyd gan blant yr amser gynt, pan oedd rhyfel yn bennaf gorchwyl cenhedloedd, a bendithion heddwch bron yn hollol ddieithr iddynt.
Canrifoedd creulon iawn fu yr unfed ar ddeg, y ddeuddegfed, a'r drydedd ar ddeg i Ddeheudir Cymru. Ar y naill law ymdrechai y Normaniaid i ladrata y tir oddiar y Cymry, tra ar y llaw arall ymdrechai'r brodorion lawn cymaint a hwythau (er y mynych anghytuno) i ddal eu gafael ynddo.
Dyna'r amser y codwyd y cestyll mawr a welir eto yng Nghaerdydd, Abertawe, Caerffili, Casnewydd, a llawer man arall rhwng y Bannau a'r môr. Teimlai y Normaniaid yn ddiogel yn y rhai hyn, hyd yn oed pan wedi colli aml i frwydr y tu allan iddynt.
Wedi i'r Norman lwyddo i lwyr oresgyn rhan o'r wlad, y peth cyntaf a wnai wedyn oedd dangos llymder at y Cymry, ac yn neilltuol at y tywysog Cymreig yr ysbeiliwyd ei dir.
Un o'r arferion llymaf oedd dwyn ymaith rhai o'i blant, a chadw y Cymry bychain hyn rhwng muriau ei gestyll ei hun. Gwystlon y gelwid y cyfryw blant, ac o digwyddai i'w tad neu berthynas arall iddynt dramgwyddo y Norman balch, dialai ar y diniweid. Eu dallu a gawsent gan amlaf, ond nid oedd ambell Norman creulon yn petruso eu lladd mewn gwaed oer.
Onid oedd hon yn arferiad ofnadwy? Ydoedd, yn sicr; ond dilynwyd hi, serch hynny, am amser maith. Crogodd y Brenin John o Loegr gymaint a deunaw o dywysogion ieuainc Cymru yng Nghastell Nottingham yr un dydd.
Ond beth dâl myned belled a Nottingham? Y mae ystori Canaythan bach o Resolfen bron bod druenused a hynny. Perthynas i Forgan ap Caradog, Arglwydd Afan, oedd efe, ac wedi ei roddi yn wystl i'r Iarll Caerloyw yng Nghastell Caerdydd. Tramgwyddodd Morgan yr Iarll mewn rhyw fater-mor ddibwys na wyddom eto pa beth ydoedd yn iawn-a dallwyd Canaythan mewn canlyniad.
Onid yw hyn yn eich atgofio am ystori Hubert ac Arthur, a edrydd Shakespeare mor dda? Tebyg i chwi glywed ei hadrodd yn yr ysgol rywbryd. Dyma'r modd y dechreua-
"Heat me those irons hot!"
Pan osodwyd y Cymro bach, 'nawr wedi ei ddallu, yn ol yn ei gell, teimlai chwant marw. Nid am ei fod yn llwfryn, canys nid llwfr oedd, a synnai hyd yn oed ei ddallwyr at ei ddewrder yn wynebu'r haearn poeth.
Digalonnodd yn y meddwl na welsai byth mwy degwch ei wlad, ei blodau a'i ffrwythau, ei choedydd a'i meysydd. Pan yn garcharor dianaf, er mai digon unig y teimlai lawer adeg yn sŵn уг iaith ddieithr o'i gylch, eto cysurai ei hun yn yr olwg ar y bryniau yn eu hafwisg, a cheisiai ddyfalu beth, ar y foment honno, a wnai ei hen gymdeithion tu hwnt iddynt yn Afan a Margam.
Ond bellach collai hyd yn oed hynny, a throm iawn oedd ei galon mewn canlyniad.
Ceisiodd gysgu, ond nis gallai. Ergydiai rhyw forthwyl, fel petai, ar ei arlais, crwb- crwb-crwb, tra'r elai awr ar ol awr heibio arno yn ei wely bach.
Clywai y gwyliedydd yn troedio yn ol a blaen uwch ei ben ar y mur, ac o'r diwedd aeth i rifo sawl eiliad elai heibio cyn y dychwelai y gwyliedydd drachefn.
Cydamserai yr ergydion ar ei arlais a'i rifo—un a deugain, dau a deugain, tri a deugain, etc. a'i gilydd, ac yr oedd fel hyn wedi rhifo hyd at gant am y seithfed tro pan y digwyddodd rhywbeth.
Clywodd leisiau—lleisiau Cymraeg—yn galw ar ei gilydd, ac yna trwst traed, ergydion trwm, a syrthiadau trymach. Meddyliodd ei fod wedi breuddwydio, ond nid breuddwyd mohono. Achos y cyffro mawr oedd Rhuthr Castell Caerdydd gan Ifor Bach o Senghennydd a'i wŷr, ond ni wyddai Canaythan hynny ar y pryd. Yr Ifor Bach hwn oedd arglwydd y wlad rhwng Tâf a Rhymni, gŵr a ddioddefodd yn dost oddiar law yr iarll, ond a oedd, o'r diwedd, wedi penderfynu dysgu i'w elyn fod diwedd i drais a gormes.
Disgynnodd y Cymry i lawr i'r cwm pan ddechreuodd nosi, ac yna, pan dywyllodd yn ddigon i'w pwrpas, rhuthrasant ar y castell gan ddwyn gyda hwy ysgolion ysgeifn i'w cynorth- wyo yn y gwaith. Gosodwyd yr ysgolion yn erbyn y mur uchel, a chyn y gallai y gwyliedydd cysglyd roi y waedd yr oedd Ifor a'i wŷr y tu mewn i'r gaer ac yn ei hennill yn gyflym.
Dyna'r terfysg glywsai Canaythan.
Pan ddisgynnodd y geiriau Cymraeg ar ei glust, gwaeddodd allan mewn gorfoledd, er gwaethaf ei gur a'i ddigalondid. "Dewch yma ! Dewch yma!" ebai ei lais bach gwan, ac ar yr eiliad gwthiwyd drws ei gell yn agored, ac yna y gwelwyd mai llanc bychan dall, a estynnai freichiau crynedig i geisio cyffwrdd â rhywun, oedd yno. Hysbysodd i'r milwyr ei enw, a phwy, ac o ba le yr ydoedd, ac am ei ddallu ond y bore hwnnw.
Cymaint oedd eu tosturi ar hyn, fel y gwaeddodd rhai am ymddial ar blant yr Iarll, ond cododd yr arweinydd ei law a dywedodd, " "Nid felly, ddynion! neu pa wahaniaeth sydd rhwng Cymro a Norman? Ond ni a gymerwn y llanc oddiyma gyda ni. Ni chaiff plentyn i Gymraes, dall neu beidio, aros funud yn hwy yn y pydew erchyll hwn."
Yna, gan droi at Canaythan, dywedodd ymhellach, Cymer galon, yr wyt ymhlith cyfeillion a ofalant na chei ragor o gam. Bydd y dywysoges Nest o Senghennydd yn gydymaith chwarae i ti yfory; hi a wna i ti anghofio dy ofid, cyn dy fyned at dy bobl dy hun."
Breichiau cryfion a gariodd Canaythan o'i gell i ddilyn y cwmni, ac yn fuan yr oeddent oll yn y Neuadd Fawr ynghanol ychwaneg o' filwyr Cymreig. Ymhen awr neu ddwy, ymadawodd y fintai â'r castell gan ddwyn gyda hwy yr iarll, ei wraig, ei blant, Canaythan, a dau neu dri eraill.
Rhoddwyd y bachgen dall yng ngofal hen filwr o'r enw Goronwy, a fu gynt yn gwasanaethu yng Nghastell Afan, ac a adwaenai ewythr a thaid Canaythan yn dda.
Cyn toriad gwawr gorffwyswyd, a dywedodd Goronwy wrth lanc ei ofal eu bod bellach wrth y Castell Coch, prif amddiffynfa Ifor ei hun.
Yno y bu gwledda hael trannoeth, a mawr siarad a gorfoleddu am y fuddugoliaeth gespwyd. Ond rhywfodd, ynghanol y llawenydd i gyd, trist oedd Canaythan, a brâth i'w galon oedd pob cyfeiriad at ei ddallineb.
Felly, cyn diwedd y dydd, gofynnodd i Ifor am gennad i ddychwelyd i'w gartref, yn enwedig am y gwyddai Goronwy am ffordd i Resolfen heb ddychwelyd i ardal Caerdydd.
Ifor, gan siarad yn fwyn ryfeddol, a roddodd iddo ei ddymuniad, a threfnwyd fod y daith i'w chymeryd drannoeth.
Yna, Canaythan, gan ateb yn deilwng o'i âch a'i deulu, a ddywedodd, "Bydd Arglwydd Afan yn ddyledwr i Senghennydd am byth ar ol hyn, am ei garedigrwydd imi yn nydd fy nhrallod. Cyfiawn yw Duw, ac nid rhydd ganddo yr Iarll heb ddial ebrwydd am ei ymddygiad milain tuag ataf."
Cychwynnodd Goronwy a Chanaythan i'w taith yn fore iawn gan fwriadu cyrraedd Dyffryn Nedd cyn nos. Croeswyd y cwm ger Berw Tâf, a dringwyd Craig yr Hesg er gwneuthur eu ffordd yn union a diogel i Gwm Cynon.
Dewiswyd, o fwriad, y llwybrau lleiaf eu tramwy, a gwnai hynny i'r cerdded fod yn araf a thrafferthus. Rhaid hefyd oedd cario Canaythan dros y mannau mwyaf diffaith, ac nid hir y buwyd cyn gweled mai "cysgu allan " oedd eu rhan i fod y noson honno.
Pan ddaeth tywyllwch—druan o Ganaythan—tywyllwch oedd popeth iddo ef mwy—casglodd Goronwy goflaid o redyn, ac a'i gosododd wrth droed hen dderwen fawr; ac yna, wedi gosod y llanc rhyngddo a bôn y pren, gorweddodd i gysgu.
Unwaith, yn nyfnder nos, clywodd Canaythan flaidd yn udo o gyfeiriad Fforest Fawr Llwydcoed, a neidiodd Goronwy i'w draed gan glustfeinio i'r cyfeiriad hwnnw, a dàl carn ei gledd yn dŷn yn ei law.
Ond ni wnawd ymosodiad arnynt, fodd bynnag, a phan dorrodd y wawr, aeth y tywysog a'i gydymaith i olchi eu hwynebau i nant fechan yn ymyl. Cymerasant eu borefwyd o dorthau ceirch allan o'u hysgrepan, a chyn hir ail-gychwynnwyd i'r daith.
Cyrhaeddwyd Hirwaun Wrgan erbyn canol dydd, a chyrchwyd Craig y Ddinas yn y diwedydd. Yna, cyn tywyllu o honi ail ddydd eu taith, cerddodd y ddau ymdeithydd blin i mewn i Dyddyn yr Abad yn Resolfen ac adroddasant yr holl hanes.
Danfonwyd brys-negesydd dros Gefn Morfydd ar unwaith i hysbysu i Forgan am ddychweliad Canaythan, ac i roddi yr holl fanylion torcalonnus ynglŷn â'r helynt.
Fel y gellir tybio, bu hyn i Forgan yn brudd-der mawr; ac i ddangos ei dristwch, rhoddodd i'r llanc diroedd cyfoethog yn eiddo iddo ei hun. Ond beth dalai tiroedd heirdd i fachgennyn na allai weled mo'u harddwch?
Dywed yr hanes wrthym i Ganaythan farw ymhen ychydig ar ol hyn. Dywed hefyd iddo ofyn cyn ei farw am gennad ei ewythr i roddi ei diroedd i gyd i Fynachod Margam.
Rhydd croniclau yr Abaty y manylion am y trosglwyddiad ynghyd â'r rheswm paham y gwnawd ef. Ond nid oes gair ynddynt am oriau tywyll y gwystl bychan a gollodd ei olwg a'i fywyd am anghydfod pobl eraill.
IV.
PRIOD "EIN LLYW OLA'."
UN diwrnod tawel, tesog, ym mis Medi 127—o.c. hwyliai llong fechan, "Yr Eryr," i fyny ar hyd Môr Hafren.
Nid oedd, ar yr olwg gyntaf, ddim amgen nag un o'r llongau eraill hwylient y culfôr ar yr un pryd. Eisteddai y capten wrth y llyw, a chanai y morwyr wrth eu gwaith fel pe na bai 'storm na Môr Biscay mewn bod.
Gwyddent yn eithaf da, er hynny, am dymestl a drycin, canys yr oeddent wedi eu profi, a gallent yn briodol ddywedyd am y môr tawel o'u cylch:
"Llawn o dwyll yw ei wên deg."
ond fel morwyr yn gyffredin nid oedd ystorm y ddoe yn rhwystr iddynt fwynhau heulwen heddyw, ac felly canu a wnaethant.
Yn sŵn eu cerdd daeth chwant "taraw cân " i galon arall ar y bwrdd, a hynny a wnaed mewn canzonet Ffrengig fechan. Perchen y llais swynol oedd tywysoges o waed uchel, ac o brydferthwch ail i neb.
Pa beth a barodd i riain deg fel hon eistedd yno ynghanol y morwyr? Ni wyddai y dwylo pwy ydoedd, hyd yn oed, ond yr oedd rhywbeth yn ei holl osgo yn dywedyd mai y palas neu y castell a'i gweddai yn well na bywyd trwsgl y llong.
Yr unig un ar y bwrdd a wyddai ei hanes oedd y capten, a gwenai efe wrth ei chlywed yn ceisio canu ambell frawddeg Gymraeg ymhlith y llinellau eraill.
Gallasai ef ddywedyd nad oedd hi neb llai nag Elinor de Montfort, merch yr Iarll Leicester, eilun Lloegr, a darparwraig Llywelyn ap Gruffydd, eilun Cymru.
Bu farw ei thad ar faes Evesham (1265 o.c.) yn ymladd dros iawnder i'r Saeson, ac nid oedd iddi yn awr ym Mhrydain na châr na chyfaill o'i dosbarth ei hun, ond y tywysog Cymreig fu yn cyd-frwydro â'i thad yn Lewes (1264 o.c.), ac a geisiai ddal i fyny faner ei wlad ei hun yn wyneb y gelyn balch, Iorwerth y Cyntaf o Loegr.
Pan glybu hwnnw ddarfod i Lywelyn fwriadu priodi Elinor llidiodd yn fawr, a thyngai na ddychwelai hi byth o Ffrainc (lle yr ydoedd ar y pryd), i fod yn wraig iddo. Ond y newydd nesaf a glybu efe oedd ei bod hi eisoes wedi cychwyn am Gymru mewn llong fechan, ac na fuasai yn hir cyn glanio yno.
Danfonodd Iorwerth ar unwaith orchymyn caeth fod pob llong, bach neu fawr, oedd a'i phwynt tuag at draethau y De, i'w chwilio yn fanwl am y dywysoges.
Mae'n eglur nad oedd gorchymyn Iorwerth yn hysbys i Elinor, neu ni buasai yn gallu canu wrth ddynesu at Gymru. Ac ychydig iawn a wyddai fod llongau Hwlffordd, hyd yn oed ar y foment y canasai, yn chwilio pob llestr ddeuai i fyny heibio Dyfnaint a Chernyw.
Pan ddaeth "Yr Eryr" gyferbyn â Llanddunwyd ym Morgannwg, clywyd llais croch dros y dyfroedd yn gorchymyn i'w chapten arafu ei hwyliad, a chyn pen nemor funudau yr oedd un o'r llongau, a edrychai mor ddifrad cyn hynny, yn nesu i'w hymyl, ac yn arllwys dynion dros y gynwêl i'w bwrdd.
Vous êtez ma prisonniere, ma Demoiselle!"
("Fy ngharcharor ydych, foneddiges!") ebe'r arweinydd wrth y dywysoges, a chyda hynny cydiodd yn ei braich.
Digwyddodd hyn mor sydyn ac mor annisgwyliadwy i forwyr Yr Eryr" (y rhai, cofier, ni wyddent pwy oedd y person urddasol oedd yn eu mysg) fel na cheisiwyd gwneuthur un math o amddiffyniad iddi.
Prysurwyd Elinor ynghyd â'r capten a'r holl ddwylo i'r llong ddieithr, a chymerwyd meddiant o'r "Eryr" gan wŷr Hwlffordd. Fflemingiaid oedd y dynion hyn, a chashaent Lywelyn a'r Cymry â chasineb gymaint fel y gwnaent waith Iorwerth yn eu herbyn, boed frwnt, boed lân.

Ymhlith y carcharorion gymerwyd o'r "Eryr" yr oedd dau Gymro oedd hefyd yn dychwelyd o Ffrainc ac yn gweithio am eu cludiad fel pe yn forwyr eu hunain.
Pan glywsant mai darpar wraig eu tywysog oedd y foneddiges a gyfrifid yn awr ymhlith eu cyd-garcharorion, gofidient yn fawr am na wneuthid gwell brwydr drosti, a cheisient gynllunio i'w rhyddhau cyn glanio o honynt ym. Mryste.
Liwyddasant i siarad ychydig eiriau â hi, gan ddatgan eu bwriad, ond ei hateb hi oedd mai peryglu eu bywyd i ddim pwrpas wnaent, ond os oeddent am ei gwasanaethu, am iddynt wneuthur y goreu o'u ffordd i Gastell Buallt (lle yr addawsai y tywysog ei chyfarfod cyn yr unfed ar hugain o'r mis), a dywedyd wrtho yr hyn a ddigwyddodd iddi. "Wedi hynny" ebe hi ymhellach, "fe wna eich tywysog yr hyn fydd oreu yn ei olwg ar y pryd."
Bore trannoeth, yr oedd cwch a dau garcharor ar goll o long Hwlffordd, ond gan mai brysio i drosglwyddo'r dywysoges i frenin Lloegr oedd amcan pennaf y Fflemin, yr oedd ei gwaed-dâl hi yn llawer mwy yn ei olwg ef na cholli dau garcharor dinod; felly, ychydig fu yr amser wastraffwyd i chwilio am danynt.
Glaniodd Dafydd ac Owain (canys dyna enwau y ddeuddyn ddihangodd) ym Mhenarth. Cysgasant y noson honno yn agos i Gastell Morlais ger Ffynnon Dydfil, a'r ail noswaith mewn ysgubor yn ymyl tre Aberhonddu. Yna, wedi croesi o honynt Fynydd Epynt, daethant i Gantref Buallt, gan gyrraedd yno erbyn yr unfed ar hugain.
Pan adroddasant yr hanes wrth y Tywysog Llywelyn, ni ynganodd efe air ar y pryd ond gwelwodd fel dyn o dan siom fwyaf ei fywyd.
Derbyniwyd y ddau i'w wasanaeth yn ol llaw, a theimlai y tywysog, er mai cludwyr newyddion drwg fuont iddo, fod eu haberth yn dangos y ffyddlondeb mwyaf; ac yn sicr nid oedd ganddynt ran na chyfran yn y telerau celyd a osododd Iorwerth arno cyn cael ei anwylyd yn rhydd drachefn.
Gwelodd Dafydd ac Owain y briodas yng Nghaer Wrangon (pan ddangosodd Iorwerth ei natur Judasaidd yn llawn), a dewiswyd hwy yn swyddogion i wylied annedd eu tywysog yn Abergwyngregin, pan dderbyniodd yr hen balas briodferch dlysaf y ddwy wlad o fewn ei byrth. Ac yn ddiweddaf oll, bu y ddau farw dros Llywelyn ger Pont Orewyn, ychydig oriau, cyn ei farwolaeth ef ei hun.
V.
Y BEIRDD TEULU.
YN Y Canol Oesoedd yr oedd i bob teulu urddasol a chyfoethog ei fardd arbennig ei hun.
Gwaith hwnnw, heblaw canu clodydd gŵr y palas, oedd bod yn athro i'w blant, ac yn geidwad ei achau, hynny yw, bod yn wybodus yn holl orffennol y teulu—yn ei enedigaethau, briodasau, a marwolaethau.
Cofier fod y prif deuluoedd y pryd hwnnw yn siarad Cymraeg, ac yn cymeryd diddordeb yn yr iaith a phopeth ynglŷn â hi.
Yn y palasau y cynhelid llawer eisteddfod, a gwahoddid iddynt feirdd yr holl randir, heb ofyn na disgwyl dim oddiwrthynt am lety, bwyd, a diod.
Dyna'r rheswm bod cymaint o ganu gan feirdd y cyfnod hwnnw i haelioni y gwahanol deuluoedd. Yn wir, treuliai ambell fardd ei holl fywyd i fyned o balas i balas, gan droi mewn hawddfyd beunydd, a chanu i bob llaw hael a'i cynhaliai ar lwybr ei fywyd crwydrol.
Bai mawr cerddi yr hen feirdd oedd hawlio gormod o rinweddau i'r bobl hael, er bod hynny yn ddiddorol inni lawer pryd, ac yn rhoi cryn oleuni ar arferion yr oesoedd o'r blaen.
A glywsoch chwi erioed am gwpan a wnai pob gwin a mêdd yfid o hono yn anfeddwol?
Credai yr hen feirdd bod y fath beth yn bosibl, a bod y rhinwedd honno yn dod o faen neilltuol a sicrheid yng ngwaelod y cwpan. Fel y gellir tybio am "ganeuon canmol" caffai y maen hwn—amethyst gan amlaf—lawer o sylw yn nisgrifiad y gwin wleddoedd.
Perthynai i Sion ap Rhys, penteulu Aberpergwm, yng Nglyn-nedd, gwpan a maen o'r fath, am y rhai y canodd hen fardd o'r Rhondda, Gwilym Tew, lawer o bethau hynod.
Ymhlith nodweddion eraill dywedai am ffurf y cwpan, "Ffiol fawr a phalf eryr"; yna am ei gynnwys, sef y gwin, "Gwrid mêl ag aur hyd y min"; ac felly ymlaen am le a lliw y maen ynddo. "Mewn i gwaelod maen go-lâs"; ac yn olaf at ei henaint, "Wrth wŷr bwrdd Arthur y bu."
Gallem feddwl fod maen gwerthfawr iawn hefyd yng ngwaelod cwpan o eiddo Syr Mathew le Soore, y Norman o Lanbedr y Fro, canys pan ddaeth Dafydd ap Gwilym yno rywbryd ar ei dro, bostiwyd wrtho bod gwaelod un o gwpanau Syr Mathew yn fwy o werth na holl gwpanau Ifor Hael gyda'i gilydd. Hyn a ddywedwyd am mai bardd teulu Ifor oedd Dafydd.
Atebodd yntau yn dra effeithiol gan gyfeirio at haelioni diarhebol ei feistr, sef, na welodd efe eto waelod un o gwpanau Ifor. Ac i wneuthur y gwahaniaeth rhwng y ddau bendefig yn fwy eglur fyth, ychwanegodd:
"Dewr a digrif yw Ifor,
Sais yw Syr Mathew le Sôr."
Yr olaf o feirdd teulu Cymru oedd Dafydd Nicolas o Aberpergwm, a wasanaethai yr un teulu parchus ag y perthynai y cwpan "maen go-lâs" y soniwyd eisoes am dano iddo. Yr oedd efe yn gerddor medrus heblaw bod yn fardd, ac efe a roddodd inni y gân enwog, "Y Deryn Pur "
Yr wyf yn sicr eich bod wedi ei chlywed, oblegid cenir hi heddyw yn y mwyafrif o'r ysgolion goreu.
Dyma fel y dechreu:

Canodd Dafydd Nicolas lawer o ganeuon eraill hefyd, ond nid dim erioed yn bertach na'r gân hon.
Bu efe farw yn 1769 o.c., ond ni fydd "Y Deryn Pur" byth farw.
VI.
LLETYGARWCH YR HEN AMSEROEDD.
"HYWEL! tyr'd hefo mi! Rhaid wrthyf dy ddyfod. Myn y sêr ymladd i'n herbyn ar hyn o bryd, ond try y rhôd eto. Tyr'd! Fe ofala Rhys dy frawd am fy ngwŷr. Awn i'r De!"
Dyna eiriau Owain Glyndwr, tywysog Cymru, i'w gyfaill Hywel Gethin, ar ol colli o hono ddwy frwydr yn Nyffryn Wysg yng nghorff yr un wythnos.
Ymgiliodd o'r golwg unwaith cyn hynny yn 1402, ond cododd ei seren drachefn yn yr un flwyddyn, a daeth ei lwyddiant yntau i'w anterth mewn canlyniad.
Gwyddai Owain y buasai helfa fawr ar ei ol trannoeth y frwydr, a chan mai ffoi i'r Gogledd y disgwyliai y gelyn iddo ei wneuthur, trodd i'r De-i safnau y llewod oedd yno yn sychedu am ei waed.
Trwy Flaen-y-Glyn ac Hepsta wele'r ddeuddyn yn cerdded, gan dynnu at Graig-y-Llyn, Pen Pych, Mynydd y Caerau, a Moelgila.
Llawer ystenaid o laeth a llawer tolc o fara ceirch gawsant ar eu taith gan wŷr y wlad. Edrychai y rhai hynny yn syn ar y ddau Gymro a siaradent ar un foment Gymraeg gloyw, ac ar foment arall iaith y cestyll.
"Mi wyddwn, Hywel, y medret y Normaneg; dyna'r rheswm y'th ddewisais. Bydd honno yn bopeth inni yn y man. Nid am ddim y buost yn Rhydychen ai ie? mwy na minnau yn llys ein harglwydd Rhisiart?
Rhisiart ddiniwed! ai byw, ai marw efe?
Ond wele, beth yw'r castell acw? Tybiaf mai y Coety ydyw. Yma mae Berclos fonheddig, onide? Berclos! rhaid i mi heno aros yn dy dŷ !"
Dyna fel y siaradai Glyndwr â'i gyfaill, gan ffug-annerch Berclos yn y diwedd, fel petai hwnnw yno yn bresennol.
Dynesasant at borth y castell, ac wedi curo, gofynodd Owain yn foesgar i'r porthor mewn Normaneg da, "A oes yma lety noson i ddeuddyn o bererindod Pen Rhys gollodd y ffordd oddiyno?"
"Oes yn sicr," meddai Berclos, gan glywed y gofyniad a dyfod ymlaen. "Dewch i mewn!" I mewn yr awd, lluniaeth a roddwyd, a siarad yn gyfeillgar fu.
"Blin gennyf nad gwell y ddarpariaeth," ebe'r Norman bonheddig, "ond mae 'ngwŷr allan yn dàl y gwalch Owain Glyndwr sydd yn yr ardal, meddir."
"Eisiau dàl y cenaw hwnnw," ebe'r dieithr-ddyn. "Arhoswch ddiwrnod, chwi a'i gwelwch," ebe'r llall drachefn. "Ni bydd hir cyn ei ddal â'i sawdl i fyny."
Yna bu hir ymgom a datganiad o hoffter y naill at y llall. Yna noson arall a bore newydd. "Rhaid mynd bellach," meddai'r pererin.
"Arhoswch eto ddiwrnod," meddai'r castellydd, "byddwn yn sicr o gael Glyndwr i mewn heddyw."
Yna ni allodd y gwron ddàl yn hwy. Ebe fe: "Y mae Owain Glyndwr yn gosod ei law yn llaw Syr Lorens Berclos mewn cyfeillgarwch pur, ac yn diolch iddo am ei groeso tywysogaidd. Byddwch wych! yn iach, Syr Lorens!"
Cymaint oedd syndod y pendefig, fel nad ynganodd air. Trodd ei wyneb tua'i gastell a gadawodd i'w ymwelydd ymadael mewn heddwch.
Yr oedd wedi bwyta o'i fara.
VII.
Y CYMRO BERERIN.
YN ymyl y dyfr-gwymp anferth ar afon Mellte, yng nghyrrau pellaf Dyffryn Nedd, saif tyddyn hen iawn a elwir eto wrth yr un enw ag y'i gelwid lawer canrif yn ol, sef Gwern Bleiddiau. Allan o hono aeth llawer cenhedlaeth fechgyn i ymladd dros eu gwlad a'u tywysog, cyn bod sôn am y khaki, na chot goch ychwaith.
Ni wyddai ein cyndeidiau y foment y deuai gelyn ar eu traws, ac felly, eu dillad gwaith oedd eu dillad ymladd hefyd; a phan roddent y cryman, y ffust, neu'r pladur o'u llaw, nid oedd ond cymeryd y cleddyf, y bicell, neu y bwa a'r saethau yn eu lle.
Rhaid cofio bod i bob tyddyn yn yr amser hwnnw ddau dŷ, y gaeaf-dre, neu hendre, yn yr iseldir, a'r lluest neu haf-dre yn yr ucheldir. Amcan yr hafdy oedd cael bod yn agos i'r gwartheg i'w gwylied a'u godro pan borent yr uchel leoedd ar hirddydd haf, ac i wneuthur y caws a'r ymenyn ynddo yn hytrach na chludo y llaeth yr holl ffordd i'r dyffryn.
Yn y dyddiau y soniaf am danynt, sef tua saith canrif yn ol, gwaith Ithel ap Ievan, ail fab Gwern Bleiddiau, oedd gofalu, bob yn ail â'i frawd, am wartheg y lluest, sef yr hafdy lle cadwai ei dad saith o honynt i bori godreon y Fân.
Rhaid cyfaddef nad oedd Ithel yn hoff o'r gwaith. Lle unig iawn oedd y lluest, a gwell o lawer gan y llanc oedd ymarfer ag arfau, fel y gallai, ryw ddydd, ddangos ei fedr o flaen torf.
Bu ei hen daid allan yn nhymor ei ieuenctid gyda Morgan Gam, a Llywelyn Fawr, pan dorrwyd Castell Nedd gan y Cymry; a chreodd yr hanes, oedd yn draddodiad teulu erbyn hyn, yn rhinwedd adroddiad mynych ar barth pridd y tyddyn, ysfa angherddol yn Ithel i weled y byd tu allan.
Gwelai y môr yn ddyddiol oddiar lechwedd y Fàn, ond beth dalai ei weled o bell i lanc fel efe? A beth oedd yng Ngwern Bleiddiau a'r lluest i'w gadw yno? Dim ond un dydd llwyd fel y llall a bwyta bara segur, oblegid gallasai ei frodyr iau wneuthur ei waith ef cystal ag yntau. Yn sicr, nid arhosai i rydu ar lan Mellte holl ddyddiau ei fywyd pan gynygiai y cestyll a'r llongau bopeth i fachgen anturiaethus fel efe.
Ar hynny, gloywodd yn fanwl iawn y cledd nad elai byth i unman hebddo, a disgwyliodd yn anamyneddgar iawn am ddiwedd yr wythnos, pan ddelai ei frawd Rhydderch i newid ag ef a chymeryd gofal y lluest am yr wythnos ddyfodol yn ol arferiad y tyddynnoedd.
Pan ddaeth hwnnw, dywedodd Ithel yn ddioedi wrtho ei fod yn mynd i ffwrdd, ac y byddai iddo hysbysu hynny i'w rieni pan elai i'r hendre drachefn. Wedi cysuro ei frawd bach, ac addaw iddo bethau mawr ar ei ddychweliad, aeth Ithel dros y rhos i'r gorllewin, ac wedi ei thramwyo am beth amser, tarawodd ar briffordd y blaenau-Y Sarn Helen-a’i harweiniai i ardal y cestyll.
Ar ei ffordd ni chyfarfu â neb nes ei ddisgyn i'r dyffryn ger aber y Ddylais. Yna gwelodd ŵr yn cwympo coed, arall yn aredig, a thrydydd yn pysgota.
O weled pennau y tri wedi eu heillio gwyddai mai mynachod oeddynt, a'i fod ef yn awr yn nesu at Fonachlog Fawr Nedd, am harddwch yr hon y clywodd gymaint gan bawb a'i gwelsant.
Tuag yno, yn wir, yr oedd ei gyfeiriad cyntaf, nid am fod ynddo awydd troi yn fynach, ond am mai yr abaty oedd yr unig fan y gwyddai y cawsai noswyl diogel a rhad.
Yr oedd weithian yn hwyrhau ac yntau eto gryn bellter o'r lle.
Wrth brysuro ymlaen yn y cyfnos, gwelodd eglwys rhyngddo a'r afon, a phan ar ei chyfer wele hen ddyn, urddasol yr olwg arno, ar fedr cloi y glwyd fawr dros y nos.
Wrth weled golwg luddedig Ithel dywedodd mewn goslef caredig, "Yr ydwyt wedi dyfod ffordd bell, fy mab, ac y mae y nos bron dy ddal. Onid gwell iti aros yma heno a mynd i'th daith gyda'r wawr?"
"Gwir, O dad," ebe Ithel, a chyda hynny trodd i'r llan.
"Diosg dy gledd, fy mab!" ebe'r hen ŵr drachefn. Dim ond hedd yn unig breswylia yn Sant Giles."
Yna y gwybu Ithel mai yng nghapel y pererinion yr oedd, ac ufuddhaodd ar unwaith.
Wedi mynd o hono i mewn i'r neuadd, gwelodd ryw ugain o ddynion yn ddiwyd yn golchi eu traed, a phan gafodd yntau lestr dwfr gwnaeth yntau yr un peth. Yna cafwyd lluniaeth syml a siarad cyffredin pan y datguddiwyd bod amryw o'r cwmni ar bererindod i Ben-Rhys, Rhondda, ac yn bwriadu cyrchu yno dros Graig-y-Llyn drannoeth. Aros y balinger yr oedd eraill i fyny'r afon, i'w cymeryd lawer ymhellach, sef dros y môr i Sant Iago yn yr Ysbaen, i'r lle cysegredig yno.
Bwriad Ithel oedd cynnyg ei hun a'i gledd i wasanaeth Arglwydd Afan, canys Cymry i gyd oedd yno, ac nid Normaniaid fel yng Nghastell Nedd ac Abertawe.
Gyda'r llanw yn y bore wele'r balinger ger y làn wrth yr eglwys, a'r pererinion fel un gŵr yn tyrru i'w hymyl.
Rhifwyd y rhai arfaethent forio i Sant Iago, ac aethant ar y bwrdd. Yna gofynnodd y capten a oedd rhagor. Edrychodd i gyfeiriad Ithel gan ryw gredu mai pererin oedd yntau hefyd, am na welai ei gledd gan amledd y dyrfa. Ac ebe fe wrtho, "Nawr, machgen i, dyma dy gyfle am heddwch bythol!"
Ar hyn neshaodd Ithel ato i ymyl y llong ac a ddywedodd yn ddistaw mewn atebiad, "Nid oes gennyf arian i dalu fy nghludiad, ond os ydyw dwy fraich na phrofodd ddim ond gwaith caled erioed yn gyfartal i hynny, y fi yw eich dyn."
"Neidia i'r bwrdd!" ebe'r capten, ac yn y man rhestrwyd y llanc Cymreig fel un o'r dwylo.
Yn fuan wedyn hwyliodd y llong yn ei hol i lawr i'r afon, a chan adael Llansawel ar y chwith, ymsaethodd allan i Fôr Hafren.
Ni fedrodd Ithel weithio ond ychydig am y deuddydd cyntaf. Yr oedd popeth mor ddieithr iddo, a mwy na'r oll, yr oedd, fel y rhelyw o'r newyddiaid ar y bwrdd, yn sâl iawn gan glefyd y môr. Ond ymhen deuddydd arall gweithiai yn egnïol, a dysgai rywbeth newydd o grefft y morwr yn barhaus.
Yr oedd y llong erbyn hyn allan o'r cul-foroedd ac yn hwylio y cefnfor llydan. Edrychai y pererinion ymlaen at gyrraedd y làn mewn ychydig amser, pan yn sydyn cododd gwynt nerthol o'r gogledd-orllewin.
Digwyddai ar y pryd bod yr hwylbrennau yn cario yr holl hwyliau oedd yn bosibl iddynt, ac o herwydd hynny, taflwyd y llong ar ei hochr.
Yna y bu gwaeddi mawr, y capten a'r dwylo gan brysurdeb eu gwaith, a'r pererinion gan eu hofnau. Y foment nesaf torrodd yr hwylbren mwyaf, a thaflwyd y llestr yn gwbl ar drugaredd y môr. Trwy y nos chwythwyd hi o flaen y gwynt, a phan ddaeth y bore, taflwyd hi gan y tonnau ar draeth tywodlyd. Bu llawer o'r pererinion foddi ynghyd â rhai o'r dwylo, yn eu hymdrech i gyrraedd y tir; ond cyrhaeddodd y gweddill, ac yn eu plith y capten ac Ithel, y làn yn ddiogel. Daeth y brodorion atynt, ac a roisant iddynt ymgeledd. Gwybuwyd mai ar dir Guienne yr oeddent, ac hefyd bod y Tywysog Du o Loegr yno ar y pryd. Pan glywodd efe mai deiliaid ei dad oedd yr anffodusion, dangosodd iddynt garedigrwydd nid bychan.
Ymhen rhai wythnosau ymunodd Ithel â byddin y tywysog, ac ymladdodd drosto yn Poictiers a mannau eraill. Ni ddaeth yn ol i'w wlad am saith mlynedd, a phan gyrhaeddodd ei gartref ymhen yr amser hwnnw, gwybu farw o'i dad a dau o'i frodyr yn y rhyfeloedd yng Nghymru.
Bu yn gefn i'w fam, a phan fu hithau farw, priododd ef un o ferched y wlad, a bu gan ei blant gymaint o sôn yn yr hen Wern Bleiddiau am Poictiers a'r Tywysog Du ag a fu am Gastell Nedd a Llywelyn Fawr gan eu tad a'u taid.VIII.
COLYN DOLFFYN.
A YDYCH erioed wedi meddwl enwoced yw Môr Hafren yn hanes Cymru a Lloegr?
Drosto y daeth y Llu Du o Ddenmarc a Llychlyn i feddiannu y traeth bron yn llwyr o Gaerdydd i Benfro. Drosto hefyd, gan lanio ym Mhorthceri, y daeth Rhobert Fitzhamon i oresgyn Morgannwg. Ar ynys y Steepholm yr ymguddiodd Edith Swan's Neck ar ol colli ei chariad, Harallt yr Ail o Loegr, ym mrwydr waedlyd Hastings, yn 1066; ac i fyny'r culfor y ceisiodd Elinor de Montfort gyrraedd ei chariad hithau, Llywelyn ein Llyw Olaf, pan hwyliodd hi yma o Ffrainc.
Pennod hir hefyd yw hanes ei fôr-ladron, ac at un o'r rhei'ny y cyfeiriwn yn awr, sef, Colyn Dolffyn. Brodor o Lydaw oedd ef, ac felly 'roedd o'r un waed a ninnau.
Nid Dolffyn oedd ei enw priodol, ond yr un a gymerodd efe oddiwrth yr anifail chwareus hwnnw sydd yn y môr. Hynod iawn bod yr un enw, Dauphin, wedi ei roddi i fab hynaf brenin Ffrainc, hefyd.
Ond pwy bynnag oedd frenin y tir, Colyn Dolffyn, yn ei ddydd, oedd frenin y môr o Lydaw i'r Alban, canys nid oedd arno ofn neb, ac ni phetrusai ysbeilio llongau Lloegr, Cymru, a Ffrainc oll fel ei gilydd. Yr oedd ganddo ddeucant o wŷr a ufuddhaent i'w orchymyn ef ymhob peth, a thrwy ddewrder a difrawder y rhai hyn, gwnaeth efe lawer o ddifrod ar fasnach y gwledydd.
Er iddo ladd lliaws o forwyr gonest, nid lladd oedd ei brif amcan, ond ysbeilio, a phe daliasai efe rywun cyfoethog, ni ollyngai ef yn rhydd hyd oni thalai swm mawr yn bridwerth.
Y teulu cyfoethocaf ar làn Môr Hafren yn yr oes honno oedd y Stradlingiaid o Landdunwyd, ac heblaw meddu tir lawer ym Morgannwg a'r cyffiniau, yr oedd ganddynt ystâd eang yng Ngwlad yr Haf. Gan fod y sir honno gyferbyn â Morgannwg ar yr ochr arall i Fôr Hafren, hwyliai aelodau y teulu hwn yn fynych o'r naill draeth i'r llall, a gwyddai Colyn Dolffyn hynny.
Digwyddodd, pan oedd ar y môr-leidr brinder arian, iddo wylied Llanddunwyd yn fanwl; ac un diwrnod, pan oedd Syr Harri Stradling a'i heliwr yn dychwelyd o helfa hwnt i'r culfor iddo ddal y ddau.
Parodd hynny ofn a gofid mawr trwy Forgannwg, gan y tybid bod Colyn wedi lladd y meistr a'r gwas. Ond nid eu lladd oedd ei fwriad, a rhoddwyd ar ddeall yn fuan y gellid cael rhyddid i Syr Harri am ddwy fil o forciau, a'r un peth i'r heliwr am ddeucant.
Gwerthwyd dwy faenor o eiddo y marchog yn swydd Rhydychen, Tregwilym (ger Maesaleg, ym Mynwy), a Maenor Sutton ym Mro Morgan- nwg, i gael digon o arian parod i dalu gofynion Colyn, ac wedi eu cyflwyno iddo cafodd y ddau garcharor eu rhyddid.
Wedi hyn, buwyd yn ofalus iawn wrth fordwyo Môr Hafren i wylio symudiadau pob llong ddieithr ddeuai i fyny o'r gorwel. Ond er hynny i gyd parhau i ddal teithwyr yn awr ac yn y man a wnai y lleidr, hyd nes y daeth ei ddiwedd yntau.
Un bore ystormus, gwelai pobl y traeth o gylch y Nash lestr mawr wedi mynd yn ddrylliau ar Graig y Tuscar yn ystod y nos. Gwelent hefyd lawer o'r dwylo, o bryd i'w gilydd, yn ceisio nofio i'r làn trwy y tonnau erchyll, ond boddi a wnaeth pob un gydag eithrio un dyn cawraidd a ymladdodd â'r dilyw fel un hanner gwallgof.
Cyrhaeddodd hwnnw dir, ond nid cynt ag y cafodd ddaear dan ei draed nag y llewygodd yn y fan, a chariwyd ef i fyny i'r castell.
Pan yn agoshau at y porth, cyferfu Hywel yr Heliwr â'r dorf a'i cariai, ac wedi cael un drem ar y morwr dywedodd yn bendant mai Colyn Dolffyn ei hun ydoedd.
Wrth glywed ei enwi, a gweled yr heliwr a fu gynt yn ei grafangau, yn ei ymyl, llidiodd y lleidr yn fawr, a chan neidio at Hywel, bu ymron â'i dagu yn eu canol hwynt oll.
Trodd hyn yr edmygedd ohono ar gyfrif ei frwydr ddewr â'r tonnau yn atgof am ei aml ddrwg-weithredoedd, ac wedi ei rwymo yn ddiogel, dygwyd ef o flaen Syr Harri, a thraddodwyd ef i gell sicraf y castell i aros ei dynged.
Ymhen tridiau, cynhullodd y marchog nifer o fonedd Morgannwg i Landdunwyd, ac wedi prawf teg, dedfrydwyd Colyn i'w grogi y noson honno. Crogwyd ef ar fur y castell yng ngŵydd yr holl wlad oddiamgylch, er i'r mor-leidr wneuthur ymgais i ladd y dienyddiwr yn y modd ag y gwnaeth â'r heliwr pan gariwyd ef i'r castell gyntaf.
A'i gorff eto yn hongian, wele ddynes, wyllt ei gwedd, yn rhuthre drwy y dorf, ac wedi llefaru rhyw eiriau annealladwy mewn llais uchel, diflannodd. Wrth glywed ei sain erchyll, ymgroesodd pawb oedd yn bresennol, canys hwy a'i hadnabuent hi fel Mallt y Nos, dynes a dybid drwy yr holl ardal o fod yn dàl cymdeithas â'r Un Drwg.
Yn hynod iawn, ni welwyd byth mohoni wedyn yn fyw, er y credir eto ei bod yn ymweled â'r lle ar bob noson ystormus, a'i bod y pryd hwnnw yn cynneu rhyw dân dieithr ar Graig y Tuscar i ddenu morwyr i'w dinistr.
Bu cryn helynt gan y Brenin Harri y Chweched a'i swyddogion am grogi Coiyn Dolffyn yn Llanddunwyd, ac o'r braidd dihangodd Syr Harri Stradling heb gosb am gymeryd o hono y gyfraith i'w law ei hun.
Nid y Llydawwr oedd lleidr olaf Môr Hafren, oherwydd, yn amser y Frenhines Bess, apwyntiodd y llywodraeth Stradling arall i wylied y culfor rhag môr-ladron ei oes ef, a dywedir iddo grogi cymaint a saith o honynt gyda'i gilydd yn y man y crogodd ei hynafiad Golyn Dolffyn ar y mur.
IX.
EGLWYS A PHERSONIAID BLAENGWRACH.
UN o'r dynion goreu fagodd Cymru erioed oedd yr Esgob William Morgan, y gŵr mawr hwnnw a drodd yr Ysgrythur Lân o'r ieithoedd yr ysgrifennwyd hi gyntaf i'r Gymraeg.
Gogleddwr oedd efe, ond y mae gan y De ran yn ei fywyd hefyd, canys bu am dymor yn Esgob Llandâf.
Pan yn dàl y swydd urddasol honno, digwyddodd un peth yn ei fywyd ag y mae dau le o leiaf yn falch o hono hyd heddyw.
Dyma fel y bu. Yr oedd Plwyf Glyncorrwg, yn yr amser neilltuol hwnnw, yn cyrraedd i ddau gwm, Gwrach a Chorrwg, gyda mynydd maith, anial rhyngddynt. Gan mai un eglwys yn unig oedd yn y plwyf, a honno ym mhentre Glyncorrwg, rhaid oedd i bobl Cwmgwrach gerdded y mynydd serth i'w chyrchu neu bod heb wasanaeth eglwysig o gwbl.
Wrth weled blinder y daith, a phellter y ffordd, penderfynodd gŵr bonheddig ieuanc, sef Mr. George Williams o Faglan ac Aberpergwm adeiladu, ar ei draul ei hun, eglwys newydd i blwyfolion Cwmgwrach pe caniateid iddo wneuthur hynny.
Yr un allasai roddi y caniatâd gofynnol iddo oedd Esgob Llandâf, a digwyddai mai Dr. Morgan y Beiblau oedd y gŵr a lenwai'r swydd honno ar y pryd.
I wneuthur y cais, mabwysiadodd yr ysgweier ieuanc gynllun sy'n edrych dipyn yn hynod i ni, ond nad oedd yn hynod o gwbl yn yr oes honno, sef gofyn ar gân, hynny yw, gwneuthur darn o farddoniaeth i adrodd yr hanes ac i gynnwys y cais.
Un o'r beirdd goreu a adwaenai Mr. Williams oedd un Sion Mawddwy, a hwnnw a wnaeth y cywydd gofyn drosto.
Beth feddyliech chwi oedd gwaith Sion Mawddwy pan wrth ei grefft? Pe ceisiech ddyfalu, byddech yn hir cyn rhoddi yr ateb. cywir, canys tincer ydoedd. Yr wyf yn sicr y cofiwch chwithau ar hyn am dincer enwog arall, sef John Bunyan o Bedford, a ysgrifennodd "Daith y Pererin."
Ni wyddom pa fath dincer oedd Sion gyda'i lestri alcan, ond gwyddom ei fod yn fardd da, oblegid y mae y "cywydd gofyn" eto ar gael.
Rhy faith yw ei osod yma ar ei hyd, heblaw ei fod yn afrwydd mewn mannau, ond efallai y deallwch rai o'i linellau.
Wele hwynt, gan ddechreu gyda sôn am waith mawr yr Esgob fel cyfieithydd:
Llawn dawn call nod a enwaf,
Llawn dysg wyd Esgob Llandâf."
****
Goleunod awdur glanwaith,
Goleuaist, neddaist ein hiaith,
O Roeg ac Ebryw hygwbl,
A Lladin call, dawn y cwbl,
Troest y ddau Destment trostynt
Yn Gymraeg hoywdeg hynt."
****
"I'n dwyn i gyd, enwog Iôn,
O dywyllwg rhai deillion.'
Yna, yn nês ymlaen yn y cywydd, sonia am Mr. George Williams wrth ei enw:
"O Forgannwg fawr gynnydd
Aer Blaen Baglan harddlun hydd,
Siars hael hwn yw Siors Wiliam,
Sad Nudd, gwaed Iestin di nam.
Ysgweier hael wisg aur rhwydd
Fawrglod a'th annerch f'arglwydd."
****
Wedyn, dywed am y ffordd arw i'r eglwys, a'r anhawster i'w cherdded tuag yno:
Hir yw ffordd hwn, bryttwn bro,
Hyd i'r Eglwys i dreiglo.
A'r gauaf yn dragywydd
Iôr i'r doeth pan oero'r dydd."
"O Lynn Nedd lawen wiwddawn
I Lynn Corrwg amlwg iawn.”
Fel y buesid yn tybio, rhoddodd yr Esgob Morgan y caniatâd yn galonnog; adeiladwyd eglwys newydd, a bu Glyncorrwg a Blaengwrach am genedlaethau wedyn o dan ofal yr un offeiriaid.
Mewn oes ddiweddarach, bu agos i un o'r rhai hyn golli ei fywyd mewn niwl ar y mynydd, ac er mwyn osgoi y fath berigl drachefn, cloddiodd gwter fawr i'w dilyn o'r naill le i'r llall. Erys y gwter eto yn ymyl y llwybr, a'i henw yw "Ffos y Ffeirad."
Un arall o'r clerigwyr oedd " Y Ffeirad Coch o'r Ystrad," dyn mawr, cryf, esgyrnog, a weinyddai nid yn unig yng Nghwm y Rhondda ond ym Mlaengwrach a Glyncorrwg hefyd. Yn ei amser ef, tua chanol y ddeunawfed ganrif, yr oedd lladron pen-ffordd Craig-y-Ddinas yn ddychryn i'r wlad.

Aeth un o'r rhain min hwyr i gyfarfod y "Ffeirad Coch" ar ei ddychweliad o erchwyn gwely claf. Cydiodd yn ffrwyn ei geffyl gan hawlio arian neu fywyd y person. Ni chafodd yr un o honynt, oblegid tarawodd y
"Ffeirad Coch" ef â'i ffon ar ei ben gyda'r fath nerth fel ag i'w ladd ag un ergyd.
Pan welodd efe fod y lleidr yn hollol farw cododd y corff, fel pe bai sypyn o O wair neu sachaid o yd, o'i flaen ar y ceffyl; a phan gyrhaeddodd dŷ yr ustus agosaf, taflodd y baich ofnadwy i lawr o flaen hwnnw gan ddywedyd, "Dyma fe! mi a'i tarewais o'm bodd, ond mi a'i lleddais o'm hanfodd!"
X
MAB Y BARDD.
"NHAD! mae Aberafan yn un cyffro drwyddo heddyw !"
Beth sy'n bod?
"Llawer sy'n bod! Gwyddoch i Lywydd y Pengryniaid fynd heibio yma y ddoe. Arhosodd yn y dre; mynnai ein bod wedi helpu ei elynion, ac am hynny dywedai mai pentre difreiniol fyddai Aberafan byth mwy."
"A gafodd efe y freinlen?"
Naddo! Bu chwilio mawr am dani, ond methwyd ei chael, ac er gwasgu yr hen bortrif yn dost, gwrthododd yngan gair yn ei chylch, ac aeth ymlaen i hollti coed ar y boncyff fel pe bai na Senedd na Chromwel yn y byd."
"Glew iawn y portrif! Beth wedyn?
Ymadawodd y milwyr a'u capten gyda hwy. Cymaint oedd eu brys i ddal Poyer a'i gyfeillion fel yr anghofiasant gosbi y portrif fel yr oeddent wedi bygwth."
Druan o Poyer! o hyd o flaen y 'storm!" Yna gan droi at ei fachgen:
Dafydd rhaid iti, heb golli amser, gymeryd y cwch a chyrchu Aberdaugleddau i'w rybuddio. Byddi yno dridiau cyn cyrraedd o'r Pengrwn hyll gastell Penfro. Rho fy nghofion i Poyer, a dŵed wrtho bod Edwart Dafydd yn ffyddlon."
Edwart Dafydd oedd fardd mawr Margam, a gelyn pobun ddygai arf yn erbyn y brenin. Dafydd y mab a aeth, cafodd hinon ac awel ar y daith, a chyrchodd Benfro yn brydlon. Wedi gweled y milwriad hysbysodd i hwnnw fod Cromwel ei hun ar y ffordd tuag ato, ac o hynny paratowyd y Castell yn seithmwy nag arfer mewn ymborth a dwfr.
Y gwarchae ddaeth, serch hynny, a pharhaodd mor hir fel y collodd Cromwel arno ei hun yn lân. Pan ildiodd yr amddiffynwyr yn y diwedd, mynnai ef saethu yr oll.
"Na!" meddai ei swyddogion, "pe ein lle ni fyddai eu lle hwy, oni wnaem ninnau yr un modd? Gadawer i'r Senedd benderfynu eu tynged."
Hynny a wnaed. Daeth Dafydd yn rhydd, ond cymerwyd y Milwriad Poyer, ynghyd â Laugharne ac Ap Hywel yn garcharorion i Lundain.
Glynodd Dafydd wrth y fintai bob cam gan haeru mai gwas y Milwriad Poyer oedd efe, ac y mynnai ei ddilyn i bobman, deued a ddêl. Cafodd, am ei daerineb, weini ar y Milwriad, er cysur mawr i hwnnw ar y daith.
Wedi cyrraedd y brif-ddinas nid hir y bu'r Senedd cyn penderfynu tynged y tri milwriad. Yr oedd un i farw, a'r ddau arall i gael eu bywydau.
Bwrw coelbren a fu trwy dynnu papur allan o gapan milwr, a galwyd merch fechan ddall i wneuthur hynny o orchwyl. Glywch chwi y swyddog? Dyma fel y bu—"Laugharne!" (yna hyhi yn tynnu allan bapur a'r swyddog yn ei ddarllen): "Bywyd wedi ei roddi gan Dduw."
"Powel!" (eto yr un modd): "Bywyd wedi ei roddi gan Dduw."
"Poyer!" "Dim."
Gwelodd y Milwriad Poyer mai efe oedd i farw. Cerddodd at y mur cyfagos, trodd ei gefn arno, ac wynebodd y cwmni.
"Parod!" ebe fe.
Ar hyn, wele swyddog Seisnig yn nesu ato, a chadach yn ei law i'w gylymu tros lygaid y condemniedig.
"Y cyfaill," ebe'r milwriad wrtho yn fwyn, "syllais ormod o weithiau i wyneb angau i'w ofni yn awr."
"Parod!" ebe fe drachefn.
"Taniwch!" ebe'r swyddog cyntaf wrth y milwyr. Gwnaethant hynny ar amrantiad, ac o'u blaen yn gelain syrthiodd un o'r Cymry dewraf aeth i faes câd erioed.
XI.
"FOX AND HOUNDS."
YN rhandir mynyddig Sir Forgannwg preswylia ambell deulu hynafol sydd wedi trigiannu yn yr un ffermdy am lawer canrif. Eiddynt hwy y tir trin yn y cymoedd, a'r arosfeydd bortha filoedd o'u defaid ar y llethrau. O feddu wyneb y ddaear, eiddynt hwy hefyd oedd y glo anhysbydd lechai dan eu traed oddiar oesau y cynfyd.
Pan ddechreuwyd gweithio y glo, daethant yn gyfoethog mewn "arian parod" yn ychwanegol at y cyfoeth o dda a defaid a feddent cyn hynny. Eu prif ddifyrrwch oedd hela y cadno a'r ysgyfarnog, neu "y coch mawr" a'r "coch bach" fel y galwent hwynt yn eu dull chwareus. I'r perwyl o hela cadwent genelau o gŵn, a byd yr helwriaeth oedd eu pennaf siarad ar bob rhyw bryd.
Un o'r teuluoedd hyn oedd y Jenkinsiaid o'r Gelli, Llangynwyd, ac un arall oedd Jenkinsiaid Llanharan uwchben y Fro. Helwyr cedyrn oeddent oll, a mynych y gwnaent gyfuno eu cenelau am ddiwrnod cyfan o hela gyda'i gilydd.
"Mishtir!" ebe Meredydd, bugail y Gelli, un pen bore, "'rwy'n cretu y gwn am deulu o genddi bach yn y Graig ar war Coetcae Ffyrch."
"Paid â gweud, bachgan! Wyt ti'n siwr?"
"Eitha siwr, mishtir, neu dewch làn y'ch hunan i weld."
I fyny aeth yr Ysgweier, ac wedi twrio ychydig i ddod o hyd iddynt, cawsant bum canddo ieuanc yno'n chwarae ar lawr yr ogof fel cathod bychain. Aethpwyd â hwy i lawr i Blas y Gelli, a mawr fu yr edmygu arnynt ynghyd â llawer o sôn am genddi eraill yn amser y tadau.
"Meredydd!" ebe ei feistr bore trannoeth, "beth pe baet yn mynd ag un o'r cenddi bach i Sgweiar Llanharan. Dim ond i ti fynd oddiar frecwast ti elli fod yn ol cyn nos."
"O'r gore, mishtir, fe af ar unwaith, ac y mae'n argo'li tywydd teg."
Nid mor deg ychwaith, oblegid pan groesodd Meredydd y Foel Gila tua chanol dydd yr oedd yn boeth iawn, a'i syched yntau o ganlyniad yn mynd yn fwy.
Pan ddaeth i Frynmenyn, yno gerbron ei lygaid yr oedd arwydd gwesty y "Fox and Hounds" yn dywedyd yn eglur bod yno ddar—pariaeth ar gyfer dyn ac anifail. "Eitha peth," ebe yntau, dyma'r dyn beth bynnag, a dyma'r anifail hefyd gan wasgu y cwd a gariai y llwynog bychan. Ha! ha! Fox and Hounds hi heddy', ta beth."
I mewn yr aeth a'r cwd o dan ei gesail.
"Peint o ddiod, 'sglyddwch yn dda!" ebe fe wrth feistres y tŷ, a phan ddaeth y cwrw i'r bwrdd yfodd ef i gyd "ar ei ben."
"Un arall, 'sglyddwch yn dda," ebe fe drachefn, "ma'n bo'th ffyrnig heddy."
Pan yn dechreu yfed yr ail beint sylwodd fod yn yr ystafell dri o lowyr yn yfed fel yntau pob un ei beint. Cyn bod ail fesur Meredydd wedi ei yfed i'r hanner yr oedd efe a'r glowyr mewn ysgwrs fawr yn dadleu ar ragoriaethau cŵn.
"Sôn am greatur," meddai Meredydd, "wetwch chi ddim ar dri chynnyg beth sydd yn y cwtyn hyn!' Cwningen," atebai un; "Perchyll," ebe'r ail; Cilog giam!" mentrair trydydd.
"Fflat, bob un!" chwarddai'r bugail yn iachus.
"Canddo bach, boys, a hwnnw i 'Sgweiar Llanharan. 'Rwy'n right am hannar coron o leia' heddy', boys!"
Galwyd am beint arall yn "iechyd da" i'r hanner coron coron disgwyliedig, ac erbyn hyn Meredydd oedd yr awdurdod uchaf ar gi yn yr holl wlad, y goreu ei farn, a'r craffaf ei lygad. Ond nid oedd ei lygad yn ddigon craff, serch hynny, neu fe sylwai ar un o'r "boys" (ys dywedai efe) yn dwyn cwd y canddo yn llechwraidd i'r gegin tu ol i'w hystafell hwy. Yno tynnodd allan yn frysiog y canddo bach, ac a'i gosododd yng nghypwrdd y gegin, tra'r foment nesaf ymaflodd mewn gwrcath mawr du a gysgai yn ochr y tân, ac a'i gwthiodd i le'r canddo, gan fyned i fyny ystafell yr yfed o'r tu ol i Feredydd a gosod y cwd yn ei le yno fel pe bai dim wedi digwydd.
"Da bo'ch, boys!" ebai'r awdurdod mawr ar gŵn, wedi iddo yfed ei beint i'r gwaelod. Bydd y 'Sgweiar yn falch, rwy'n siwr. Nid pob dydd y caiff bresant fel hwn." "Nage'n wir," meddai gwalch y gegin.
Ni fyddai Meredydd agos mor llon ei ymadawiad pe gwyddai mai cwrcyn oedd dan ei gesail yn mynd allan, neu pe gallai glywed y chwerthin mawr yn y Fox and Hounds y munudau nesaf.
"Dydd da, 'Sgweiar!" ebe fe wedi cyrraedd Plas Llanharan.
"Hylo, Meredydd, chi sy' 'na? Shwd ma' nhw yn y Gelli?"
"Eitha da, syr, diolch i chi, ac ma' mishtir wedi'm hala i â chanddo bach i chi o Graig Coetcae Ffyrch."
"Da iawn, Meredydd, dewch i ni ga'l 'i weld !"
"Munud fach, Syr, i fi ga'l datrys y clwm cas yma, ac yna fe welwch berted canddo bach a welsoch â'ch llygaid yrioed."
Ar hyn, allan y neidiodd gwrcath du mawr tra Meredydd, â'i ben ar agor ond heb allu yngan gair, ymron llewygu mewn syndod.
"Ewch 'nol, Meredydd, ma' rhywun wedi g'neud ffwl â chi!"
"Af yn wir, syr, ac fe weta wrth mishtir beth wy'n feddwl am dano yn shimplo ei hen was fel hyn. Ac fe 'weta racor wrthoch chi, fe af â'r cwrcyn yn ol bob cam, i dowli idd 'i ddannadd a, rhag cwiddyl iddo!"
Pan ddaeth Meredydd i gyfer y Fox and Hounds ar ei daith yn ol, teimlai y gwnai peint arall fyd o ddaioni iddo cyn "cymeryd y mynydd." Felly i mewn yr aeth, ac fel y digwyddodd yr oedd yr un cwmni yno eto. Ati yr aeth ar unwaith i adrodd yr helynt, a mawr oedd y cydymdeimlad o herwydd ei sarhad gan ei feistr, ac nid y lleiaf ei deimlad oedd y gwalch a wnaeth y drwg i gyd.
Ni rwystrodd hynny ef, fodd bynnag, i wylied ei gyfle i ddwyn y cwd drachefn, a mynd i'r gegin gan dynnu allan yn awr y gwrcath yn frysiog, gosod y canddo yn ei le, ac adfer y cwd i ymyl Meredydd unwaith eto.
Digon diflas y cododd y bugail i'r mynydd a'i wyneb tuag adre, a phan y byddai unrhyw gyffro yn y sach o dan ei gesail, llawer cernod gafodd y llwynog diniwed dan y dybiaeth mai y gwreath oedd. Po nesaf y deuai yr hen was at y Gelli, poethaf i gyd yr elai ei dymer.
"B'le ma' mishtir?" ebe fe'n wyllt wrth Mali'r forwyn pan gyrhaeddodd y trothwy.
Meredydd bach!" ebe honno wrth weld ei olwg gynhyrfus" be' sy'n bod?"
B'le ma' mishtir?" meddai yntau mewn llais mwy awdurdodol fyth.
Wrth y 'scupor," atebai hithau yn ofnus, ond dewch i chi ga'l lletwated o gawl—ma'n siwr fod 'i isha fa arnoch chi."
Ni chymerodd arno ei chlywed, ond hwnt ag ef at yr ysgubor pan welodd ei feistr yn dyfod i'w gyfarfod. Cyn bod hwnnw wedi cael cyfle i siarad taflodd Meredydd y cwd wrth ei draed, a dywedodd mewn llais sarrug, "Mishtir! ar ol ucian mlynadd yn fucal y Gelli o danoch chi a'ch tad dyma fi'n 'matal â chi."
"Matal! Am beth, Meredydd?"
"Am y'n shimplo, Syr!—a nid dicon i'n shimplo i yma, ond y'm hala, yn hen ddyn, dros y mynydd i 'neud ffwl o hano' i o flân 'Sgweiar Llanharan!"
"Shimplo! G'neud ffwl! beth sy' arnot ti'r dyn? Dangos dy feddwl!"
"G'naf, Syr, mewn eiliad—'drychwch beth a halsoch gyda fi yn lle canddo at 'Sgweiar Jenkins!"—ar hyn plygodd i agor y sach, a thynnodd allan— y canddo bach!
"Mishtir! Mishtir! maddeuwch i fi, Syr, ond fe gym'ra'n llw mai dyma'r creatur oda' ar ddaear Duw yn ganddo yn y Gelli, ond yn gwrcyn yn Llanharan."
Credai Mr. Jenkins bod Meredydd wedi d'rysu yn ei synhwyrau, ac aeth i'r tŷ heb ddywedyd gair ymhellach wrtho ef nac arall am y peth.
Pan ddaeth allan o'r parlwr ymhen tua hanner awr gwelai Feredydd yn eistedd wrth ford y gegin yn ei iawn bwyll, a rhyw olwg wylaidd neilltuol arno.
Y Sadwrn canlynol cyfarfu'r ddau ysgweier ym. marchnad Penybont, a daeth hanes yr holl helynt allan mewn canlyniad i ofyniad gawsant ar yr heol gan un o weilch y "Fox and Hounds," sef, Pa bryd yr y'ch yn mynd i hela'r canddo du? Bu Meredydd yng ngwasanaeth teulu'r Gelli hyd ei fedd.
XII.
"THE FRENCHMAN'S PATCH."
RHYFEDD fel y mae ambell lecyn ar hyd a lled ein gwlad wedi cael enw drwg; a rhyfeddach fyth fel y mae ambell un o honynt yn haeddu hynny.
Y lle hynotaf o'r fath a glywsom erioed sôn am dano yw "The Frenchman's Patch," ger genau yr afon Nedd ar gyfer Baglan a Llansawel—llain o dir orchuddir ddwywaith yn y dydd gan y llanw, ond y sydd, ar drai lleiaf y tymor, yn gerddadwy ato o'r traeth.
Yn gynnar yn y ganrif ddiweddaf chwythwyd llong fawr Ffrengig ar y llain hwn gan ystorom o'r Werydd, ac yno yr arhosodd yn y llaid am chwarter canrif gan reibio pawb a elai ati.
Yr oedd rhyw ddirgelwch ynglŷn â'r llestr o'r cychwyn er na foddwyd neb yn y llong— ddrylliad ei hun. Enillodd y dwylo y lan ar forfa Crymlyn a cherddasant ar hyd y traeth i Abertawe yn ol llaw. Wedi cyrraedd yno, diflanasant fel pe bai yr hen long o ddim gwerth na diddordeb iddynt mwyach.
Yr oedd oes y môr—ladron a'r llong—ddryllwyr bron mynd heibio yn ein moroedd erbyn yr adeg y soniwn am dani, ond pan welodd pedwar glöwr o Faglan lestr mawr yn y llaid ar eu cyfer heb na dyn na chreadur byw arno aeth trachwant yn drech na hwy, a phenderfynasant ymweld ag ef y noson honno, llwytho eu bad â'r hyn oedd werthfawrocaf ynddo, a chuddio'r ysbail wedyn yn Hen Lefel Tŷ'r Halen hyd amser cyfaddas i'w werthu.
Pan ddringasant i'r bwrdd a dechreu ei chwilio, gwelsant fod ynddo gyfoeth tuhwnt i'w disgwyliad pennaf. Llwythwyd y bad hyd yr ymyl ac yna arhoswyd yn y prif gaban erbyn troi o'r llanw i'w helpu i gyrraedd Baglan.
Yna y dechreuwyd yfed gwirod gan yr oll, neu yn hytrach gan dri o honynt. Cynllun y pedwerydd ydoedd yfed ond ychydig ei hun, a cheisio peri i'r lleill feddwi, ac yna dwyn yr oll oddiarnynt.
Pan farnodd bod ei gymdeithion yn hollol feddw, aeth i'r bwrdd i gario ei fwriad allan, ond erbyn iddo gyrraedd ochr y llong nid oedd yno fad o gwbl.
Tebyg mai eu diofalwch oedd yr achos o hynny, ond mynnai ei gydwybod euog ef mai rhyw ysbryd a wnaeth y drwg.
Pan ddychwelodd i'r caban gyda'r teimlad hwn, cadarnhawyd ei syniad wrth weld yr ystafell yn wenfflam—yr oedd un o'r glowyr meddw wedi gosod y gwirod ar dân yn ddamweiniol. Os oedd y tri yn feddw cyn hynny, yr oedd y tân yn ddigon i'w sobri erbyn hyn. Yn ei ofn mawr gwnaeth y pedwerydd ar unwaith gyffesiad iddynt o'i fwriad ynglŷn â'r bad. Cododd y tri fel un gŵr ato am ei frad, ac ni wyddys beth fuasai ei dynged oddiar eu dwylo, ond yn sydyn clywsant oll ryw sŵn dieithr o fol y llong.
Neidiasant ar eu traed gan ruthro allan o'r caban i fyny i'r bwrdd, ac yna, gan fod y sŵn yn parhau, neidiasant i'r môr gan geisio nofio i'r lan. Glaniodd y tri meddwyn, ond ni welwyd mo'r bad na chorff y bradwr byth. Cytunodd y tri i gadw'r helynt yn gyfrinach, ac ni wybuwyd yr hanes hyd wely angau yr olaf, pan adroddodd hwnnw'r cwbl.
A'r digwyddiad uchod eto ynghudd, aeth pedwar eraill o fechgynnos Llansawel y prynhawn cyn y Nadolig i gerdded i'r hen long ar y Patch. Hyn a wnaethant yn rhwydd, ac wedi cyrraedd yno llwythasant eu hunain â pheth o dda yr hen lestr; ond oedasant ddychwelyd mewn pryd, a phan ar eu ffordd adref, daliwyd hwy gan y nos a'r llanw, a boddodd dau o'r pedwar.
Ymhen amryw flynyddoedd ar ol hyn, aeth tri o ddynion ieuainc yr ardal allan mewn bad ar noson deg, oleu-leuad, i rwyfo o gylch yr hen long oedd bellach fel rhyw ysgerbwd yn llawn dwfr a thywod. Gwelwyd, fore trannoeth, eu bod heb ddychwelyd, ac aethpwyd i chwilio pob cilfach yn agos i'r hen lestr am danynt, ac o'r diwedd cafwyd cyrff y tri yn y dwfr tu mewn iddo. Y mae eto yn gwestiwn dadl yn yr ardal am y modd mwyaf dichonadwy y daethant i'w hangau yno.
Cafodd yr hen long ofnadwy hon lonydd wedyn ond yn raddol torrodd y tonnau ei hysgerbwd hithau, ac nid yw llestr y Frenchman's Patch ond traddodiad i'r oes hon.
XIII.
Y LLANC RHYFYGUS.
YCHYDIG lathenni o ddrws Eglwys Fair, Aberafan, y gorwedd llech a'n hatgofia am un o ystorïau mwyaf cynhyrfus Deheudir Cymru. Yr argraff ar y llech, sydd yn awr bron yn annarllenadwy, ydyw "R. L. 1831," a dywed mai odditani y gorwedd yr hyn sydd farwol o Dic Penderyn (Richard Lewis).
Brodor oedd o Aberafan (er y llysenw "Penderyn "), a dywedir ei fod, pan yn llanc, yn llawn bywyd ac egni beunydd, ac yn anfoddog os nad efe a arweiniai bob chwarae. Anfynych yr elai i'r ysgol, a phan fyddai yno, aml y gorfodwyd ei hen ysgolfeistr i'w rybuddio rhag rhoi ffrwyn i'w dymer nwydwyllt.
Ni chofiai Dic am ei fam, ond yr oedd iddo chwaer, Gwen, oedd yn ofalus iawn o hono. Fel yr ysgolfeistr, ceisiai hithau ddenu Dic o'i ffyrdd rhyfygus; ond nid oedd dim yn tycio, parhau a wnai efe i fod yn drafferth ac yn bryder.
Un o'i bangfeydd sydyn fu yr achos iddo adael ei gartre, oblegid mewn ffrae rhyngddo a Dafi Cound, Taibach, ynghylch chwarae bando, gwthiodd efe Ddafi dros ddibyn gwàl y porthladd i'r afon islaw.
Yr eiliad nesaf neidiodd Dic ar ei ol i geisio achub y bachgen ag yr oedd efe y foment cyn hynny yn ei dymer ryfygus wedi ei wthio i lawr.
Pe byddai ond pwnc o wlychu yn unig byddai yn eithaf gwers i'r ddau, ond, druan o Dafi, pan syrthiodd i'r dwfr tarawodd yn erbyn y trawst mawr ar waelod yr argae a thorrwyd ei gefn drwy hynny. Arswydodd Dic am yr hyn a wnaeth, ac o herwydd cnofeydd ei gydwybod ciliodd i Ferthyr.
Y dref honno oedd Mecca pob crwydryn Cymreig yn yr amseroedd hynny, ac yno buan y daeth y "Dic fel 'deryn" o Aberafan yn "Ddic Penderyn " yn y lle newydd, ac yn hysbys i bawb fel un o fechgyn dewraf ond mwyaf afreolus yr ardal.
Pe bai dewrder Dic wedi ei droi i'r cyfeiriad iawn, dichon mai darllen am dano fel gwron y byddem ni yn awr, ac nid fel drwg-weithredwr a thorrwr cyfraith.
Ym Merthyr aeth i gyfeillach gŵr oedd yn hŷn nag ef, elwid Lewsyn yr Helwr, brodor, fel mae'n òd, o Benderyn yn wirioneddol, y pentref bychan ychydig hwnt i ffin Brycheiniog ger Hirwaun.
Terfysglyd iawn oedd Merthyr yr adeg hon, a'r Lewsyn hwn oedd eilun y lliaws, a'u

harweinydd ymhob cynnwrf rhwng y bechgyn afreolaidd a cheidwaid heddwch y lle.
Yn yr holl ysgarmesau hyn, nid oedd neb ffyddlonach i'w arweinydd na Dic. Efe oedd wrth ei ochr pan orfu ar gapten meirch-filwyr Abertawe ildio ei gledd i'r Helwr o Benderyn ar fynydd Aberdâr. Efe, hefyd, â'i ddynion, ollyngodd y gawod gerrig i lawr o fynydd Cilsanws ar draws meirch-filwyr Aberhonddu a geisiodd gyrraedd Merthyr o'r gogledd.
Ond o flaen gwesty y Castell yn Heol Fawr Merthyr yr ymladdwyd yr ornest fawr rhwng y Cymry afreolaidd a'r milwyr Ysgotaidd, ag a fu yn achos condemniad i'r crogbren i Lewsyn a Dic am eu rhan ynddi.
Ymgasglodd y lliaws, yn gynddeiriog gan newyn, ac yn ddi-ofn o herwydd eu llwyddiant blaenorol, yn un torf o flaen yr hen westy enwog.
Wedi eu trefnu yn "rheng sengl" ar y palmant, gyda'u cefnau ar y wàl, safai y Scottish Highlanders oedd yn ymdrechu cadw drysau a ffenestri isaf y gwesty yn glir, tra yr anerchid y dorf o'r ffenestri uchaf gan Mr. Crawshay a'r haearn-feistri eraill.
Ar y foment y cynghorid y gweithwyr i ddychwelyd i'w tai yn heddychlon wele Lewsyn yn neidio i fyny'n ffyrnig, a chan waeddi, "Gwaed neu Fara!" a gipiodd fwsged y milwr nesaf ato, ac a'i trywanodd â'i fidog ei hun.
Fel cad ar faes y bu yr ystrŷd am yr hanner awr nesaf, y Cymry yn ceisio rhuthro ar y milwyr a'r rhei'ny—bechgyn dewr bob un—yn egnio eu dà yn ol rhag dringo i mewn i'r gwesty.
Y pryd hwnnw y gwelwyd y camsyniad wnaed i osod y "rheng sengl ar y palmant o gwbl, a'r gorchwyl caletaf yn awr oedd eu cael oddiyno rhag lid y dyrfa. Rhaid oedd iddynt bob yn un ac un i redeg am eu bywyd heibio congl y tŷ, i gyrchu at ddrws mawr buarth y tafarn yn y groesheol.
Yno, i'w hatal rhag cyrraedd y noddfa, oedd Dic Penderyn gyda rhai o'r mwyaf penderfynol o'i wŷr.
Ond er gwaethaf y rhain, cyrhaeddwyd a diogelwch gan yr Ysgotiaid i gyd oddigerth yr olaf.
Hwn oedd amlycaf ei ddewrder o'r oll, ac arno ef yr arllwyswyd holl lid yr ymosodwyr. Curwyd ef yn ddidrugaredd, ond parhau i ymladd a wnai efe er ei holl glwyfau.
O'r diwedd, wele yntau yn rhedeg er ceisio ennill nodded y drws mawr; ond pan y cyrhaeddodd y fan, yr oedd Dic Penderyn a dau neu dri eraill yn hongian wrth ei ystlys fel gwaedgwn yn ceisio tynnu i lawr lew clwyfedig.
Bellach ni ddeuir byth i wybod am a ddigwyddodd i gyd y tu oli'r drws mawr, ond yr oedd y milwr dewr yn farw, a chyhuddid Dic o fod yn achos ei farwolaeth.
Yn y prawf a ddilynodd yr helynt trist, condemniwyd Lewsyn a Dic i ddioddef marwolaeth, ond cyn cwblhau y ddedfryd, newidiwyd cosb Lewsyn i benyd am ei oes. Crogwyd Dic druan, er yn dal i daeru ei ddiniweidrwydd hyd y diwedd.
Yn y dyddiau hynny, rhoddid i dylwyth yr un grogesid y fraint bruddaidd o gladdu gweddillion eu perthynas. Hawliwyd y ffafr honno gan frawd Dic. Benthyciodd gert ffermwr a chan ymdaith liw nos, dygodd gorff ei frawd drwy Fro Morgannwg bob cam o Gaerdydd i Aberafan erbyn prynhawn trannoeth.
Yr oedd yr angladd yn un nodedig o fawr, oblegid er bod Dic wedi ei gondemnio yn llys ei wlad, ymddengys ei fod o gyff parchus, a mwy na'r oll, yr oedd y werin bobl yn credu'n ddi- ysgog mai ar gam y crogwyd ef. Yr holl wasanaeth claddu a gafodd oedd canu emyn Cymraeg, a roddwyd allan, meddir, gan ei hen athro— Dafydd Jones, Ysgolfeistr, Aberafan.
XIV.
HEOLYDD SIR.
ODDIAR y flwyddyn yr ymadawodd Rhufeiniaid â'n gwlad (410 o.c.) hyd amser Telford yn niwedd y ddeunawfed ganrif, ychydig, os dim, o heolydd boddhaol a welodd ein gwlad. Nid oedd ein ffyrdd, ar y goreu, ond rhai culion a cheimion iawn, yn arwain o le i le.
Ond tua'r flwyddyn 1770 o.c. diwygiwyd llawer yn y peth pwysig hwn, a dihunodd y gwahanol siroedd i weld mai ofer oedd cynnydd masnach os mai gwael fyddai yr heolydd.
Felly awd ati i uno â'i gilydd, nid yn unig drefydd y fro—wlad, megis Caerdydd, Casnewydd, y Bontfaen, Penybont, Castellnedd, ac Abertawe, ond hefyd leoedd fel Merthyr, Aberdâr, Pont-y-pridd, ac hyd yn oed Aberhonddu, yn y mynydd-dir.
Wedi cwblhau yr heolydd hyn, y peth nesaf oedd gofalu am eu cadw mewn cyflwr da; ac i'r perwyl hynny, rhaid wrth gwrs oedd cael arian cyson.
Y modd y trefnwyd i ddwyn y gost oedd gwneuthur i'r sawl a yrrai greaduriaid neu gerbydau o unrhyw fath drostynt dalu am y fraint. Gosodwyd tai i gasglyddion y dreth mewn mannau neilltuol ar ymyl y ffyrdd, gyda chlwyd fawr gyferbyn â phob tŷ, i atal pawb i fynd ymhellach cýn talu o honynt yn gyntaf.
Ar hyd y dydd yr oedd y clwydi hyn gan amlaf ar agor, ond wedi'r nos byddent, ran fynychaf, ynghau. Y gair "Gate!" mewn llais uchel, a dynnai allan, fodd bynnag, hen ŵr neu hen wraig o'r tŷ i agor y glwyd i'r anifail neu'r cerbyd fynd trwy, ar daliad y dreth briodol.
Dyna fel bu trefn yr heolydd sir am oddeutu can mlynedd, hynny yw, hyd y flwyddyn 1889, pan ddaeth y cyngor sir newydd â threfn arall i weithredu, ac y peidiwyd â chasglu wrth y glwyd.
Bu llawer o achwyn tua chanol y ganrif ddiweddaf am annhegwch ynglŷn â'r hen drefn. Dyna adeg y "Beca," pan gymerodd rhai pobl y gyfraith i'w llaw eu hun, gan fwrw i lawr nifer o'r clwydi, a churo, ac hyd yn oed lladd, rhai o'r hen bobl gasglai y dreth.
Glywsoch chwi sôn am Shoni 'Sgubor Fawr a Dai'r Cantwr? Dyna ddau a alltudiwyd dros y môr am eu rhan yn nhrafodaeth "Y Beca."
Llawer o ganeuon ac ystorïau sydd ynglŷn â'r hen glwydi, yn enwedig am y bechgyn mewn dillad menywod, a'u torrent i lawr. Wele bennill o un gân, am doriad clwyd y mynydd ym mlaenau Tâf:
"Mae Beca a'i merched mor ffalsed a'r fox,
Yn torri rhai clwydi mor fân a choed clocs,
A rhyw noson dywell, on'd ydyw yn syn!
Fe ddrylliwyd yn chwilfriw Glwyd Tyrpig y Glyn."
Ond gweli gennym ni yr ystori am yr hen wraig a ddysgodd wers i goegyn am unwaith yn ei fywyd.
Daeth hwnnw yn ei gerbyd un diwrnod at glwyd neilltuol, ac a waeddodd mewn llais awdurdodol,
"Gate!" Pan ddaeth yr hen wraig allan i dderbyn yr ychydig geiniogau oedd yn ddyledus, yn lle ei chyfarch ac estyn yr arian i'w llaw, taflodd hanner coron i'r llaid wrth ei thraed.
Wedi agor y glwyd, hi a chwiliodd yn ei chôd am y newid" priodol. Rhifodd hwynt yn ofalus, ac yna, heb edrych ar y dyn balch, plygodd a gosododd yr arian yn union ar yr un man ag y gorweddai yr hanner coron cyn hynny; a chan ymsythu, cerddodd yn ol i'r tŷ.
Rhaid oedd i'r ffug foneddwr naill ai disgyn o'i gerbyd i godi ei newid o'r llaid, neu ynteu yrru ymlaen hebddo.
XV.
"Y DDAFAD DDU."
YN yr amser gynt nid oedd ffair Gymreig yn gyflawn heb fod ynddi werthwr almanaciau a chanwr baledi.
Aeth yr almanaciau allan o arferiad pan ddaeth llyfrau rhad i ddwylo ein cenedl, ond parhaodd y baledi mewn bri hyd ein dyddiau ni.
Y rheswm am hyn, efallai, yw bod y faled yn canu am ddigwyddiadau oedd wedi cynhyrfu y wlad eisoes, megis tanchwaäu, neu ddyn-laddiadau.
Y ddwy faled fwyaf poblogaidd yng Ngwent a Morgannwg oedd "Y Ferch o Blwyf Penderyn," a "Ffarwel i Langyfelach," ond y goreuon, ar gyfrif eu teimlad byw yn bennaf, oedd "Anfon lythyr, Deio bach!" a "Morgan yn mynd i Awstralia."
Llawer gwaith y clyswom lais soniarus yn canu ar ben ffair fel hyn:

Morgan bach fy machgen annwyl, Ie 'machgen bach di-nam;
Aros,rho dy glust i wrando Ar gynghorion dwys dy fam,
ac nid oedd y datganiad byth heb ei effaith arnom.
Un o'r Cymry aeth allan i'r mwnfeydd aur dros drigain mlynedd yn ol oedd y Morgan hwn, a diddorol dros ben oedd clywed am rai digwyddiadau a'i cyfarfu yn Awstralia.
Pan diriodd yno, wedi tri mis o hwylio'r cefnforoedd, yr oedd hiraeth eisoes ymron â'i ladd. Er mwyn lleddfu y teimlad am y fam a'r cartref adawodd ar ei ol, prynodd gi bach ym Melbourne, ac ni fynnai siarad dim ag ef ond mewn Cymraeg. Rhoddodd hefyd iddo yr enw Gelert, fel y byddai hyd yn oed yn hynny o beth yn hollol Gymreig.
Bu Gelert yn gysur mawr i'w feistr, ac a'i dilynodd i bob man. Pan fyddai Morgan yn lluddedig ar ol diwrnod caled o dwrio am y mwn gwerthfawr, ychydig o ysgwrs Gymraeg â Gelert a'i llonnai drachefn; ac unwaith, yn Bendigo, bu cyfarthiad amserol ei gi ffyddlon yn foddion i ddeffro ei feistr pan ddaeth lladron i geisio ysbeilio'r babell y cysgai ynddi.
Ond yn Ballarat y bu'r digwyddiad hynotaf oll. Wedi mis o weithio diwyd yn y mwǹglawdd yno, sylwodd Morgan ryw ddiwrnod nad oedd Gelert yn ei ymyl fel arfer. ei ymyl fel arfer. Chwibanodd am dano i fyny ac i lawr drwy yr holl le, ond absennol o hyd oedd Gelert, fel y Gelert arall gynt, pan alwai y tywysog Llywelyn arno i'r helfa.
Bu y golled yn ergyd trwm i Forgan, oblegid fel y dywedai efe, dyna'r unig Gymro oedd gennyf i siarad ag ef yn yr holl wlad."
Aeth wythnos heibio, ond nid oedd sôn am y ci coll yn unman. Ysgrifennodd Morgan i'r "Ballarat Times," gan gynnyg gwobr hael am ei adferiad, ond ni ddaeth atebiad o un math.
Pan aeth wythnos arall heibio ac yntau wedi anobeithio gweld ei gi mwy, wele, un diwrnod, Gelert yn dyfod i lawr yr ystryd wrth sodlau gŵr cawraidd, sarrug yr olwg.
Ond er cymaint y gwahaniaeth rhwng y ddau ddyn aeth Morgan ymlaen at y gŵr dieithr ar unwaith, a dyma'r siarad fu rhyngddynt:
Morgan: "I say, mate, that is my dog!"
Y Gêr Dieithr "What are you talking about?"
Morgan: "My dog, of course, and I mean to have him."
Y Gŵr Dieithr: "You mean that you are asking for trouble."
Morgan: "Nothing of the sort, but trouble or no trouble, that dog is mine, and have him I will!"
Y Gŵr Dieithr: "You are going to have something very different. Put up your dukes!"
Ar hyn rhuthrodd y cawr ar y Cymro bach, fel pe am ddiweddu'r oll ag un ergyd. Ond llawer ergyd a fu o'r ddwy ochr, er mai hollol anobeithiol oedd i Forgan drechu dyn o faint ei elyn. Er hynny, cymaint oedd ei serch at Gelert fel y penderfynodd ymladd cyhyd ag y gallai.
O'r diwedd, tarawodd y gŵr dieithr ef mor gryf fel, rhwng y boen a'r gofid, y gwaeddodd Morgan allan "O'r nefoedd fawr!" ac yna aeth popeth yn dywyll iddo.
Pan ddaeth ato ei hun, mawr oedd ei syndod i ganfod y gŵr a'i tarawodd yn dàl ei ben i fyny, ac yn arllwys gwirod rhwng ei wefusau.
Pan sylwodd hwnnw fod Morgan wedi adfywio dywedodd wrtho mewn Cymraeg glân, Fachgen! mae giâm ynot ti! Pam na faset wedi gweud ta' Cymro oe't ti?—ti faset wedi arbed yr hamrad i gyd! O b'le wyt ti'n dod?"
Gwenodd Morgan i'w wyneb a chydiodd yn llaw fawr ei drechwr. "O 'Berdâr wy' i— a bron torri 'nghalon he'd," meddai, gan barhau i ddal ac ysgwyd y llaw am beth amser.
"Wel, ma' dy gi yn ol i ti; 'rwyt wedi ei ennill yn deg. Rwy'n lico giâm, ti'n gweld! Gwedast ti taw o 'Berdâr wyt ti'n dod? Glywaist ti sôn erio'd am Gomer—mab hwn a hwn?" ebe fe drachefn, gan enwi un o deulu— oedd parchusaf Cwm Cynon. "Y fi oedd y ddafad ddu, ti'n gwel'd, ond mae'n dda genny' gwrdd â Chymro, 'n enwetig bachan o grit. Shwd ma' Gwilym 'y mrawd? Ma rhai'n gweyd 'i fod a'n top notcher erbyn hyn. Wel, pob lwc iddo, ond Gomer, y ddafad ddu, fydda i i'r pen, tepig!"
Dygodd y mab afradlon o Gwm Aberdâr Forgan i'w lety. Golchodd ei glwyfau, a rhoddodd olew ynddynt hefyd, os yw geiriau caredig yn gallu esmwythâu doluriau.
Aeth y tri—Morgan, Gomer, a Gelert yn gyfeillion mawr, a phan wedi blwyddyn o amser y penderfynodd Morgan ddychwelyd i Gymru, gan ddwyn Gelert gydag ef, y diweddaf i ysgwyd ei law ar y llong ym Melbourne, gyda deigryn Cymro yn ei lygad mawr, oedd Gomer, y ddafad ddu.
XVI.
BONEDDWR.
RHWNG 1780 0.c. ac 1860 o.c. bu cryn arferiad gan rai Saeson i dramwyo Cymru, neu rannau o honi, er mwyn ysgrifennu hanes eu teithiau yn ol llaw; fel pe baem yn rhyw bobl ddieithr ac anwaraidd, yn lle bod y bobl hynaf ein moes a'n llyfrau yn yr holl ynys.
Ymhlith yr ysgrifenwyr hyn gellir nodi Pennant, Warner, Malkin, a Borrow fel y goreu, ac o'r rhai hynny drachefn, Borrow, efallai, fel y mwyaf diddorol.
Tramwyodd efe Gymru, De a Gogledd, yn adeg Rhyfel y Crimea, 1854-55 o.c., ac ysgrifennodd, ymhen blwyddyn neu ddwy, ei "Wild Wales" i gofnodi yr hyn a welodd ac a glywodd. Tua diwedd y llyfr hynod hwnnw dywed efe mewn un man fel hyn:
Passed by Llanawst and The Machen. day which had been very fine now became dark and gloomy. Suddenly, as I was descending a slope, a brilliant party consisting of four young ladies in riding habits, a youthful cavalier, and a servant in splendid liveryall on noble horses, swept past me at full gallop down the hill. Almost immediately afterwards, seeing a road-mender who was standing holding his cap in his hand—which he had no doubt just reverentially doffed—I said in Welsh—"Who are those ladies?"
"Merched Sir Charles" (the daughters of Sir Charles) he replied.
"And is that gentleman their brother?"
"No! the brother is in the Crim—fighting the Roosiaid. I don't know who yon gentleman be."
Y brawd y cyfeirid ato yn yr ymgom uchod oedd Godfrey Morgan, is-gapten ieuanc y pryd hwnnw yn y 17th Lancers, ond a adnabyddid i'r holl fyd yn ddiweddarach fel Arglwydd Tredegar y "gŵr bonheddig yn wir."
Ym mrwydr Balaclava, pan gymerwyd ychydig o ynnau Prydeinig gan y Rwsiaid mewn un rhan o'r maes, ac y gwnaeth yr Heavy Brigade wrhydri mawr mewn man arall, danfonwyd brys-gennad i'r Light Brigade i geisio ad-ennill y gynnau. Trwy rhyw gamsyniad gwnawd i'r Arglwydd Cardigan gredu mai y gynnau Rwsaidd ym mhen draw y cwm a olygid i'r Light Brigade eu cymeryd, ac nid y gynnau yr oedd y Rwsiaid ar y pryd yn eu dwyn ymaith yn llechwraidd.
Er mai gwallgofrwydd noeth oedd i ychydig dros chwe chant o wŷr i ryfygu gwneuthur yr hyn y tybygent oedd eu dyletswydd, ymlaen yr aeth y Light Brigade, i gynnyg gwneuthur yr amhosibl.
Arweiniwyd hwy gan yr Arglwydd Cardigan ei hun, ac ymhlith ei is-swyddogion yr oedd Godfrey Morgan, etifedd Tredegar, ar gefn ei farch, "Sir Briggs."
Ymladdodd y "Chwe Chant" fel duwiau—
"Charging an army, while all the world wondered."
ond ar ol ugain munud o'r gyflafan greulonaf, dacw hwynt yn dychwelyd bob yn ddau neu dri, fel y gallent gael gafael ar ei gilydd.
Pan yn dyfod i fyny o Ddyffryn Angau, cyfarfu yr Is-gapten Morgan â'i gadfridog, a gofynnodd hwnnw iddo—"Lieutenant! where are your men?"
Cymaint oedd teimlad y swyddog ieuanc ar y foment, fel nad allai fentro siarad, ond yn unig troi ei wyneb i Gwm y Lladdedigion a chyfeirio ei gleddyf yno.
Lladdwyd neu clwyfwyd pob swyddog yn y 17th Lancers oedd hŷn na Godfrey, a phan alwyd y Roll wedi y dychweliad, efe oedd yr un mewn awdurdod uchaf arnynt.
Yn niwedd y rhyfel dychwelodd i'w wlad enedigol yn un o wroniaid mwyaf yr ymdrech, a threuliodd ei oes hir i wneuthur Cymru a'i phlant yn well o fod mewn cysylltiad ag ef.
Dywediad cyffredin ymhlith amaethwyr oedd bod dal tyddyn o dan ei arglwyddiaeth yn well na freehold, oblegid ni throid byth neb allan o'i fferm, isel oedd y rhent, a digonol y "ripârs." Ni ŵyr neb faint y symiau a roddodd efe at bob achos da, oblegid ni utganai o'i flaen, ac ni wyddai ei law ddehau pa beth a wnai ei law aswy."
Efe oedd rhoddwr y corn euraid a'r gwahanol wisgoedd i Feirdd yr Orsedd, ac nid rhyfedd o gwbl iddynt, felly, osod arno y ffugenw, "Ifor Hael yr Ail "; oblegid heblaw bod o linach yr Ifor a noddodd Ddafydd ap Gwilym, yr oedd ysbryd yr hen dywysog hael arno yn helaeth hefyd.
XVII.
Y CYMRO DU.
CHWI glywsoch, mi wn, am y llyfr enwog, "Caban F'ewyrth Twm," a'r rhyfel mawr yn yr Amerig (a ddilynodd ei gyhoeddi) fu rhwng Taleithiau y Gogledd a Thaleithiau y De ynghylch rhyddhad y caethion.
Chwi wyddoch, hefyd, mai y Gogledd a drechodd ac i rai miliynau o'r dynion duon gael eu rhyddid mewn canlyniad.
Gwyliai yr holl fyd y rhyfel mawr hwn, ac wedi iddo ddiweddu aeth torf aneirif o drigolion Ewrob i'r Amerig i chwilio am well byd yng nghyfandir y gorllewin.
Yn eu plith, ymfudodd miloedd o Gymry, yn bennaf o ardaloedd Merthyr, Aberdâr, a chymoedd Mynwy; ac fel oedd yn naturiol disgwyl, aethant ar eu hunion i'r mannau yn yr Amerig lle y cloddid glo.
Un o'r prif leoedd a agorai yno ar y pryd oedd Scranton, Pennsylvania, sydd erbyn hyn yn dref fawr, ac yn balchio yn y ffaith bod mwy o Gymraeg ar ei heolydd nag un dre fawr arall yn y byd, heb eithrio hyd yn oed Caerdydd, Abertawe, a Merthyr, ein prif drefydd ni yma yng Nghymru.
Yr un pryd ag y dylifai y Cymry i Scranton gwelid miloedd o'r hen gaethion hefyd yn cyrchu yno, i gael ennill eu "bara a chaws" fel dynion rhyddion.
Bu llawer o gydweithio yn y glofeydd rhwng y Cymry a'r cyn-gaethion; yn gymaint felly ag i lawer o'r Negroaid ddysgu digon o Gymraeg i'w siarad yn rhwydd.
Oddiwrth hyn y tarddodd yr ystranc, a chwareid, mewn amser diweddarach, ag ambell Gymro o'r "hen wlad" elai i Scranton am y tro cyntaf.
Pan fuasai hwnnw newydd gyrraedd, gwnelid ymchwil i gael gwybodaeth am y rhan o Gymru y perthynai iddi, ac am y personau amlycaf yn yr ardal a adawodd. Yna buasai un o'r Negroaid Cymreig yn ei gyfarfod ryw ddydd fel pe ar ddamwain hollol, a rhywbeth tebyg i hyn fyddai yr ymddiddan rhyngddynt:
Y Cymro Du: "Shwd y' chi heddy'? Gwelaf y'ch bod wedi cyrraedd. Shwd ma' nhw i gyd yn Nowlesh?
Y Cymro Newydd Ddod (yn syn iawn): "Shwd y'ch chitha? Otych chi'n napod Dowlais?"
Y Cymro Du: "Napod! Otw, greta i, a finna wedi'm geni ym Mhendarran!"
Y Cymro Newydd Ddod (yn fwy syn fyth): "Ai Cymro y'ch chi?"
Y Cymro Du: "Ia, 'neno dyn, beth arall y'ch chi'n meddwl 'mod i? Shwd ma' Mr. Clark y gwaith? a Mr. Hurst, y scwlin? Fe geso lawer còt annwl gita fa!"
Y Cymro Newydd Ddod (ymron llewygu): Ff ff ffordd y'ch chi'n Gymro, a-a-a chitha mor ddu ag y'ch chi?"
Y Cymro Du (yn hollol ddiofal ac ysgafn): O! byddwch chi yma c'yd o amser a fi, chi fyddwch yn ddu'ch hunan!"
Dywedir i fwy nag un o'r Cymry Newydd Ddod ei gredu, a mynd yn ol i'r hen wlad gynted y gallent.
Parheir o hyd i siarad Cymraeg yn Scranton, a cheir yno eisteddfodau a chymanfaoedd fel yng Nghymru, ac nid yw yn rhyfeddod yn y byd bod rhai yn galw y lle yn "Gymru Fach." Ie! a Chymry o'r iawn ryw sydd yno hefyd, yn siarad eu hiaith ar yr aelwyd, a phob man arall lle'r ymgasglant ynghyd.
XVIII.
"NUMBER 'LEVEN."
UN o ganlyniadau y dull newydd yn Neheudir Cymru o wneuthur dur oedd colli ambell grefft allan o fyd ein masnach. Diflannodd y gwneuthurwr golosg (charcoal burner) ers cryn amser, a dilynwyd ef gan y 'finer a'r puddler.
Dyn hynod iawn oedd y puddler. Yn un peth, yr oedd ei syched yn ddiderfyn; ac ymhob pentre lle y blodeuai "gwaith h'arn" gynt, ceir eto nifer o dafarnau bychain gylch yr hen waith, a fynychid fore, nawn, a hwyr gan wŷr y "puddlin" pan gredent na "losgai" yr haearn o herwydd absenoldeb o ryw ddeng munud neu chwarter awr.
Hawdd yw cyfrif am y syched mawr, oblegid yr oedd gwrês y ffwrneisiau hefyd yn fawr. Nid gorchwyl hawdd yw rhoddi rheswm am y llysenwau lluosog yn eu mysg.
Ped aethai dyn dieithr i "ben y gwaith" i ofyn am John Jones neu Ddafydd Dafis, anodd fyddai iddo gael ei gyfeirio at y dyn iawn, ond pe gofynnai am Shoni Cawl neu Dai 'Sgadenyn, caffai o hyd iddo ar unwaith.
Efallai mai diffyg addysg foreol oedd yr esboniad am y fath enwau, ond boed hynny fel y bo. Pan "chwythwyd ma's yr hen" weithiau h'arn" ar ol y caead allan" yn 1875, trodd y mwyafrif o'r pudleriaid yn lowyr, ac aethant i lawr i'r pyllau gan ddwyn gyda hwynt eu llysenwau, a'u hanwybodaeth.
Mewn cwm neilltuol yn Sir Fynwy aeth dau o honynt (a ddigwyddai hefyd fod yn ddau gefnder), sef Twm Celw'dd Gola' a Wil Shibwnsyn, i dorri glo, y naill mewn un pwll, a'r llall mewn pwll arall yn ymyl.
Gwyddys fod i bob glöwr ei rif neilltuol yn y lofa. Y rhif hwnnw fydd y nod yn wastad ar bob dram ddaw o'i dalcen glo i ddangos mai efe a'i llanwodd, ac mai iddo ef y mae y tâl yn ddyledus am hynny.
Fel y bu hynod y ffaith, digwyddodd i'r ddau gefnder, yn gweithio mewn dwy lofa yn agos i'w gilydd, gael yr un rhif, sef un ar ddeg, neu fel y dywedent hwy, Number 'leven"; ac nid yw y son wedi marw eto am y drafferth gawsant ynglŷn â marco'r ddram am y tro cyntaf.
Ni fu Twm awr erioed mewn ysgol o un math, ond yn gweithio gydag ef yr oedd crwt deuddeg oed a gafodd "beth ysgol" cyn "dechreu dan ddaear." Dyma'r ymgom fu rhyngddynt ar y pwnc pwysig o hawlio'r ddram, pan ddaliai y puddler y sialc yn ei law:
Twm: Wyddot ti beth yw "Number 'leven"?
Y Crwt: "Gwn, wrth gwrs!"
Twm: 'Alli di dorri a'?"
Y Crwt: "Galla', nêt!"
Twm: "Ffordd wyt ti'n 'neud a'?"
Y Crwt: "Torri one (1) yn gynta'!" Twm: Beth wetyn?"
Y Crwt: Torri one arall yn 'i hochr hi (11); dyna 'leven!"
Twm: "Nawr gofala! Wyt ti'n right?"
Y Crwt: Otw'n itha right!
Twm: Wel, 'drych 'ma! torr un one arall yto (111), i gal bod yn 'itha siwr!"
Am y cefnder yn y lofa arall, dywedir ei fod ef wedi dringo yn uwch ym myd addysg na Thwm, oblegid llwyddodd i dorri one (1) heb gymorth neb.
Ond wedi cwblhau y gamp honno rhedodd yn wyllt i'r talcen nesaf a gwaeddodd allan, Number 'leven yw'm number i, fechgyn! 'Rwy' wedi torri un one (1), ond 'dwy' i ddim yn siwr p'un ai o flan, neu ar ei hol y ma'r one arall (1-(1)-1) i fod."
Ymhen blynyddoedd ar ol hyn, digwyddodd i ni weld y ddau hen bererin gyda'i gilydd, a hwy ill dau mewn gwth o oedran. Ac er bod gennym barch mawr iddynt fel dynion syml a gonest, ni allem lai na gwenu yn yr atgof am farco'r ddram" yn y dyddiau gynt.
XIX.
"YN Y DYFROEDD MAWR A'R TONNAU."
LLAWER ffermdy yn ein gwlad sydd yn dwyn yr enw "Tŷnewydd."
Tŷnewydd." Mwy nag unwaith, o herwydd cynnydd y boblogaeth, yr adeiladwyd pentrefi cyfain ar dir yr hen ffermdai hyn, a chanlynodd i'r pentrefi hefyd gael yr un enw. Y mae o leiaf dri Tŷnewydd erbyn hyn sydd yn lleoedd poblog ar "Faes Glo" Morgannwg, sef:
- (1) Tŷnewydd, Cwmogwr;
- (2) Tŷnewydd, Treherbert;
- (3) Tŷnewydd, Cymmer, Rhondda.
Enillodd yr olaf sylw y byd yn ebrill 1877, oherwydd y ddamwain fu yno, a'r dewrder ddangoswyd gan lowyr Cwm Rhondda i waredu eu cyd-ddynion o safn angau.
Un prynhawn, pan oedd gweithwyr y pwll ar fedr gorffen eu llafur am y dydd, clywid yn sydyn sŵn dilyw mawr yn arllwys i'r lofa.
Yr oedd dwfr o hen lofa wedi torri i mewn atynt!
Rhedodd pawb am eu bywyd i geisio cyrraedd "y wyneb," a phan rifwyd y glowyr ar ben y pwll gwelwyd bod pedwar-ar-ddeg yn eisiau.
Er ond wedi newydd ddianc eu hunain, cynhygiodd digon i fynd yn ol i chwilio am y rhai ddaliwyd gan y dwfr. Wedi disgyn i'r gwaith unwaith eto, gwelwyd bod y rhannau pellaf o'r lofa, hynny yw, y "talcenni glo," yn llawn dwfr o'r gwaelod i'r nengraig.
Amhosibl oedd meddwl bod neb y tu ol i'r mur dwfr heb foddi; ac yr oedd y dewrion ar fedr troi eu hwynebau i'r awyr agored eilwaith pan glywsant ergydion gwan ar y golofn lo rhyngddynt a thalcen neilltuol. Yr oedd rhywun neu rywrai yn fyw yno, ac felly heb oedi moment, i lawr â'r dillad, ac i'r làn â'r mendryl!
Erbyn pedwar yn y bore nid oedd ond llafnen deneu yn gwahanu y gwaredwyr a'r gwaredigion. Yn fuan wedyn, tarawyd twll rhyngddynt, ac ar unwaith wele wynt nerthol yn chwythu trwy yr agen gyda thrwst enfawr.
Y ffaith oedd, bod y glowyr, druain, wedi eu dàl mewn congl o'r gwaith nad allai yr awyr ddianc o hono. Yr awyr hwn, 'nawr yn compressed air, a ddaliai y dwfr yn ol rhag eu boddi, ond pan roddwyd tramwyfa iddo trwy yr agen, cymaint oedd ei nerth fel y taflodd efe William Morgan, un o'r glowyr, fel pluen yn erbyn y golofn lo, a lladdwyd ef ar amrantiad. Mawr oedd y gofid am farw y glöwr ieuanc, ac yntau ar fin gwaredigaeth; a mawr hefyd y diolchgarwch am achubiaeth y lleill rhag yr un dynged.
Credid ar y pryd mai hwy oedd y diweddaf ddeuai i fyny yn fyw o'r dyfroedd, ond yr oedd pennod fwy cynhyrfus fyth i agor yn hanes y pwll hwn; oblegid ar ol wythnos ymron o weithio caled i wacau y talcenni o ddwfr, clywyd un noson, er braw a llawenydd i'r gweithwyr, guro gwan drachefn ar y pared glo.
Clustfeiniwyd drosodd a throsodd ar y curiadau, a'r un peth oedd eu neges bob tro—"un, dau, tri, pedwar, pump." Yna ysbaid fechan o dawelwch, ac wedyn "un, dau, tri, pedwar, pump" drachefn. Pump oedd nifer y rhai oedd ar goll yn y pwll, ac yr oedd yn eglur eu bod nid yn unig yn fyw, ond eu bod gyda'i gilydd yn yr un lle; a deallwyd mai talcen Thomas Morgan oedd hwnnw, sef rhyw ddeugain lath oddiwrthynt drwy y glo, ond llawer mwy na hynny dros yr heol foddedig.
Ceisiwyd cyrraedd y trueiniaid (oedd eisoes wedi bod am wythnos ymron heb fwyd) ar hyd y ddwy ffordd, ond buan y gwelwyd mai amhosibl oedd mynd atynt drwy y dwfr, gan fod cymaint o'r nengraig wedi syrthio i'r heol a arweiniai tuag atynt. Felly nid oedd ond un cynllun i'w hachub (os achub hefyd) sef i wneuthur ffordd trwy y deugain llath o lo cyfan tuag atynt.
Awd at y gorchwyl; dewrder bechgyn y Rhondda ac Angau yn rhedeg gyrfa, pa un o'r ddau gyrhaeddai dalcen Thomas Morgan gyntaf; a'r holl wlad, o'r frenhines Victoria i lawr i'r cardotyn, yn dàl eu hanadl rhwng ofn a gobaith.
Ni fu y fath dorri glo cynt na chwedyn. Nid oedd amser i siarad na dim arall, ond ergyd, ergyd, ergyd, drwy y pedair awr ar hugain. Newidid y gweithwyr bob teirawr, ac nid oedd y mendryl yn cael amser i oeri rhwng llaw a llaw. Pan fyddai lludded yn galw am arafu ychydig, yr oedd y curiadau hwnt i'r pared yn cymell yr egni mwyaf a allai y corff dynol ei ddàl.
Gwilym Thomas! Abraham Dodd! Isaac Pride! a'r holl weithwyr eraill Beth sydd yn gwneuthur i chwi ergydio mor drwm pan y mae Angau, o ran a wyddoch chwi, yn eich hudo ymlaen i brofi marwolaeth ym munudau olaf yr ymgyrch fel ag a wnaeth â William Morgan, wythnos yn ol?
Dim ond un ateb-" tinc, tinc, tinc, tinc, tinc," gwan, yn danfon eu neges o fyd y cysgodion.
O'r diwedd neshawyd i ben y deugain lath, a chymerwyd gofal i osgoi perigl mawr y compressed air, trwy osod "drysau" yn groes i'r heol y tu ol i'r gwaredwyr.
Ond yn awr wele berigl newydd-fflam las y nwy yn chwarae gylch y lampau!
Beth bynnag am hynny, ac er gwaethaf dwfr awyr, a thân, ymlaen y gweithiodd gwŷr cedyrn y Porth, gan ddiweddu'r ymdrech mewn tywyllwch hollol.
A phan, mewn ychydig funudau wedyn y torrwyd y twll, dacw Gwilym Thomas drwyddo, a dychwelyd gyda'r bachgennyn David Hughes yn ei freichiau. Dilynwyd ef i'r tywyllwch mawr gan Abraham Dodd ac Isaac Pride, a buan y cariwyd allan y pedwar dyn yr un modd, yr oll, er yn ymyl marw, eto'n fyw.
Pan aeth y newydd i'r wyneb" torrodd pob calon allan mewn gorfoledd a diolchgarwch am y ddihangfa ryfedd. Fflachiwyd y newydd dros yr holl fyd, a mawr oedd y canmol ar fechgyn Cwm Rhondda.
Pan wedi cryfhau i raddau, rhoddwyd manylion y "deng niwrnod" gan y rhai waredwyd. Moses Powell oedd eu harweinydd, a phrofodd ei hun yn dywysydd doeth, oblegid er iddo geisio cynnal ysbryd ei gyd-garcharorion yn y gobaith am waredigaeth, eto paratodd hwynt i farw os marw fyddai raid. Collodd un o'r pump ei synhwyrau yn yr adfyd mawr, a chymerid gofal arbennig o hono ef, ac o'r llanc, David Hughes. gan y tri arall.
Treuliasant eu hamser, tra'n alluog i wneuthur hynny, mewn gweddi a chanu emynau, yn enwedig yr hen emyn "Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau," oedd mor bwrpasol i'w cyflwr. Pan gyfansoddodd Dr. Parry, ein cerddor mawr, anthem o ddiolchgarwch am y wared— igaeth, gosododd yr hen emyn yn rhan o honi. Efallai i chwi ei glywed rywbryd. Dyma fe:

Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau,
Nid oes neb a ddeil fy mhen.
Beth am y gwroniaid ddangosodd boddlonrwydd i aberthu eu bywydau dros eu cyd—lowyr, pe bai raid?
Ni fydd yn rhyfedd gennych glywed eu bod mewn parch mawr gan bawb. Rhoddodd y Frenhines Victoria fathodyn i bob un, a daeth Arglwydd Faer Llundain i lawr i'w gosod ar y bronnau dewrion. Cawsant hefyd anrhegion eraill, oeddent yn eu haeddu mor gyflawn.
Nid ydym byth, oddiar 1877, wedi clywed Mr. Gwilym Thomas yn canu (a chanwr ardderchog oedd) heb gofio am y darlun o hono welsom y pryd hwnnw, yn cario David Hughes yn ei freichiau allan o'r "dyfroedd mawr a'r tonnau" yng nglofa y Tŷnewydd.
XX.
LELO JENKINS O'R HENDRE.
"LLYWELYN, o b'le wyt ti'n dod yr amser hyn o'r nos?"
"O bysgota, 'nhad! Addewais bum pound o bysgod erbyn yfory i'r dyn o Aberdâr, ac yr o'dd yn rhaid eu dala heno neu dorri 'ngair."
On'd wy' i wedi gweyd wrthot ti na wela's ddaioni yrio'd o fechgyn y rhwyta' 'ma? Llywelyn! wnei di byth ffermwr! Fel'ny, etrych di ma's am rywbath arall i 'neud, a chynta' gyd gora' gyd!
"Ma'n ddrwg genny', 'nhad! ond yr o'dd yn rhaid i fi gatw at 'y ngair!"
Dyna'r ymddiddan rhwng Jenkins, Ffermwr yr Hendre, Penderyn, a'i fab Llywelyn, yn gynnar iawn ar fore o Awst, 1878. Dychwelodd y tad yn ddrwg ei nwyd i'w wely, a throdd y mab, i bob ymddangosiad, am ychydig i'w un yntau.
Ond yr oedd Llywelyn o'r un ysbryd balch a'i dad, a chlwyfwyd ef yn fawr gan y geiriau celyd. Penderfynodd ymadael â'i gartref y noson honno, ac y dangosai i'w dad y gallai ddal ei dir mewn unrhyw gwmni, ffermwyr neu eraill.
Heb ddywedyd gair o'i fwriad wrth neb, cerddodd y pymtheng milltir i Aberhonddu cyn cael brecwast. "'Listiodd yn ystod y dydd, ac ar ol rhai wythnosau o ddisgyblu cyson, danfonwyd ef dros y môr i Natal, fel aelod o'r Ail Fataliwn yn y 24th.
Disgwylid trafferth oddiwrth frenin y Zuluaid, Cetwayo, meistr ar 15,000 o filwyr, a oedd trwy hynny yn gymydog peryglus i'r gwladfawyr yn ei ymyl.
Fel y gellid disgwyl, pan fo pobl yn chwannog am gweryl, y peth hawddaf yn y byd yw cael esgus i'w hymryson. Torrodd rhyfel allan a danfonwyd "Lelo" Jenkins a'i gyd-filwyr o'r Ail Fataliwn i fyny i'r wlad i amddiffyn gwragedd a phlant y bobl wynion.
Yn anffodus, rhannwyd y fyddin Brydeinig yn bum colofn, a fwriedid i gyd-gyfarfod yn Ulundi, y brif dref, erbyn dyddiad neilltuol.
Y 24th oedd asgwrn cefn yr ail golofn, a hyhi a groesodd gyntaf o dan gysgod Mynydd Isandula i dir y gelyn. Gadawyd y cwmni y perthynai Lelo iddo ar ol mewn ffermdy neilltuol, ddefnyddid fel ysbyty i gleifion ac anafusion yr ymgyrch.
Mawr oedd siom Lelo o herwydd hynny, a digon diflas y teimlai wrth gerdded o fan i fan gylch y fferm. Yr oedd popeth welai yno yn ei atgofio am ei hen gartref, ac er iddo ddigio'n chwerw y noson y ffôdd o'r Hendre, yr oedd ganddo barch mawr i'w dad serch hynny. Gobeithiai enwogi ei hun yn y frwydr oedd wrth law, a darluniai ei hun yn adrodd yr holl helynt wrth ei dad. Ond pa helynt allasai godi yn Rorke's Drift? ac felly, pa obaith am enwog- rwydd chwaith?
Ha! Lelo! ychydig wyddost beth a ddichon ddigwydd mewn diwrnod? Y foment y meddyliai ef wrtho'i hun fel hyn oedd yr amser yr ymladdai ei gyfeillion yn y cwmnïau eraill gefn ynghein am eu bywyd. Disgynnodd yr holl fyddin Zuluaidd fel corwynt ar yr ail golofn, ac eisoes yr oedd Isandula yn goch gan waed.
Erbyn canol dydd wele ryw nifer o frodorion cyfeillgar-ffoaduriaid o faes y gyflafan—yn adrodd yn wyllt wrth swyddogion Rorke's Drift am y lladdfa fawr.
Gwelodd y ddau is-gapten, Bromhead Chard, nad oedd eiliad i'w cholli er diogelu y ffermdy rhag y dilyw fyddai yn sicr o ddyfod. Rhaid yn anad dim oedd dàl yr ysbyty yn yr ysgubor, ond prin cant o filwyr oedd wrth eu llaw i amddiffyn yr oll, yn ffermdy, ysgubor, a beudai ynghyd. Ni ellid cloddio ffosydd mewn pryd, ac nid oedd adnoddau ceyrydd o un math
wrth law. Mae'n wir fod yno ryw gannoedd o sachau grawn, a rhyw nifer o flychau biscuits, ond beth dalai y fath ddefnyddiau i gadw byddin o anwariaid allan? Rhaid er popeth oedd ceisio gwneuthur ymdrech tuag at hynny; a chan mai dim ond sachau a blychau oedd wrth law, wel, sachau a blychau oedd i fod.
Dangosodd Lelo yn fuan mai ffermwr oedd, gan y modd deheuig y trefnai ei ran ef o'r pynnau.
Yn hwyr y prynhawn daeth y gelynion i'r golwg, yn llawn sêl ac ynni ar ol ennill yn Isandula yn y bore. Uchel oedd eu chwerthin pan welsant yr amddiffynfa bynnau yn croesi eu llwybr tua Natal. Tybient mai hawdd o beth fyddai lladd yr ychydig "gochiaid" yma wrth y rhyd. Onid oeddent wedi lladd dengwaith cynifer y bore hwnnw? Ond pan aethant at y gorchwyl cawsant y fath saethu i'w hwynebau ag a wnaeth iddynt yn gyntaf i arafu, ac yna i encilio. Dro ar ol tro y daethant ar ruthr, ond nid oedd dim yn tycio. Mwy nag unwaith y cyrraeddasant y pynnau grawn, mae'n wir, ond yno yr oedd bidog y Cymro yn erbyn picell y Zulu, ac nid oedd modd mynd gam ymhellach.
O weld bod y sachau yn rhy wydn troisant at yr ysgubor. Yno yr oedd bechgyn o Went yn barod i'w derbyn, ac yn lladd yr ymosodwyr
bob yn un ac un fel y deuent at y fynedfa. Ond yn y cyfamser gosododd y Zuluaid do gwellt yr ysgubor ar dân. Lelo, heb feddwl dim am ei berig mawr, a'i diffoddodd ddwywaith trwy ruthro dros ŵyr y to a chicio y fflamau allan yn ei redegiad. Pan yn paratoi i wneuthur. hynny y drydedd waith, gorchmynnodd ei is-gapten i Private Jenkins ymatal, am fod y fflamau eisoes wedi cael gormod gafael yn y gwellt, ac nad oedd bywydau i'w taflu ymaith.
Ond yr oedd yn rhaid achub y cleifion, deued a ddel. Gorfu ar amddiffynwyr y fynedfa i encilio yn raddol, a bellach, nid oedd modd eu cario allan y ffordd honno.
Dim ond un ffordd arall ellid meddwl am dani, sef torri tyllau yn y parwydydd a rannai un ystafell oddiwrth y llall, a dwyn y cleifion drwy yr agoriadau hynny at ffenestr yn nhalcen yr ysgubor a'u gollwng i lawr drwyddi i ddiogelwch y pynnau grawn.
Ond gwaith araf a pheryglus oedd hynny oblegid pan wrth y gorchwyl o wneuthur yr ail a'r trydydd dwll, gwelid pennau duon rai Zuluaid yn gwthio drwy yr un cyntaf.
Cymerodd Lelo ei dro i wylio a gweithio bob yn ail, ac ni wthiwyd pen Zulu ar ol y cyntaf, trwy y twll a wyliai ei fidog ef.
Wedi symud y cleifion, gwelwyd mai da oedd i'r ysgubor fynd ar dân. Goleuwyd yr holl fuarth gan y fflamau, a rhwystrodd hynny unrhyw nifer o'r gelynion i ennill yr amddiffynfa rawn yn llechwraidd.
Ymgiliodd y Zuluaid gyda'r wawr. Daliodd Rorke's Drift y dilyw yn ol, ac achubwyd Natal. Nid "lle araf y cyfrifai Lelo Rorke's Drift trannoeth. Cafodd hamdden i feddwl am lawer dihangfa gyfyng gafodd yn ystod y nos. Pe llithrai ei droed ond unwaith yn ei redegfa ofnadwy ar draws y to gwellt, ni fyddai iddo obaith am ei fywyd.
Ysgrifennodd at ei dad gan roddi manylion y frwydr fythgofiadwy, ond yn sôn dim am ei ran ei hun ynddi. Ar yr un pryd gofynnodd am ei faddeuant am ymadael â chartre yn y modd ag y gwnaeth.
Ychydig fisoedd ar ol hyn, pan ddychwelodd yr "afradlon" gyda thlysau ar ei fron, nid oedd llonnach tad yn holl Frycheiniog na'r ffermwr, Jenkins o'r Hendre, Penderyn.
XXI.
"Y GWEIRWYR."
WELSOCH chwi erioed gàr llusg" ffermydd y blaenau ym mynydd-dir Gwent neu Forgannwg?
Anfynych y gwelir ef heddyw, ond bu o ddefnydd mawr i'n tadau. Nid oedd iddo olwyn o gwbl, ac estynai y shafts ar ŵyr yr oll o'r ffordd o wddf y ceffyl i'r llawr ryw chwe troedfedd tu ol i'w gynffon. Ar y rhan o'r càr tu ol i'r ceffyl gosodid math o gawell gwiail, ac yn y cawell hwnnw y cludid y gwair, y mawn, y coed tân, neu unrhyw nwydd arall yng ngwaith dyddiol y fferm. Bychan oedd y llwyth, ac ysgafn y càr, ac felly gellid ei ddefnyddio mewn lleoedd llethrog nad ellid cymeryd cert o fath arall yn agos atynt.
Gan fod pennau isaf y shafts yn llusgo ar y borfa, atebai hynny fel drag ar y llwyth, a gwnai y càr yn fwy defnyddiol fyth mewn lleoedd anodd ac am yr un rheswm ni redodd "càr llusg" erioed ar wyllt, ni dybiwn.
Y tro olaf inni weld un o'r ceir bychain hyn oedd rai blynyddoedd yn ol, mewn cwm a egyr i'r dehau tua chyfeiriad Penybont-ar-Ogwr; ac nid yn y maes, nac ar ros na gwaun ychwaith,
ond mewn neuadd gyhoeddus; a sicr ydym nad anghofiwn byth mo'r tro. Gadewch inni adrodd yr ystori wrthych.
Pan oedd canu corawl yng Nghymru lawer yn llai perffaith na'r hyn ydyw heddyw, dysgodd côr neilltuol waith a elwid "Y Gweirwyr (The Haymakers), gan fwriadu ei ddatganu "mewn cymeriad" hynny yw, ei actio ar y llwyfan agosed byth ag a ellid i'r hyn fyddai mewn gwirionedd yn y cae gwair.
Cenid gan y côr pan yn lladd y gwair (er wedi ei ladd cyn hynny), cenid pan yn ei ysgwyd, pan yn ei wasgaru a'i gasglu ynghyd, a phan y dygid ef i'r gweirdy. A chenid drachefn gan leisiau unigol yn actio y ffermwr, ei wraig, ei was pennaf, ei was bach, a'i forwyn.
Hawdd oedd lladd y gwair ar y llwyfan, a hawddach fyth canu wrth ei ysgwyd a'i gasglu ynghyd. Bu cryn ddyfalu pa ffordd oedd oreu i wneuthur y "cywain " yn effeithiol, ac â pha gerbyd y cludid y gwair yn groes i'r llwyfan ar ei ffordd i'r ysgubor. Meddyliodd rhywun am hen gàr llusg y ffermwr cyfagos, ac yna daeth i feddwl arall bod gan yr un ffermwr asyn wnai y tro i'w osod rhwng y shafts.
"Y peth i'r dim!" meddai pawb. Aethpwyd i ofyn i'r ffermwr am wasanaeth y càr a'r asyn, a mawr oedd y digrifwch yn yr ysgol gân pan ddaeth Jaci yr asyn a'i gerbyd yno. Aeth trwy ei ran arbennig ef o'r gwaith yn ganmoladwy, a chytunai yr holl gôr mai yr olygfa honno oedd yn goron ar y cwbl.
O'r diwedd daeth noson fawr y perfformiad cyhoeddus. Llanwyd y neuadd a chafwyd canu ac actio hwylus iawn hyd at ymddangosiad Jaci. Yna, pan oedd y côr ar ei uchelfannau, a'r dorf yn dechreu curo dwylo wrth weld y llwyth gwair yn dechreu croesi'r llwyfan, penderfynodd Jaci fod ganddo feddwl ei hun.
Ar ganol y llwyfan safodd yn sydyn, tarawodd ei draed ar lêd, a nacaodd symud gam ymhellach, er holl ddyfais rhai o'r baswyr i geisio ganddo wneuthur hynny.
Canwyd y corawd yr ail waith, ond nid cystal a'r tro cyntaf am fod rhai o'r sopranos yn chwerthin. Dàl ei dir wnai Jaci er popeth, a phan ddiweddwyd y corawd y drydedd waith, ac yntau yn parhau yr un mor gyndyn, torrodd yr holl dorf i grechwen fawr. Gwylltiodd y côr, a bu raid i'r baswyr a'r tenoriaid gario Jaci a'i lwyth gwair, a'r càr llusg, oll yn un crynswth i ochr y llwyfan, er mawr ddifyrrwch i fechgyn yr oriel ucha.
Taerai rhai trannoeth mai Jaci a'r llwyth nas cludwyd oedd y peth mwyaf ysmala welsent er ys llawer dydd.
XXII.
ARWYR AC ARWRESAU.
HEN ddihareb Gymreig a ddywed "Ymhob gwlad y megir glew"; sef yw hynny, nad oes yr un wlad dan haul heb ei dewrion.
Gallasai yr hen ddihareb fynd ymhellach, a dywedyd nad oes yr un sir, tre, neu bentre, heb ei bechgyn, ïe, a'i merched, nad all yr un perigl eu llwfrhau, na'r un siom eu digalonni.
Profwyd hynny droion a throion cyn hyn, ond nid yn fwy pendant efallai erioed, nag yn Ionawr 1883, pan chwythwyd y llong "Admiral Prinz Adalbert " ar y creigiau ger y Mumbles yn ystorm fwyaf y flwyddyn honno.
Pan ddeallwyd bod bywydau ar gael eu colli yn eu hymyl, dyna ddwylo y bywydfad allan â'u cwch ar unwaith. Nid oedd yno neb yn dàl yn ol, er y gallasai William Rogers ddywedyd
Y mae imi saith o blant heb eu magu John Jenkins, "Y mae i minnau bump." Mynnodd hyd yn oed yr hen ŵr, George Jenkins, gymeryd ei le yn y cwch ar y neges hon o drugaredd, ac yn union, wele'r bad fel rhywbeth byw yn ymsaethu i ganol y tonnau.
Pan yn nesu at y llong, oedd yn dŷn yn nannedd y graig, collwyd, rywfodd, pob rheolaeth ar y bywydfad, a bwriwyd hi gan y tonnau ar draws ochr y llong. Taflwyd y dwylo allan o honi, ac yna gwelid nid yn unig y llong fawr a'r bywydfad ar drugaredd y tonnau, ond y pentrefwyr dewr hefyd yn y dwfr yn cael eu taflu ol a blaen yn y dilyw ofnadwy.
Gwnaethant yr oll oedd yn eu gallu i gyrraedd y tir agosaf, ond nid oedd hwnnw ond creigle enbyd, dros yr hwn yr ymlithrai'r môr bob yn ail munud, gan olchi popeth oddiarno i'w fynwes aflonydd. Ysgubwyd mwy nag un o'r trueiniaid, ar ol cael daear am ennyd, yn ol drachefn i farwolaeth yn y dyfroedd.
Hyn, yn ddiau, fuasai tynged yr oll o honynt canys gwan iawn oeddent ar ol ymladd â'r tonnau cyhyd, onibai am ddwy ddynes ddewr, merched ceidwad y goleudy, y rhai a blymiasant y dwfn hyd at eu hysgwyddau, ac a daflasant shawls yn rhaffau atynt i'w dwyn i ddiogelwch.
Pan aeth yr hanes am y llongddrylliad drwy y wlad, mawr fu y canmol ar waith y merched, ac, yn wir, teilwng oeddent o'r holl ganmol. Canodd beirdd Cymru, a beirdd Lloegr hefyd, gerddi iddynt, ac un o'r darnau adrodd goreu byth oddiar hynny yw "The Women of Mumbles Head,"[1] darn a rydd inni yr hanes mewn iaith ac arddull hynod o fyw.
Ond er cystal hwnnw, gwna gam â thri milwr oedd wrth y goleudy ar y pryd. Lliwia yr awdur hwynt fel llwfrgwn, ond dyma'r gwirionedd yn ol tystiolaeth y rhai wyddent yn well:
"The artillery men behaved bravely (Mr. Abraham Ace, tad y merched dewr, wrth y trengholydd)."
"All inhabitants of the lighthouse behaved with courage and promptitude-Artilleryman Hutchings conspicuously" (Awdurdodau swyddogol y goleudy, yn eu hadroddiad ar ol ymchwiliad manwl i'r ffeithiau).
Chwi gytunwch â mi nad oes byth raid iselhau neb pwy bynnag er mwyn codi arall. Gwnaeth merched y goleudy yn ardderchog, a gwnaeth y milwyr yr un modd.
Daeth yr hen ŵr, George Jenkins, allan o'r dwfn gyda choes doredig, ond boddodd John Jenkins, William Jenkins, William Macnamara, a William Rogers (pennau teuluoedd bob un), a gadawsant rhyngddynt oll bedair gweddw a phedwar ar bymtheg o blant.
Casglwyd £3,570 2s. 9c. i'w rhannu rhwng y tri ar hugain hyn, ond nid oedd arian yn y byd a roddai yn ol wên a gair caredig tad i'w eiddo bach.
Cofiwn am eu haberth hwy, a'r un modd cofiwn am wroldeb pobl y goleudy, un ac oll—y tad, y milwyr, a'r merched (Miss Jessie Ace a Mrs. Wright, ei chwaer)-aethant i ymladd y dòn wyneb yn wyneb er mwyn achub eu cyd-ddyn.
XXIII.
"BWYSTFILOD" O GWM TAWE.
Bu yn amser caled ar weithwyr alcan Deheudir Cymru tua'r flwyddyn 1890 o.c. Yr hyn a'i perai oedd y Mackinley Tariff yn yr Amerig, a rwystrai i bob alcan ddyfod i'r wlad honno heb dalu treth drom. Effaith hynny yng Nghymru oedd cau llawer "melin alcan" a throi gweithwyr allan heb le i ennill eu tamaid.
Un o'r rhai drowyd allan oedd Wil Thomas o Bontardawe. Ar ol bod yn segur am rai wythnosau, penderfynodd ymfudo i'r Amerig er "treio ei siawns," ys dywedai efe, yn y wlad gyfoethog honno. Clywsai bod melinau alcan yn cael eu cychwyn yno ymhob talaith, a bod cyflog uchel iawn i'r rhai a fedrent y grefft.
"Watch our neu glin bren! Dyna'r lle i fi!" ebe Wil, ac ymhen rhai dyddiau gwelwyd ef ar fwrdd llong yn Lerpwl â'i wyneb tua'r gorllewin, yn y gobaith cryf am ennill bywioliaeth dda, os nad am ffortiwn fawr.
Ond fel bu'r siom, pan gyrhaeddodd Wil y wlad y meddyliai ei bod wedi ei phalmantu ag aur, buan y cafodd weld bod ochr dywell i bopeth. Nid yn unig yr oedd y fywioliaeth dda yn absennol, ond yr oedd cael hyd yn oed waith o gwbl yn amhosibl bron, ac er tramwy o dre i dre, a'r llogell yn gwacâu fwyfwy bob dydd, ofer fu yr ymchwil am dano.
Dechreuodd Wil arswydo yn y meddwl, os ai y gwaetha'n waetha', na fuasai ganddo ddigon i dalu am docyn yn ol i Gymru, a gwnaeth hynny iddo ddigalonni yn fwy na dim.
Un diwrnod, pan yn y cyflwr hwn, ac yntau wedi cerdded gryn ddeng milltir oddiar y bore, daeth i bentre a ymdangosai mewn cyffro mawr.
Cymhellodd hynny Wil i ofyn i un o'r brodorion beth oedd yn bod. Atebodd hwnnw ef yn null y Yankeee smart, gan ddywedyd, Why, don'cher know, greenhorn? Open your blinkers, man! The circus is here!"
Daeth hyn â llawer atgof i Wil am yr amser hapus dreuliodd yn llanc ar làn Tawe, ac am yr awr bwysig ym mywyd bechgynnos y Bont, pan ddeuai y circus i fyny o Abertawe.
Ond atgof digon diflas oedd hynny iddo ar y pryd hwn, pan oedd efe nemor gwell na chrwydryn mewn gwlad ddieithr.
Ynghanol ei holl helbul daeth iddo belydryn o obaith o weled gwŷr y circus yn chwysu i gael eu harddangosfa i drefn erbyn yr hwyr. Paham nad allai ofyn i berchennog y circus am waith o ryw fath? Paham, yn wir, hefyd? Nid oedd neb o Bontardawe yno i'w weld, ac yr oedd arian o law meistr y circus o'r un gwerth ag arian o law meistr y gwaith alcan unrhyw ddiwrnod.
Felly at ŵr mawr yr arddangosfa yr aeth, pan oedd hwnnw, i bob ymddangosiad, yn rhy brysur i wastraffu amser na geiriau ar neb.
"Nothing doing, boy!" oedd ei ateb i Wil pan ofynnodd y Cymro yn wylaidd am ryw gyfle i'w wasanaethu. Ond pan oedd Wil wedi troi ymaith yn ddigalon, clywodd lais y perchennog unwaith eto yn galw ar ei ol—"Half-a-mo', lad! Say! Can ye jump about and make a three-dollar shindy? D'ye see, it's this way, Our old tiger handed in his checks last night, and there'll be ructions by the good folks here if our Royal Bengal Beauty is not on hand to-night, as per bill. So, if ye'd care to take on the contract of dressing yerself as Mr. Stripes-we've skinned him, d'ye see-and make the devilest roaring of yer life, say the word, and the job is yours! Three dollars what d'yer say?"
Tri doler! yr oedd yn fwnglawdd aur i Wil ar y pryd, ac ymgymerodd â'r gwaith fel pe bai wedi gwneuthur dim arall ar hyd ei oes ond gwisgo crwyn teigrod meirw, a chystadlu mewn rhuo â rhai byw.
Y noson honno, gorlanwyd y babell gan dorf eiddgar am weled y Royal Bengal Beauty. Ni siomwyd hwy ychwaith, oblegid ni welwyd yn Shamokin o'r blaen deiger o'r fath. Neidiai o'r naill ochr i'r van i'r llall; codai ar ei draed ol; a rhuai fel pe am lyncu unrhyw un ddeuai o fewn cyrraedd iddo. Teimlai yr Americaniaid eu bod am unwaith yn cael gwerth eu harian ac yr oedd gwên foddhaus ar wyneb meistr y circus hefyd.
Ond beth nesaf? Dacw ddrws cudd yn ochr van y teiger yn agor, a llew anferth yn dyfod trwyddo. Ni ddywedwyd dim wrth Wil, pŵr ffelo, am y rhan hon o'r chwarae, a bu bron cwympo gan ofn ar ymddangosiad y llew. Credai fod ei awr olaf wedi dod, a gwaeddodd allan yn iaith ei fam—"O'r Tad mawr! y fi yn dod o Bontardawa annw'l i ga'l 'm lladd gan lew yn y twll hyn!"
Ond os synnwyd ef gan olwg y llew, synnwyd ef filwaith mwy gan lais a ddaeth o du ol i'r mwng yn dywedyd: "Paid becso, Gymro bach! bachan o 'Stalfera w' inna hefyd!"
Yr oedd llew y,circus hefyd wedi marw!
Neidiodd Wil tuag at ei gyd-greadur, ysgydwodd law-nage, pawen-ag ef, a chofleidiodd y naill y llall. I'r bobl yn y babell, yr oedd cariad y bwystfilod at ei gilydd yn beth i'w ryfeddu, a mawr oedd y canmol drannoeth drwy Shamokin am y medr diamheuol oedd ym meistr y circus i ddofi creaduriaid gwancus y goedwig.
Talwyd tri doler yr un i'r teiger a'r llew y noson honno, a pharhawyd i wneuthur yr un peth bob nos am yn agos i fis, hynny yw, hyd nes i'r hwc droi, ac i'r "anifeiliaid" o Gwm Tawe adael y circus am rywbeth gwell.
XXIV.
Y COLIER BACH YN ALBERTA.
PAN oedd yr ugeinfed ganrif ond yn rhyw bum mlwydd oed, preswyliai teulu bychan mewn ffermdy unig ym Mlaenau Tâf. Cynhwysai dad a mam—Dafydd a Sioned Morgan—ynghyd â'u dau fab, Lewis a Gruffydd, y naill tuag ugain oed, a'r llall yn llanc pedair ar ddeg.
Byd digon cyfyng oedd arnynt ar y goreu, a phan fu y rhieni farw o dwymyn o fewn wythnos i'w gilydd, nid oedd llawer o ddim ar eu hol i'w dau fachgen.
Penderfynodd Lewis fynd i'r cymoedd glo, a dygodd Gruffydd, neu Gito Bach (fel y'i galwai, gan amlaf) gydag ef.
Wedi gweithio yn y lofa, ar wahân i'w gilydd am dymor, llwyddasant o'r diwedd i gael "talcen" iddynt eu hunain. Yr oedd hyn yn llawer o gysur i Lewis, oblegid hoffai ei frawd bach yn fawr; ac er eu bod yn cyd-letya er pan ddaethant i Gwm Cynon, nid oedd y brawd hynaf heb ofn effaith drwg ambell löwr ar ieuenctid y gwaith, felly cysgai yn hapusach o fod Gito ac yntau yn cyd-weithio.
Yr oedd i Lewis lais tenor soniarus, ac o herwydd y ddawn hon yr oedd cryn alw arno i ymuno â chorau meibion y cwm. Ni ddymunai Gito well cerddoriaeth, ac amheus ganddo a ellid ei gwell fyth, na phan roddai Lewis ambell ysbonc ar y "Comrades in Arms," neu neu "Martyrs of the Arena." Edrychai ymlaen at fod yn ganwr fel ei frawd, ond gan nad oedd eto ond pymtheg oed, a'i lais felly heb sefydlu, nid oedd dim i'w wneuthur ond aros yn amyneddgar hyd yr amser dedwydd hwnnw pryd y gallai sefyll yn ochr Lewis yn y "Cynon Philharmonic" ganu y darnau mawr a hoffai gymaint.
Ond fel yr elai y misoedd heibio sylwai Gito na chanai ei frawd nemor wrth ei waith mwy, ac o'r diwedd peidiodd ei gân yn hollol. Pryder oedd hyn i'r llanc, a gofidiai na wyddai yn iawn am beth.
Ond rhyw fore, ar ganol "spel whiff," daeth esboniad ar y tawelwch.
Gito!" ebe Lewis, "'rwy' i am ofyn cwestiwn iti."
"Eitha' da," ebe'r llall," os nad yw'n rhy galad."
"Dim o gwbl! Dyma fe! Leicet ti fod yn goliar drw' dy o's?"
"Wel, gan dy fod yn gofyn, Lewis, licwn i ddim! Bechgyn fferm ŷ'n ni, ond cofia di, 'rwy'n fo'lon gw'itho yma cŷd y mynnot ti!"
"Da iawn, Gito! 'rwyt yr un teimlad a fi i'r dim. Ffermwyr ŷ'n ni'n dou, a dim ond i ni ga'l 'wara teg, fe'i gwneie'n hi'n iawn ar y tir. Cha's nhad a mam ddim 'wara teg, ti'n gweld. 'Dodd dim capital gita nhw!
'Nawr, 'rwy' i wedi bod yn meddwl 's tipyn a 'rwy' wedi g'neud 'y meddwl i fynd i Canada, lle ma' dicon o dir da yn freehold am beth nesa' i ddim, a 'isha' bechgyn fel ni ato fa! Os wyt ti'n fo'lon aros i witho yma hebddo i am beth amsar, Gito! fe af fi i Canada wrth 'm hunan, a chyn pen dwy flynadd fe fydda' i wedi anfon i dy mo'yn di, neu ddod 'noi for good!
"Cer' di, Lewis! fe witha'n galad yma nes doi di, a fe safia gym'int y gallai hefyd! Ne, os hali di i mo'yn i, fe ddo ar d'ol di, fel rwyt ti'n gweyd!"
Aeth Lewis i Canada, cafodd lwc yno, a danfonodd am Gito cyn pen deunaw mis.
Y diwrnod mwyaf ym mywyd y llanc oedd hwnnw a'i gwelodd yn cefnu ar Gwm Cynon i ymuno â'i frawd yn Alberta. Mawr oedd ei syllu ar olygfeydd y daithpont Crymlyn, gwlad fras Henffordd, a phrysurdeb yr afon Ferswy.
Ymhen wythnos, cyrhaeddodd Halifax, a phan yn tramwyo oddiyno i Winnipeg, gwelodd gyfres arall o olygfeydd a daflodd eiddo'r hen wlad i'r cysgod. Teimlodd, fel na theimlodd erioed o'r blaen, am fawredd y byd, a'r alwad oedd ato ef-Gito-i wneuthur ei ran ynddo.
Daeth Lewis i Winnipeg i'w gyfarfod, ac wedi treulio deuddydd gyda'i gilydd yno, a siarad llawer am y bywyd newydd ar y paith, troisant eu hwynebau ato.
Wedi dyfod i derfyn y relwê (cangen o'r Canadian Pacific) mentrodd Gito ofyn faint ymhellach oedd Castell Brychan—canys dyna'r enw a roddasai Lewis i'w log cabin—a rhyfeddodd y llanc yn fawr pan atebwyd "pedwar ugain milltir.'
O'r braidd na allai gredu bod Lewis yn chwarae cast ag ef, ond yr oedd hwnnw, heb wên ar ei wyneb, yn brysur iawn yn tynnu allan yr offer tir brynasai yn Winnipeg, ac yn eu gosod at ei gilydd yn llwyth taclus yn barod i'w cludo ymhellach. Gwyddai Gito fod pedwar ugain milltir yn llawer rhy bell i'w cerdded heb sôn am gludo y llwyth hefyd gyda hwy. Ond pan yn ceisio dyfalu beth allasai cynllun ei frawd parthed y pedwar ugain milltir fod, wele motor mawr yn troi i'r orsaf, a Lewis yn cyfarch y gyrrwr. Yna, dywedodd wrth y bachgennyn, "Dera 'mla'n, Gito! i ti fod yn swank am y tro cynta'!"
Syllai y colier bach ar y motor fel pe bai hwnnw wedi disgyn o'r lleuad, ac er bod y cerbyd yn lleidiog, ac yn dwyn olion amlwg o wneuthuriad trwsgl, eto, motor oedd motor, ac yn ol safon pethau yn yr hen wlad, yn perthyn i'r cyfoethog yn unig.
Neidiodd Gito i helpu Lewis i osod y llwyth ar y motor, a dringodd i fyny i'w ochr pan oedd ar fedr cychwyn.
Wrth fynd yn gyflym trwy yr awyr teimlai y Cymro bychan ryw eiddgarwch hynod yn ei ysbryd, a syllai yn fanwl ar bopeth yng nghwrs y daith.
Eglurodd Lewis iddo bod ffermio yn beth tra gwahanol yn Alberta i'r hyn oedd yng Nghymru; bod y llywodraeth yn helpu yr hwsmon ymhob modd, ac, ymhlith pethau eraill, yn cysylltu'r ffermydd ymron i gyd ar y teliffôn.
Dywedodd hefyd bod y banciau yn rhoddi arian ar lôg isel i'r ffermwr diwyd i'w alluogi i gael ceir a motor-lorries i ddwyn cynnyrch y ddaear frâs i ben y relwê.
Yr oedd hyn yn esboniad i Gito ar ddirgelwch y motor a'i cludai yn awr, a phenderfynodd na byddai yn hir cyn dysgu gyrru cerbyd ei hun. Gwnaeth hynny hefyd mewn amser byr, ond cyn i bythefnos fynd heibio digwyddodd rhywbeth i ddo a fu agos i gadw y motor, a phopeth arall oddiwrtho am byth.
Y cyfaill mwyaf gan Lewis o'i holl gydnabod yn Alberta oedd Ysgotyn-Mr. John McLeod- a driniai dir dair milltir yn uwch i fyny ar làn yr afon tua godre y mynyddoedd. Danfonwyd Gito at hwnnw un diwrnod i gludo i lawr petrol tin a addawyd dros y ffôn i Lewis y bore hwnnw.
"Hawdd fydd i ti ga'l gafa'l ar y lle," ebe ei frawd wrth Gito. Catw tu fa's ir co'd ar làn yr afon, a dilyn 'nhw bob cam, a 'mhen spel ti weli log cabin Mr. McLeod wrth fôn y mynydd."
Cychwynnodd Gito yn gynnar ar ol cinio; canfu ei ffordd yn hawdd, a chafodd bopeth fel y dywedodd Lewis. Yna, wedi mwynhau cwpanaid o dê gyda'r Ysgotyn caredig, rhwymodd lestr y petrol ar ei gefn gan ei ddiogelu â chortyn o'r naill ysgwydd i'r llall, a dechreuodd ei throedio hi'n ol i Gastell Brychan drachefn. Cerddai'n hamddenol a chysurus ar y cyntaf, gan fwmian rhyngddo ef a'i hun fel hyn:

A chalon ysgafn yn y fron, Codwn hwyl! Codwn hwyl!
Wrth droi ein hwyneb tua'r dòn, Codwn hwyl! Codwn hwyl!

Ond ymhen ychydig teimlai ei hun yn oeri, er bod cot uchaf am dano, ac yn sydyn drachefn, daeth i sylwi ei bod yn dechreu tywyllu. Ystorm eira gynta'r tymor, un o blizzards gerwin y paith, oedd wedi ei ddàl, er na wyddai Gito hynny ar y pryd. Ond nid oedd amheuaeth am yr oerfel, na'r tywyllwch ychwaith; ac felly, prysurodd ei gamrau gymaint ag a ganiatai ei lwyth iddo ei wneuthur.
Pan yn mynd gynted ag a allai, synnwyd ef gan udiad câs a ddeuai o gyfeiriad y mynydd. Er ei fod wedi clywed yr un peth o'i wely yng Nghastell Brychan unwaith neu ddwy o'r blaen, ac i Lewis ddywedyd nad oedd yr un perigl oddiwrtho, eto gwasgu ymlaen yn gynt a wnai Gito. Ond yr oedd eira erbyn hyn wedi dechreu disgyn, a rhwystrai hynny ei gerddediad.
Pan wedi mynd ychydig ymhellach rhewodd ei waed ymron wrth glywed, nid un udiad, ond llawer o honynt; fel pe yn ateb ei gilydd, a'r holl braidd yn ei ymyl.
Rhedodd y llanc nerth ei draed at goed glàn yr afon, ac heb gymeryd amser i ddiosg y llestr petrol na'r got uchaf oddi amdano, dringodd i goeden oedd ar ei gyfer. Ni orffwysodd nes cyrraedd y gangen gyntaf uwch ei ben, ryw ddeuddeng troedfedd oddiwrth y llawr.
Da oedd iddo frysio a dringo fel y gwnaeth, oblegid erbyn cyrraedd o hono y gangen yr oedd udiadau y bleiddiaid, canys dyna oeddent, yn llanw'r awyr, a'r creaduriaid eu hunain yn neidio ato i geisio ei dynnu i lawr.
Gwyddai yn dda beth fuasai ei dynged pe llwyddent yn eu hamcan. Felly, i'r diben o ddiogelu ei hun yn fwy ceisiodd ddringo yn uwch, ond nid oedd yr un gangen arall ddaliasai ei bwysau, am mai pren ieuanc oedd yr un a ddigwyddasai iddo ei ddringo, a rhaid bellach oedd gwneuthur y goreu o'r gangen gyntaf.
I wneuthur y peth yn waeth, ni allai hyd yn oed osod ei gefn ar y boncyff, o herwydd y llestr petrol. Neidiai y bleiddiaid ato yn gyson, ac unwaith bu agos iddo â chwympo, gan i bwysau un o honynt ddisgyn yn llawn ar flaen y gangen oedd eisoes ar ŵyr gan ei bwysau ef ei hunan. Ar y foment honno teimlodd ffroen blaidd arall yn gwangyffwrdd ei esgid, a mawr oedd ei ofn bod y diwedd wedi dod.
Parhau i oeri yr oedd yr hin, a dyfnach yr elai yr eira; ond yno yr arhosai y bleiddiaid o hyd gan ddàl i neidio ac udo am eu swper.
O! na ddeuai Lewis neu rywun arall heibio i'w waredu oddiwrth yr haid ofnadwy hon!
Ond ni ddaeth neb, a pharhau a wnai y cylch gwancus wrth droed y goeden yn eu hegni i'w dynnu i lawr, a gwelai y llanc, hefyd, hwnt i'r cylch, yng ngwyll y nos, barau o lygaid tanllyd bleiddiaid eraill oedd yr un mor chwannog am yr ysglyfaeth pan ddeuai i'w rhan.
Pob yn dipyn meddiannwyd Gito â rhyw nwyd dialgar at ei elynion, a theimlai y gallai farw pe lleddid hwynt yr un pryd. Ond nid oedd ganddo wn nac un arf arall namyn cyllell boced, a beth oedd gwerth honno mewn cyfyngder o'r fath? Tynnodd hi allan serch hynny a thorrodd y cortyn a ddiogelai y petrol ar ei gefn, ac wedyn trodd y llestr fel ag i fod yn ei gôl. Ni wyddai ei hun yn iawn beth oedd ei fwriad, ond уr oedd gwneuthur rhywbeth yn well nag aros am yr amser y syrthiai o oerni i'w larpio gan y fintai atgas hon.
Agorodd enau'r llestr, a phan neidiodd y blaidd nesaf ato, rhoddodd Gito ysgydwad sydyn i'r olew, nes peri i beth o hono syrthio i lygaid y creadur. Rhuodd hwnnw yn waeth o lawer, a chwarddodd Gito mewn llawenydd di-atal am allu talu peth o'r pwyth yn ol.
Cawsai pob blaidd ar a neidiai ato wedyn ddogn cyffelyb nes oedd yr udiadau yn fwy cynddeiriog fyth. Parhaodd y chwarae ffyrnig hwn nes i'r llestr fynd bron yn wag, a chyfran helaeth o'r bleiddiaid wedi eu bedyddio.
" O! na all'swn ddoti tân yndi nhw i gyd!" meddai Gito wrtho ei hun. Ar hyn daeth cynllun i'w feddwl.
Paham na allasai fflamio y gweddill o'r olew yn y llestr, a'i daflu i'w plith yn y gobaith y cydiai yr olew yn eu blew hwythau dân hefyd. Ond cofiodd fod ei got uchaf yntau yn wiyb gan y petrol, ac mai efe ei hun losgai gyntaf. Yna penderfynodd ddiosg y got er oered yr hin, ei rhwymo ynghylch y llestr, tanio'r oll, a bwrw y sypyn fflamllyd i ganol y bleiddiaid.
Trwy lwc yr oedd blychaid o fflachion yn ei logell, a chyn pen dwy funud yr oedd y cynllun mewn llawn gwaith. Pan ddisgynnodd y sypyn tân fel corff trwm i'w canol, credodd y bleiddiaid mai y llanc ei hun oedd o'r diwedd wedi syrthio, a neidiasant arno i'w rwygo'n ddarnau.
Ond y foment nesaf tasgent yn ol gyda rhyw wyth neu naw o honynt yn wenfflam-yr oedd y petrol yn eu gwrychoedd wedi cydio tân. Chwarddai Gito yn y pren fel pe bai yno leng o'r gwallgofdy, a chwarddodd fwy pan welodd y pwyntiau tân" yn ymwasgaru, a phob un o honynt yn cael ei ddilyn i gysgod y coed gan y bleiddiaid eraill a chwyrnent ac a nadent yn ofnadwy.
Rhifodd Gito un ar ddeg o'r bleiddiaid oedd ar dân, a rhyfeddod nid bychan iddo oedd y ffaith fod yr oll o'r fintai yn awr wedi ei adael ef er mwyn rhoddi eu sylw i gyd i'r fflamau o dan y coed. Ni wyddai efe y pryd hwnnw fod y blaidd yn cannibal, a bod ei elynion ar y foment honno yn tynnu eu cyd-fleiddiaid llosg yn ddarnau ac yn eu llarpio gnawd a chroen.
Ymhen ysbaid, daeth tawelwch mawr dros yr holl fro, a deallodd Gito fod y bleiddiaid wedi ei adael yn llwyr. Ond parhau i ddisgyn wnai yr eira tra Gito, yn awr heb ei got uchaf, ymron sythu.
Yr oedd eisoes wedi penderfynu disgyn oddi ar y gangen, doed a ddêl, a chyrchu Castell Brychan goreu y medrai, pan glywodd, i'w fawr lawenydd, ergyd o ddryll y tu hwnt i'r afon, a gwaedd uchel yn dilyn.
Er bod rhywbeth dieithr yn y llais, adnabu ef fel eiddo Lewis, a gwaeddodd yntau yn ol fel pe wedi colli ar ei hun. Yn fuan, canfu y ddau frawd ei gilydd, a chyda hynny, wele ergyd arall o ddryll, a bloedd drachefn, a adnabu Lewis fel eiddo Mr. McLeod.
Aethant ill tri trwy yr eira i'r Castell, ac yno, o gylch y bwrdd, adroddwyd yr hanes.
Pan welodd Lewis na ddychwelodd Gito gyda'r cyfnos, aeth ar y ffôn at Mr. McLeod, a phan ddywedwyd wrtho fod ei frawd bach wedi cychwyn o Glen Spey, sef tŷ yr Ysgotyn, cyn dechreu o'r eira, cytunasant i fynd allan ar unwaith i chwilio am dano, gan drefnu ym mha le i gwrdd â'i gilydd ymhen ysbaid neilltuol o chwilio.
Yr oedd y waredigaeth oddiwrth angau yn yr eira yn un fawr, ond pan adroddai Gito am y ddihangfå rhag y bleiddiaid hefyd, wylai Lewis fel plentyn, tra y gwrandawai Mr. McLeod mewn cydymdeimlad dwfn.
XXV.
ACHUB Y PLANT.
MEWN ardal fel Gwent a Morgannwg sydd mor enwog am ei glo a'i glowyr, aml, fel mae gwaetha'r modd, yw nifer y damweiniau—y nen yn cwympo, yr awyr yn pallu, y nwy yn tanio, neu y dwfr yn torri i mewn. Ofni mae gwraig a phlant y glöwr o hyd rhag dyfod angau i'w haelwyd fechan hwy.
Buasai rhoddi enwau ac amseriadau y damweiniau yng nglofeydd y Rhondda yn unig yn gwneuthur rhestr hir, canys heblaw mân ddamweiniau yn ddirif, onid yw y danchwa neu y "tana'd" wedi bod yma droion â'i thafodau fflam? A phwy sydd heb glywed am y gorlifiad ym mhwll Tŷnewydd, ac am y mygu ym mhwll y Great Western?
Ond ym mis Mawrth, 1910, aeth angau yn fwy haerllug fyth. Gadawodd y tadau am dro ac aeth i chwilio am y plant i'w difetha; ac yn lle lladd yn y tywyllwch dan y ddaear daeth "i'r wyneb" i edrych am ysglyfaeth yno. Ar brynhawn Gwener dacw naw cant o blant yng Nghlydach Vale yn brysur wrth eu gwersi, rhai yn ysgrifennu, eraill yn darllen (am ddigwyddiadau mewn gwledydd dieithr, efallai, neu am beryglon ar dir a môr) tra rhai, efallai, hyd yn oed yn canu fel pe na bai dim ond heulwen a hawddfyd yn eu meddwl.
Ond i fyny ar ochr y mynydd, gyferbyn â'r ysgol, y mae hen lefel na weithiwyd ynddi ers rhai blynyddoedd. Edrychai ei "gwddwg yn ddigon diberigl, ond tu ol iddo mae dwfr o'r llawr i'r nen, yn cyrraedd am ddwy neu dair milltir i ganol y creigiau tan-ddaearol. Dim ond "cwymp" neu ddau yn agos i'r gwddwg oedd yn dal y miloedd tunelli dwfr rhag ymarllwys allan i'r cwm poblog, i ladd a difrodi ar ei ffordd i'r afon islaw.
Gwyddai rhai am y perigl, ond " gwaith i bawb, gwaith i neb!" Gadawyd y dwfr yn yr hen lefel hyd nes i wlawogydd trymion y gaeaf ei chwyddo gymaint fel ag i rwygo eu ffordd allan i oleu dydd, yn un dilyw mawr na allai dim ei wrthsefyll.
Clywodd yr athrawon a'r plant sŵn enfawr y dwfr yn dyfod, ond credai y rhan fwyaf o honynt mai traction engine oedd yn mynd heibio'n gyflym.
Ond gwyddai prif-athro y bechgyn, Mr. R. R. Williams, yn well na hynny, canys yr oedd yntau fel amryw eraill wedi bod yn anesmwyth am berigl y dwfr ers cryn amser.
Yr oedd bechgyn a merched Clydach Vale wedi eu dysgu yn gywir beth i'w wneuthur pe torrai tân allan rywbryd yn yr ysgol, ac yn awr dyma'r wers yn dyfod o'r defnydd mwyaf iddynt, yn wyneb-nid tân, ond dwfr.
Edrychwch ar y bechgyn yn ei throedio hi allan gan wenu wrth fynd heibio mor drefnus a phe buasent yn filwyr yn y Life Guards. Ond pan oedd yr is-athrawon yn gofalu am gyflawniad hynny o waith, b'le 'roedd y prif-athro?
Ha! wedi rhedeg at y dosbarth oedd yn rhan isaf yr adeilad (ac oedd, o herwydd hynny, yn y perigl mwyaf oddiwrth y dwfr), i'w cael allan!
B'le wedyn? I ysgol y merched. Gair yng nghlust Miss Harris y brif-athrawes, ac wele y merched hwythau yn ymdaith allan mor reolaidd a'r bechgyn, ac yn llawn sêl i ddangos i'w hathrawon eu bod hwythau yn gwybod pa beth i'w wneuthur.
Ie, a hwy heb feddwl llai nad practis oedd yr oll! ac os, efallai, yn cofio rhywbeth am dân, eto nid oeddynt yn breuddwydio am ddwfr, hyd nes ei weld yn llifo dros eu traed wrth iddynt fynd allan trwy ddrws y cefn.
Ond yr oedd eto ysgol y babanod, a phan y cyrhaeddodd Mr. Williams yno, hawdd credu y buasai bron digalonni gan fod y dwfr eisoes yn llyn o gylch "Yr Ysgol Fach" i gyd.
Ond pa ddigalonni sydd i galon ddewr, a channoedd 0 blant bychain yn y perigl mwyaf?
Yr oedd Miss Williams, y brif-athrawes yno, wrth weld y dyfroedd yn dylifo heibio drws y ffrynt, wedi ei gloi rhag i'r babanod gael eu hysgubo ymaith gyda'r llif pe aethent allan y ffordd honno Ond aeth Mr. Williams i mewn trwy ffordd arall, a beth dybygech chwi a welodd? 'Roedd y plant i gyd yn sefyll ar eu traed ar y desciau, rhag y dyfroedd oedd yn gaddol godi tuag atynt.
Ymaith â'r meistr drachefn i ben gwàl y chwaraele gan waeddi ar nifer o lowyr oedd yn pasio heibio o'r gwaith "Er mwyn y nefoedd, fechgyn," meddai "dewch yma ar unwaith!"
Ac fel glowyr o'r iawn ryw, neidiasant i'w helpu yn ddioed. Cariwyd ysgolion a phlanciau at ffenestri ysgol y babanod, ac estynwyd yr "eneidiau bychain" allan bob yn un ac un drwyddynt.
Lowyr dewr! dyna waith ardderchog!
Ond pan yr achubid y plant lleiaf oll yn y dull hwn gan fechgyn y lofa, sylwodd y meistr a'r glowyr eraill bod y chwaraele erbyn hyn yn un llyn mawr pum neu chwe troedfedd o ddyfnder, a bod rhyw hanner cant o blant, rywfodd, wedi eu dàl ynddo.
O olygfa dorcalonnus! y bychain, rhai o honynt yn nofio ar y wyneb yn cael eu dàl i fyny am ychydig gan eu dillad, ac eraill o dan y dwfr heb ddim ond eu gwallt neu eu dwylo bach yn y golwg. Ond dacw Mr. Williams, yr is-athrawon, yr athrawesau, a'r glowyr, atynt ar amrantiad, ac yn eu hestyn allan o'r dwfr gynted ag oedd bosibl.
Ni wyddys faint fuasai yn boddi yn y chwaraele er gwaethaf pob ymdrech, ond, fel bu'r lwc, cwympodd y wàl ar y foment gan bwysau y dwfr, a dihangodd y llif allan, i wneuthur rhagor o ddistryw ymhellach i lawr.
Tri o blant yr ysgol foddodd, a chollwyd tri bywyd arall tu allan yn y pentref. Chwech i gyd, lle y gallai fod drigain, neu dri chant, pe heb ddisgyblaeth yn yr ysgolion, neu pe na bai'r athrawon a'r glowyr yn meddu ysbryd dewr.
Ni fydd yn syndod yn y byd gennych glywed i Mr. Williams gael ei anrhydeddu mewn mwy nag un modd am yr hyn a wnaeth yn y ffordd briodol ac mewn pryd.
Yr ydym yn sicr y bydd i'r Albert Medal gael ei drysori yn y teulu am byth, ac y bydd yn cael ei estyn i lawr o dad i fab fel cofeb am yr hyn ddigwyddodd y prynhawn Gwener hwnnw yng Nghlydach Vale, Mawrth 11, 1910.
XXVI.
"HALT! WHO GOES THERE?"
RHWNG Blaencwm, Rhondda, a Dyffryn Afan, cyfyd mynydd uchel, diffaith, na chroesid braidd gynt gan neb ond y bugail a'i gi.
Mewn blynyddoedd diweddarach daeth gweithio mawr ar lo yn y cymoedd o'i ddeutu, ac o ganlyniad, croesid ef yn amlach, sef gan y glowyr a dramwyent o gwm i gwm i chwilio am waith.
Ond parhau yr un mor ddiffaith ac anodd wnai yr hen fynydd iddynt hwythau; ac felly pan agorwyd y tynnel odditano yn 1890, unigrwydd ddaeth i'r hen lwybrau unwaith eto, canys elai pawb ag a allai dalu pris tocyn, gyda'r trên, a cherddai y rhai na allent dalu ddwy filltir drwy y tynnel yn hytrach na chroesi y pedair milltir anial uwch ei ben.
Pan gynhyrfwyd ein gwlad yn nechreu Rhyfel Mawr, Awst 4, 1914, gofalwyd gwylio ar unwaith ein holl reilffyrdd, ac yn enwedig pob pont a thynnel ar hyd-ddynt.
Nawr, chwi wyddoch mai y Rhondda yw prif gwm y byd am lo ager, ac mai y glo hwn ddefnyddia ein llongau rhyfel ar bob rhyw bryd. Felly yr oedd o'r pwys mwyaf bod rheilffyrdd y Taff Vale a'r Barry yn rhydd i ddwyn glo allan ym mhen isaf y cwm, a'r Rhondda and Swansea Bay yr un modd yn y pen uchaf. Dyna y rheswm am y gwylio a'r gofal dibaid ddechreuwyd y pryd hwnnw ar dynnel Blaencwm, ac a barhaodd am bedair blynedd a hanner gyfan.
Ar y diwrnod cyntaf o'r wyliadwriaeth fawr digwyddodd i Shoni Jones o Abergwynfi fynd i dreulio Gŵyl y Banc i Dreherbert, ac yno, trwy dalu am gwrw i eraill ac yfed gormod ei hun, gwariodd ei arian i gyd yn gynnar yn y dydd; ac felly, rhaid oedd cerdded adref drwy y tynnel fel yr oedd wedi gwneud lawer gwaith cyn hynny.
Pan yn cyrchu tua "gwddwg" y fynedfa, gwelodd hen gydnabod iddo, Wil Morgan, oedd wedi bod am flynyddoedd yn perthyn i'r Volunteers yn cyrchu i'r un man gyda rheiffl ar ei ysgwydd, a bidog mewn gwain wrth ei ochr.
Dywedodd Wil, ar ol holiad o ochr Shoni, ei fod wedi ei anfon ar rybudd byr iawn i wylio mynedfa'r tynnel, ac i atal pawb rhag pasio y ffordd honno.
Diflas oedd gan Shoni glywed hyn, oblegid pasio i'r ochr draw oedd y peth a fwriadai efe ei wneuthur y prynhawn hwnnw; ac er mwyn i Wil beidio ei rwystro mentrodd y mab afradlon ar ychydig o ysgil. .
"Wil!" ebe fe, mae rhywun yn d'alw di!"
Trodd Wil, ar hynny, yn ol gyda chwimrwydd milwr, ac aeth tuag ugain lath i weled pwy allasai fod yn ei alw; ac yn y cyfamser rhedodd Shoni gynted ag y gallai ei goesau hanner meddw i mewn i'r tynnel. Gwelodd Wil mai tric o eiddo Shoni oedd y galw ffugiol, a dychwelodd "to take up duty," ys dywedai efe wedi hynny.
Gan nad oedd y duty wedi dechreu yn iawn pan ffôdd Shoni i'r tywyllwch, a chan y credai mai creadur diniwed ydoedd, er gwaethaf ei fynych yfed, arhosodd Wil yn dawel wrth y gwddwg"; ond nid oedd cystal ei dymer pan glywai Shoni yn gwaeddi'n wawdlyd arno o'r gwacter tywyll.
Aeth hwnnw yn ei flaen i Abergwynfi, gan chwerthin rhyngddo ag ef ei hun am ei ystranc. Ond pan yn nesu at ben arall y tynnel brawychwyd ef yn fawr gan lais crâs yn gorchymyn,
"Halt! who goes there?"
Yn ei wylltineb anghofiodd Shoni sefyll, ond gan ddywedyd "It's me, John Jones, collier, Blaengwynfi," parhaodd i neshau at y dyn a'i gorchmynai.
"Halt, man, or I fire!" ebe hwnnw drachefn. Safodd Shoni fel polyn ar unwaith yn awr, oblegid nid oedd am farw y foment honno.
Yna treiodd gynllun arall, a chan ddywedyd, "I say, butty, let me pass, there's a good chap. I'll stand you a quart when we get out," neshaodd drachefn.
"Ond taranai y llais unwaith eto, Halt! with your quarts and butties! If you budge an inch, I shoot. Nobody passes here to-day!
Gwelodd Shoni ei fod mewn penbleth na feddyliodd ddim am dani, ac wedi aros ychydig yn y man lle yr oedd, trodd i gerdded y ddwy filltir yn ol at Wil wrth y pen arall i'r tynnel, yn hytrach na mentro heibio i'r milwr ofnadwy hwn.
Torrodd rhyw chwys oer drosto, ac yr oedd yn berffaith sobr erbyn hyn. Hir iawn oedd y ddwy filltir i ddychwelyd drostynt, a threuliodd Shoni yr amser i feddwl pa beth a ddywedai i feddalhau Wil tuag ato ar ol yr ystranc a'r chwerthiniad gwawdlyd.
Ymhen rhyw awr clywodd Wil, wrth y fynedfa ar ochr Treherbert i'r tynnel, lais egwan o'r tywyllwch, "Wil! Wil! gad fi ddod ma's!"
"I Halt! who goes there?" ebe Wil ei hun, a'i lais yn ymddangos i Shoni fel pe yn diasbedain yr holl dynnel.
"Will, man! It's me—Shoni! Let me come out! I'm sorry I laughed at you!" ebe yntau, gan droi i'r iaith ddefnyddiodd Wil ato ef:
Yr ateb gafodd yn ol oedd gweld Wil rhyngddo a'r goleu yn plygu at y Charge! ac yn dyfod ato â'i fidog bedair troedfedd o'i flaen. Rhedodd Shoni yn ol mewn braw eithafol ac ymguddiodd mewn man-hole, gan gredu'n sicr bod ei ddiwedd wedi dod.
"You stay there until the officer comes round," ebe Wil drachefn. At least, you won't pass this way. You can try the other end if you like!
Ond yr oedd Shoni wedi cael gormod o'r "other end" eisoes, a phenderfynodd aros yn y man-hole hyd nes y deuai y swyddog. Ymhen pedair awr daeth hwnnw i ymweld â'i sentry, a dywedwyd wrtho am y "gelyn yn y ddalfa".
Rhoddodd y swyddog orchymyn, gan gyfeirio ei lais i'r tywyllwch, ac wele, Shoni, yn wyllt iawn ei wedd, yn dyfod i'r goleuni drachefn, yn union yn y man y credodd ei fod wedi dangos ei fedrusrwydd pennaf chwe awr cyn hynny. Cerddodd i dŷ ei chwaer i Dreorci i gysgu y noson honno, a dychwelodd, heb yngan gair wrth neb byw, dros y mynydd i Abergwynfi drannoeth.
Adroddwyd yr ystori ddeupen y tynnel gan y sentries i'w cyfeillion, ac nid yn hir y bu John Jones, collier, Blaengwynfi cyn troi yn Shoni Tynnel gan rai, a John Tynnel Jones gan eraill.
Nid yw eto wedi clywed y diweddaf am yr helynt, canys y "ddoe dd'wetha" gwaeddwyd wrth enau ei dalcen glo (gan halier angharedig) yr hen eiriau cas "Halt! who goes there?"
XXVII.
"GWELL ANGAU NA CHYWILYDD."
NID anaml y digwydd ar faes y gad mai yn wahanol i'r ffordd arferol o ymladd gyda gwn a bidog y dengys y milwr fwyaf o ddewrder.
Pan ddringodd y Rwsiaid yn llechwraidd i fryn Inkermann ar Ddydd Gŵyl Guy Fawkes yn 1854, mor sydyn oedd yr ymosodiad fel y gorfodwyd i'r Prydeinwyr ymladd gefn ynghefn yn finteioedd bychain yma a thraw, yn hytrach na cheisio gwneuthur rheng neu gyd-weithrediad trefnus arall o unrhyw fath.
Yr un peth ddigwyddodd drachefn yn Rorke's Drift yn Ionawr, 1879, pan o'r tu ol i sachau yd a blychau biscuits y llwyddodd bechgyn Gwent a Brycheiniog i ddal y bobl dduon rhag lladd y cleifion yn yr ysbyty, a difrodi Natal yn ol llaw.
At y ddwy frwydr ardderchog hyn, gallwn yn awr adrodd am un arall o'r un natur.
Pwy o honoch chwi freuddwydiai, pan efallai wrth eich gwersi ar ddydd neilltuol yn niwedd Tachwedd, 1917, fod Cymry ar y foment honno yn cynorthwyo i ddàl yn ol ymgyrch mawr yr Ellmyniaid yn Cambrai, gyda dim ond mendryl a rhofiau yn eu dwylo? Ond felly yr oedd.
Ar y diwrnod hwnnw gwyliai y Welsh Guards mewn rhan o'r maes, gyda chorfflu o weithwyr (oedd yn Gymry hefyd) yn cyweirio heol yn eu hymyl. Ond yn sydyn dyna'r Ellmyniaid yn dod, a chymaint oedd rhif eu rhengoedd fel y gwasgwyd y Guards yn ol ar draws y gweithwyr a buasid yn disgwyl i fechgyn y "gaib a'r rhaw" i droi yn eu holau hwythau ymhellach eto.
Ond pan welwyd sut yr oedd pethau, dyna orchymyn oddiwrth y capten i sefyll, ac i ddangos i'r gelyn beth allai glowyr Cymru ei wneuthur mewn amser o gyfyngder. Nid oedd angen dywedyd yr ail waith, canys dacw hwy, bob un o honynt, â'u hoffer i fyny, ac yn rhuthro ar yr Ellmyniaid fel corwynt.
Hawdd credu i'r rhei'ny gael syndod mwyaf eu hoes o weled bechgyn, heb na dryll na chledd, yn curo arnynt mor ddiofn.
Ond wedi holl ddewrder yr amddiffyniad cyntaf gorfu i'r Cymry encilio am ysbaid am fod tanbelennau y gelyn mor greulon, a hwythau leied o rif. Cymerasant gyda hwy, fodd bynnag, gymaint ag a allent o'r clwyfedigion Prydeinig, a mentrodd amryw o honynt yn ol drachefn a thrachefn, i ganol y tân, i ddwyn y lleill o'r anafusion i ddiogelwch.
Felly y parhawyd drwy gydol y dydd, ond pan ddaeth yr hwyr, wele y Welsh Guards, a'r gweithwyr wrth eu hochr, unwaith eto yn croesi meysydd y tân ac yn clirio yr Ellmyniaid allan o'r tir a enillasant yn y bore, ac yn cysgu yr ail noswaith yn y man y cysgasant y noson o'r blaen. Golygai hynny nad oedd gan yr Ellmyniaid, er eu holl danio a'u rhuthriadau, ddim i ddangos am danynt.
Pan aeth y sôn am y frwydr ar lêd gwelodd y brenin fod yn rhaid anrhydeddu y fath ddewrder eithriadol; ac un diwrnod dacw arweinydd bechgyn "y gaib a'r rhaw "—y Capten D.Watts Morgan o Gwm Rhondda—yn cael ei alw i Buckingham Palace i dderbyn y D.S.O.; a chafodd amryw eraill o honynt y D.C.M. a'r M.M. yr un modd.
Ein cyndeidiau—y Siluriaid oedd ymhlith y rhai dewraf ymladdodd â Rhufain gynt, a sicr yw bod "Siluriaid heddyw" wedi profi eu hun yn olynyddion teilwng iddynt.
Ymhen blynyddoedd i ddod, pan fydd sôn efallai am y Rhyfel Mawr rywbryd, mor falch y byddwn yn gallu teimlo am ran y Cymry ynddi; ac yn enwedig y Cymry hynny, heb ddim ond mendryl a rhofiau yn eu dwylo, a safasant yn ddiofn o flaen milwyr goreu yr Almaen, gan fynnu parch ac edmygedd hyd yn oed oddiwrth eu gelynion.
GEIRFA.
A
abad=abbot.
Aberdaugleddau=Milford.
Abergwyngregin=Aber of the white shells,
near Bangor, now called Aber simply.
Aberhonddu=Brecon.
âch=pedigree.
Afan=the ancient town now called Aberafon.
afrwydd=difficult.
angherddol=intense.
anghydfod=disagreement.
alcan=tin.
amharch=disrespect,
amrantiad=a wink, a second.
anaf=wound.
anamyneddgar=impatient.
aneirif=innumerable.
anfoddog=dissatisfied.
anterth=prime.
anturiaethus=venturesome.
anwariaid=savages.
ar log=given out at interest.
ar ŵyr=aslant.
arddangosfa=exhibition, show.
arfaethu=to design, to purpose.
argae=embankment.
argoeli=to betoken.
arlais=the temple.
arosfeydd=sheepwalks.
B
balinger=a kind of boat much used in the
Middle Ages for conveying pilgrims.
Bannau Brycheiniog = Brecknock Beacons.
bathodyn=medal.
Berclos=the Welsh form of Berkrolles, a Norman name.
beudai=cowhouses.
bidog=bayonet.
blaenau=the most remote parts of a country.
bol llong=the hold of a ship.
boncyff=stump.
breinlen=charter.
brodorion=natives.
Bryste=Bristol.
Buallt=Builth.
bwriadu=to intend.
bwrw coelbren=to cast lots.
C
cadfridog=a general.
Caerwrangon = Worcester.
campau=games.
canzonet=a French lyric.
carlamu=to gallop.
Carn y Moesau=a cairn on Craig-y-Llyn.
Rhigos.=The highest point in Glamorgan.
cast=a trick.
catrawd=a regiment.
cawell=a creel or cradle.
celain=corpse.
celanedd=slaughter.
cenawon cubs.
cenddi=foxes (pl. of canddo).
Sometimes used in Glamorgan.
cenelau=kennels.
Cernyw=Cornwall.
ceyrydd=walls, fortresses.
cilfach=a nook.
cludiad=carriage, passage.
clustfeinio=to listen intently.
coegyn=a conceited man.
coflaid=an armful.
corwynt=hurricane.
cot annw'l=an effective beating.
The term is often used in Glamorgan in a playful sense.
crafangau=claws, clutches.
crech wen=loud laughter.
croch=vehement, loud.
Croniclau=chronicles.
crwydryn=a tramp.
cryman=a sickle.
crynswth=a mass.
cydymaith=companion.
cyfarch=to greet.
cyfieithydd=a translator.
cyflafan=massacre.
cyfnos=dusk.
cyfres=a series.
cyfrinach=a secret.
cyff=stock, stem.
cyhuddo=to accuse.
cynddeiriog=mad, furious.
cynllunio=to plan.
cywain=to carry (especially crops).
CH
chwannog=inclined to.
chwyrnu=to snarl.
chwaraele=a playground.
D
datgan=to declare.
datguddio=to reveal.
dawn=a gift, a talent.
dedfrydu=to sentence.
deheuig=skilful.
deiliaid=tenants, subjects.
dial=revenge.
dihareb=a proverb.
diasbedain=to resound.
didostur=pitiless.
diddordeb=interest.
diddymu=to abolish.
dienyddiwr=executioner.
difrod=havoc.
diffaith=waste.
digrifwch=amusement.
dihysbydd=inexhaustible.
dilyw=a flood.
diwedydd=end of the day, evening.
dofito=tame.
dogn=a dose.
dolef=a cry.
drycin=stormy weather-from "drwg" and "hin."
dyfalu=to conjecture.
Dyfed=South-West Wales.
Dyfnaint=Devon.
dyfrgwymp=waterfalls.
dyrnaid=a handful.
E
Ebryw=Hebrew.
edmygedd=admiration.
egniol=vigorous.
eilun = idol.
eillio=to shave.
eithriad=exception.
Ellmyn=a German.
encilio=to retreat.
ennyd=a short space of time.
erchyll=horrible.
eryr=an eagle.
euraid=of gold.
ewyn=foam.
FF
ffefryn=a favourite.
fflachion=matches.
ffoadura=fugitive.
ffug=false, sham.
ffust=a flail.
Ffynnon Dydfil=a well-known well near which Tydfil
the martyr was killed. Hence Merthyr Tydfil.
G
gaeafdre the winter quarters of a tribe or family.
gerwin=rough.
golas=bluish.
goresgyn=to invade.
gorfoledd=joy.
gormes=oppression.
gorwel=the horizon.
gosgo=attitude.
goslef=tone of voice.
gwaed-dâl=blood-money.
gwain=scabbard.
gwarchae=a siege.
Gwern Bleiddiau=the wolves' alder-swamp,
a farm near Pont-neath-vaughan.
gwesty=an inn.
gwladfawyr=colonists.
gwrhydri=bravery.
gwrych=bristles, also a hedge.
gwydn=tough.
gwyliedydd=a sentry.
gwyll=darkness.
gŵyro=to swerve, to bend.
gwystlon=pledges, hostages.
gynwêl=a corruption of the English gunwale.
"a part of a boat or ship".
H
Hafren Severn.
haelioni generosity.
haerllug impudent.
hala=to send, to drive.
he'd also (a contraction "hefyd.")
Henffordd Hereford.
hinon fine weather.
hunllef nightmare.
Hwlffordd Haverfordwest.
hwsmon-husbandman.
hynafiaid ancestor.
LL
llafnen=flake.
llain=patch.
Llanddunwyd=St. Donat's.
Llansawel=Briton Ferry.
llechwedd=slope.
lledwad=ladle.
llechwraidd=stealthy.
lleddfu=to allay.
lleiaf eu tramwy=least frequented.
llidio=to enrage.
lludded=weariness.
lluest=a temporary building.
llwfryn=coward.
Llychlyn = Norway.
Llydaw=Brittany.
llysenwau=nicknames.
M
Maesaleg=a village in Monmouth, now called Basaleg.
maes câd=field of battle.
mêdd=mead (a drink).
mendryl=Welsh plural form of "mandrils."
merthyrdod=martyrdom.
milain=villain.
milwriad=a colonel.
moesgar=polite.
mynachlog=a monastery.
morc=an old English coin (mark) of the value of 13/4.
Morgeinwyr=Men of Glamorgan.
mwng=mane.
mwnfeydd=mines.
mwsged=a musket.
mynach=monk.
Mynwy=Monmouth.
N
nadu=to howl.
namyn=except.
nemor=scarcely any.
nengraig=the rock top in a colliery.
noswyl=vigil.
O
odid=scarcely.
oedi=to delay.
ogof=a cavern.
olynyddion=successors.
Orewyn=a bridge near Builth
where the Welsh made a last stand in 1282.
oriel=gallery.
P
paith=prairie.
palf=paw.
palmantu=to pave.
parwydydd=plural of "pared," a partition wall.
parau=pairs.
Pengryniaid=Roundheads—the
popular nickname for Cromwell's soldiers.
pererindod=pilgrimage.
petruso=to hesitate.
picellu=to spear.
pladur=a scythe.
plymio=to plumb.
Pontfaen=Cowbridge.
porthor=doorkeeper.
pridwerth=ransom.
prysuro=to hasten.
pydew=a pit.
PH
phiol (better ffiol)=cup.
RH
rhagoriaethau = virtues.
rheibio=to bewitch.
rhelyw=the remainder.
rhôs=moor.
rhuthr=assault.
rhwyd=a net.
rhybuddio=to warn.
Rhydychen=Oxford.
rhyfygus=wilful.
S
St. Giles the pilgrim church of Neath.
Sant Iago=a celebrated shrine in the north of Spain.
soniarus=melodious.
"spel whiff "=a respite from work at the coal face.
sypyn=a parcel.
T
taerineb=earnestness.
talaith=a province.
talcen glo=a stall (in a colliery).
terfysg=disturbance.
tanchwa=an explosion.
telerau=terms.
tesog=sunny.
tolc=a chunk.
trafodaeth=transaction.
trai=ebb.
trallod=trouble.
tramgwyddo=to take offence.
tramwy=to wander.
trawst=beam.
trosglwyddiad=transfer.
trum=ridge.
trwsgl=clumsy.
trengholydd=coroner.
trothwy=threshold.
trywanu=to stab.
twrio=to burrow (S.W.).
twymyn=fever.
tyddyn=homestead:
the word is often shortened to "ty'n " as Ty'n y pant.
tynged=fate.
tyrpig=a corruption of the English "turnpike."
tyrru=to crowd together.
U
udo=to howl.
urddasol=noble.
ustus=a magistrate.
Y
ychwanegu=to add.
Y
ychwanegu=to add
y Fro=the Vale of Glamorgan
yr Alban=Scotland
yngan=to utter
yngŵydd=in the presence of
ymgeledd=secour
ymgyrch=campaign
ymgroesi=to make the sign of the Cross
ymerawdr=emperor
ysbonc to give a sudden motion
ysbyty=hosptial
ysgarmes=skirmish
ysgerbwd=skeleton
ysgil=guile
ysgrepan=a wallet
ysmala=droll
ystenaid=a pitcher full

Nodiadau
[golygu]Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.