Gweddi'r Orsedd

Oddi ar Wicidestun
Gweddi'r Orsedd

gan Iolo Morgannwg


Dyro Dduw dy nawdd,
Ac yn nawdd, nerth,
Ac yn nerth, deall,
Ac yn neall, gwybod,
Ac yng ngwybod, gwybod y cyfiawn,
Ac yng ngwybod y cyfiawn, ei garu,
Ac o garu, caru pob hanfod,
Ac ym mhob hanfod, caru Duw,
Duw a phob daioni.


Nodiadau[golygu]

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Iolo Morganwg
ar Wicipedia

Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1929, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.