Y Gwyddel a'r Cymro

Oddi ar Wicidestun

gan Tryfanog

Meddyliodd Gwyddel bychan
Yn siwr roi cweir i mi,
Ond camgymeriad deryn wnaeth
'N ofnadwy, welwch chwi, ;
Fe neidiodd i fy ymyl
Fel teigar, gyda brys,
Gan daflu'i grysbas carpiog llwyd,
A thorchi darn o grys;.



Tarawodd fi fel mellten
Yn ymyl bôn fy nhrwyn,
Ac am slap nis gallwn i
Nac arall byth ei dwyn;
Fe redai 'ngwaed yn afon
Lifeiriol i fy ngheg,
Ac O ! maddeued Duw i mi
Os rhoddais lw neu reg.



Fe'i tegais ef mewn eiliad
Ar lawr mewn dŵr a baw,
Ac yno 'roedd y mymryn cawr
Heb symud troed na llaw;
Daeth Cymro'n llawn trugaredd
O rywle ar ei hynt
Gan erfyn arnof, Paid yn wir
A gwneud i ffwrdd a'i wynt.



Gadewais iddo godi,
Y lolyn brwnt a blin,
A chredu 'rwyf y bydd o byth
Yn llawer haws ei drin;
Erfyniodd cyn mynd ymaith
Faddeuant gyd a'i law;
Rhoes iddo 'mhump yn ddigon rhwydd,
Nis gallwn droi o draw.



Y rheswm iddo 'nharo
Na fedrwn Saesonaeg,
A minnau druan ar fy loes
Yn medru ond Cymraeg;
Mae llawer fel fy hunan
Ar lan y Ferswy'n awr
Yng nghanol brwnt a blin regfeydd
Yn disgwyl gweled gwawr.



Fe garaf "Wlad y Bryniau,"
'Rwy'n Gymro hyd y carn,
Ond i'r un Sais, na Gwyddel chwaith,
Nid af i byth yn sarn;
Chwi, fechgyn ieuanc Cymru,
Meithrinwch Saesonaeg,
Ond peidiwch byth, beth bynnag fo,
Anghofio'r hen Gymraeg.