Coed Marchan

Oddi ar Wicidestun

gan Robin Clidro

Cywydd dros y gwiwerod a aeth i Lundain i ffilio ag i wneuthur affidafid ar y bil am dorri Coed Marchan yn ynyl Rhuthyn.

Blin ac afrydd yw’r gyfraith,
mac’n boen i’r gwiwerod bach;
mynad ar lawndaith i Lundain
â’u bloedd a’u mamaeth o’u blaen.
Gwych oedd hi’r wiwer goch hon,
dorllaes, yn medru darllen,
yn ymddiddan â’r cyngawr,
ac eto ma’n fater mawr.
Pan roed y llyfr dan ei llaw
a choel oedd i’w chywilyddiaw,
hi ddywed wrth y beili,
“Sir Bribwm, un twym wyt ti!”
Ar ei llw hi ddywed fal hyn,
anrheithio holl goed Rhuthyn
a dwyn ei thŷ a’i sgubor
liw nos du, a’i chnau a’i stôr.
“mae’r gwiwerod yn gweiddi
am y coed rhag ofn y ci.
Nid oes fry o goed y fron
Ond lludw y derw llwydion.
Nod oes gepyll heb ei gipio,
na nyth brân byth i’n bro.
Mae’r tylluanod yn udo
am y coed, yn gyrru plant o’u co’.
Gwae’r dylluan rhag annwyd,
oer ei lle am geubren llwyd!
Gwae’r geifr am eu coed a’u cyll,
a pherchen hwch a pherchyll!
Gwae galon hwch folgoch hen
Dduw Sul am le i gael mesen!
Cadair y cathod coedion,
mi wn y tu llosgwyd hon.
Yn iach draenog; nac aerwy
na chafn moch ni cheir mwy.
Os rhostir gŵydd foel, rhiad fydd
â rhedyn Bwlch y Rhodwydd.
Crychias ni feirw crochan,
na breci mwy heb bricie mân.
O daw mawnen o’r mynydd
a y glaw, oer a drud fydd.
Annwyd fydd yn lladd y forwyn,
oer ei thraed a defni o’i thrwyn.
Nid oes gaynac ysgyrren
na chae chwipio biach gul hen.
Gwir a ddywed Angharad,
oni cheir glo, yn iach in gwlad.”