Kulhwch ac Olwen

Oddi ar Wicidestun
Kulhwch ac Olwen, neu Hanes y Twrch Trwyth

Kilyd mab kelydon wledic auynnei wreic kynmwyt ac ef. Sef gwreic avynnawd goleudyd merch anlawd wledic. Gwedy ywest genthi. mynet ywlat yggwedi malkawn a geffyt ettiued. Achaffel mab ohonunt trwy wedi y wlat. Ac ar awr y dellis beichogi. ydeuth hitheu yggwylltawc heb dy anhed. Pan dyuu y thymp idi. ef a dyuu y iawnbwyll idi. Sef y dyuu. mynyd yd oed meichat ynkadw kenuein o uoch. acrac ouyn y moch engi aoruc y vrenhines. a chymryt y mab aoruc y meichiat hyt pan dyuu yr llys. abedydyaw y mab a wnaethpwt. a gyrru kulhwch arnaw. wrth y gaffel yn retkyrr hwch. Bonhedic hagen oed y mab. Keuynderw y arthur oed. A rodi y mab awnaethpwyt ar ueithrin. Agwedy hynny cleuychu mam y mab goleudyd merch anlawd wiedic. Sef aoruc hi galw y chymar attei. Ac yna ydywat hi wrthaw ef. marw uydaf i orcleuyt hwnn. agwreic arall auynny ditheu. arecdouyd ynt ygwraged weithou. Drwc yw itti hagen llygru dy uab. Sef y harchaf itt na mwnnych wreic. hyt pan welych dryssien deu peinawc ar vymbed i. ac adaw aoruc yntau. ac erchi idaw amlynu y bed bop blwyddyn hyt nathyuei dim arnaw. marw uu y brenhines. Sef awnaei y brenin gyrru gwas bob bore i edrych a dyuei dim arybed. Gwallocau aoruc yr athro ympenn y seith mlyned yr hynn aaddawssei yr urenhines. Diwarnawt ynhely y brenhin. dy gyrchu y gordlan aoruc y brenhin. gwelet y bed a vynnei trw y kaffei wreicka. agwelet y dryssien aoruc. Ac mal y gwelas. mynet aoruc y brenhin ygkyghor pale kaffei wreic. Heb un or kynghorwyr. mi awyddwn wreickada itt awedei. Sef yw honno gwreic doget vrenhin. Kynghor uu gantunt y chyrchu. allad y brenhin. adwyn y wreic gantunt aorugant, ac un uerch oed idi gyt ahi agoresgyn tir y brenhin awneuthant. Dydgweith ydacth y wreicda allan y orymdeith. ydeuth y dy henwrach oed yny dref heb dant yny phenn. Ac y dywawt y urenhines ha wrach adywedy di ymi y peth aovynnaf itt yr duw. ble mae plant y gwr amllathrudawd yggordwy. Heb y wrach nit oes blant idaw. heb y urenhines. gwae uinneu vyndyuot at anuab. Ac yna y dywawt y wrach. nyt reit itti hynny. Darogan yw idaw kaffel etiued o honat ti. yr naskaffo o arall. Na wnadristyt heuyt un mab yssyd idaw. mynet aoruc ywreicda yn llawen atref. Ac a dywawt hi wrth y chymar. Pa ystyr yw gennyt ti kelu dy blant ragof i. heb y brenhin. a meinheu nys kelaf weithon. kennattau y mab aorucpwyt.

((anghyflawn))