Syr Watcin Williams Wynn

Oddi ar Wicidestun
Watkin Williams-Wynn Vanity Fair 14 Mehefin, 1873
Ym mhlith yr holl foneddwyr
A geir yng Nghymru lân,
Mae rhai boneddwyr mawrion,
A’r lleill yn od o fân;
Ond gwnewch un bwndel anferth
O fonedd Cymru ’nghyd,
Syr Watcyn, brenin Cymru,
Sy’n fwy na’r lot i gyd.


Lle bynnag tyfa glaswellt,
Lle bynnag t’wynna haul,
Fel tirfeddiannwr hynaws
Ni welwyd un o’i ail;
Mae’n frenin gwlad y bryniau,
A chyda hyn o ran,
Mae’n frenin yng nghalonnau
Ei ddeiliaid ym mhob man.


Ewch at y weddw unig,
Ewch at amddifad tlawd,
Syr Watcyn yw eu noddwr,
Syr Watcyn yw eu brawd;
Trwy ddagrau diolchgarwch
Ar ruddiau llawer un
Argraffwyd yr ymadrodd,—
“Syr Watcyn ydyw’r dyn.”


Mae ef yn wir foneddwr,
’Does neb all ameu hyn,
Mae’i glôd fel llanw’n llifo
Dros lawer bro a bryn;
Ac nid yn unig hynny,—
Mae’n Gymro pur o waed,
A Chymro glân bob modfedd
O’i goryn hyd ei draed.


Hir oes i’r mwyn bendefig,
Medd calon myrdd pryd hyn,
A byw ddwy oes a hanner
A wnelo Lady Wynn;
Hir oes i’r holl hiliogaeth,
A chyfoeth heb ddim trai,
A bendith nef fo’n aros
Ar deulu hen Wynnstay.