Ffugenwau (Mynyddog)
Gwedd
Ffugenwau.
- Ceir llawer i glefyd ar hyd ein hen wlad,
- Rhai'n berygl ryfeddol a hir eu parhad;
- Mae clefyd Eisteddfod yn dod yn ei dro,
- A chlefyd excursions a chanu Soh, Doh;
- Ond clefyd ffugenwau yw'r gwaethaf a gaed,
- Mae'n drymach na chlefyd y genau a'r traed.
- Mae Eos y Weirglodd ac Eos y Bryn,
- Ac Eos yr Afon, ac Eos y Llyn,
- A llewod ac arthod, eryrod a brain,
- Ac ambell i fwnci ynghanol y rhain.
- Os digwydd i hogyn wneud pennill o gan,
- A'i anfon i'r print ac oddiyno i'r tan,
- Dechreua droi gwyn ei ddau lygad i'r nen,
- A'i fam yn ochneidio dan ysgwyd ei phen;
- Rhaid ei gipio i'r orsedd pe bai yn ei glocs,
- A'i blastro ag enw fel label ar focs.
- Mae Eos y Weirglodd, &c.
- Rhaid gwneud dyn yn bencerdd os gwelodd o dôn,
- Mae Pencerdd Sir Benfro a Phencerdd Sir Fôn,
- Os delir i urddo fel hyn ym mhob sir,
- Cawn afael ar Bencerdd Caergwydion cyn hir;
- 'Rwy'n cynnyg cael urddo hen geiliog fy nhad,
- A'i alw yn bencerdd ceiliogod y wlad.
- Mae Eos y Weirglodd, &c.
- Y ffasiwn ddiweddaf a ddaeth fel mae son,
- Dweyd enw a ffugenw a'r surname yn y bon,
- Dweyd John Arfon Jones a dweyd Rhys Meirion Rhys,
- A Lloyd Maldwyn Lloyd, gyda Prys Teifi Prys,
- A chyda'r rhai yna daw Morris--
- Llanfairmathafarn eithaf
- Rhosllanerchrugog,
- Llanrhaiadr Mochnant,
- Hugh,
- Llanrhaiadr Mochnant,
- Rhosllanerchrugog,
- Llanfairmathafarn eithaf
- A William Carey Williams a Dafydd--
- Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwll-llandysiliogogo goch
- Pugh.
- Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwll-llandysiliogogo goch