Dychan i Uto'r Glyn

Oddi ar Wicidestun

gan Llywelyn ap Gutun

Tristach yw Cymry trostyn,
Tre a gwlad, am Uto'r Glyn.
Boddi wnaeth ar draeth heb drai,
Mae'n y nef, am na nofiai.
Ofer oedd wneuthur erof
O'm caid heb farwnad i'm cof.
Ni bydd cymain, main mynor,
Un llaw mwy yn llywio'r môr.
Awenyddiaeth y draethell
O foddi'i gorff a fydd gwell.
Och fi, o'i drochi drichwrs,
Na bawn ynglŷn yn ei bwrs!
Ei weled yn troi'n olwyn
Ar Fall Draeth â'r fwyall drwyn.
Och finnau, uwch yw f'anap,
Am simwr y gŵr a'i gap!

Hwdiwch atoch ddwyfoch ddig,
Dylyn yn gyff Nadolig.
Mae'n y môr, nis hepgorwn,
Wyneb arth i'r neb a wn.
Mae'n ei gawell facrelliaid
Mwy no llwyth ym min y llaid.
Mae hergod o bysgodyn,
Moelrhon yn nwyfron fy nyn.
E fyn gŵr o afon gau
Ysgadain o'i esgidiau.
A'r cawell lle bu'r cywydd,
Ceudod llysywod y sydd.
Gan ddŵr aeth y milwr mau,
Gan wynt aeth ei gân yntau.
Llyna gael, nid llai no gwn,
Llun pencerdd yn llawn pencwn!
Y rhydau lle bu'r rhodiwr
Ni adai'r don fynd o'r dŵr,
Ond ei rwymo drwy ymwrdd
Ar untu a'i hyrddu hwrdd.
Cryf ydoedd, ceir ei fudaw,
Cregyn a lŷn yn ei law;
Ei yrru fyth ar ei farch
Draw ac yma, drwg amarch.

Mae'n llawen genfigenwyr,
Cuddio gwalch cywyddau gwŷr.
Pwy fydd capten yr henfeirdd?
Pwy'n gaterwen uwch ben beirdd?
Ple mae i'r barcut scutor?
Pwy a gân mwy pegan môr?
Pwy a ludd iddaw, grudd gwrach,
Roi'r gadair ar ei gadach?
Pwy ond ysbryd y Gwido
A'i lludd fyth, ac a'i lladd fo?

Mae'n rhodio mwy no'r hudol
Yn ei rith un ar ei ôl.
Nid un hwyl yn dwyn helynt,
Nid efô yw'r Guto gynt,
Ond bod llun a bodiau llo,
Gadach, am Ysbryd Gwido.
Rhodiodd megis rhyw eidion,
Ysbryd drwg ar draws mwg Môn.
Gwrdd wyneb, gyrrodd yno
Haid o offeiriaid i ffo;
Gyrrent yntau'n anguriawl
Y naill ai i Dduw ai'n llaw ddiawl.