Ty cwrdd dolobran

Oddi ar Wicidestun

Wedi’i guddio’n fwriadol yn y coed nepell o Feifod, mae Tŷ Cwrdd Dolobran, tŷ cwrdd cyntaf y Crynwyr yng Nghymru, a godwyd yn 1700. Fe’i hadeiladwyd gan Charles Lloyd wedi iddo gael ei ryddhau o’r carchar, a phenodwyd John Kelsale yn llanc ifanc fel ysgolfeistr yno. Roedd mudiad y Cyfeillion neu’r Crynwyr a sefydlwyd gan George Fox tua 1650 ar gynnydd ar hyd Cymru yn ystod y 17eg ganrif. Byddai pregethwyr yn dod i Gymru i argyhoeddi’r bobl, ac yn Sir Drefaldwyn y bu eu dylanwad ar ei gryfaf. Oherwydd erlid mawr gan y Frenhiniaeth ymfudodd llawer o Grynwyr o Gymru i Bennsylvania yn yr Amerig, dan arweiniad William Penn a Richard Davies.

Edwinodd gweithgaredd y Crynwyr yn Nolobran wedi cyfnod yr allfudo, a gwerthwyd Dolobran ym 1829 i Joseph Jones. Er hynny, prynwyd y lle yn ôl i deulu’r Llwydiaid hanner can mlynedd yn ddiweddarach gan Sampson Lloyd. Adnewyddwyd yr adeilad a daeth Crynwyr o bell i gynnal cyfarfod yno ym 1955. Ers hynny, mae’r lle heddychlon hwn yn gyrchfan cyson i Grynwyr.