Mae bod yn fyw o fawr ryfeddod

Oddi ar Wicidestun
gan Categori:Ann Griffiths
Mae bod yn fyw o fawr ryfeddod
O fewn ffwrneisiau sydd mor boeth,
Ond mwy rhyfedd, wedi 'mhrofi,
Y dof i'r canol fel aur coeth;
Amser cannu, diwrnod nithio,
Eto'n dawel, heb ddim braw;
Y Gwr a fydd i mi'n ymguddfa
Y sydd â'r wyntyll yn ei law.


Blin yw 'mywyd gan elynion
Am eu bod yn amal iawn;
Fy amgylchu maent fel gwenyn
O foreddydd hyd brynhawn;
A'r rhai o'm tŷ fy hun yn benna'
Yn blaenori uffernol gad;
Trwy gymorth gras yr wyf am bara
I ryfela hyd at waed.

Tarddiadau[golygu]