O! Deuwch, ffyddloniaid
Gwedd
- O! deuwch, ffyddloniaid,
- oll dan orfoleddu,
- O! deuwch, O! deuwch
- i Fethlehem dref:
- Wele, fe anwyd
- Brenin yr angylion:
- O! deuwch ac addolwn,
- O! deuwch ac addolwn,
- O! deuwch ac addolwn
- Grist o'r nef!
- O! cenwch, angylion,
- cenwch, gorfoleddwch;
- O! cenwch, chwi holl
- ddinasyddion y nef:
- Cenwch "Gogoniant
- i Dduw yn y goruchaf!"
- O! deuwch ac addolwn,
- O! deuwch ac addolwn,
- O! deuwch ac addolwn
- Grist o'r nef!
- O! henffych, ein Ceidwad,
- henffych well it heddiw:
- Gogoniant i'th enw
- trwy'r ddaear a'r nef:
- Gair y Tragwyddol
- yma'n ddyn ymddengys:
- O! deuwch ac addolwn,
- O! deuwch ac addolwn,
- O! deuwch ac addolwn
- Grist o'r nef!
Cyfieithiad anadnabyddus o Ladin John F Wade (1710-1786)