Ty'r Arglwyddi yn 1912
Gwedd
gan Tryfanog
- Dewch, wrolion chwareli, - am lwyddiant
- Ymladdwn o ddifri;
- Nid ffrae a hwyl, ond ffwr' a hi
- I wir gladdu'r Arglwyddi.
- Myned a wnant i'r mynydd - i hela
- A hwyl yn dragywydd;
- Spwylio'n tlawd o'i ffawd a'i ffydd,
- Aflanaf haid aflonydd.
- Gwyddom bawb nad gweddus - yw llwytho
- A llethu'r anghenus;
- Darnio a lleibio pob llys
- Wna y lladron twyllodrus
- Ddafydd Llwyd, ddeifiodd eu lle, - chwalodd
- Y chwilod o'u nythle;
- Ni syfl hwn fyth o'i safle,
- Ef yn ei wlad fynn ei le.