Neidio i'r cynnwys

Beibl (1620)/Barnwyr

Oddi ar Wicidestun
(Ailgyfeiriad o Beibl/Barnwyr)
Josua Beibl (1620)
Barnwyr
Barnwyr

wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Ruth

LLYFR Y BARNWYR

PENNOD 1

1:1 A wedi marw Josua, meibion Israel a ymofynasant â’r ARGLWYDD, gan ddywedyd, Pwy a â i fyny drosom ni yn erbyn y Canaaneaid yn flaenaf, i ymladd â hwynt?

1:2 A dywedodd yr ARGLWYDD, Jwda a â i fyny: wele, rhoddais y wlad yn ei law ef.

1:3 A Jwda a ddywedodd wrth Simeon ei frawd. Tyred i fyny gyda mi i’m rhandir, fel yr ymladdom yn erbyn y Canaaneaid; a minnau a af gyda thi i’th randir dithau. Felly Simeon a aeth gydag ef.

1:4 A Jwda a aeth i fyny; a’r ARGLWYDD a roddodd y Canaaneaid a’r Pheresiaid yn eu llaw hwynt: a lladdasant ohonynt, yn Besec, ddengmil o wŷr.

1:5 A hwy a gawsant Adoni-besec yn Besec: ac a ymladdasant yn ei erbyn; ac a laddasant y Canaaneaid a’r Pheresiaid.

1:6 Ond Adoni-besec a ffodd; a hwy a erlidiasant ar ei ôl ef, ac a’i daliasant ef, ac a dorasant fodiau ei ddwylo ef a’i draed.

1:7 Ac Adoni-besec a ddywedodd, Deg a thrigain o frenhinoedd, wedi torri bodiau eu dwylo a’u traed, a fu yn casglu eu bwyd dan fy mwrdd i: fel y gwneuthum, felly y talodd Duw i mi. A hwy a’i dygasant ef i Jerwsalem; ac efe a fu farw yno.

1:8 A meibion Jwda a ymladdasant yn erbyn Jerwsalem; ac a’i henillasant hi, ac a’i trawsant â min y cleddyf; a llosgasant y ddinas â thân.

1:9 Wedi hynny meibion Jwda a aethant i waered i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn y mynydd, ac yn y deau, ac yn y gwastadedd.

1:10 A Jwda a aeth yn erbyn y Canaan¬eaid oedd yn trigo yn Hebron: (ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer-Arba:) a hwy a laddasant Sesai, ac Ahiman, a Thalmai.

1:11 Ac efe a aeth oddi yno at drigolion Debir: (ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath-seffer:)

1:12 A dywedodd Caleb, Yr hwn a drawo Ciriath-seffer, ac a’i henillo hi, mi a roddaf Achsa fy merch yn wraig iddo.

1:13 Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef, a’i henillodd hi. Yntau a roddes Achsa ei ferch yn wraig iddo.

1:14 A phan ddaeth hi i mewn ato ef, hi a’i hanogodd ef i geisio gan ei thad ryw faes: a hi a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?

1:15 A hi a ddywedodd wrtho, Dyro i mi fendith: canys gwlad y deau a roddaist i mi; dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. A Caleb a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf.

1:16 A meibion Ceni, chwegrwn Moses, a aethant i fyny o ddinas y palmwydd gyda meibion Jwda, i anialwch Jwda, yr hwn sydd yn neau Arad: a hwy a aethant ac a drigasant gyda’r bobl.

1:17 A Jwda a aeth gyda Simeon ei frawd: a hwy a drawsant y Canaaneaid oedd yn preswylio yn Seffath, ac a’i difrodasant hi. Ac efe a alwodd enw y ddinas Horma.

1:18 Jwda hefyd a enillodd Gasa a’i therfynau, ac Ascalon a’i therfynau, ac Ecron a’i therfynau.

1:19 A’r ARGLWYDD oedd gyda Jwda; ac efe a oresgynnodd y mynydd: ond ni allai efe yrru allan drigolion y dyffryn; canys cerbydau heyrn oedd ganddynt.

1:20 Ac i Caleb y rhoesant Hebron; fel y llefarasai Moses: ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac.

1:21 Ond meibion Benjamin ni yrasant allan y Jebusiaid y rhai oedd yn pres¬wylio yn Jerwsalem: ond y mae y Jebus¬iaid yn trigo yn Jerwsalem gyda meibion Benjamin hyd y dydd hwn.

1:22 A thŷ Joseff, hwythau hefyd a aethant i fyny yn erbyn Bethel: a’r ARGLWYDD oedd gyda hwynt.

1:23 A thylwyth Joseff a barasant chwilio Bethel; (ac enw y ddinas o’r blaen oedd Lus.)

1:24 A’r ysbïwyr a welsant ŵr yn dyfod allan o’r ddinas; ac a ddywedasanf wrtho, Dangos i ni, atolwg, y ffordd yr eir i’r ddinas, a ni a wnawn drugaredd â thi.

1:25 A phan ddangosodd efe iddynt hwy y ffordd i fyned i’r ddinas, hwy a drawsant y ddinas â min y cleddyf; ac a ollyngasant ymaith y gŵr a’i holl deulu.

1:26 A’r gŵr a aeth i wlad yr Hethiaid; ac a adeiladodd ddinas, ac a alwodd ei henw Lus: dyma ei henw hi hyd y dydd hwn.

1:27 Ond ni oresgynnodd Manasse Beth-sean na’i threfydd, na Thaanach na’i threfydd, na thrigolion Dor na’i threfydd, na thrigolion Ibleam na’i threfydd, na thrigolion Megido na’i threfydd: eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.

1:28 Ond pan gryfhaodd Israel, yna efe a osododd y Canaaneaid dan dreth; ond nis gyrrodd hwynt ymaith yn llwyr.

1:29 Effraim hefyd ni yrrodd allan y Canaaneaid oedd yn gwladychu yn Geser; eithr y Canaaneaid a breswyliasant yn eu mysg hwynt yn Geser.

1:30 A Sabulon ni yrrodd ymaith drigolion Citron, na phreswylwyr Nahalol; eithr y Canaaneaid a wladychasant yn eu mysg hwynt, ac a aethant dan dreth.

1:31 Ac Aser ni yrrodd ymaith drigol¬ion Acco, na thrigolion Sidon, nac Alab, nac Achsib, na Helba, nac Affic, na Rehob:

1:32 Ond Aser a drigodd ymysg y Canaaneaid, trigolion y wlad; canys ni yrasant hwynt allan.

1:33 A Nafftali ni yrrodd allan breswylwyr Beth-semes, na thrigolion Beth-anath; eithr efe a wladychodd ymysg y Canaaneaid, trigolion y wlad: er hynny preswylwyr Beth-semes a Beth-anath oedd dan dreth iddynt.

1:34 A’r Amoriaid a yrasant feibion Dan i’r mynydd: canys ni adawsant iddynt ddyfod i waered i’r dyffryn.

1:35 A’r Amoriaid a fynnai breswylio ym mynydd Heres yn Ajalon, ac yn Saalbim: eto llaw tŷ Joseff a orthrechodd, a’r Amoriaid fuant dan dreth iddynt.

1:36 A therfyn yr Amoriaid oedd o riw Acrabbim, o’r graig, ac uchod.

PENNOD 2

2:1 Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth i fyny o Gilgal i Bochim, ac a ddywedodd, Dygais chwi i fyny o’r Aifft, ac arweiniais chwi i’r wlad am yr hon y tyngais wrth eich tadau; ac a ddywedais, Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth.

2:2 Na wnewch chwithau gyfamod â thrigolion y wlad hon; ond bwriwch i lawr eu hallorau: eto ni wrandawsoch ar fy llef: paham y gwnaethoch hyn?

2:3 Am hynny y dywedais, Ni yrraf hwynt allan o’ch blaen chwi: eithr byddant i chwi yn ddrain yn eich ystlysau, a’u duwiau fydd yn fagl i chwi.

2:4 A phan lefarodd angel yr ARGLWYDD y geiriau hyn wrth holl feibion Israel, yna y bobl a ddyrehafasant eu llef, ac a wylasant.

2:5 Ac a alwasant enw y lle hwnnw Bochim: ac yna yr aberthasant i’r AR¬GLWYDD.

2:6 A Josua a ollyngodd y bobl ymaith; a meibion Israel a aethant bob un i’w etifeddiaeth, i feddiannu y wlad.

2:7 A’r bobl a wasanaethasant yr AR¬GLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid y rhai a fu fyw ar ôl Josua, y rhai a welsent holl fawrwaith yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaethai efe er Israel.

2:8 A bu farw Josua mab Nun, gwas yr ARGLWYDD, yn fab dengmlwydd a chant.

2:9 A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath-heres, ym mynydd Effraim, o du y gogledd i fynydd Gaas.

2:10 A’r holl oes honno hefyd a gasglwyd at eu tadau: a chyfododd oes arall ar eu hôl hwynt, y rhai nid adwaenent yr ARGLWYDD, na’i weithredoedd a wnaethai efe er Israel.

2:11 A meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baalim:

2:12 Ac a wrthodasant ARGLWYDD DDUW eu tadau, yr hwn a’u dygasai hwynt o wlad yr Aifft, ac a aethant ar ôl duwiau dieithr, sef rhai o dduwiau y bobloedd oedd o’u hamgylch, ac a ymgrymasant iddynt, ac a ddigiasant yr ARGLWYDD.

2:13 A hwy a wrthodasant yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baal ac Astaroth.

2:14 A llidiodd dicllonedd yr AR¬GLWYDD yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr, y rhai a’u hanrheithiasant hwy; ac efe a’u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion.

2:15 I ba le bynnag yr aethant, llaw yr ARGLWYDD oedd er drwg yn eu herbyn hwynt; fel y llefarasai yr ARGLWYDD, ac fel y tyngasai yr ARGLWYDD wrthynt hwy: a bu gyfyng iawn arnynt.

2:16 Eto yr ARGLWYDD a gododd farnwyr, y rhai a’u hachubodd hwynt o law eu hanrheithwyr.

2:17 Ond ni wrandawent chwaith ar eu barnwyr; eithr puteiniasant ar ôl duwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd y rhodiasai eu tadau hwynt ynddi, gan wrando ar orchmynion yr ARGLWYDD, ond ni wnaethant hwy felly.

2:18 A phan godai yr ARGLWYDD farnwyr arnynt hwy, yna yr ARGLWYDD fyddai gyda’r barnwr, ac a’u gwaredai hwynt o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr: canys yr ARGLWYDD a dosturiai wrth eu griddfan hwynt, rhag eu gorthrymwyr a’u cystuddwyr.

2:19 A phan fyddai farw y barnwr, hwy a ddychwelent, ac a ymlygrent yn fwy na’u tadau, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymgrymu iddynt: ni pheidiasant â’u gweithredoedd eu hunain, nac â’u ffordd wrthnysig.

2:20 A dicllonedd yr ARGLWYDD a lidiai yn erbyn Israel: ac efe a ddywedai, Oblegid i’r genedl hon droseddu fy nghyfamod a orchmynnais i’w tadau hwynt, ac na wrandawsant ar fy llais;

2:21 Ni chwanegaf finnau yrru ymaith o’u blaen hwynt neb o’r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw:

2:22 I brofi Israel trwyddynt hwy, a gadwent hwy ffordd yr ARGLWYDD, gan rodio ynddi, fel y cadwodd eu tadau hwynt, neu beidio.


2:23 Am hynny yr ARGLWYDD a adawodd y cenhedloedd hynny, heb eu gyrru ymaith yn ebrwydd; ac ni roddodd hwynt yn llaw Josua.

PENNOD 3

3:1 DYMA y cenhedloedd a adawodd yr ARGLWYDD i brofi Israel trwyddynt, (sef y rhai oll ni wyddent gwbl o ryfeloedd Canaan;

3:2 Yn unig i beri i genedlaethau meibion Israel wybod, i’w dysgu hwynt i ryfel; y rhai yn ddiau ni wyddent hynny o’r blaen;)

3:3 Pum tywysog y Philistiaid, a’r holl Ganaaneaid, a’r Sidoniaid, a’r Hefiaid y rhai oedd yn aros ym mynydd Libanus, o fynydd Baal-hermon, hyd y ffordd y deuir i Hamath.

3:4 A hwy a fuant i brofi Israel trwyddynt, i wybod a wrandawent hwy ar orchmynion yr ARGLWYDD, y rhai a orchmynasai efe i’w tadau hwynt trwy law Moses.

3:5 A meibion Israel a drigasant ymysg y Canaaneaid, yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid:

3:6 Ac a gymerasant eu merched hwynt iddynt yn wragedd, ac a roddasant eu merched i’w meibion hwythau, ac a wasanaethasant eu duwiau hwynt.

3:7 Felly meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a anghofiasant yr ARGLWYDD eu DUW;) ac a wasanaethasant Baalim, a’r llwyni.

3:8 Am hynny dicllonedd yr ARGLWYDD a lidiodd yn erbyn Israel, ac efe a’u gwerthodd hwynt i law Cusan-risathaim, brenin Mesopotamia: a meibion Israel a wasanaethasant Cusan-risathaim wyth mlynedd.

3:9 A meibion Israel a waeddasant ar yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a gododd achubwr i feibion Israel, yr hwn a’u hachubodd hwynt; sef Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef.

3:10 Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddaeth arno ef, ac efe a farnodd Israel, ac a aeth allan i ryfel: a’r ARGLWYDD a roddodd yn ei law ef Cusan-risathaim, brenin Mesopotamia; a’i law ef oedd drech na Cusan-risathaim.

3:11 A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd. A bu farw Othniel mab Cenas.

3:12 A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a nerthodd Eglon brenin Moab yn erbyn Israel, am iddynt wneuthur drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD.

3:13 Ac efe a gasglodd ato feibion Ammon, ac Amalec, ac a aeth ac a drawodd Israel; a hwy a feddianasant ddinas y palmwydd.

3:14 Felly meibion Israel a wasanaethas¬ant Eglon brenin Moab ddeunaw mlyn¬edd.

3:15 Yna meibion Israel a lefasant ar yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a gododd achubwr iddynt; sef Ehwd mab Gera, fab Jemini, gŵr llawchwith: a meibion Israel a anfonasant anrheg gydag ef i Eglon brenin Moab.

3:16 Ac Ehwd a wnaeth iddo ddager ddaufiniog o gufydd ei hyd, ac a’i gwregysodd dan ei ddillad, ar ei glun ddeau.

3:17 Ac efe a ddug yr anrheg i Eglon brenin Moab. Ac Eglon oedd ŵr lew iawn.

3:18 A phan ddarfu iddo ef gyflwyno yr anrheg, efe a ollyngodd ymaith y bobl a ddygasai yr anrheg.

3:19 Ond efe ei hun a drodd oddi wrth y chwarelau oedd yn Gilgal, ac a ddywedodd, Y mae i mi air o gyfrinach â thi, O frenin. Dywedodd yntau, Gosteg; A’r holl rai oedd yn sefyll yn ei ymyl ef a aethant allan oddi wrtho ef.

3:20 Ac Ehwd a ddaeth i mewn ato ef: ac yntau oedd yn eistedd mewn ystafell haf, yr hon oedd iddo ef ei hunan. A dywedodd Ehwd, Gair oddi wrth DDUW sydd gennyf atat ti. Ac efe a gyfododd oddi ar ei orseddfa.

3:21 Ac Ehwd a estynnodd ei law aswy, ac a gymerth y ddager.oddi ar ei glun ddeau, ac a’i brathodd hi yn ei boten ef:

3:22 A’r carn a aeth i mewn ar ôl y llafn, a’r braster a ymgaeodd am y llafn, fel na allai dynnu y ddager allan o’i boten; a’r dom a ddaeth allan.

3:23 Yna Ehwd a aeth allan trwy’r cyntedd, ac a gaeodd ddrysau yr ystafell arno, ac a’u clodd.

3:24 Pan aeth efe ymaith, ei weision a ddaethant: a phan welsant, wele, fod drysau yr ystafell yn gloëdig, hwy a ddywedasant, Diau esmwythau ei gorff y mae efe yn yr ystafell haf.

3:25 A hwy a ddisgwyliasant, nes cywilyddio ohonynt: ac wele, nid oedd ef yn agori drysau yr ystafell. Yna hwy a gymerasant agoriad, ac a agorasant: ac wele eu harglwydd hwy wedi cwympo i lawr yn farw.

3:26 Ac Ehwd a ddihangodd, tra fuant hwy yn aros; ac efe a aeth y tu hwnt i’r chwarelau, ac a ddihangodd i Seirath.

3:27 A phan ddaeth, efe a utganodd mewn utgorn ym mynydd Effraim: a meibion Israel a ddisgynasant gydag ef o’r mynydd, ac yntau o’u blaen hwynt.

3:28 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Canlynwch fi: canys yr ARGLWYDD a roddodd eich gelynion chwi, sef Moab, yn eich llaw chwi. A hwy a aethant i waered ar ei ôl ef, ac a enillasant rydau yr Iorddonen tua Moab, ac ni adawsant i neb fyned drwodd.

3:29 A hwy a drawsant o’r Moabiaid y pryd hwnnw ynghylch deng mil o wŷr, pawb yn rymus, a phawb yn wŷr nerthol; ac ni ddihangodd neb.

3:30 Felly y darostyngwyd Moab y dwthwn hwnnw dan law Israel. A’r wlad a gafodd lonydd bedwar ugain mlynedd.

3:31 Ac ar ei ôl ef y bu Samgar mab Anath; ac efe a drawodd o’r Philistiaid chwe channwr ag irai ychen: yntau hefyd a waredodd Israel.

PENNOD 4

4:1 A MEIBION Israel a chwanegasant wneuthur drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, wedi marw Ehwd.

4:2 A’r ARGLWYDD a’u gwerthodd hwynt i law Jabin brenin Canaan, yr hwn oedd yn teyrnasu yn Hasor: a thywysog ei lu ef oedd Sisera; ac efe oedd yn trigo; yn Haroseth y cenhedloedd.

4:3 A meibion Israel a lefasant ar yr ARGLWYDD: canys naw can cerbyd haearn oedd ganddo ef; ac efe a orthrymodd feibion Israel yn dost ugain mlynedd.

4:4 A Debora y broffwydes, gwraig Lapidoth, hyhi oedd yn barnu Israel yr amser hwnnw.

4:5 Ac yr oedd hi yn trigo dan balmwydden Debora, rhwng Rama a Bethel, ym mynydd Effraim: a meibion Israel a ddeuent i fyny ati hi am farn.

4:6 A hi a anfonodd, ac a alwodd am Barac mab Abinoam, o Cedes-Nafftali; ac a ddywedodd wrtho, Oni orchmynnodd ARGLWYDD DDUW Israel, gan ddywedyd, dos, a thyn tua mynydd Tabor, a chymer gyda thi ddeng mil o wŷr, o feibion Nafftali, ac o feibion Sabulon?

4:7 A mi a dynnaf atat, i afon Cison, Sisera tywysog llu Jabin, a’i gerbydau, a’i liaws; ac a’i rhoddaf ef yn dy law di.

4:8 A Barac a ddywedodd wrthi, Od ei di gyda mi, minnau a af; ac onid ei gyda mi, nid af.

4:9 A hi a ddywedodd, Gan fyned yr af gyda thi: eto ni bydd gogoniant i ti yn y daith yr wyt yn myned iddi; canys yn llaw gwraig y gwerth yr ARGLWYDD Sisera. A Debora a gyfododd, ac a aeth gyda Barac i Cedes.

4:10 A Barac a gynullodd Sabulon a Nafttali i Cedes; ac a aeth i fyny â deng mil o wŷr wrth ei draed: a Debora a aeth i fyny gydag ef.

4:11 A Heber y Cenead, o feibion Hobab, chwegrwn Moses, a ymneilltuasai oddi wrth y Ceneaid, ac a ledasai ei babell hyd wastadedd Saanaim, yr hwn sydd yn ymyl Cedes.

4:12 A mynegasant i Sisera, fyned o Barac mab Abinoam i fyny i fynydd Tabor.

4:13 A Sisera a gynullodd ei holl ger¬bydau, sef naw can cerbyd haearn, a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, o Haroseth y cenhedloedd hyd afon Cison.


4:14 A Debora a ddywedodd wrth Barac, Cyfod; canys hwn yw y dydd y rhoddodd yr ARGLWYDD Sisera yn dy law di: onid aeth yr ARGLWYDD allan o’th flaen di? Felly Barac a ddisgynnodd o fynydd Tabor, a deng mil o wŷr ar ei ôl.

4:15 A’r ARGLWYDD a ddrylliodd Sisera, a’i holl gerbydau, a’i holl fyddin, â min y cleddyf, o flaen Barac: a Sisera a ddisgynnodd oddi ar ei gerbyd, ac a ffodd ar ei draed.

4:16 Ond Barac a erlidiodd ar ôl y cerbydau, ac ar ôl y fyddin, hyd Haroseth y cenhedloedd: a holl lu Sisera a syrthiodd ar fin y cleddyf: ni adawyd un ohonynt.

4:17 Ond Sisera a ffodd ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead: canys yr oedd heddwch rhwng Jabia brenin Hasor a thŷ Heber y Cenead.

4:18 A Jael a aeth i gyfarfod â Sisera; ac a ddywedodd wrtho, Tro i mewn, fy arglwydd, tro i mewn ataf fi; nac ofna. Yna efe a drodd ati i’r babell, a hi a’i gorchuddiodd ef â gwrthban.

4:19 Ac efe a ddywedodd wrthi, Dioda fi, atolwg, ag ychydig ddwfr; canys sychedig wyf. Yna hi a agorodd gunnog o laeth, ac a’i diododd ef, ac a’i gor¬chuddiodd.

4:20 Dywedodd hefyd wrthi, Saf wrth ddrws y babell; ac os daw neb i mewn, a gofyn i ti, a dywedyd, A oes yma neb? yna dywed dithau, Nac oes.

4:21 Yna Jael gwraig Heber a gymerth hoel o’r babell, ac a gymerodd forthwyl yn ei llaw, ac a aeth i mewn ato ef yn ddistaw, ac a bwyodd yr hoel yn ei arlais ef, ac a’i gwthiodd i’r ddaear; canys yr oedd efe yn cysgu, ac yn lluddedig; ac felly y bu efe farw.

4:22 Ac wele, a Barac yn erlid Sisera, Jael a aeth i’w gyfarfod ef; ac a ddywed¬odd wrtho. Tyred, a mi a ddangosaf i ti y gŵr yr wyt ti yn ei geisio. Ac efe a ddaeth i mewn ati; ac wele Sisera yn gorwedd yn farw, a’r hoel yn ei arlais.

4:23 Felly y darostyngodd Duw y dwthwn hwnnw Jabin brenin Canaan o flaen meibion Israel.

4:24 A llaw meibion Israel a lwyddodd, ac a orchfygodd Jabin brenin Canaan, nes iddynt ddistrywio Jabin brenin Canaan.

PENNOD 5

5:1 Yna y canodd Debora a Barac mab Abinoam, y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd,

5:2 Am ddial dialeddau Israel, ac ymgymell o’r bobl, bendithiwch yr ARGLWYDD.

5:3 Clywch, O frenhinoedd; gwrandewch, O dywysogion: myfi, myfi a ganaf i’r ARGLWYDD; canaf fawl i ARGLWYDD DDUW Israel.

5:4 O ARGLWYDD, pan aethost allan o Seir, pan gerddaist o faes Edom, y ddaear a grynodd, a’r nefoedd a ddiferasant, a’r cymylau a ddefnynasant ddwfr.

5:5 Y mynyddoedd a doddasant o flaen yr ARGLWYDD, sef y Sinai hwnnw, o flaen ARGLWYDD DDUW Israel.

5:6 Yn nyddiau Samgar mab Anath, yn nyddiau Jael, y llwybrau a aeth yn anhygyrch, a’r fforddolion a gerddasant lwybrau ceimion.

5:7 Y maestrefi a ddarfuant yn Israel: darfuant, nes i mi, Debora, gyfodi; nes i mi gyfodi yn fam yn Israel.

5:8 Dewisasant dduwiau newyddion; yna rhyfel oedd yn y pyrth: a welwyd tarian na gwaywffon ymysg deugain mil yn Israel?

5:9 Fy nghalon sydd tuag at ddeddfwyr Israel, y rhai fu ewyllysgar ymhiith y bobl. Bendithiwch yr ARGLWYDD.

5:10 Y rhai sydd yn marchogaeth ar asynnod gwynion, y rhai sydd yn eistedd mewn barn, ac yn rhodio ar hyd y ffordd, lleferwch.

5:11 Y rhai a waredwyd rhag trwst y saethyddion yn y lleoedd y tynnir dwfr, yno yr adroddant gyfiawnderau yr AR¬GLWYDD, cyfiawnderau tuag at y trefydd yn Israel: yna pobl yr ARGLWYDD a ânt i waered i’r pyrth.

5:12 Deffro, deffro, Deborai deffro, deffro; traetha gân: cyfod, Barac, a chaethgluda dy gaethglud, O fab Abinoam.

5:13 Yna y gwnaeth i’r hwn a adewir lywodraethu ar bendefigion y bobl: yr ARGLWYDD a roddes i mi lywodraeth ar gedyrn.

5:14 O Effraim yr oedd eu gwreiddyn hwynt yn erbyn Amalec; ar dy ôl di, Benjamin, ymysg dŷ.bobl: y deddfwyr a ddaeth i waered o Machir, yr ysgrifenyddion o Sabulon.

5:15 A thywysogion Issachar oedd gyda Debora; ie, Issachar, a Barac: efe a anfonwyd ar ei draed i’r dyffryn. Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon.

5:16 Paham yr arhosaist rhwng y corlannau, i wrando brefiadau y defaid? Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon.

5:17 Gilead a drigodd o’r tu hwnt i’r Iorddonen: a phaham yr erys Dan mewn llongau? Aser a drigodd wrth borthladd y môr, ac a arhosodd ar ei adwyau.

5:18 Pobl Sabulon a roddes eu heinioes i farw; felly Nafftali ar uchelfannau y maes.

5:19 A brenhinoedd a ddaethant, ac a ymladdasant; yna brenhinoedd Canaan a ymladdasant yn Taanach, wrth ddyfroedd Megido; ni chymerasant elw o arian.

5:20 O’r nefoedd yr ymladdasant; y sêr yn eu graddau a ymladdodd yn erbyn Sisera.

5:21 Afon Cison a’u hysgubodd hwynt, yr hen afon, yr afon Cison. Fy enaid, ti a sethraist gadernid.

5:22 Yna y drylliodd carnau y meirch gan garlamau, carlamau ei gryfion ef.

5:23 Melltigwch Meros, eb angel yr AR¬GLWYDD, gan felltigo melltigwch ei thrigolion: am na ddaethant yn gynhorthwy i’r ARGLWYDD, yn gynhorthwy i’r ARGLWYDD yn erbyn y cedyrn.

5:24 Bendithier Jael, gwraig Heber y Cenead, goruwch gwragedd; bendithier hi goruwch gwragedd yn y babell.

5:25 Dwfr a geisiodd efe, llaeth a roddes hithau: mewn ffiol ardderchog y dug hi ymenyn.

5:26 Ei llaw a estynnodd hi at yr hoel, a’i llaw ddeau at forthwyl y gweithwyr; a hi a bwyodd Sisera, ac a thorrodd ei ben ef; gwanodd hefyd, a thrywanodd ei arlais ef.

5:27 Wrth ei thraed yr ymgrymodd efe; syrthiodd, gorweddodd: wrth ei thraed yr ymgrymodd efe, y syrthiodd: lle yr ymgrymodd, yno y syrthiodd yn farw.

5:28 Mam Sisera a edrychodd trwy ffenestr, ac a waeddodd trwy’r dellt, Paham yr oeda ei gerbyd ddyfod? paham yr arafodd olwynion ei gerbydau?

5:29 Ei harglwyddesau doethion a’i hatebasant; hithau hefyd a atebodd iddi ei hun,

5:30 Oni chawsant hwy? oni ranasant yr anrhaith, llances neu ddwy i bob gwr? anrhaith o wisgoedd symudliw i Sisera, anrhaith o wniadwaith symudliw, symud¬liw o wniadwaith o’r ddeutu, cymwys i yddfau yr anrheithwyr?

5:31 Felly y darfyddo am dy holl elynion, O ARGLWYDD: a bydded y rhai a’i hoffant ef fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym. A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd.

PENNOD 6

6:1 A MEIBION Israel a wnaethant ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn llaw Midian saith mlynedd.

6:2 A llaw Midian a orthrechodd Israel: a rhag y Midianiaid meibion Israel a wnaethant iddynt y llochesau sydd yn y mynyddoedd, a’r ogofeydd, a’r amddiffynfaoedd.

6:3 A phan heuasai Israel, yna Midian a ddaeth i fyny, ac Amalec, a meibion y dwyrain; hwy a ddaethant i fyny yn eu herbyn hwy:

6:4 Ac a wersyllasant yn eu herbyn hwynt, ac a ddinistriasant gnwd y ddaear, hyd oni ddelych i Gasa; ac ni adawsant ddim ymborth yn Israel, na dafad, nac eidion, nac asyn.

6:5 Canys hwy a ddaethant i fyny â’u hanifeiliaid, ac â’u pebyll, a daethant fel locustiaid o amldra; ac nid oedd rifedi arnynt hwy, nac ar eu camelod: a hwy a ddaethant i’r wlad i’w distrywio hi.


6:6 Ac Israel a aeth yn dlawd iawn o achos y Midianiaid: a meibion Israel a lefasant ar yr ARGLWYDD.

6:7 A phan lefodd meibion Israel ar yr ARGLWYDD oblegid y Midianiaid,

6:8 Yr ARGLWYDD a anfonodd broffwydwr at feibion Israel, yr hwn a ddywedodd wrthynt. Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel; Myfi a’ch dygais chwi i fyny o’r Aifft, ac a’ch arweiniais chwi o dy y caethiwed;

6:9 Ac a’ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid, ac o law eich holl orthrymwyr; gyrrais hwynt allan o’ch blaen chwi, a rhoddais eu tir hwynt i chwi:

6:10 A dywedais wrthych, Myfi yw yr ARGLWYDD eich Duw chwi; nac ofnwch dduwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond ni wrandawsoch ar fy llais.

6:11 Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth, ac a eisteddodd dan dderwen oedd yn Offra, yr hon oedd eiddo Joas yr Abiesriad: a Gedeon ei fab ef oedd yn dyrnu gwenith wrth y gwinwryf, i’w guddio rhag y Midianiaid.

6:12 Ac angel yr ARGLWYDD a ymddangosodd iddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Yr ARGLWYDD sydd gyda thi, ŵr cadarn nerthol.

6:13 A Gedeon a ddywedodd wrtho, O fy arglwydd, od yw yr ARGLWYDD gyda ni, paham y digwyddodd hyn oll i ni? a pha le y mae ei holl ryfeddodau ef, y rhai a fynegodd ein tadau i ni, gan ddywedyd, Oni ddug yr ARGLWYDD ni i fyny o’r Aifft? Ond yn awr yr AR¬GLWYDD a’n gwrthododd ni, ac a’n rhoddodd i law y Midianiaid.

6:14 A’r ARGLWYDD a edrychodd arno ef, ac a ddywedodd, Dos yn dy rymustra yma; a thi a waredi Israel o law y Midian¬iaid: oni anfonais i dydi?

6:15 Dywedodd yntau wrtho ef, O fy arglwydd, pa fodd y gwaredaf fi Israel? Wele fy nheulu yn dlawd ym Manasse, a minnau yn lleiaf yn nhŷ fy nhad.

6:16 A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Diau y byddaf fi gyda thi; a thi a drewi y Midianiaid fel un gŵr.

6:17 Ac efe a ddywedodd wrtho, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg, gwna erof fi arwydd mai ti sydd yn llefaru wrthyf.

6:18 Na chilia, atolwg, oddi yma, hyd oni ddelwyf atat, ac oni ddygwyf fy anrheg, a’i gosod ger dy fron. Dywed¬odd yntau, Myfi a arhosaf nes i ti ddychwelyd.

6:19 A Gedeon a aeth i mewn, ac a baratôdd fyn gafr, ac effa o beilliaid yn fara croyw: y cig a osododd efe mewn basged, a’r isgell a osododd efe mewn crochan; ac a’i dug ato ef dan y dderwen, ac a’i cyflwynodd.

6:20 Ac angel Duw a ddywedodd wrtho, Cymer y cig, a’r bara croyw, a gosod ar y graig hon, a thywallt yr isgell. Ac efe a wnaeth felly.

6:21 Yna angel yr ARGLWYDD a estynnodd flaen y ffon oedd yn ei law, ac a gyffyrddodd â’r cig, ac â’r bara croyw: a’r tân a ddyrchafodd o’r graig, ac a ysodd y cig, a’r bara croyw. Ac angel yr ARGLWYDD a aeth ymaith o’i olwg ef.

6:22 A phan welodd Gedeon mai angel yr ARGLWYDD oedd efe, y dywedodd Gedeon, Och, O ARGLWYDD Dnuw! oherwydd i mi weled angel yr AR¬GLWYDD wyneb yn wyneb.

6:23 A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Tangnefedd i ti: nac ofna; ni byddi farw.

6:24 Yna Gedeon a adeiladodd yno allor i’r ARGLWYDD, ac a’i galwodd Jehofah-shalom: hyd y dydd hwn y mae hi eto yn Offra eiddo yr Abiesriaid.

6:25 A’r noson honno y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Cymer y bustach sydd eiddo dy dad, sef yr ail fustach saith mlwydd oed; a bwrw i lawr allor Baal yr hon sydd eiddo dy dad, a thor i lawr y llwyn sydd yn ei hymyl hi:

6:26 Ac adeilada allor i’r ARGLWYDD dy DDUW ar ben y graig hon, yn y lle trefnus, a chymer yr ail fustach, ac offryma boethoffrwm a choed y llwyn, yr hwn a dorri di.

6:27 Yna Gedeon a gymerodd ddengwr o’i weision, ac a wnaeth fel y llefarasai yr ARGLWYDD wrtho: ac oherwydd ei fod yn ofni teulu ei dad, a gwŷr y ddinas, fel nas gallai wneuthur hyn liw dydd, efe a’i gwnaeth liw nos.

6:28 A phan gyfododd gwŷr y ddinas y bore, yna wele allor Baal wedi ei bwrw i lawr, a’r llwyn yr hwn oedd yn ei hymyl wedi ei dorri, a’r ail fustach wedi ei offrymu ar yr allor a adeiladasid.

6:29 A dywedodd pawb wrth ei gilydd, Pwy a wnaeth y peth hyn? Ac wedi iddynt ymofyn a chwilio, y dywedasant, Gedeon mab Joas a wnaeth y peth hyn.

6:30 Yna gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Joas, Dwg allan dy fab, fel y byddo marw: am iddo fwrw i lawr allor Baal, ac am iddo dorri’r llwyn oedd yn ei hymyl hi.

6:31 A Joas a ddywedodd wrth y rhai oll a oeddynt yn sefyll yn ei erbyn ef, A ddadleuwch chwi dros Baal? ai chwi a’i ceidw ef? yr hwn a ddadleuo drosto ef, bydded farw y bore hwn: os Duw yw efe, dadleued drosto ei hun, am fwrw ei allor ef i lawr.

6:32 Ac efe a’i galwodd ef y dwthwn hwnnw Jerwbbaal; gan ddywedyd, Dad¬leued Baal drosto ei hun, am fwrw ei allor i lawr.

6:33 Yna y Midianiaid oll, a’r Amaleciaid, a meibion y dwyrain, a gasglwyd ynghyd, ac a aethant drosodd, ac a wersyllasant yn nyffryn Jesreel.

6:34 Ond ysbryd yr ARGLWYDD a ddaeth ar Gedeon; ac efe a utganodd mewn utgorn, ac Abieser a aeth ar ei ôl ef.

6:35 Ac efe a anfonodd genhadau trwy holl Manasse, yr hwn hefyd a’i canlynodd ef: anfonodd hefyd genhadau i Aser, ac i Sabulon, ac i Nafftali; a hwy a ddaethant i fyny i’w cyfarfod hwynt.

6:36 A Gedeon a ddywedodd wrth DDUW, O gwaredi di Israel trwy fy llaw i, megis y lleferaist;

6:37 Wele fi yn gosod cnu o wlân yn y llawr dyrnu: os gwlith a fydd ar y cnu yn unig, a sychder ar yr holl ddaear; yna y caf wybod y gwaredi di Israel trwy fy llaw i, fel y lleferaist.

6:38 Ac felly y bu: canys cyfododd yn fore drannoeth, ac a sypiodd y cnu ynghyd, ac a wasgodd wlith o’r cnu, lonaid ffiol o ddwfr.

6:39 A Gedeon a ddywedodd wrth DDUW, Na lidied dy ddicllonedd i’m herbyn, a mi a lefaraf unwaith eto. Profaf yn awr, y waith hon yn unig, trwy’r cnu: bydded, atolwg, sychder ar y cnu yn unig, ac ar yr holl ddaear bydded gwlith.

6:40 A Duw a wnaeth felly y noson honno: canys yr oedd sychder ar y cnu yn unig, ac ar yr holl ddaear yr oedd gwlith.

PENNOD 7

7:1 Yna Jerwbbaal, hwnnw yw Gedeon, a gyfododd yn fore, a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, ac a wersyllasant wrth ffynnon Harod: a gwersyll y Midianiaid oedd o du y gogledd iddynt, wrth fryn More, yn y dyffryn.

7:2 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gedeon, Rhy luosog yw y bobl sydd gyda thi, i mi i roddi y Midianiaid yn eu dwylo; rhag i Israel ymogoneddu i’m herbyn, gan ddywedyd, Fy llaw fy hun a’m gwaredodd.

7:3 Am hynny, yn awr, cyhoedda lle y clywo y bobl, gan ddywedyd, Yr hwn sydd ofnus ac arswydus, dychweled ac ymadawed y bore o fynydd Gilead. A dychwelodd o’r bobl ddwy fil ar hugain, a deng mil a arosasant.

7:4 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gedeon, Eto y mae gormod o bobl. Dwg hwynt i waered at y dyfroedd, a mi a’u profaf hwynt yno i ti: ac am yr hwn y dywedwyf wrthyt, Hwn a â gyda, thi, eled hwnnw gyda thi; ac am bwy bynnag y dywedwyf wrthyt, Hwn nid â gyda thi, nac eled hwnnw gyda thi.

7:5 Felly efe a ddygodd y bobl i waered at y dyfroedd. A dywedodd yr AR¬GLWYDD wrth Gedeon, Pob un a lepio â’i dafod o’r dwfr fel y llepio ci, gosod ef o’r neilltu; a phob un a ymgrymo ar ei liniau i yfed.

7:6 A rhifedi y rhai a godasant y dwfr a’u llaw at eu genau, oedd dri channwr: a’r holl bobl eraill a ymgrymasant ar eu gliniau i yfed dwfr.

7:7 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gedeon, Trwy’r tri channwr a lepiasant y dwfr, y gwaredaf chwi, ac y rhoddaf y Midianiaid yn dy law di: ac eled yr holl bobl eraill bob un i’w fangre ei hun.

7:8 Felly y bobl a gymerasant fwyd yn eu dwylo, a’u hutgym; a Gedeon a ollyngodd ymaith holl wŷr Israel., pob un i’w babell, a’r tri channwr a ataliodd efe: a gwersyll y Midianiaid oedd oddi tanodd iddo yn y dyffryn.

7:9 A’r noson honno y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Cyfod, dos i waered i’r gwersyll; canys mi a’i rhoddais yn dy law di.

7:10 Ac od wyt yn ofni myned i waered, dos di a Phura dy lanc i waered i’r gwersyll:

7:11 A chei glywed beth a ddywedant; fel yr ymnertho wedi hynny dy ddwylo, ac yr elych i waered i’r gwersyll. Yna efe a aeth i waered, a Phura ei lanc, i gwr y rhai arfogion oedd yn y gwersyll.

7:12 A’r Midianiaid, a’r Amaleciaid, a holl feibion y dwyrain, oedd yn gorwedd yn y dyffryn fel locustiaid o amldra; a’u camelod oedd heb rif, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra.

7:13 A phan ddaeth Gedeon, wele ŵr yn mynegi i’w gyfaill freuddwyd, ac yn dywedyd, Wele, breuddwyd a freuddwydiais; ac wele dorth o fara haidd yn ymdreiglo i wersyll y Midianiaid, a hi a ddaeth hyd at babell, ac a’i trawodd fel y syrthiodd, a hi a’i hymchwelodd, fel y syrthiodd y babell.

7:14 A’i gyfaill a atebodd ac a ddywedodd, Nid yw hyn ddim ond cleddyf Gedeon mab Joas, gŵr o Israel: Duw a roddodd Midian a’i holl fyddin yn ei law ef.

7:15 A phan glybu Gedeon adroddiad y breuddwyd, a’i ddirnad, efe a addolodd, ac a ddychwelodd i wersyll Israel; ac a ddywedodd, Cyfodwch: canys rhoddodd yr ARGLWYDD fyddin y Mid¬ianiaid yn eich llaw chwi.

7:16 Ac efe a rannodd y tri channwr yn dair byddin, ac a roddodd utgyrn yn llaw pawb ohonynt, a phiserau gwag, a lampau yng nghanol y piserau.

7:17 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Edrychwch arnaf fi, a gwnewch yr un ffunud: ac wele, pan ddelwyf i gwr y gwersyll, yna fel y gwnelwyf fi, gwnewch chwithau.

7:18 Pan utganwyf fi mewn utgorn, myfi a’r holl rai sydd gyda mi, utgenwch chwithau mewn utgyrn o amgylch yr holl wersyll, a dywedwch, Cleddyf yr ARGLWYDD a Gedeon.

7:19 Felly Gedeon a ddaeth i mewn, a’r cannwr oedd gydag ef, i gwr y gwersyll, yn nechrau’r wyliadwriaeth ganol, a’r gwylwyr wedi eu newydd osod, ac a utganasant mewn utgyrn, ac a ddrylliasant y piserau oedd yn eu dwylo.

7:20 A’r tair byddin a utganasant mewn utgyrn, ac a ddrylliasant y piserau, ac a ddaliasant y lampau yn eu llaw aswy, a’r utgyrn yn eu llaw ddeau i utganu: a hwy a lefasant, Cleddyf yr ARGLWYDD a Gedeon.

7:21 A safasant bob un yn ei le, o am¬gylch y gwersyll: a’r holl wersyll a redodd, ac a waeddodd, ac a ffodd.

7:22 A’r tri chant a utganasant ag ut¬gyrn; a’r ARGLWYDD a osododd gleddyf pob un yn erbyn ei gilydd, trwy’r holl wersyll: felly y gwersyll a ffodd hyd Beth-sitta, yn Sererath, hyd fin Abel-mehola, hyd Tabbath.

7:23 A gwŷr Israel a ymgasglasant, o Nafftali, ac o Aser, ac o holl Manasse, ac a erlidiasant ar ôl y Midianiaid.

7:24 A Gedeon a anfonodd genhadau trwy holl fynydd Effraim, gan ddywedyd, Deuwch i waered yn erbyn y Midianiaid, ac achubwch o’u blaen hwynt y dyfroedd hyd Beth-bara a’r Iorddonen: a holl wŷr Effraim a ym¬gasglasant, ac a enillasant y dyfroedd hyd Beth-bara a’r Iorddonen.

7:25 A daliasant ddau o dywysogion Midian, Oreb a Seeb; a lladdasant Oreb ar graig Oreb, a lladdasant Seeb wrth winwryf Seeb, ac a erlidiasant Midian, ac a ddygasant bennau Oreb a Seeb at Gedeon, i’r tu arall i’r Iorddonen.

PENNOD 8

º1 AGWŶR Effraim a ddywedasant wrtho ef, Paham y gwnaethost y peth hyn a ni, heb alw arnom ni pan iiethost i ymladd yn erbyn y Midianiaid? A hwy a’i dwrdiasant ef yn dost.

º2 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Beth xxx wneuthum i yn awr wrth a wnaethoch dwi? Onid gwell yw lloffiad grawnwin Lffraim, na chasgliad grawnwin Abieser?

º3 Duw a roddodd yn eich llaw chwi dywysogion Midian, Oreb a Seeb: a pheth a allwn i ei wneuthur wrth a wnaethoch chwi? Yna yr arafodd eu dig hwynt tuag ato ef, pan lefarodd efe y gair hwn.

º4 Sf, A daeth Gedeon i’r Iorddonen; ac a aeth drosti hi, efe a’r tri channwr oedd gydag ef, yn ddiffygiol, ac eto yn eu herlid hwy.

º5 Ac efe a ddywedodd wrth wŷr Succoth, Rhoddwch, atolwg, dorthau o fara i’r bobl sydd i’m canlyn i: canys lluddedig ydynt hwy; a minnau yn erlid ar ôl Seba a Sahnunna, brenbinoedd Midian.

º6 A dywedodd tywysogion Succoth, t\ yw llaw Seba a Salmunna yn awr yn dy law di, fel y rhoddem ni fara i’th lu di?

º7 A dywedodd Gedeon, Oherwydd hynny, pan roddo yr ARGLWYDD Seba a Sahnunna yn fy llaw i, yna y drylliaf-L-ich cnawd chwi a dram yr anialwch, ac ." mieri.

º8 Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Penuel, ac a lefarodd wrthynt hwythau yn yr un modd. A gwŷr Penuel a’i hatebasant ef fel yr atebasai gwŷr Sue-n)th.

º9 Ac efe a lefarodd hefyd wrth wŷr 1’enuel, gan ddywedyd. Pan ddychwelwyf mewn heddwch, mi a ddistrywiaf y twr yma.

º10 A Seba a Sahnunna oedd yn Career, a’u lluoedd gyda hwynt ynghylch pymtheng mil yr hyo. oll aadawsid o holl fyddin meibion y dwyrain: canys lladdwyd cant ac ugain mil. o wŷr yn tynnu cleddyf.

º11 A Gedeon a aeth i fyny ar hyd gbrdd y rhai oedd yn trigo mewn pebyll, o-’r tu dwyrain i Noba a Jogbeha: ac efe S drawodd y fyddin: canys y fyddin oedd ysgafala.

º12 A Seba a Salmunna a ffoesant: ac efe a erildiodd ar eu hôl hwynt; ac a ddaliodd ddau frenin Midian, Seba a Salmunna, ac a darfodd yr holl lu.

º13 A Gedeon mab Joas a ddychwel¬odd o’r rhyfel cyn codi yr haul.

º14 Ac efe a ddaliodd lane o wŷr Suc¬coth, ac a ymofynnodd ag ef. Ac yntau a ysgrifennodd iddo dywysogion Suc¬coth, a’r henuriaid; sef dau ŵr ar bymtheg a thrigain.

º15 Ac efe a ddaeth at wŷr Succoth, ac a ddywedodd, Wele Seba a Sahnunna, trwy y rhai y danodasoch i mi, gan ddywedyd, A ydyw llaw Seba a Sal-rounna yn awr yn dy law di, fel y rhodd¬em. fara i’th wŷr lluddedig?

º16 Ac efe a gymerth henuriaid y ddinas’, a drain yr anialwch, a raieri, ac a ddysgodd wŷr Succoth a hwynt.

º17 Twr Penuel hefyd a ddinistriodd efe, ac a laddodd wŷr y ddinas.

º18 Yna efe a ddywedodd wrth Seba a Salmunna, Pa fath wŷr oedd y rhai a laddasoch chwi yn Tabor? A hwy a ddywedasant, Tebyg i ti, pob un o ddull meibion brenin.

º19 Ac efe a ddywedodd, Fy mrodyr, meibion fy mam, oeddynt hwy: fel mai byw yr ARGLWYDD, pe gadawsech hwynt yn fyw, ni laddwn chwi.

º20 Ac efe a ddywedodd wrth Jether ei gyntaf-anedig, Cyfod, lladd hwynt. Ond ni thynnai y llanc ei gleddyf: oherwydd efe a ofnodd, canys bachgen oedd efe eto.

º21 Yna y dywedodd Seba a Salmunna, Cyfod di, a rhuthra i ni: canys fel y byddo y gŵr, felly y bydd ei rym. A Gedeon a gyfododd, ac a laddodd Setea a Salmunna, ac a gymerth y colerau oedd am yddfau eu camelod hwynt.

º22 A gwŷr Israel a ddywedasant wrth Gedeon, Arglwyddiaetha arnom ni, tydi, a’th fab, a mab dy fab hefyd: canys gwaredaist ni o law Midian.

º23 A Gedeon a ddywedodd wrthynt, Ni arglwyddiaethaf fi arnoch, ac ni arglwyddiaetha fy mab arnoch, eithr yr ARGLWYDD a arglwyddiaetha arnoch.

º24 Dywedodd Gedeon hefyd wrthynt, Gofynnaf ddymuniad gennych, ar roddi o bob un o honoch i mi glustlysau ei ysglyfaeth: canys clustlysau aur oedd ganddynt hwy, oherwydd mai Ismaeliaid oeddynt hwy.

º25 A dywedasant, Gan roddi y rhoddwn hwynt. A lledasant ryw wisg, a thaflasant yno bob un glustlws ei ysglyfaelh.

º26 A phwys y clustlysau aur a ofynasai efe, oedd fil a saith gant o siclau aur;-heblaw y colerau, a’r arogl-bellennau, a’r gwisgoedd porffor, y rhai oedd am frenhinoedd Midian; ac heblaw y tyrch oedd am yddfau eu camelod hwynt.

º27 A Gedeon a wnaeth ohonynt effod, ac a’i gosododd yn ei ddinas ei hun, Of&a: a holl Israel a buteiniasant ar ei hôl hi yno: a bu hynny yn dramgwydd i Gedeon, ac i’w dŷ.

º28 Felly y darostyngwyd Midian o flaen meibion Israel, fel na chwanegasant godi eu pennau. A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd yn nyddiau Gedeon. .

º29 A Jerwbbaal mab Joas a aeth, ac a drigodd yn ei dy ei hun.,

º30 Ac i Gedeon yr oedd deng mab’a thrigain, a ddaethai o’i gorff ef: canys gwragedd lawer oedd iddo ef. .

º31 A’i ordderchwraig ef, yr hon oedd yn Sichern, a ymddug hefyd iddo fab: ac efe a osododd ei enw ef yn Abimelech.

º32 Felly Gedeon mab Joas a fu farw mewn oedran teg, ac a gladdwyd ym meddrod Joas ei dad, yn Offra yr Abiesriaid.

º33 A phan fu farw Gedeon, yna meib¬ion Israel a ddychwelasant, ac a butein¬iasant ar ôl Baalim; ac a wnaethant Baal-berith yn dduw iddynt.

º34 Felly meibion Israel ni chofiasant yr ARGLWYDD eu Duw, yr hwn a’u gwaredasai hwynt 6 law eu holl elynion o amgylch;

º35 Ac ni wnaethant garedigrwydd S. thŷ Jerwbbaal, sef Gedeon, yn ôl yr holl ddaioni a wnaethai efe i Israel.

PENNOD 9

º1 A3 Abimelech mab Jerwbbaal a aeth i Sichem, at frodyr ei fam, ac a ymddiddanodd â hwynt, ac a holl dylwyth ty tad ei fam, gan ddywedyd,

º2 Dywedwch, atolwg, lle y clywo holl wŷr Sichem, Pa un orau i chwi, ai arglwyddiaethu arnoch o ddengwr a thrigain, sef holl feibion Jerwbbaal, ai arglwyddiaethu o un gŵr arnoch? cofiwch hefyd mai eich asgwrn a’ch cnawd chwi ydwyf fi.

º3 A brodyr ei fam. a ddywedasant amdano ef, lle y clybu holl wŷr Sichem, yr holl eiriau hyn: a’u calonnau hwynt a drodd ar ôl Abimelech; canys dywed¬asant, Ein brawd ni yw efe.

º4 A rhoddasant iddo ddeg a thrigain o arian o dy Baal-berith: ac Abimelech a gyflogodd â hwynt oferwyr gwamal, y rhai a aethant ar ei ôl ef.

º5 Ac efe a ddaeth i dŷ ei dad i OfEra, ac a laddodd ei frodyr, meibion Jerwb¬baal, y rhai oedd ddengwr a thrigain, ar un garreg: ond Jotham, mab ieuangaf Jerwbbaal, a adawyd; canys efe a ymguddiasai.

º6 A holl wŷr Sichem a holl dy Milo a ymgasglasant, ac a aethant, ac a urddasant Abimelech yn frenin, wrth ddyffryn y golofn yr hwn sydd yn Sichem.

º7 A phan fynegasant hynny i Jotham, efe a aeth ac a safodd ar ben mynydd Garisim, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a waeddodd, dywedodd hefyd wrthynt, Gwrandewch arnaf fi, O wŷr Sichem, fel y gwrandawo Duw arnoch chwithau.

º8 Y prennau gan fyned a aethant i eneinio brenin arnynt; a dywedasant wrth yr olewydden, Teyrnasa arnom ni.

º9 Ond yr olewydden a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi a’m braster, a’r hwn trwof fi yr anrhydeddaM DDUW a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill?

º10 A’r prennau a ddywedasant wrth y ffigysbren. Tyred di, teyrnasa arnom ni.

º11 Ond y ffigysbren a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi a’m melystra, ac a’m fFrwyth da, ac a af fi i lywodraethu ar y prennau eraill?

º12 Yna y prennau a ddywedasant wrth y winwydden. Tyred di, teyrnasa arnom ni.

º13 A’r winwydden a ddywedodd wrthyni hwy, A ymadawaf fi a’m melyswin, yr hwn sydd yn llawenhau Duw a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill?

º14 Yna yr holl brennau a ddywedasant wrth y fiaren. Tyred di, teyrnasa arnom ni.

º15 A’r fiaren a ddywedodd wrth y prennau, Os mewn gwirionedd yr en- einiwch fi yn frenin arnoch, deuwch ac ymddiriedwch yn fy nghysgod i: ac onid e, eled tan allan o’r fiaren, ac ysed gedrwydd Libanus.

º16 Yn awr gan hynny, os mewn gwir¬ionedd a phurdeb y gwnaethoch, yn gosod Abimelech yn frenin, ac os gwnaethoch yn dda a Jerwbbaal, ac a’i dŷ, ac os yn ôl haeddedigaeth ei ddwylo y gwnaethoch iddo:

º17 (Canys fy nhad a ymladdodd dros-och chwi, ac a anturiodd ei einioes ymhell, ac a’ch gwaredodd chwi o law Midian:

º18 A chwithau a gyfodasoch yn erbyn ty fy nhad i heddiw, ac a laddasoch ei feibion ef, sef dengwr a thrigain, ar un garreg, ac a osodasoch Abimelech, mab ei lawforwyn ef, yn frenin ar wŷr Sichem, oherwydd ei fod ef yn frawd i chwi:)

º19 Gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch a Jerwbbaal, ac a’i dy ef, y dydd hwn, llawenychwch yn Abimelech, a llawenyched yntau ynoch chwithau:

º20 Ac onid e, eled tan allan o Abi¬melech, ac ysed wŷr Sichem, a thŷ Milo; hefyd eled tan allan o wŷr Sichem, ac o dy Milo, ac ysed Abimelech.

º21 A Jotham a giliodd, ac a ffodd, ac a aeth ymaith i Beer, ac a drigodd yno, rhag ofn Abimelech ei frawd.

º22 Ac Abimelech a deyrnasodd ar Israel dair blynedd.: .

º23 A Duw a ddanfonodd ysbryd drwg rhwng Abimelech a gwŷr Sichem; a gwŷr Sichem a aethant yn anghywir i Abimelech:

º24 Fel y delai y traha a wnaethid a deng mab a thrigain Jerwbbaal, ac y gosodid eu gwaed hwynt ar Abimelech eu brawd, yr hwn a’u lladdodd hwynt: ac ar wŷr Sichem, y rhai a’i cynorthwyasant ef i ladd ei frodyr.;

º25 A gwŷr Sichem a osodasant iddo ef gynllwynwyr ar ben y mynyddoedd; a hwy a ysbeiliasant bawb a’r a oedd yn tramwy heibio iddynt ar hyd y ffordd. A mynegwyd hynny i Abimelech.

º26 A Gaal mab Ebed a ddaeth, efe a’i frodyr, ac a aethant drosodd i Sichem: a gwŷr Sichem a roesant eu hyder arno.

º27 A hwy a aethant i’r meysydd, ac a gasglasant eu gwinllannoedd, ac a sangasant eu grawnwin, ac a wnaethant yn Mawen, ac a aethant i mewn i dŷ eu duw, ac a fwytasant ac a yfasant, ac a felltithiasant Abimelech.

º28 A Gaal mab Ebed a ddywedodd, Pwy yw Abimelech, a phwy yw Sichem, fel y gwasanaethem ef? onid mab Je-twbbaal yw efe? onid Sebul yw ei swyddog? gwasanaethwchwyr Hemor tad Sichem: canys paham y gwasanaethem. ni ef?

º29 O na byddai y bobl hyn. dan fy llaw i, fel y bwriwn ymaith Abimelech! Ac efe a ddywedodd wrth Abimelech, Amlha dy lu, a thyred allan.

º30 A phan glybu Sebul, llywod-raethwr y ddinas, eiriau Gaal mab Ebed, y llidiodd ei ddicllonedd ef.

º31 Ac efe a anfonodd genhadau at Abimelech yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele Gaal mab Ebed a’i frodyr wedi dyfod i Sichem; ac wele hwynt yn cadarnhau y ddinas i’th erbyn.

º32 Gan hynny cyfod yn awr liw nos, ti a’r bobl sydd gyda thi, a chynllwyn yn y maes:



º33 A chyfod yn fore ar godiad yr haul, a rhuthra yn erbya y ddmas: ac wele, pan ddelo efe a’r bobl sydd gydag ef allan i’th erbyn, yna gwna iddo yr hyn a eilych.

º34 Ac Abimelech a gyfododd, a’r toll bobl y rbai oedd gydag ef, liw nos, ac a gynllwynasant yn erbyn Sichem yn hedair byddin.

º35 A Gaal mab Ebed a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws porth y ddinas: ac Abimelech a gyfododd, a’r bobl y rhai oedd gydag ef, o’r cynllwyn.

º36 A phan welodd Gaal y bobl, efe a ddywedodd wrth Sebul, Wele bobl yn dyfod i waered o ben y mynyddoedd. A dywedodd Sebul wrtho, Cysgod y mynyddoedd yr ydwyt ti yn ei weled fel dynion.

º37 A Gaal a chwanegodd eto lefaru, ac a ddywedodd, Wele bobl yn dyfod i waersd o ganol y tir, a byddin arall yn dyfod o ffordd gwastadedd Meonenirn.

º38 Yna y dywedodd Sebul wrtho ef, Pa le yn awr y mae dy enau di, a’r hwn y dywedaist, Pwy yw Abimelech, pan wasanaethem ef? onid dyma’r bobl a ddirmygaist ti? dos allan, atolwg, yn awr, ac ymladd i’w herbyn.

º39 A Gaal a aeth allan o flaen gwŷr Sichem, ac a ymladdodd ag Abimelech.

º40 Ac Abimelech a’i herlidiodd ef, ac efe a ffodd o’i flaen ef; a llawer a gwympasant yn archolledig hyd ddrws y porth.

º41 Ac Abimelech a drigodd yn Aruma: a Sebul a yrrodd ymaith Gaal a’i frodyr o breswylio yn Sichem.

º42 A thrannoeth y daeth y bobl allan i’s maes: a mynegwyd hynny i Abim¬elech.

º43 Ac efe a gymerth y bobl, ac a’u rhannodd yn dair byddin, ac a gynllwynodd yn y maes, ac a edrychodd, ac wele y bobl wedi dyfod allan o’r ddinas; ac efe a gyfododd yn eu herbyn, ac a’u trawodd hwynt.

º44 Ac Abimelech, a’r fyddin oedd gydag ef, a ruthrasant, ac a safasant wrth ddrws porth y ddinas: a’r ddwy fyddin eraill a ruthrasant as yr holl rai <?edd yn y maes, ac a’u trawsant hwy.

º45 Ac Abimelech a ymladdodd yn. erbyn y ddinas yr holl ddiwrnod hwnnw: ac efe a enillodd y ddinas, ac a laddodd y bobl oedd ynddi, ac a ddistrywiodd y ddinas, ac a’i heuodd â halen.

º46 A phan glybu holl wŷr twr Sichem hynny, hwy a aethant i amddiifynfa tv duw Berith.

º47 A mynegwyd i Abimelech, ymgasglu o holl wŷr twr Sichem.

º48 Ac Abim;lech a aeth i fyny i fynydd Salmon, efe a’r holl bobl oedd gydag ef: ac Abimelech a gymerth fwyell yn ei law, ac a dorrodd gangen o’r coed, ac a’i cymerth hi, ac a’i gosododd ar ei ysg-wydd; ac a ddywedodd wrth y bobl oedd gydag ef, Yr hyn a welsoch fi yn ei wneuthur, brysiwch, gwnewch fel finnau.

º49 A’r holl bobl a dorasant bob un ei gangen, ac a aethant ar ôl Abimelech; ac a’u gosodasant wrth yr amddiffynfa, ac a losgasant a hwynt yr amddiffynfa a than: felly holl wŷr twr Sichem a fuant feirw, ynghylch mil o wŷr a gwragedd.

º50 Yna Abimelech a aeth i Thebes, ac a wersyllodd yn erbyn Thebes, ac a’i heniilodd hi.

º51 Ac yr oedd twr cadarn yng nghanol y ddinas; a’r holl wŷr a’r gwragedd, a’r holl rai o’r ddinas, a ffoesant yno, ac a gaeasant arnynt, ac a ddrmgasant ar nen y twr.

º52 Ac Abimelech a ddaeth at y twr, ac a ymiaddodd yn ei erbyn; ac a nesaodd at ddrws y twr, i’w losgi ef â thân.

º53 A rhyw wraig a daflodd ddarn o. faen mehn ar ben Abimelech, ac a ddrylliodd ei benglog ef.

º54 Yna efe a alwodd yn fuan ar y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, ac a ddywedodd wrtho, Tyn dy gleddyf, a lladd fi; fel na ddywedant amdanaf, Gwraig a’i lladdodd ef. A’i lane a’i trywanodd ef, ac efe a fu farw.

º55 A phan welodd gwŷr Israel farw o Abimelech, hwy a aethant bob un i’w fangre.

º56 Felly y talodd Duw ddrygioni Abimelech, yr hwn a wnaethai efe i’w dad, gan ladd ei ddeg brawd a thrigain.

º57 A holl ddrygioni gwŷr Sichem a dalodd Duw ar eu pen hwynt: a melltith Jotham mab Jerubbaal a ddaeth arnynt hwy.

PENNOD 10

º1 A ar ôl Abimelech, y cyfododd i waredu Israel, Tola, mab Pua, mab Dodo, gŵr o Issachar; ac efe oedd yn trigo yn Samir ym mynydd Effraim.

º2 Ac efe a farnodd Israel dair blynedd ar hugain, ac a fu farw, ac a gladdwyd yn Samir.

º3 Ac ar ei ôl ef y cyfododd Jait, Gileadiad; ac efe a farnodd Israel ddwy flynedd ar hugain. ‘

º4 Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain yn marchogaeth ar ddeg ax bugain o ebolion asynnod; a deg dinas ar hugain oedd ganddynt, y rhai a elwid HafothJair hyd y dydd hwn, y rhai ydynt yng ngwlad Gilead.

º5 A Jair a fu farw, ac a gladdwyd yn Camon.

º6 A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baalim, ac Astaroth, a duwiau Syria, a duwiau Sidon, a duwiau Moab, a duwiau meibion Ammon, a duwiau y Philistiaid; a gwrthodasant yr ARGLWYDD, ac ni wasanaethasant ef.

º7 A llidiodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Israel; ac efe a’u gwerthodd hwynt yn llaw y Philistiaid, ac yn llaw meibion Ammon.

º8 A hwy a flinasant ac a ysigasant feibion Israel y flwyddyn hoono: tair blynedd ar bymtheg, holl feibion Israel y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen, yng ngwlad yr Amoriaid, yr hon sydd yn Gilead.

º9 A meibion Ammon a aethant trwy’r Iorddonen, i ymladd hefyd yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Benjamin, ac yn erbyn ty Effraim; fel y bu gyfyng iawn ar Israel.

º10 A. meibion Israel a lefasant ar yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Pechasom yn dy erbyn; oherwydd gwrthod ohonom ein Duw, a gwasanaethu Baalim hefyd .

º11 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth feibion Israel, Oni waredais chwi rhag yr Eifftiaid, a rhag yr Amoriaid, a rhag meibion Ammon, a rbag y Philistiaid?

º12 Y Sidoniaid hefyd, a’r Amaleciaid, a’r Maoniaid, a’ch gorthrymasant chwi; a llefasoch arnaf, a minnau a’ch gwaredais chwi o’u llaw hwynt.

º13 Eto chwi a’m gwrthodasoch i, ac a wasanaethasoch dduwiau dieithr; seta. hynny ni waredaf chwi mwyach.

º14 Ewch, a llefwch at y duwiau a ddewisasoch: gwaredant hwy chwi yn amser eich cyfyngdra.

º15 A meibion Israel a ddywedasant wrth yr ARGLWYDD, Pechasom; gwna di

º1 ni fel y gwelych yn dda: eto gwared ni, atolwg, y dydd hwn.

º16 A hwy a fwriasant ymaith y duw-iaa dieithr o’u mysg, ac a wasanaethasant yr ARGLWYDD: a’i enaid ef a dosturiodd, oherwydd adfyd Israel.

º17 Yna meibion Ammon a ymgynullasant, ac a wersyllasant yn Gilead: a meibion Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant ym Mispa.

º18 Y bobl hefyd a thywysogion Gilead a ddywedasant wrth ei gilydd. Pa ŵr a ddechrau ymladd yn erbyn meibion Ammon? efe a fydd yn bennaeth ar drigolion Gilead.

PENNOD 11

º1 A JEFFTHA y Gileadiad oedd ŵr cadarn nerthol, ac efe oedd fab i wraig o buteinwraig: a Gilead a genedlasai y Jefftha hwnnw.

º2 A gwraig Gilead a ymddug iddo feibion: a meibion y wraig a gynyddasant, ac a fwriasant ymaith Jefftha, ac a ddywedasant wrtho, Nid etifeddi di yn ahy ein tad ni; canys mab gwraig ddieithr ydwyt ti.

º3 Yna Jefftha a ffodd rhag ei frodyra ac a drigodd yng ngwlad Tob; a dynion ofer a ymgasglasant at Jefftha, ac a aethant allan gydag ef. -

º4 I Ac wedi tahn o ddyddiau, meibion Ammon a ryfelasant yn erbyn Israel.

º5 A phan oedd meibion Ainmon yn rhyfela yn erbyn Israel, yna henuriaid Gilead a aethant i gyrchu Jefftha o wlad Tob:

º6 Ac a ddywedasant wrth Jefftha, Tyred a bydd yn dywysog i ni, fel "yr ymladdom yn erbyn meibion Ammon.

º7 A Jefftha a ddywedodd wrth henuriaid Gilead, Oni chasasoch chwi fi, ac a’m .gyrasoch o dy fy nhad? a phaham y deuwch ataf fi yn awr, pan yw gyfyng arnoch?

º8 A henuriaid Gilead a ddywedasant "wrth Jefftha, Am hynny y dychwelasom yn awr atat ti, fel y delit gyda ni, ac yr ymladdit yn erbyn meibion Ammon, ac y byddit i ni yn ben ar holl drigolion Gilead.

º9 A Jefftha a ddywedodd wrth henur¬iaid Gilead, O dygwch fi yn fy ôl i ymladd yn erbyn meibion Ammon, a rhoddi o’r ARGLWYDD hwynt o’m blaen i, a gaf fi fod yn ben arnoch chwi?

º10 A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jefftha, Yr ARGLWYDD a fyddo yn dyst rhyngom ni, oni wnawn ni felly yn ôl dy air di.

º11 Yna Jefftha a aeth gyda henuriaid Gilead; a’r bobl a’i gosodasant ef yn ben ac yn dywysog arnynt: a Jefftha a adroddodd ei holl eiriau gerbron yr ARGLWYDD ym Mispa.

º12 A Jefftha a anfonodd genhadau at frenin meibion Ammon, gan ddywedyd, Beth sydd i ti a wnelych a mi, fel y delit yn fy erbyn i ymladd yn fy ngwlad i?

º13 A brenin meibion Ammon a ddy¬wedodd wrth genhadau Jefftha, Oherwydd i Israel ddwyn fy ngwlad i pan ddaeth i fyny o’r Aifft, o Arnon hyd Jabboc, a hyd yr Iorddonen: yn awr gan hynny dod hwynt adref mcwn heddwch.

º14 A Jefftha a anfonodd drachefn genhadau at frenin meibion Ammon;

º15 Ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Jefftha; Ni ddug Israel dir Moab, na thir meibion Ammon:

º16 Ond pan ddaeth Israel i fyny o’r Aifft, a rhodio trwy’r anialwch, hyd y môr coch, a dyfod i Cades;

º17 Yna Israel a anfonodd genhadau at frenin Edom, gan ddywedyd. Gad i mi dramwy, atolwg, trwy dy wlad di. Ond ni wrandawodd brenin Edom. A hwy a anfonasant hefyd at frenin Moab: ond ni fynnai yntau. Felly Israel a arhosodd yn Cades. .

º18 Yna hwy a gerddasant yn yr anial¬wch, ac a amgylchynasant wlad Edom, a gwlad Moab; ac a ddaethant o du codiad haul i wlad Moab, ac a wersyllasant tu hwnt i Arnon; ac ni ddaethant o fewn terfyn Moab: canys Arnon oedd derfyn Moab.

º19 Ac Israel a anfonodd genhadau at Sehon brenin yr Amoriaid, brenin Hesbon; ac Israel a ddywedodd wrtho, Gad i ni dramwy, atolwg, trwy dy wlad di, hyd fy mangre.

º20 Ond nid ymddiriedodd Sehon i Israel fyned trwy ei derfyn ef: eithr Sehon a gasglodd ei holl bobl, a hwy a wersyllasant yn Jahas, ac efe a ymladdodd yn erbyn Israel.

º21 Ac ARGLWYDD DDUW Israel a roddodd Sehon a’i holl bobl yn llaw Israel; a hwy a’u trawsant hwynt. Felly Israel a feddiannodd holl wlad yr Amor- iaid, trigolion y wlad honno.

º22 Meddianasant hefyd holl derfynau yr Amoriaid, o Arnon hyd Jabboc, ac o’r anialwch hyd yr Iorddonen.

º23 Felly yn awr, ARGLWYDD DDUW ‘Israel a fwriodd yr Amoriaid allan o flaen ei bobl Israel: gan hynny ai tydi a’i meddiannit hi?

º24 Oni feddienni di yr hyn a roddo Cemos dy dduw i ti i’w feddiannu? Felly yr hyn oll a oresgynno yr ARGLWYDD ein Duw o’n blaen ni a feddiannwn ninnau.

º25 Ac yn awr, a wyt ti yn well na Balac mab Sippor, brenin Moab? a ymrysonodd efe erioed ag Israel, neu gan ymladd â ymladdodd efe i’w herbyn hwy?

º26 Pan oedd Israel yn trigo yn Hesbon a’i threfydd, ac yn Aroer a’i threfydd, ac

yn yr holl ddinasoedd y hai sydd wrth derfynau Arnon, dri chan mlynedd; paham nad achubasoch- hwynt y pryd hwnnw?

º27 Am hynny ni phechais i yn dy erbyn di; ond yr ydwyt ti yn gwneuthur i-am a mi, gan ymladd yn fy erbyn i; yr ARGLWYDD Farnwr a farno heddiw rhwng meibion Israel a meibion Ammon.

º28 Er hynny ni wrandawodd brenin meibion Ammon ar eiriau Jefftha, y rhai a anfonodd efe ato.

º29 Yna y daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Jefftha; ac efe a aeth dros Gilead a Manasse; ac a aeth dros Mispa Gilead, ac o Mispa Gilead yr aeth efe drosodd at feibion Ammon.

º30 A Jefftha a addunedodd adduned i’r ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Os gan roddi y rhoddi di feibion Ammon yn fy llaw i;

º31 Yna yr hwn a ddelo allan o ddrysau fy nhŷ i’m cyfarfod, pan ddychwelwyf mewn heddwch oddi wrth feibion Ammon, a fydd eiddo yr ARGLWYDD, a mi a’i hoffrymaf ef yn boethoffrwm.

º32 Felly Jefftha a aeth drosodd at leibion Ammon i ymladd yn eu herbyn, a’r ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn ei law ef.

º33 Ac efe a’u trawodd hwynt o Aroer hyd oni ddelych di i Minnith, sef ugain d mas, a hyd wastadedd y gwinllannoedd, .’i lladdfa fawr iawn. Felly y darostyng-wyd meibion Ammon o flaen meibion Israel.

º34 A Jefftha a ddaeth i Mispa i’w dy ei hun: ac wele ei ferch yn dyfod allan i’w gyfarfod âthympanau, ac a dawnsiau’; a hi oedd ei unig etifedd ef; nid oedd ganddo na mab na merch ond hyhi.

º35 A phan welodd efe hi, efe a rwygodd ei ddillad, ac ddywedodd. Ah! ah! fy inerch, gan ddarostwng y darostyngaist li, ti hefyd wyt un o’r rhai sydd yn fy inolestu: canys myfi a agorais fy ngenau wrth yr ARGLWYDD, ac ni allaf gilio.

º36 A hi a ddywedodd wrtho, Fy nhad, od agoraist dy enau wrth yr ARGLWYDD, Kwna i mi yn ôl yr hyn a aeth allan o’th enau; gan i’r ARGLWYBD wneuthur drosot ti ddialedd ar dy dynion, meibion Ammon.

º37 Hi a ddywedodd hefyd wrth ei thad, Gwneler i mi y peth hyn; paid a mi ddau fis, fel yr elwyf i fyny ac i waered ar y mynyddoedd, ac yr wylwyf oherwydd fy morwyndod, mi a’m cyfeillesau.

º38 Ac efe a ddywedodd, DOS. Ac efe a’i gollyngodd hi dros ddau fis. A hi a aeth a’i chyfeillesau, ac a wylodd oherwydd ei morwyndod ar y mynyddoedd.

º39 Ac ymhen y ddau fis hi a ddychwelodd at ei thad: ac efe a wnaeth a hi yr adduned a addunasai efe: a hi ni adna-buasai ŵr. A bu hyn yn ddefod yn Israel,

º40 Fyned o ferched Israel bob biwydd-yn i alaru am ferch Jefftha y Gileadiad, bedwar diwrnod yn y flwyddyn.

PENNOD 12

º1 A GWŶR Effraim a ymgasglasant, ac a aethant tua’r gogledd, ac a ddy¬wedasant wrth Jefftha, Paham yr aethost ti drosodd i ymladd yn erbyn meibion Ammon, ac na elwaist arnom ni i fyned gyda thi? dy dŷ di a losgwn ni am dy ben â thân.

º2 A Jefftha a ddywedodd wnhynt hwy, Myfi a’m pobl oeddem yn ymryson yn dost yn erbyn meibion Ammon; a mi a’ch gelwais chwi, ond ni waredasoch fi o’u llaw hwynt.

º3 A phan welais i nad oeddech yn fy achub, mi a osodais fy einioes yn fy llaw, ac a euthum yn erbyn meibion Ammon; a’r ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn fy llaw i: paham gan hynny y daethoch i fyny ataf fi y dydd hwn, i ymladd i’m herbyn?

º4 Yna Jefftha a gasglodd ynghyd holl wŷr Gilead, ac a ymladdodd ag Effraim: a gwŷr Gilead a drawsant Effraim, am ddywedyd ohonynt hwy, Ffoaduriaid Effraim ymysg yr Effraimiaid, ac ymysg Manasse, ydych chwi y Gileadiaid.

º5 A’r Gileadiaid a enillasant rydau yr Iorddonen o flaen yr Effraimiaid: a phan ddywedai yr Effraimiaid a ddianghasenti Gedwch i mi fyned drwodd: yna gwyr


Gilead a ddywedent wrtho, Ai Effraimiad ydwyt ti? Os dywedai yntau, Nage;

º6 Yna y dywedent wrtho, Dywed yn awr, Shibboleth. Dywedai yntau, Sibboleth; canys ni fedrai efe lefaru felly. Yna y dalient ef, ac y lladdent ef wrA rydau yr Iorddonen. A chwympodd y pryd hwnnw o Effraim ddwy fil & deugain.

º7 A Jefftha a farnodd Israel chwe blynedd. Yna y bu farw Jefftha y Gileadiad, ac a gladdwyd yn un o ddinasoedd Gilead.

º8 Ac ar ei ôl ef, Ibsan o Bethlehem a farnodd Israel.

º9 Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain, a deng merch ar hugain, y rhai a anfonodd efe allan, a deng merch ar hugain a ddug efe i’w feibion oddi allafl. Ac efe a farnodd Israel saith mlynedd.

º10 Yna y bu farw Ibsan, ac a gladdwyd yn Bethlehem.

º11 Ac ar ei ôl ef, Elon y Sabuloniati a farnodd Israel: ac efe a farnodd Israel ddeng mlynedd.

º12 Ac Elon y Sabuloriiad a’ fu farw, ac a gladdwyd yn Ajalon, yag ngwlad Sabulon.

º13 Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad a farnodd Israel ar ei ôl ef.

º14 Ac iddo ef yr oedd deugain o feib¬ion, a deg ar hugain o wyrion, yn marchogaeth ar ddeg a thrigain o ebolion asynnod: ac efe a farnodd Israel wyth mlynedd.

º15 Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad a fu farw: ac a gladdwyd yn Pirathon, yng ngwlad Effraim, ytti mynydd yr Amaleciaid.

PENNOD 13

º1 AMEIBION Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn llaw y Philistiaid ddeugain mlynedd.

º2 Ac yr oedd rhyw ŵr yn Sora, o dylwyth y Daniaid, a’i enw ef oedd Manoa; a’i wraig ef oedd arnhlantadwy, heb esgor.

º3 Ac angel yr ARGLWYDD a ymddangosodd i’r wrsag, ac a ddywedodd wrthi, Wele, yn awt ‘at&hlantadwy y<twyt ti, ac heb esgor: ond ti a feichiogi, ac a esgori ar fab. ‘

º4 Ac yn awr, atolwg, ymochel, ac nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan.

º5 Canys wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab; ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef: canys Nasaread i DDUW fydd y bachgen o’r groth: ac efe a ddechrau waredu Israel o law y Philistiaid.

º6 Yna y daeth y wraig ac a fynegodd i’w gŵr, gan ddywedyd, Gwr Duw a ddaeth ataf fi; a’i bryd ef oedd fel pryd angel Duw, yn ofnadwy iawn: ond ni ofynnais iddo o ba le yr oedd, ac ni fynegodd yntau i mi ei enw.

º7 Ond efe a ddywedodd wrthyf, Wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab. Ac yn awr nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan: canys Nasaread i DDUW fydd y bachgen, o’r groth hyd ddydd ei farwolaeth.

º8 Yna Manoa a weddiodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Atolwg, fy Arglwydd, gad i ŵr Duw yr hwn a anfonaist, ddyfod eilwaith atom ni, a dysgu i ni beth a wnelom i’r bachgen a enir.

º9 A Duw a wrandawodd ar lef Manas: ac angel Duw a ddaeth eilwaith at y wraig, a hi yn eistedd yn y maes; ond Manoa ei gŵr nid oedd gyda hi.

º10 A’r wraig a frysiodd, ac a redodd, ac a fynegodd i’w gŵr, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ymddangosodd y gŵr i mi, yr hwn a ddaeth ataf fi y dydd arall.

º11 A Manoa a gyfododd, ac a aeth ar ôl ei wraig, ac a ddaeth at y gŵr, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw y gŵr a leferaist wrth y wraig? Dywedodd yntau. Ie, myfi.

º12 A dywedodd Manoa, Deled yn awr dy eiriau i ben. Pa fodd y trinwn y bachgen, ac y gwnawn iddo ef?

º13 Ac angel yr ARGLWYDD a ddywed¬odd wrth Manoa, Rhag yr hyn oll a ddywedais wrth y wraig, ymocheled hi.

º14 Na fwytaed o ddim a ddel allan o’r winwydden, nac yfed win na diod padarn, ac na fwytaed ddim aflan: cad-wed yr hyn oll a orchmynnais iddi.

º15 A dywedodd Manoa with angel yr ARGLWYDD, Gad, atolwg, i ni dy atal, ira y paratom fyn gafr ger dy fron di.

º16 Ac angel yr ARGLWYDD a ddywed¬odd wrth Manoa, Ped atelit fi, ni fwytawii ii’th fara di: os gwnei boethoffrwm, gwnai rf i’r ARGLWYDD. Canys ni wyddai Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd efe..’

º17 A Manoa a ddywedodd wrth angel, yr ARGLWYDD, Beth yw dy enw, fel y’th .inrhydeddom di pan ddelo dy eiriau i hen?

º18 Ac angel yr ARGLWYDD a.ddywed-nJd wrtho, Paham yr ymofynni am fy cnw, gan ei fod yn rhyfeddol?

º19 Felly Manoa a gymerth fyn gafr, .a l-iwydonrwrn, ac a’i honrymodd ar y graig i’r ARGLWYDD. A’r angel a wnaeth yn rhyfedd: a Manoa a’i wraig oedd yn; edrych.

º20 Canys, pan ddyrchafodd y fflana. oddi ar yr allor tua’r nefoedd, yna angel yr ARGLWYDD a ddyrchafodd yn fflam yr allor: a Manoa a’i wraig oedd yn Lurych ar hynny, ac a syrthiasant i lawr,ir eu hwynebau.

º21 (Ond ni chwanegodd angel yr AR¬GLWYDD ymddangos mwyach i Manoa, nac i’w wraig.) Yna y gwybu Manoa mai ingel yr ARGLWYDD oedd efe.

º22 A Manoa a ddywedodd wrth ei wraig, Gan farw y byddwn feirw; canys l;welsom DDUW.

º23 Ond ei wraig a ddywedodd wrtho ef, Pe mynasai yr ARGLWYDD ein lladd ni, ni dderbyniasai efe boethoffrwm a Invyd-offrwm o’n llaw ni, ac ni ddangos-.is;ii efe i ni yr holl bethau hyn, ac ni pliarasai efe i ni y pryd hyn glywed y l.ilh bethau.

º24 A’r wraig a ymddug fab, ac a ilwudd ei enw ef Samson. A’r bachgen º1 i;ynyddodd, a’r ARGLWYDD a’i bendithi.uldef.

º25 Ac ysbryd yr ARGLWYDD a dde- hrcuodd ar amseroedd ei gynhyrfu ef yng ngwersyfl Dan, rhwng Sora;ac Estaol.

PENNOD 14

º1 A SAMSON a aeth i waered i Timnath, 1A ac a ganfu wraig yn Timnath, o ferched y Philistiaid.

º2 Ac efe a ddaeth i fyny, ac a fynegodd i’w dad ac i’w fam, ac a ddywedodd. Mi a welais wraig yn Timnath o ferched y Philistiaid: cymerwch yn awr honno yn wraig i nil.

º3 Yna y dywedodd ei dad a’i fara wrtho, Onid oes ymysg merched dŷ.frodyr, nac ymysg fy holl bobl, wraig pan ydwyt ti yn myned i geisio gwraig o’r Philistiaid dienwaededig? A dywed¬odd Samson wrth ei dad, Cymer hi i mi, canys y mae hi wrth fy modd i.

º4 Ond ni wyddai ei dad ef na’i faiq mai oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd hyn, mai ceisio achos yr oedd efe yo erbyn y Philistiaid: canys y Philistiaid oedd y pryd hwnnw yn arglwyddiaethu ar Israel.

º5 Yna Samson a aeth i waered a’i dad a’i fam, i Timnath; ac a ddaethant hyd winllannoedd Timnath: ac wele genau; llew yn rhuo yn ei gyfarfod ef.

º6 Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddaeth yn rymus arno ef; ac efe a holltodd y Hew fel yr holltid myn, ac nid oedd dim yn ei law ef: ond ni fynegodd efe i’w dad nac i’w fam yr hyn a wnaethai.

º7 Ac efe a aeth i waered, ac, a ymddiddanodd a’r wraig, ac yr oedd hi wrth fodd Samson.

º8 Ac ar ôl ychydig ddyddiau efe a ddychwelodd i’w chymryd hi; ac a drodd i edrych ysgerbwd y llew: ac wele haid o wenyn a mêl yng nghorff y llew.;

º9 Ac efe a’i cymerth yn ei law, ac a gerddodd dan fwyta; ac a ddaeth at ei dad a’i fam, ac a roddodd iddynt, a hwy a fwytasant: ond ni fynegodd iddynt hwy mai o gorff y llew y cymerasai efe y mêl.

º10 Felly ei dad ef a aeth i waered at y wraig; a Samson a wnaeth yno wieddl canys felly y gwnai y gwŷr ieuainc.



º11 A phan welsant hwy ef, yna y cymerasant ddeg ar hugain o gyfeillion i fod gydag ef.

º12 A Samson a ddywedodd wrthynt, Rhoddaf i chwi ddychymyg yn awr: os gan fynegi y mynegwch ef i mi o fewn saith niwrnod y wiedd, ac a’i cewch; yna y rhoddaf i chwi ddeg ar hugain o lenllieiniau, a deg par ar hugain o ddillad:

º13 Ond os chwi ni fedrwch ei fynegi i mi, yna chwi a roddwch i mi ddeg ar hugain o lenllieiniau, a deg par ar hugain o wisgoedd. Hwythau a ddywedasant wrtho, Traetha dy ddychymyg, fel y clywom ef.

º14 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Allan o’r bwytawr y daeth bwyd, ac o’r cryf y daeth allan felystra. Ac ni fedrent ddirnad y dychymyg mewn tri diwrnod.

º15 Ac yn y seithfed dydd y dywedasant wrth wraig Samson, Huda dy ŵr, fel y mynego efe i ni y dychymyg; rhag i ni dy losgi di a thŷ dy dad â thân: ai i’n tlodi ni y’n gwahoddasoch? onid felly y mae?

º16 A gwraig Samson a wylodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Yn ddiau y mae yn gas gennyt fi, ac nid wyt yn fy ngharu: dychymyg a roddaist i feibion fy mhobl, ac nis mynegaist i mi. A dywedodd yntau wrthi, Wele, nis mynegais i’m tad nac i’m mam: ac a’i mynegwn i ti?

º17 A hi a wylodd wrtho ef y saith niwrnod hynny, tra yr oeddid yn cynnal y wiedd: ac ar y seithfed dydd y mynegodd efe iddi hi, canys yr oedd hi yn ei flino ef: a hi a fynegodd y dychymyg i feibion ei phobl.

º18 A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho ef y seithfed dydd, cyn machludo’r haul, Beth sydd fclysach na mel? a pheth gryfach na Hew? Dywedodd yntau Wrthynt, Oni buasai i chwi aredig a’m hanner i, ni chawsech allan fy nychymyg.

º19 Ac ysbryd yr ARGLWYUD a ddaeth arno ef; ac efe a aeth i waered i Ascalon, ac a drawodd ohonynt ddeg ar hugain, ac a gymerth eu hysbail, ac a roddodd y parau dillad i’r rhai a fynegasant y dy¬chymyg: a’i ddicllonedd ef a lidiodd, ac efe a aeth i fyny i dŷ ei dad.

º20 A rhoddwyd gwraig Samson i’w gyfaill ef ei hun, yr hwn a gymerasai efe yn gyfaill.

PENNOD 15

º1 AC wedi talm o ddyddiau, yn amser 1 - cynhaeaf y gwemth, Samson a aeth i ymweled a’i wraig a myn gafr; ac a ddywedodd. Mi a af i mewn at fy ngwraig i’r ystafell. Ond ni chaniatai ei thad hi iddo ef fyned i mewn.

º2 A’i thad a lefarodd, gan ddywedyd, Tybiaswn i ti ei chasau hi; am hynny y rhoddais hi i’th gyfaill di: onid yw ei chwaer ieuangaf yn lanach na hi? bydded honno i ti, atolwg, yn ei lle hi.

º3 A Samson a ddywedodd wrthynt, Difeiach ydwyf y waith hon na’r Philistiaid, er i mi wneuthur niwed iddynt.

º4 A Samson a aeth ac a ddaliodd dri chant o lwynogod; ac a gymerth ffaglau, ac a drodd gynffon at gynffon, ac a osododd un ffagi rhwng dwy gynffon yn y canol.

º5 Ac efe a gyneuodd dân yn y ffaglau, ac a’u gollyngodd hwynt i ydau y Philistiaid; ac a losgodd hyd yn oed y dasau, a’r ŷd ar ei droed, y gwinllannoedd hefyd, a’r olewydd.

º6 Yna y Philistiaid a ddywedasant, Pwy a wnaeth byn? Hwythau a ddy¬wedasant, Samson daw y Timniad; am iddo ddwyn ei wraig ef, a’i rhoddi i’w gyfaill ef. A’r Philistiaid a aethant i fyny, ac a’i llosgasant hi a’i thad â thân.

º7 A dywedodd Samson wrthynt, Er i chwi wneuthur fel hyn, eto mi a ymddialaf arnoch chwi; ac wedi hynny y peidiaf.

º8 Ac efe a’u trawodd hwynt glun a morddwyd a lladdfa fawr: ac efe a aeth i waered, ac a arhosodd yng nghopa craig Etarn.

º9 Yna y Philistiaid a aethant i fyny, ac a wersyllasant yn Jwda, ac a ymdaenasant yn Lehi.

º10 A gwŷr Jwda a ddywedasant, Pahana y daethoch i fyny i’n herbyn ni? Dywedasant hwythau, I rwymo Samson y ilaethom i fyny, i wneuthur iddo ef fel y ywnaeth yntau i ninnau.

º11 Yna tair mil o wŷr o Jwda a aethant i gopa craig Etam, ac a ddywedasant with Samson, Oni wyddost ti fod y Philistiaid yn arglwyddiaethu arnom ni? paham gan hynny y gwnaethost hyn a ni? Dywedodd yntau wrthynt, Fel y gwnaethant hwy i mi, felly y gwneuthum innau iddynt hwythau.

º12 Dywedasant hwythau wrtho, I’th rwyrno di y daethom i waered, ac i’th roddi yn llaw y Philistiaid. A Samson a ddywedodd wrthynt, Tyngwch wrthyf, na ruthrwch arnaf fi eich hunain.

º13 Hwythau a’i hatebasant ef, gan ddywedyd, Na ruthrwn: eithr gan rwymo y’th rwymwn di, ac y’th roddwn yn eu llaw hwynt; ond ni’th laddwn di. A rhwymasant ef a dwy raff newydd, ac a’i dygasant ef i fyny o’r graig.

º14 A phan ddaeth efe i Lehi, y Philistiaid a floeddiasant wrth gyfarfod ag ef. Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddaeth arno ef; a’r rhaffau oedd am ei freichiau a aethant fel llin a losgasid yn tân, a’r rhwymau a ddatodasant oddi am ei ddwylo ef.

º15 Ac efe a gafodd en asyn ir; ac a estynnodd ei law, ac a’i cymerodd, ac a laddodd â hi fil o wŷr.

º16 A Samson a ddywedodd, A gen asyn, pentwr ar bentwr; a gen asyn y lleddais fil o wŷr.

º17 A phan orffcnnodd efe kfaru, yna efe a daflodd yr en o’i law, ac a alwodd y lle hwnnw Ramathlehi.

º18 Ac efe a sychedodd yn dost; ac a lefodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Tydi a roddaist yn llaw dy was yr ymwared mawr yma: ac yn awr a fyddaf fi farw gan syched, a syrthio yn llaw y rhai dienwaededig?

º19 Ond Duw a holltodd y cilddant oedd yn yr en, fel y daeth allan ddwfr ohono; nc efe a yfodd, a’i ysbryd a ddychwelodd, .ic efe a adfywiodd: am hynny y galwodd rfc ei henw Enhaccore, yr hon sydd yn 1 chi hyd y dydd hwn.

º20 Ac efe a farnodd Israel yn nyddiau y Philistiaid ugain mlynedd.

PENNOD 16 º1 YNA Samson a aeth i Gasa; ac a ganfu yno buteinwraig, ac a aeth i ‘ mewn ati hi.

º2 A mynegwyd i’r Gasiaid, gan ddy¬wedyd, Daeth Samson yma. A hwy a gylchynasant, ac a gynllwynasant iddo, ar hyd y nos, ym mhorth y ddinas; ac a fuant ddistaw ar hyd y nos, gan ddy¬wedyd, Y bore pan oleuo hi, ni a’i lladdwn ef.

º3 A Samson a orweddodd hyd hanner nos; ac a gyfododd ar hanner nos, ac a ymaflodd yn nrysau porth y ddinas, ac yn y ddau bost, ac a aeth ymaith a hwynt ynghyd â’r bar, ac a’u gosododd ar ei ysgwyddau, ac a’u dug hwynt i fyny i ben bryn sydd gyferbyn a Hebron.

º4 Ac wedi hyn efe a garodd wraig yn nyffryn Sorec, a’i henw Dalila.

º5 Ac argiwyddi’r Philistiaid a aethant i fyny ati hi, ac a ddywedasant wrthi, Huda ef, ac edrych ym mha le y mae ei fawr nerth ef, a pha fodd y gorthrechwn ef, fel y rhwymom ef i’w gystuddio: ac ni a roddwn i ti bob un fil a chant o arian.

º6 A Dalila a ddywedodd wrth Samson, Mynega i mi, atolwg, ym mha fan y mae dy fawr nerth di, ac a pha beth y’th rwymid i’th gystuddio.

º7 A Samson a ddywedodd wrthi, Pe rhwyment fi a saith o wdyn irion, y rhai ni sychasai; yna y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.

º8 Yna argiwyddi’r Philistiaid a ddygasant i fyny ati hi saith o wdyn irion, y rhai ni sychasent; a hi a’i rhwymodd ef a hwynt.

º9 (A chynllwynwyr oedd yn aros ganddi mewn ystafell.) A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a dorrodd y gwdyn, fel y torrir edau garth wedi cyffwrdd a’r tân: felly ni wybuwyd ei gryfder ef.

º10 A dywedodd Dalila wrth Samson, Ti a’m twyflaisi;, ac a-ddywedaist gelwydd


wrthyf: yn awr mynega i mi, atolwg, & reuodd ef gystuddio’ efj a’i’ nertfa a pha beth y gellid dy rwymo.

º11 Ac efe a ddywedodd wrthi, Pe gan rwymo y rhwyment fi a rhaffau newyddion, y rhai ni wnaethpwyd gwaith a hwynt; yna y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.

º12 Am hynny Dalila a gymerth raffau newyddion, ac a’i rhwymodd ef & hwynt; ac a ddywedodd wrtho, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. (Ac yr oedd cynllwynwyr yn aros mewn ystafell.) Ac efe a’u torrodd hwynt oddi am ei freichiau fel edau.

º13 A Dalila a ddywedodd wrth Samson, Hyd yn hyn y twyllaist fi, ac y dywedaist gelwydd wrthyf: mynega i mi, a pha beth y’th rwymid. Dywedodd yntau wrthi hi, Pe plethit ti saith gudyn fy mhen yng-hyd a’r we.

º14 A hi a’i gwnaeth yn sicr a’r hoel; ac a ddywedodd wrtho ef, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrodd o’i gwsg, ac a aeth ymaith a hoel y garfan, ac a’r we.

º15 A hi a ddywedodd wrtho ef. Pa fodd y dywedi, Cu gennyf dydi, a’th galon heb fod gyda mi? Teirgwaith bellach y’m twyllaist, ac ni fynegaist i mi ym rnha fan y mae dy fawr nerth.

º16 Ac oherwydd ei bod hi yn ei fiino ef a’i geiriau beunydd, ac yn ei boeni ef) ei enaid a ymofidiodd i farw:

º17 Ac efe a fynegodd iddi ei holl galon; ac a ddywedodd wrthi, Ni ddaeth ellyn ar fy mhen i: canys Nasaread i DDUW ydwyf fi o groth fy main. Ped eillid fi, yna y ciliai fy nerth oddi wrthyf, ac y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.

º18 A phan welodd Dalila fynegi ohono ef iddi hi ei holl galon, hi a anfonodd ac a alwodd am bendefigion y Philistiaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny unwaith; canys efe a fynegodd i mi ei holl galon. Yna arglwyddi’r Philistiaid a ddaethant i fyny ad hi, ac a ddygasant anan yn eu dwylo.

º19 A hi a wnaeth iddo gysgu ar ei gliniau; ac a alwodd ar ŵr, ac a barodd eillio saith gudyn ei ben ef: a hi a ddech- ymadawodd oddi wrtho.

º20 A hi a ddywedodd, Y mae y Phnistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrodd o’i gwsg, ac a ddywedodd, Af allan y waith hon fel cynt, ac ymysgydwaf. Ond ni wyddai efe fod yr ARGLWYDD wedi cilio oddi wrtho.

º21 Ond y Philistiaid a’i daliasant ef, ac a dynasant ei lygaid ef, ac a’i dygasant ef i waered i Gasa, ac a’i rhwymasant ef a gefynnau pres; ac yr oedd efe yn malu yn y carchardy.

º22 Eithr gwallt ei ben ef a ddechreuodd dyfu drachefn, ar ôl ei eillio.

º23 Yna arglwyddi’r Philistiaid a ymgasglasant i aberthu aberth mawr i Dagon eu duw, ac i orfoleddu: canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd Samson ein gelyn yn ein llaw ni.

º24 A phan welodd y bobl ef, hwy a ganmolasant eu duw: canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd ein gelyn yn ein dwylo ni, yr hwn oedd yn anrheithio ein gwlad ni, yr hwn a laddodd lawer ohon-om ni.

º25 A phan oedd eu calon hwynt yn llawen, yna y dywedasant, Gelwch am Samson, i beri i ni chwerthin. A hwy a alwasant am Samson o’r carchardy, fel y chwaraeai o’u blaen hwynt; a hwy a’i gosodasant ef rhwng y colofnau.

º26 A Samson a ddywedodd wrth y llanc oedd yn ymaflyd yn ei law ef, Gollwng, a gad i mi gael gafael ar y colofnau y mae y ty yn sefyll arnynt, fel y pwyswyf arnynt.

º27 A’r ty oedd yn llawn o wŷr a gwragedd; a holl arglwyddi’r Philistiaid oedd yno: ac ar y nen yr oedd ynghylch tair mil o wŷr a gwragedd yn edrych tra yr ydoedd Samson yn chwarae.

º28 A Samson a alwodd ar yr AR¬GLWYDD, ac a ddywedodd) O Arglwydd IOR, cofia fi, atolwg, a nertha fi, atolwg, yn unig y waith hon, O DDUW, fel y dialwyf ag un dialedd ar y Philistiaid am fy nau lygad.

º29 A Samson a ymaflodd yn y ddwy golofn ganol, y rhai yr oedd y t yn

sefyll arnynt, ac a ymgynhaliodd wrthynt, un yn ei ddeheulaw, a’r llall yn ei law aswy.

º30 A dywedodd Samson, Bydded farw fy einioes gyda’r Philistiaid. Ac efe a ymgrymodd a’i holl nerth; a syrthiodd y ty ar y pendefigion, ac ar yr holl bobl oedd ynddo: a’r meirw y rhai a laddodd efe wrth farw, oedd fwy nag a laddasai efe yn ei fywyd.

º31 A’i frodyr ef, a holl dy ei dad ef, a ddaethant i waered, ac a’i cymerasant ef, ac a’i dygasant i fyny, ac a’i claddasant ef rhwng Sora ac Estaol, ym meddrod Manoa ei dad. Ac efe a farnasai Israel ugain mlynedd.

PENNOD 17

º1 A yr oedd gŵr o fynydd Effraim, a’i enw Mica.

º2 Ac efe a ddywedodd wrth ei fam, Y mil a’r can sicl arian a dducpwyd oddi arnat, ac y rhegaist amdanynt, ac y dywedaist hefyd lle y clywais; wele yr arian gyda mi, myfi a’i cymerais. A dywedodd ei fam, Bendigedig fyddych, fy mab, gan yr ARGLWYDD.

º3 A phan roddodd efe y mil a’r can sicl arian adref i’w fam, ei fam a ddywedodd Gan gysegru y cysegraswn yr arian i’r ARGLWYDD o’m llaw, i’m mab, i wneuthut delw gerfiedig a thoddedig: am hynny yn awr mi a’i rhoddaf eilwaith i ti.

º4 Eto efe a dalodd yr arian i’w fam. A’i fam a gymerth ddau can sicl o arian ac a’u rhoddodd i’r toddydd; ac efe a’u gwnaeth yn ddelw gerfiedig, a thoddedig: hwy a fuant yn nhŷ Mica.

º5 A chan y gŵr hwn Mica yr oedd ty duwiau; ac efe a wnaeth effod, a theraffim, ac a gysegrodd un o’i feibion i fod yn offeiriad iddo.

º6 Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin. vii Israel; ond pob un a wnai yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun.

º7 Ac yr oedd gŵr ieuanc o Bethlehem fwda, o dylwyth Jwda, a Lefiad oedd efe; xxx efe a ymdeithiai yno.

º8 A’r gŵr a aeth allan o’r ddinas o Ucthlchcm Jwda i drigo pa te bynnag y caffai le: ac frfe a ddaeth i fynydd Effraim i dŷ Mica, yn ei ymdaith.

º9 A Mica a ddywedodd wrtho, O ba le y daethost ti? Dywedodd yntau wrtho, Lefiad ydwyf o Bethlehem Jwda; a myned yr ydwyf i drigo lle caffwyf le.

º10 A Mica a ddywedodd wrtho. Trig gyda mi, a bydd i mi yn dad ac yn offeiriad; a mi a roddaf i ti ddeg sicl o arian bob biwyddyn, a phar o ddillad, a’th luniaeth. Felly y Lefiad a aeth i mewn.

º11 A’r Lefiad a fu fodlon i aros gyda’r gŵr; a’r gŵr iwane oedd iddo fel un o’i feibion.

º12 A Mica a urddodd y Lefiad; a’r gŵr ieuanc fu yn offeiriad iddo, ac a fil yn nhŷ Mica.

º13 Yna y dywedodd Mica, Yn awr y gwn y gwna yr ARGLWYDD ddaioni i mi; gan fod Lefiad gennyf yn offeiriad.

PENNOD 18

º1 YN y dyddiau hynny nid oedd brenin; yn Israel: ac yn y dyddiau hynny llwyth y Daniaid oedd yn ceisio iddynt etifeddiaeth i drigo; canys ni syrthiasai iddynt hyd y dydd hwnnw etifeddiaeth ymysg llwythau Israel.

º2 A meibion Dan a anfonasant o’u tyiwyth bump o wŷr o’u bro, gwŷr grymus, o Sora, ac o Estaol, i ysbïo’r wlad, ac i’w chwilio; ac a ddywedasant wrthynt, Ewch, chwiliwch y wlad. A phan ddaethant i fynydd Effraim i dŷ Mica, hwy a letyasant yno.

º3 Pan oeddynt hwy wrth dy Mica, hwy a adnabuant lais y gŵr ieuanc y Lefiad; ac a droesant yno, ac a ddywedasant wrtho, Pwy a’th ddug di yma? a pheth yr ydwyt ti yn ei wneuthur yma? a pheth sydd i ti yroa?

º4 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fet, hyn ac fel hyn y gwnaeth Mica i mi; ac efe a’m cyflogodd i, a’i offeiriad ef ydwyf fi.

º5 A hwy a ddywedasant wrtho ef, Ymgynghora, atolwg, a Duw, fel y gwypom a lwydda ein ffordd yr ydym ni yn rhodio arni.



º6 A’r offeiriad a ddywedodd wrthynt, Ewch mewn heddwch: gerbron yr ARGLWYDD y mae eich ffordd chvn, yr hon a gerddwch.

º7 Yna y pumwr a aethant ymaith, ac a ddaethant i Lais; ac a welsant y bobl oedd ynddi yn trigo mewn diogelwch, yn ôl arfer y Sidoniaid, yn llonydd ac yn ddiofal; ac nid oedd swyddwr yn y wlad, yr hwn a allai eu gyrru hwynt i gywilydd mewn dim: a phell oeddynt oddi wrth y Sidoniaid, ac heb negesau rhyngddynt a neb.

º8 A hwy a ddaethant at eu brodyr i Sora ac Estaol. A’u brodyr a ddywedasant wrthynt, Beth a ddywedwch chwi?

º9 Hwythau a ddywedasant, Cyfodwch, ac awn i fyny arnynt: canys gwelsom y wlad; ac wele, da iawn yw hi. Ai tewi yr ydych chwi? na ddiogwch fyned, i ddyfod i mewn i feddiannu’r wlad.

º10 Pan eloch, chwi a ddeuwch at bobl ddiofal, a gwlad eang: canys Duw a’i rhoddodd hi yn eich llaw chwi: sef lle nid oes ynddo eisiau dim a’r y sydd ar y ddaear.

º11 Ac fe aeth oddi yno, o dylwyth y Daniaid, o Sora ac o Estaol, chwe channwr, wedi ymwregysu ag arfau rhyfel.

º12 A hwy a aethant i fyny, ac a wersyllasant yn Ciriathjearim, yn Jwda: am hynny y galwasant y fan honno Mahane-Dan, hyd y dydd hwn: wele, y mae o’r til ôl i Ciriathjearim.

º13 A hwy a aethant oddi yno i fynydd Effraim, ac a ddaethant hyd dy Mica.

º14 A’r pumwr, y rhai a aethent i Chwilio gwlad Lais, a lefarasant, ac a ddywedasant wrth eu brodyr, Oni wyddoch chwi fod yn y tai hyn effod a ther-affim, a delw gerfiedig, a thoddedig? gan hynny ystyriwch yn awr beth a wneloch.

º15 A hwy a droesant tuag yno; ac a ddaethant hyd dy y gŵr leuanc y Lefiad, i dŷ Mica; ac a gyfarchasant well iddo.

º16 A’r chwe channwr, y rhai oedd wedi eu gwregysu ag arfau rhyfel, oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, scf y rhai oedd o feibion Dan.

º17 A’r pumwr, y rhai a aethent i chwilio’r wlad, a esgynasant, ac a aethant i mewn yno; ac a ddygasant ymaith y. ddelw gerfiedig, a’r effod, a’r teraffim, a’r ddelw doddedig: a’r offeiriad oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, gyda’r chwe channwr oedd wedi ymwregysu ag arfau rhyfel,

º18 A’r rhai hyn a aethant i dŷ Mica, ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig, yr effod, a’r teraffim, a’r ddelw doddedig. Yna yr offeiriad a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei wneuthur?

º19 Hwythau a ddywedasant wrtho, Taw a son; gosod dy law ar dy safn, a thyred gyda ni, a bydd i ni yn dad ac yn offeiriad; ai gwell i ti fod yn offeiriad i dŷ un gŵr, na’th fod yn offeiriad i lwyth ac i deulu yn Israel?

º20 A da fu gan galon yr offeiriad; ac efe a gymerth yr effod, a’r teraffim, a’r ddelw gerfiedig, ac a aeth ymysg y bobl.

º21 A hwy a droesant, ac a aethant ymaith; ac a osodasant y plant, a’r anifeiliaid, a’r clud, o’u blaen.

º22 A phan oeddynt hwy ennyd oddi wrth dy Mica, y gwŷr oedd yn y tai wrth dy Mica a ymgasglasant, ac a erlidiasant feibion Dan.

º23 A hwy a waeddasant ar feibion Dan. Hwythau a droesant eu hwynebau, ac a ddywedasant wrth Mica, Beth a ddarfu i ti, pan wyt yn dyfod a’r fath fintai?

º24 Yntau a ddywedodd, Fy nuwiau, y rhai a wneuthum i, a ddygasoch chwi ymaith, a’r offeiriad, ac a aethoch i ffordd: a pheth sydd gennyf fi mwyach? a pha beth yw hyn a ddywedwch wrthyf, Beth a ddarfu i ti?

º25 A meibion Dan a ddywedasant Wrtho, Na ad glywed dy lef yn ein mysg ni; rhag i wŷr dicllon ruthro arnul tl, a cholli ohonot dy einiocs, ac enuoes dy deulu.

º26 A meibion Dan a aethant i’w ffordd. A phan welodd Mica ni hod hwy yn gryfach nag ef, etc a drodd, ac a ddychwelodd i’w dŷ.

º27 A hwy a gymerasant y pethau a wnaethai Mica, a’r offeiriad oedd ganddo

ef, ac a ddaethant i Lais, at bobl louydd a- diofal; ac a’u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a losgasant y ddinas â thân.

º28 Ac nid oedd waredydd; canys pell oedd hi oddi wrth Sidon, ac nid oedd negesau rhyngddynt a neb; hefyd yr oedd hi yn y dyffryn oedd wrth Bethrehob: a hwy a adeiladasant ddinas, ac a drigasant ynddi.

º29 A hwy a alwasant enw y ddinas Dan, yn ôl enw Dan eu tad, yr hwn a anesid i Israel: er hynny Lais oedd enw y ddinas ar y cyntaf.

º30 A meibion Dan a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig: a Jonathan mab Gerson, mab Manasse, efe a’i feibion, fuant offeiriaid i lwyth Dan hyd ddydd caethgludiad y wlad.

º31 A hwy a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig a wnaethai Mica, yr holl ddyddiau y bu ty DDUW yn Seilo.

PENNOD 19

º1 AC yn y dyddiau hynny, pan nad oedd t1- frenin yn Israel, yr oedd rhyw Lefiad yn arcs yn ystlysau mynydd Effraim, ac efe a gymerodd iddo or-dderchwraig o Bethlehem Jwda.

º2 A’i ordderchwraig a buteiniodd yn’ ei erbyn ef, ac a aeth ymaith oddi wrtho efi dy ei thad, i Bethlehem Jwda; ac yno y bu hi bedwar mis o ddyddiau.

º3 A’i gŵr hi a gyfododd, ac a aeth ar ei hôl, i ddywedyd yn deg wrthi hi, ac i’w throi adref; a’i lane oedd gydag ef, a chwpl o asynnod. A hi a’i dug ef i mewn i dŷ ei thad: a phan welodd tad y llances ef, bu lawen ganddo gyfarfod ag ef.

º4 A’i chwegrwn ef, tad y llances, a’i daliodd ef yno; ac efe a dariodd gydag ef dridiau. Felly bwytasant ac yfasant, a lletyasant yno.

º5 A’r pedwerydd dydd y cyfodasant yn fore; yntau a gyfododd i fyned ymaith. A thad y llances a ddywedodd wrth ei ddaw, Nertha dy galon a thamaid o fara, ac wedi hynny ewch ymaith.

º6 A hwy a eisteddasant, ac a fwytasant ill dau ynghyd, ac a yfasant. A thad y llances a ddywedodd wrth y gŵr, Bydd fodlon, atolwg, ac aros dros nos, a llawenyched dy galon.

º7 A phan gyfododd y gŵr i fyned ymaith, ei chwegrwn a fu daer arno: am hynny efe a drodd ac a letyodd yno.

º8 Ac efe a gyfododd yn fore y pumed dydd i fyned ymaith. A thad y llances a ddywedodd, Cysura dy galon, atolwg. A hwy a drigasant hyd brynhawn, ac a fwytasant ill dau.

º9 A phan gyfododd y gŵr i fyned ymaith, efe a’i ordderch, a’i lane; ei chwegrwn, tad y llances, a ddywedodd wrtho, Wele, yn awr, y dydd a laesodd i hwyrhau; arhoswch dros nos, atolwg: wele yr haul yn machludo; trig yma, fel y llawenycho dy galon: a chodwch yn fore yfory i’ch taith, fel yr elych i’th babeU.

º10 A’r gŵr ni fynnai aros dros nos; eithr cyfododd, ac a aeth ymaith: a daeth hyd ar gyfer Jebus, hon yw Jerwsalem, a chydag ef gwpl o asynnod llwythog, a’i ordderchwraig gydag ef.

º11 A phan oeddynt hwy wrth Jebus, yr oedd y dydd ar ddarfod: a’r llanc a ddywedodd wrth ei feistr. Tyred, atolwg, trown i ddinas hon y Jebusiaid, a lletywn ynddi.

º12 A’i feistr a ddywedodd wrtho, Ni thrown ni i ddinas estron nid yw o feibion Israel; eithr nyni a awn hyd Gibea.

º13 Ac efe a ddywedodd wrth ei lane, Tyred, a nesawn i un o’r lleoedd hyn, i letya dros nos, yn Gibea, neu Rama.

º14 Felly y cerddasant, ac yr aethant; a’r haul a fachludodd arnynt wrth Gibea eiddo Benjamin.

º15 A hwy a droesant yno, i fyned i mewn i letya i Gibea. Ac efe a ddaeth i mewn, ac a eisteddodd yn heol y ddinas: canys nid oedd neb a’u cymerai hwynt i’w dy i letya.

º16 Ac wele ŵr hen yn dyfod o’i waith o’r maes yn yr hwyr; a’r gŵr oedd o fynydd Effraim, ond ei fod ef yn ymdaith yn Gibea; a gwŷr y lle hwnnw oedd feibion Jemini.

º17 Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ŵr yn ymdaith yn heol y ddinasi a’r hen ŵr a ddywedodd, I ba le yr el di? ac o ba le y daethost?

º18 Yntau a ddywedodd wrtho, Tramwyo yr ydym ni o Bethlehem Jwda, fc ystlys mynydd Effraim, o’r lle yr hairwyg: a mi a euthum hyd Bethlehem Jwda, a myned yr ydwyf i dŷ yr ARGLWYDD; ac nid oes neb a’m derbyn i dŷ.

º19 Y mae gennym ni wellt ac ebraa. hefyd i’n hasynnod; a bara hefyd a gwin i mi ac i’th lawforwyn, ac i’r llanc sydd gyda’th weision: nid oes eisiau dim.

º20 A’r hen ŵr a ddywedodd, Tang-nefedd i ti: bydded dy holl eisiau arnaf; fi; yn unig na letya yn yr heol.

º21 Felly efe a’i dug ef i mewn i’w dŷ,, ac a borthodd yr asynnod: a hwy a olchasant eu traed, ac a fwytasant ac 8i yfasant.

º22 A phan oeddynt. hwy yn llawenhau eu calon, wele, gwŷr y ddinaSt, rhai o feibion Belial, a amgylchynasant y tŷ, a gurasant y drws, ac a ddywedasant. wnh berchen y tŷ, sef yr hen ŵr, gan ddywedyd, Dwg allan y gŵr a ddaeth i mewn i’th dŷ, fel yr adnabyddom ef.;

º23 A’r gŵr, perchen y tŷ, a aeth allaa atynt, ac a ddywedodd wrthynt, Nage, fy mrodyr, nage, atolwg, na wnewch mor ddrygionus: gan i’r gŵr hwn ddyfod. i’m ty i, na wnewch yr ysgelerder hyn.

º24 Wele fy merch, yr hon sydd forwyn a’i ordderch yntau; dygaf hwynt allan yn awr, a darostyngwch hwynt, a gwnewch iddynt yr hyn fyddo da yn eich golwg: ond i’r gŵr hwn na wnewch mor ysgeler.

º25 Ond ni wrandawai y gwŷr arno: am hynny y gŵr a ymaflodd yn ei ordderch ac a’i dug hi allan atynt hwy. A hwy a’i hadnabuant hi, ac a wnaefhant gam a hi yr holl nos hyd y bore: a phan gyfododd y wawr, hwy a’i gollyngasant hi ymaith.

º26 Yna y wraig a ddaeth, pan ymddangosodd y bore, ac a syrthiodd wrth ddrws ty y gŵr yr oedd ei harglwydd ynddo, hyd oleuni y dydd.

º27 A’i harglwydd a gyfododd y bore ac a agorodd ddrysau y tŷ, ac a aeth allan i fyned i’w daith: ac wele ei oik--, dderchwraig ef wedi cwympo wrth ddrws y tŷ, a’i dwy law ar y trothwy. .

º28 Ac efe a ddywedodd wrthi, Cyfod, fel yr elom ymaith. Ond nid oedd yn ateb. Yna efe a’i cymerth hi ar yr asyn; a’r gŵr a gyfododd, ac a aeth ymaith i’w. fangre.

º29 A phan ddaeth i’w dŷ, efe a gymerth gyllell, ac a ymaflodd yn ei ordderch. ac a’i darniodd hi, ynghyd â’i hesgyrn, yn ddeuddeg darn, ac a’i hanfonodd hi i holl derfynau Israel.

º30 A phawb a’r a welodd hynny, a ddywedodd, Ni wnaethpwyd ac ni wet-wyd y fath beth, er y dydd y daeth meibion Israel o wlad yr Aifft, hyd y dydd hwn: ystyriwch ar hynny, ymgynghorwch, a thraethwch eich meddwi.

PENNOD 20

º1 YNA holl feibion Israel a aethant allan; a’r gynulleidfa a ymgasglodd ynghyd fel un dyn, o Dan hyd Beerseba, a gwlad Gilead, at yr ARGLWYDD,;’ i. Mispa.

º2 A phenaethiaid yr holl bobl, o holt lwythau Israel, a safasant yng nghynull* eidfa pobl DDUW; sef pedwar can mil o wŷr traed yn tynnu cleddyf.

º3 (A meibion Benjamin a glywsant fyned o feibion Israel i Mispa.) Yna meibion Israel a ddywedasant, Dywedwch, pa fodd y bu y drygioni hyn?

º4 A’r gŵr y Lefiad, gŵr y wraig a; laddesid, a atebodd ac a ddywedodd, I Gibea eiddo Benjamin y deuthum i, iru, a’m gordderch, i letya.

º5 A gwŷr Gibea a gyfodasant i’m her¬byn, ac a amgylchynasant y ty yn fy erbyn liw nos, ac a amcanasant fy lladd i; a threisiasant fy ngordderch, fel y bu hi farw.

º6 A mi a ymeflais yn fy ngordderch, ac a’i derniais hi, ac a’i hanfonais hi trwy holl wlad etifeddiaeth Israel: canys gwnaethant ffieidd-dra ac ynfydrwydd yn Israel.

º7 Wele, meibion Israel ydych chwi oll; moeswch rhyngoch air a chyngor yma.

º8 A’r holl bobl a gyfododd megis un gŵr, gan ddywedyd, Nac eled neb ohonom i’w babell, ac na throed neb ohonom i’w dŷ.

º9 Ond yn awr, hyn yw y peth a wnawn ni i Gibea: Nyni a awn i fyny i’w herbyn wrth goelbren; 10 A ni a gymerwn ddengwr o’r cant trwy holl lwythau Israel, a chant o’r roil, a mil o’r deng mil, i ddwyn lluniaeth i’r bobl; i wneuthur, pan ddelont i Gibea Benjamin, yn ôl yr holl ffieidd-dra a wnaethant hwy yn Israel.

º11 Felly yr ymgasglodd holl wŷr Israel yn erbyn y ddinas yn gytun fel un gwi-.

º12 A llwythau Israel a anfonasant wŷr trwy holl lwythau Benjamin, gan ddywedyd, Beth yw y drygioni yma a wnaethpwyd yn eich mysg chwi?

º13 Ac yn awr rhoddwch y gwŷr, meib¬ion Belial, y rhai sydd yn Gibea, fel y lladdom hwynt, ac y dileom ddrygioni o Israel. Ond ni wrandawai meibion Ben¬jamin ar lais eu brodyr meibion Israel:

º14 Eithr meibion Benjamin a ymgynultasant o’r dinasoedd i Gibea, i fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Israel.

º15 A chyfrifwyd meibion Benjamin y dydd hwnnw, o’r dinasoedd, yn chwe mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf, heblaw trigolion Gibea, y rhai a gyfrif-wyd yn saith gant o wŷr etholedig. ‘

º16 O’r holl bobl hyn yr oedd saith gant o wŷr etholedig yn chwithig; pob uft ohonynt a ergydiai a. charreg at y blewyn, hebfethu.

º17 Gwŷr Israel hefyd a gyfrifwyd, heblaw Benjamin, yn bedwar can mil yn tynnu cleddyf; pawb ohonynt yn rhyfelwyr.

º18 A meibion Israel a gyfodasant, ac a aethant i fyny i dŷ DDUW, ac a ymgyngorasant a Duw, ac a ddywedasant, Pwy ohonom ni a â i fyny yn gyntaf i’r gad yn erbyn meibion Benjamin? A dywedodd yr ARGLWYDD, Jwda a â yn gyntaf.

º19 A meibion Israel a gyfodasant y bore, ac a wersyllasant yn erbyn Gibea.

º20 A gwŷr Israel a aethant allan i ryfel yn erbyn Benjamin; a gwŷr Israel a ymosodasant i ymladd i’w herbyn hwy wrth Gibea.

º21 A meibion Benjamin a ddaethant allan o Gibea, ac a ddifethasant o Israel y dwthwn hwnnw ddwy fil ar hugaia o wŷr hyd lawr.

º22 A’r bobl gwŷr Israel a ymgryfhasant, ac a ymosodasant drachefn i ymladd, yn. y lle yr ymosodasent ynddo y dydd cyntaf.

º23 (A meibion Israel a aethent i fyny, ac a wylasent gerbron yr ARGLWYDD hyd yr hwyr: ymgyngorasent hefyd a’r AR¬GLWYDD, gan ddywedyd, A af fi drachefii i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd? A dywedasai yr ARGLWYDI , DOS i fyny yn ei erbyn ef.) -

º24 A meibion Israel a nesasant yn erbyn meibion Benjamin yr ail ddydd.

º25 A Benjamin a aeth allan o Gibea i’w herbyn hwythau yr ail ddydd; a hwy a ddifethasant o feibion Israel eilwaith dair mil ar bymtheg o wŷr hyd lawr; y rhai hyn oll oedd yn tynnu cleddyf.

º26 Yna holl feibion Israel a’r holl bobl a aethant i fyny ac a ddaethant i dŷ DDUW, ac a wylasant, ac a arosasant yno gerbron yr ARGLWYDD, ac a ymprydiasant y dwthwn hwnnw hyd yr hwyr, ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr ARGLWYDD.

º27 A meibion Israel a ymgyngorasaat a’r ARGLWYDD, (canys yno yr oedd arch cyfamod Duw yn y dyddiau hynny;

º28 A Phinees mab Eleasar, mab Aaron, oedd yn sefyll ger ei bron hi yn y dyddiau hynny;) gan ddywedyd, A chwanegaf fi mwyach fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd, neu a beidiaf fi? A dywedodd yr ARGLWYDD, Ewch i fyny; canys yfory y rhoddaf ef yn dy law di.

º29 Ac Israel a osododd gynllwynwyr o amgylch Gibea.

º30 A meibion Israel a aethant i .fyay yn erbyn meibion Benjamin y trydydd dydd, ac a ymosodasant wrth Gibea, fel cynt.

º31 A meibion Benjamin a aethant allan yn erbyn y bobl; a thynnwyd hwynt oddi wrth y ddinas: a hwy a ddechreuasant daro rhai o’r bobl yn archolledig, fel cynt, yn y priffyrdd, o’r rhai y mae y naill yn myned i fyny i dŷ DDUW, a’r llall i Gibea yn y maes, ynghylch dengwr ar hugain o Israel.

º32 A meibion Benjamin a ddywedasant, Cwympwyd hwynt o’n blaen ni, fel ar y cyntaf. Ond meibion Israel a ddywed¬asant, Flown, fel y tynnom hwynt oddi wrth y ddinas i’r priffyrdd.

º33 A holl wŷr Israel a gyfodasant o’u lle, ac a fyddinasant yn Baal-tamar: a’r sawl a oedd o Israel yn cynllwyn, a ddaeth allan o’u mangre, sef o weirgloddiau Gibea.

º34 A daeth yn erbyn Gibea ddeng mil o wŷr etholedig o holl Israel; a’r gad a fu dost: ond ni wyddent fod drwg yn agos atynt.

º35 A’r ARGLWYDD a drawodd Benjamin o flaen Israel: a difethodd meibion Israel o’r Benjaminiaid, y dwthwn hwnnw, bum, mil ar hugain a channwr; a’r rhai hyn oll yn tynnu cleddyf.

º36 Felly meibion Benjamin a welsant mai eu lladd yr oeddid: canys gwŷr Israel a roddasant le i’r Benjaminiaid; oherwydd hyderu yr oeddynt ar y cynllwynwyr, y rhai a osodasent yn ymyl Gibea.

º37 A’r cynllwynwyr a frysiasant, ac a ruthrasant ar Gibea: a’r cynllwynwyr a utganasant yn hirllaes, ac a drawsant yr holl ddinas â min y cleddyf.

º38 Ac yr oedd amser nodedig rhwng gwŷr Israel a’r cynllwynwyr; sef peri ohonynt i fflam fawr a mwg ddyrchafu o’r ddinas.

º39 A phan drodd gwŷr Israel eu cefnau yn y rhyfel, Benjamin a ddechreuodd daro yn archolledig o wŷr Israel ynghylch dengwr ar hugain: c nys dywedasant, Diau gan daro eu taro hwynt o’n blaen ni, fel yn y cyntaf.

º40 A phan ddechreuodd y fflam ddyr¬chafu o’r ddinas a cholofn o fwg, Benjamin a edrychodd yn ei ôl; ac wele fflam y ddinas yn dyrchafu i’r nefoedd.

º41 Yna gwŷr Israel a-droesant drachefn; a gwŷr Benjamin a frawychasant: oher¬wydd hwy a ganfuant fod drwg wedi dyfod arnynt.

º42 Am hynny hwy a droesant o flaen gwŷr Israel, tua ffordd yr anialwch; a’r gad a’u goddiweddodd hwynt: a’r rhai a ddaethai o’r dinasoedd, yr oeddynt yn eu difetha yn eu canol.

º43 Felly yr amgylchynasant y Ben¬jaminiaid; erlidiasant hwynt, a sathrasant hwynt yn hawdd hyd yng nghyfer Gibea, tua chodiad haul.

º44 A lladdwyd o Benjamin dair mil ar bymtheg o wŷr: y rhai hyn oll oedd wŷr nerthol.

º45 A hwy a droesant, ac a ffoesant tua’r anialwch i graig Rimmon. A’r Israeliaid a loffasant ohonynt ar hyd y priffyrdd, bûm mil o wŷr: erlidiasant hefyd ar eu hôl hwynt hyd Gidom, ac a laddasant ohonynt ddwy fil o wŷr.

º46 A’r rhai oll a gwympodd o Benjamin y dwthwn hwnnw, oedd bûm mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf: hwynt oll oedd wvr nerthol.

º47 Eto chwe channwr a droesant, ac a ffoesant i’r anialwch i graig Rimmon, ac a arosasant yng nghraig Rimmon bedwar mis.

º48 A gwŷr Israel a ddychwelasant ar feibion Benjamin, ac a’u trawsant hwy â min y cleddyf, yn ddyn o bob dinas, ac yn anifail, a pheth bynnag a gafwyd: yr holl ddinasoedd hefyd a’r a gafwyd, a losgasant hwy â thân.

PENNOD 21

º1 A GWŶR Israel a dyngasant ym Mispa, gan ddywedyd, Ni ddyry neb ohon-om ei ferch i Benjaminiad yn wraig.

º2 A daeth y bobl i dŷ DDUW, ac a arosasant yno hyd yr hwyr gcrbron Duw, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wyl.isant ag wylofain mawr:

º3 Ac a ddywedasant, O ARGLWYDD DDUW Israel, paham y bu y pclh hyn yn Israel, fel y byddai heddiw un llwylh yn eisiau yn Israel?

º4 A thrannoeth y bobl a foregodasant,

ac a adeiladasant yno allor, ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd.

º5 A meibion Israel a ddywedasant, Pwy o holl lwythau Israel ni ddaeth i fyny gyda’r gynulleidfa at yr ARGLWYDD? canys llw mawr oedd yn erbyn yr hwn ni ddelsai i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa, gan ddywedyd, Rhoddir ef i farwolaeth yn ddiau.

º6 A meibion Israel a edifarhasant o-herwydd Benjamin eu brawd: a dywed¬asant, Torrwyd ymaith heddiw un llwyth o Israel:

º7 Beth a wnawn ni am wragedd i’r rhai a adawyd, gan dyngu ohonom ni i’r ARGLWYDD, na roddem iddynt yr un o’n merched ni yn wragedd?

º8 Dywedasant hefyd. Pa un o lwythau Israel ni ddaeth i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa? Ac wele, ni ddaethai neb o Jabes Gilead i’r gwersyll, at y gynull¬eidfa.

º9 Canys y bobl a gyfrifwyd; ac wele, nid oedd yno neb o drigolion Jabes Gilead.

º10 A’r gynulleidfa a anfonasant yno ddeuddeng mil o wŷr grymus; ac a’ orchmynasant iddynt, gan ddywedyd, Ewch a threwch breswylwyr Jabes Gilead. â min y cleddyf, y gwragedd hefyd a’r plant.

º11 Dyma hefyd y peth a wnewch chwi: Difethwch bob gwryw, a phob gwraig a orweddodd gyda gŵr.

º12 A hwy a gawsant ymhiith trigolion Jabes Gilead, bedwar cant o lancesau yn w ryfon, y rhai nid adnabuasent ŵr trwy gydorwedd â gŵr: a dygasant hwynt i’r gwersyll i Seilo, yr hon sydd yng ngwlad Canaan.

º13 A’r holl gynulleidfa a anfonasant i lefaru wrth feibion Benjamin, y rhai oedd yng nghraig Rimmon, ac i gyhoeddi heddwch iddynt.

º14 A’r Benjaminiaid a ddychwelasant yr amser hwnnw; a hwy a roddasant iddynt hwy y gwragedd a gadwasent yn fyw o wragedd Jabes Gilead: ond ni chawsant hwy ddigon felly.

º15 A’r bobl a edifarhaodd dros Ben¬jamin, oherwydd i’r ARGLWYDD wneuthur rhwygiad yn llwythau Israel.

º16 Yna henuriaid y gynulleidfa a ddywedasant, Beth a wnawn ni am wragedd i’r lleill, gan ddistrywio y gwragedd o Benjamin?

º17 Dywedasant hefyd, Rhaid yw bod etifeddiaeth i’r rhai a ddihangodd o Benjamin, fel na ddileer llwyth allan o Israel.

º18 Ac ni allwn ni roddi iddynt wragedd o’n merched ni: canys meibion Israel a dyngasant, gan ddywedyd, Melkigedig ‘ fyddo yr hwn a roddo wraig i Benjamin.

º19 Yna y dywedasant, Wele, y mae gwyl i’r ARGLWYDD bob biwyddyn yn Seilo, o du y gogledd i Bethel, tua chyfodiad haul i’r brinbrdd y sydd yn myned i fyny o Bethel i Sichem, ac o du y deau i Libanus.

º20 Am hynny y gorchmynasant hwy i feibion Benjamin, gan ddywedyd, Ewch a chynllwynwch yn y gwinllannoedd:

º21 Edrychwch hefyd; ac wele, os merched Seilo a ddaw allan i ddawnsio mewn dawnsiau; yna deuwch chwithau allan o’r gwinllannoedd, a chipiwch i chwi bob un ei wraig o ferched Seilo, ac ewch i wlad Benjamin.

º22 A phan ddelo eu tadau neu eu brodyr hwynt i achwyn atom ni, yna y dywedwn wrthynt, Byddwch dda iddynt er ein mwyn ni; oblegid na chadwasom i bob un ei wraig yn y rhyfel: o achos na roddasoch chwi hwynt iddynt y pryd hwn, ni byddwch chwi euog.

º23 A meibion Benjamin a wnaethant / felly; a chymerasant wragedd yn ôl eu rhifedi, o’r rhai a gipiasent, ac a oeddynt yn dawnsio: a hwy a aethant ymaith, a dychwelasant i’w hetifeddiaeth, ac a ad-gyweiriasant y dinasoedd, ac a drigasant ynddynt.

º24 A meibion Israel a ymadawsant oddi yno y pryd hwnnw, bob un at ei . lwyth, ac at ei deulu; ac a aethant oddi -" yno bob un i’w etifeddiaeth.

º25 Yn y dy ddiau hynny nid oedd brenin yn Israel: pob un a wnai yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun.