Beibl (1588)/Sant Marc

Oddi ar Wicidestun
Mathew Beibl (1588)
Marc
Marc
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Luc

Efengyl Iesu Grist yn
ôl S. Marc.

PENNOD. I.

Swydd Ioan. 9 Bedydd. 13 Temtasiwn. 14 A phregethiaid Crist.

1 Dechreu Efengyl Iesu Grist, Fâb Duw.

2 Fel yr scrifennir yn y Prophwydi, wele, yr ydwyf yn anfon fyng-hennad o flaen dy wyneb, yr hwn a derfna dy ffordd o’th flaen.

3 Llef vn yn llefain yn y diffaethwch, paratoiwch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn iniawn ei lwybrau ef.

4 Ioan ydoedd yn bedyddio yn y diffaethwch, ac yn pregethu bedydd edifeirwch, er maddeuant pechodau.

5 Ac holl wlâd Iudæa a aeth allan atto ef, ac hwy o Ierusalem, ac a’u bedyddiwyd ôll ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffessu eu pechodau.

6 Ac Ioan oedd wedi ei wisco â blew Camel, a gwregis croen yng-hylch ei lwynau, a’i fwyd oedd locust a mêl gwyllt.

7 Ac efe a bregethodd gan ddywedyd, y mae yn dyfod ar fy ôl i vn cadarnach nâ myfi, yr hwn nid wyf deilwng i ostwng i ddattod carrae ei escidiau.

8 Myfi a’ch bedyddiais chwi â dwfr: eithr efe a’ch bedyddia chwi â’r Yspryd glân.

9 A bu yn y dyddiau hynny i’r Iesu ddyfod o Nazareth yn Galilæa, ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen.

10 Ac yn ebrwydd yn codi i fynu o’r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agoryd, a’r Yspryd glân yn descyn arno megis colomen.

11 A llef a ddaeth o’r nefoedd: ty-di yw fy annwyl Fâb, yn yr hwn i’m bodlonwyd.

12 Ac yn ebrwydd y gyrrodd yr yspryd ef i’r diffaethwch.

13 Ac efe a fu yno yn y diffaethwch ddaugain nhiwrnod yn ei demtio gan Satan: ac yr oedd efe gyd â’r gwyllt-filod, a’r angelion a weinasant iddo.

14 Yn ôl traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilæa, gan bregethu Efengyl teyrnas Dduw, a dywedyd:

15 Yr amser a gyflawnwyd, ac y mae teyrnas Dduw yn agos, edifarhewch, a chredwch yr Efengyl.

16 Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilæa, efe a ganfu Simon, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr, (canys pyscodwŷr oeddynt)

17 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt: cynlynwch fi, a mi a’ch gwnaf yn byscodwŷr dynnion.

18 Ac yn ebrwydd gan adel eu rhwydau y canlynasant ef.

19 Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno, efe a ganfu Iaco fâb Zebedeus, ac Ioan ei frawd, a hwy yn y llong yn cyweirio y rhwydau.

20 Ac yn y man efe a’u galwodd hwynt, ac hwy a adawsant eu tâd Zebedeus yn y llong, a’r cyflog-ddynion, ac a aethant ar ei ôl ef.

21 Yna’r aethant i Capernaum; ac yn ebrwydd ar y dydd Sabboth wedi iddo fyned i mewn i’r Synagog, efe a’u dyscodd [hwynt.]

22 A rhyfeddu a wnaethant wrth ei athrawiaeth ef, canys yr oedd efe yn eu dyscu hwynt megis trwy awdurdod, ac nid fel yr scrifennyddion.

23 Ac yr oedd gŵr yn eu Synagog hwynt, ac ynddo yspryd aflan, yr hwn a lefodd gan ddywedyd:

24, Och, beth sydd i ni [a wnelom] â thi Iesu o Nazareth? a ddaethost ti i’n difetha ni? mi a wn pwy ydwyt ti ô Sanct Duw.

25 A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, taw, a dôs allan o honaw.

26 Yna wedi i’r yspryd aflan ei rwygo ef, a gweiddi â llef vchel, efe a ddaeth allan o honaw.

27 Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynnasant yn eu mysc eu hun: beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon? pa wedd trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn yr ysprydion aflan, a hwythau yn vfuddhau iddo?

28 Ac yn gyflym yr aeth y gair am dano ef tros yr holl wlâd o amgylch Galilæa.

29 Yna wedi iddynt fyned allan o’r Synagog, yr aethant i dŷ Simon ac Andreas, gyd ag Iago, ac Ioan.

30 Ac yr ydoedd chwegr Simon yn glaf o’r crŷd, ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho am danihi.

31 Yna y daeth efe atti hi, ac a’i cododd i fynu gan ymafaelyd yn ei llaw, a’r crŷd a’i gadawodd hi yn y man, ac hi a wasanaethodd arnynt hwy.

32 Ac wedi iddi hwyrhau, ac i’r haul fachludo, y dugasant atto bawb oll a’r a oeddynt gleifion, a’r rhai cythreulig.

33A'r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws. 34Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac ni adawodd i'r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef. 35A'r bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd. 36A Simon, a'r rhai oedd gydag ef, a'i dilynasant ef. 37Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di. 38Ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn i'r trefydd nesaf, fel y gallwyf bregethu yno hefyd: canys i hynny y deuthum allan. 39Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea, ac yn bwrw allan gythreuliaid. 40A daeth ato ef un gwahanglwyfus, gan ymbil ag ef, a gostwng ar ei liniau iddo, a dywedyd wrtho, Os mynni, ti a elli fy nglanhau. 41A'r Iesu, gan dosturio, a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Mynnaf, bydd lân. 42Ac wedi iddo ddywedyd hynny, ymadawodd y gwahanglwyf ag ef yn ebrwydd, a glanhawyd ef. 43Ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth, efe a'i hanfonodd ef ymaith yn y man; 44Ac a ddywedodd wrtho, Gwêl na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad y pethau a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy. 45Eithr efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu'r gair ar led, fel na allai'r Iesu fyned mwy yn amlwg i'r ddinas; eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd: ac o bob parth y daethant ato ef.