Y Faner Goch
Gwedd
cyfieithiad gan Niclas y Glais
- Mae baner gwerin yn y nen
- A'i phlygion tanllyd uwch ein pen;
- O'r gwan a sathrwyd o dan draed
- Y daeth i'w phlygion liw y gwaed.
- Cytgan:
- Mae'r Faner Goch yn fflam o dan
- Yn chwifio yn yr awyr lan;
- Er brad y stanc a nos y gell
- Cyhoedda'r faner ddyddiau gwell.
- O gelloedd y carcharau du
- Fe gwyd y gan yn nodau cu;
- O frwydrau trwm y werin wan
- Fe gyfyd can o hyd i'r lan.
- Dan fflangell y gorthrymder mawr
- Fe gan y gwan am newydd wawr;
- O laid heolydd, rhoddir iaith
- I ingoedd byddin y di-waith.
- Cyd-rodia'r gweithwyr tua'r gad
- I ddu-orseddu gorthrwm gwlad;
- O ddyfnder ing a thlodi'r byd
- Fe ddaw y gan a'i hedd o hyd.
- Sawl mil o weithwyr aeth i'w bedd
- Wrth frwydro am yr hyfryd hedd;
- Sawl merthyr blygodd tan y cam
- A'i gan yn fyw ar waetha'r fflam?
- Cyd-floeddied gweithwyr am y dydd
- Y daw pob gwlad o'i thlodi'n rhydd;
- Er bod y beichiau heddiw'n drwm
- Mae'r dydd yn dod i'r bwthyn llwm.