Urien Yrechwydd
Gwedd
gan Taliesin
- Uryen yr echwyd haelaf dyn bedyd.
- lliaws a rodyd y dynyon eluyd.
- Mal y kynnullyd yt wesceryd.
- llawen beird bedyd tra vo dy uuchyd.
- ys mwy llewenyd gan clotuan clotryd.
- ys mwy gogonyant vot Uryen ae plant.
- Ac ef yn arbennic yn oruchel wledic.
- yn dinas pellennic yn keimyat kynteic.
- lloegrwys ae gwydant pan ymadrodant.
- agheu a gawssant a mynych godyant
- llosci eu trefret a dwyn eu tudet
- ac eimwnc collet a mawr aghyffret
- heb gaffel gwaret rac vryen reget.
- Reget diffreidyat clot ior agor gwlat
- vy mod yssyd arnat. O pop erclywat
- dwys dy peleitrat pan erclywat kat.
- kat pan y kyrchynt gwnyeith a wneit.
- Tan yn tei kyn dyd rac vd yr echwyd.
- Yr echwyd teccaf ae dynyon haelhaf.
- gnawt eigyl heb waessaf am teyrn glewhaf.
- glewhaf eissyllyd tydi goreu yssyd.
- or a uu ac a uyd. nyth oes kystedlyd.
- pan dremher arnaw ys ehalaeth y braw.
- Gnawt gwyled ymdanaw am teyrn gocnaw.
- Amdanaw gwyled. a lliaws maranhed
- eurteyrn gogled arbenhic teyrned.
- Ac yny vallwyf hen,
- ym dygyn agheu aghen
- ny bydif ym dirwen
- na molwyfi vryen.
- Ffynhonnell: Llyfr Taliesin