Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech (2)
Gwedd
Henffych well, i wlad fy nghalon,
Llwyddiant i ti Cymru dirion;
Bendith i dy feibion dewrion,
A dy ferched glân;
Peraidd yw dy hynod hanes,
I wresogi serch fy mynwes;
Tra bo 'ngwaed yn llifo'n gynnes,
Caraf wlad y gan.
Anwyl-wlad fy nhadau,
Caraf dy fynyddau;
Creigiau gleision uwch y nant
Ymwelant a'r cymylau,
Dolydd a dyffrynoedd ffrwythlon,
Ffrydiau clir a llynau llawnion,
Adlewyrchant flodau tlysion
Yn ei dyfroedd glân:
Hiraeth sydd i'm llethu,
Am anwylion Cymru,
Ow! na chawn fy mhwrs yn llawn,
A chred a dawn i'm denu,
Adre'n ol i blith fy nheulu,
A chyfeillion i'm croesawu:
Yn olynawl gwnawn foliannu
Cymru, gwlad y gân.