Y Gododdin
Gwedd
gan Aneirin
1
[golygu]- Gredyf gwr oed gwas
- Gwrhyt am dias
- Meirch mwth myngvras
- A dan vordwyt megyrwas
- Ysgwyt ysgauyn lledan
- Ar bedrein mein vuan
- Kledyuawr glas glan
- Ethy eur aphan
- Ny bi ef a vi
- Cas e rof a thi
- Gwell gwneif a thi
- Ar wawt dy uoli
- Kynt y waet elawr
- Nogyt y neithyawr
- Kynt y vwyt y vrein
- Noc y argyurein
- Ku kyueillt ewein
- Kwl y uot a dan vrein
- Marth ym pa vro
- Llad un mab marro
2
[golygu]- Kayawc kynhorawc men y delhei
- Diffun ymlaen bun med a dalhei
- Twll tal y rodawr ene klywei
- Awr ny rodei nawd meint dilynei
- Ni chilyei o gamhawn eny verei
- Waet mal brwyn gomynei gwyr nyt echei
- Nys adrawd gododin ar llawr mordei
- Rac pebyll madawc pan atcoryei
- Namen un gwr o gant eny delhei
3
[golygu]- Kaeawc kynnivyat kywlat erwyt
- Ruthyr eryr en ebyr pan llithywyt
- E arnot a vu not a gatwyt
- Grwell a wnaeth e aruaeth ny gilywyt
- Rac bedin ododin odechwyt
- Hyder gymhell ar vreithel vanawyt
- Ny nodi nac ysgeth w nac ysgwyt
- Ny ellir anet ry vaethpwyt
- Rac ergyt catvannan catwyt
4
[golygu]- Kaeawc kynhorawc bleid e maran
- Gwevrawr godrwawr torchawr am rann
- Bu gwevrawr gwerthvawr gwerth gwin vann
- Ef gwrthodes gwrys gwyar disgrein
- Ket dyffei wyned a gogled e rann
- O gussyl mab ysgyrran
- Ysgwydawr angkyuan
5
[golygu]- Kaeawc kynhorawc aruawc eg gawr
- Kyn no diw e gwr gwrd eg gwyawr
- Kynran en racwan rac bydinawr
- Kwydei pym pymwnt rac y lafnawr
- O wyr deivyr a brennych dychiawr
- Ugein cant eu diuant en un awr
- Kynt y gic e vleid nogyt e neithyawr
- Kynt e vud e vran nogyt e allawr
- Kyn noe argyurein e waet e lawr
- Gwerth med eg kynted gan lliwedawr
- Hyueid hir ermygir tra vo kerdawr
6
[golygu]- Gwyr a aeth Ododin chwerthin ognaw
- Chwerw en trin a llain en emdullyaw
- Byrr vlyned en hed yd ynt endaw
- Mab botgat gwnaeth gwynnyeith gwreith e law
- Ket elwynt e lanneu e benydyaw
- A hen a yeueing a hydyr a llaw
- Dadyl diheu angheu y eu treidaw
7
[golygu]- Gwyr a aeth Ododin chwerthin wanar
- Disgynnyeis em bedin trin diachar
- Wy lledi a llavnawr heb vawr drydar
- Colovyn glyw reithuyw rodi arwar
8
[golygu]- Gwyr a aeth Gatraeth oed fraeth eu llu
- Glasved eu hancwyn a gwenwyn vu
- Trychant trwy beiryant en cattau
- A gwedy elwch tawelwch vu
- Ket elwynt e lanneu e benydu
- Dadyl dieu angheu y eu treidu
9
[golygu]- Gwyr a aeth gatraeth veduaeth uedwn
- Fyryf frwythlawn oed cam nas kymhwyllwn
- E am lavnawr coch gorvawr gwrmwn
- Dwys dengyn ed emledyn aergwn
- Ar deulu brenneych beych barnasswn
- Dilyw dyn en vyw nys adawsswn
- Kyueillt a golleis diffleis vedwn
- Rugyl en emwrthryn rynn riadwn
- Ny mennws gwrawl gwadawl chwegrwn
- Maban y gian o vaen gwynngwn
10
[golygu]- Gwyr a aeth gatraeth gan wawr
- Trauodynt en hed eu hovnawr
- Milcant a thrychant a emdaflawr
- Gwyarllyt gwynnodynt waewawr
- Ef gorsaf yng gwryaf eg gwryawr
- Rac gosgord mynydawc mwynvawr
11
[golygu]- Gwyr a aeth gatraeth gan wawr
- Dygymyrrws eu hoet eu hanyanawr
- Med evynt melyn melys maglawr
- Blwydyn bu llewyn llawer kerdawr
- Coch eu cledyuawr na phurawr
- Eu llain gwyngalch a phedryollt bennawr
- Rac gosgord mynydawc mwynvawr
12
[golygu]- Gwyr a aeth gatraeth gan dyd
- Neus goreu o gadeu gewilid
- Wy gwnaethant en geugant gelorwyd
- A llavnawr llawn annawd em bedyd
- Goreu yw hwn kyn kystlwn kerennyd
- Enneint creu ac angeu oe hennyd
- Rac bedin Ododin pan vudyd
- Neus goreu deu bwyllyat neirthyat gwychyd
13
[golygu]- Gwr a aeth gatraeth gan dyd
- Ne llewes ef vedgwyn veinoethyd
- Bu truan gyuatcan gyvluyd
- E neges ef or drachwres drenghidyd
- Ny chryssiws gatraeth
- Mawr mor ehelaeth
- E aruaeth uch arwyt
- Ny bu mor gyffor
- O eidyn ysgor
- A esgarei oswyd
- Tutuwlch hir ech e dir ae dreuyd
- Ef lladei Saesson seithuet dyd
- Perheit y wrhyt en wrvyd
- Ae govein gan e gein gyweithyd
- Pan dyvu dutvwch dut nerthyd
- Oed gwaetlan gwyaluan vab Kilyd
14
[golygu]- Gwr a aeth gatraeth gan wawr
- Wyneb udyn ysgorva ysgwydawr
- Crei kyrchynt kynnullynt reiawr
- En gynnan mal taran twryf aessawr
- Gwr gorvynt gwr etvynt gwr llawr
- Ef rwygei a chethrei a chethrawr
- Od uch lled lladei a llavnawr
- En gystud heyrn dur arbennawr
- E mordei ystyngei a dyledawr
- Rac erthgi erthychei vydinawr
15
[golygu]- O vreithyell gatraeth pan adrodir
- Maon dychiorant eu hoet bu hir
- Edyrn diedyrn amygyn dir
- A meibyon godebawc gwerin enwir
- Dyforthynt lynwyssawr gelorawr hir
- Bu tru a dynghetven anghen gywir
- A dyngwt y dutvwlch a chyvwlch hir
- Ket yvein ved gloyw wrth leu babir
- Ket vei da e vlas y gas bu hir
16
[golygu]- Blaen echeching gaer glaer ewgei
- Gwyr gweiryd gwanar ae dilynei
- Blaen ar e bludue dygollouit vual
- Ene vwynvawr vordei
- Blaen gwirawt vragawt ef dybydei
- Blaen eur a phorphor kein as mygei
- Blaen edystrawr pasc ae gwaredei
- Gwrthlef, ac euo bryt ae derllydei
- Blaen erwyre gawr buduawr drei
- Arth en llwrw byth hwyr e techei
17
[golygu]- Anawr gynhoruan
- Huan arwyran
- Grwledic gwd gyffgein
- Nef enys brydein
- Garw ryt rac rynn
- Aes elwrw budyn
- Bual oed arwynn
- Eg kynted eidyn
- Erchyd ryodres
- E ved medwawt
- Yuei win gwirawt
- Oed eruit uedel
- Yuei win gouel
- Aerueid en arued
- Aer gennin vedel
- Aer adan glaer
- Kenyn keuit aer
- Aer seirchyawc
- Aer edenawc
- Nyt oed diryf y ysgwyt
- Gan waywawr plymnwyt
- Kwydyn gyuoedyon
- Eg cat blymnwyt
- Diessic e dias
- Divevyl as talas
- Hudid e wyllyas
- Kyn bu clawr glas
- Bed gwruelling vreisc
18
[golygu]- Teithi etmygant
- Tri llwry novant
- Pymwnt a phymcant
- Trychwn a thrychant
- Tri si chatvarchawc
- Eidyn euruchawc
- Tri llu llurugawc
- Tri eur deyrn dorchawc
- Tri marchawc dywal
- Tri chat gyhaual
- Tri chysneit kysnar
- Chwerw vysgynt esgar
- Tri en drin en drwm
- Llew lledynt blwm
- Eur e gat gyngrwn
- Tri theyrn maon
- A dyvu o vrython
- Kynri a Chenon
- Kynrein o aeron
- Gogyuerchi yn hon
- Deivyr diuerogyon
- A dyvu o vrython
- Wr well no Chynon
- Sarph seri alon
19
[golygu]- Eveis y win a med e mordei
- Mawr meint e vehyr
- Yg kyuaruot gwyr
- Bwyt e eryr erysmygei
- Pan gryssyei gydywal kyfdwyreei
- Awr gan wyrd wawr kyui dodei
- Aessawr dellt ambellt a adawei
- Pareu rynn rwygyat dygymmynei
- E gat blaen bragat briwei
- Mab syvno sywedyd ae gwydyei
- A werthws e eneit
- Er wyneb grybwyllyeit
- A llavyn lliveit lladei
- Lledessit ac a thrwys ac affrei
- Er amot aruot arauethei
- Ermygei galaned
- O wyr gwychyr gwned
- Em blaen gwyned gwanei
20
[golygu]- Eveis y win a med e mordei
- Can yueis disgynneis rann fin fawd ut
- Nyt didrachywed colwed drut
- Pan disgynnei bawb ti disgynnot
- Ys deupo gwaeanat gwerth na phechut
- Pressent i drawd oed vreichyawr drut
21
[golygu]- Gwyr a aeth gatraeth buant enwawc
- Gwin a med o eur vu eu gwirawt
- Blwydyn en erbyn urdyn deuawt
- Trywyr a thri ugeiut a thrychant eurdorchawc
- Or sawl yt gryssyassant uch gormant wirawt
- Ny diengis namyn tri o wrhydri fossawt
- Deu gatki aeron a chenon dayrawt
- A minheu om gwaetfreu gwerth vy gwennwawt
22
[golygu]- Uyg car yng wirwar nyn gogyffrawt
- O neb o ny bei o gwyn dragon ducawt
- Ni didolit yng kynted o ved gwirawt
- Ef gwnaei ar beithing perthyng aruodyawc
- Ef disgrein eg cat disgrein en aelawt
- Neus adrawd gododin gwedy fossawt
- Pan vei no llwyeu llymach nebawt
23
[golygu]- Aryf angkynnull agkyman dull agkysgoget
- Tra chywed vawr treiglessyd llawr lloegrwys giwet
- Heessit eis ygkynnor eis yg cat uereu
- Goruc wyr lludw
- A gwraged gwydw
- Kynnoe angheu
- Greit vab hoewgir
- Ac ysberi
- Y beri creu
24
[golygu]- Arwr y dwy ysgwyt adan
- E dalvrith ac eil tith orwydan
- Bu trydar en aerure bu tan
- Bu ehut e waewawr bu huan
- Bu bwyt brein bu bud e vran
- A chyn edewit en rydon
- Gran wlith eryr tith tiryon
- Ac o du gwasgar gwanec tu bronn
- Beird byt barnant wyr o gallon
- Diebyrth e gerth e gynghyr
- Diua oed e gynrein gan wyr
- A chynn e olo a dan eleirch
- Vre ytoed wryt ene arch
- Gorgolches e greu y seirch
- Budvan vab bleidvan dihavarch
25
[golygu]- Cam e adaw heb gof camb ehelaeth
- Nyt adawei adwy yr adwriaeth
- Nyt edewes e lys les kerdoryon prydein
- Diw calan yonawr ene aruaeth
- Nyt erdit e dir kevei diffeith
- Drachas anias dreic ehelaeth
- Dragon yg gwyar gwedy gwinvaeth
- Gwenabwy vab gwenn gynhen gatraeth
26
[golygu]- Bu gwir mal y meud e gatlew
- Ny deliis meirch neb marchlew
- Heessit waywawr y glyw
- Y ar llemenic llwybyr dew
- Keny vaket am vyrn am borth
- Dywal y gledyual emborth
- Heessyt onn o bedryollt y law
- Y ar veinnyell vygedorth
- Yt rannei rygu e rywin
- Yt ladei a llauyn vreith o eithin
- Val pan vel medel ar vreithin
- E gwnaei varchlew waetlin
27
[golygu]- Issac anuonawc o barth deheu
- Tebic mor lliant y deuodeu
- O wyled a llaryed
- A chein yuet med
- Men yth glawd e offer e bwyth madeu
- Ny bu hyll dihyll na heu diheu
- Seinnyessyt e gledyf ym penn mameu
- Murgreit oed moleit ef mab gwydneu
28
[golygu]- Keredic caradwy e glot
- Achubei gwarchatwei not
- Lletvegin is tawel kyn dyuot
- E dyd gowychyd y wybot
- Ys deupo car kyrd kyvnot
- Y wlat nef adef atnabot
29
[golygu]- Keredic karadwy gynran
- Keimyat yg cat gouaran
- Ysgwyt eur crwydyr cadlan
- Gwaewawr uswyd agkyuan
- Kledyual dywal diwan
- Mal gwr catwei wyaluan
- Kynn kysdud daear hynn affan
- O daffar diffynnei e vann
- Ys deupo kynnwys yg kyman
- Can drindawt en undawt gyuan
30
[golygu]- Pan gryssyei garadawc y gat
- Mal baed coet trychwn trychyat
- Tarw bedin en trin gormynyat
- Ef llithyei wydgwn oe anghat
- Ys vyn tyst ewein vab eulat
- A gwryen a gwynn a gwryat
- O gatraeth o gymynat
- O vrynn hydwn kynn caffat
- Gwedy med gloew ar anghat
- Ny weles vrun e dat
31
[golygu]- Gwyr a gryssyasant buant gytneit
- Hoedyl vyrryon medwon uch med hidleit
- Gosgord mynydawc enwawc en reit
- Gwerth eu gwled e ved vu eu heneit
- Caradawc a madawc pyll ac yeuan
- Gwgawn a gwiawn gwynn a chynvan
- Peredur arveu dur gwawr-dur ac aedan
- Achubyat eng gawr ysgwydawr angkyman
- A chet lledessynt wy lladassan
- Neb y eu tymhyr nyt atcorsan
32
[golygu]- Gwyr a gryssyassant buant gytvaeth
- Blwydyn od uch med mawr eu haruaeth
- Mor dru eu hadrawd wy angawr hiraeth
- Gwenwyn eu hadlam nyt mab mam ae maeth
- Mor hir eu hetlit ac eu hetgyllaeth
- En ol gwyr pebyr temyr gwinvaeth
- Gwlyget gododin en erbyn fraeth
- Ancwyn mynydawc enwawc e gwnaeth
- A phrit er prynu breithyell gatraeth
33
[golygu]- Gwyr a aeth gatraeth yg cat yg gawr
- Nerth meirch a gwrymseirch ac ysgwydawr
- Peleidyr ar gychwyn a llym waewawr
- A llurugeu claer a chledyuawr
- Ragorei tyllei trwy vydinawr
- Kwydei bym pymwnt rac y lavnawr
- Ruuawn hir ef rodei eur e allawr
- A chet a choelvein kein y gerdawr
34
[golygu]- Ny wnaethpwyt neuad mor orchynnan
- Mor vawr mor oruawr gyvlavan
- Dyrllydut medut moryen tan
- Ny thraethei na wnelei kenon kelein
- Un seirchyawc saphwyawc son edlydan
- Seinnyessit e gledyf empenn garthan
- Noc ac esgyc canec vurvawr y chyhadvan
- Ny mwy gysgogit wit uab peithan
35
[golygu]- Ny wnaethpwyt neuad mor anvonawc
- Ony bei voryen eil caradawc
- Ny diengis en trwm elwrw mynawc
- Dywal dywalach no mab ferawc
- Fer y law faglei fowys varchawc
- Glew dias dinas e lu ovnawc
- Rac bedin ododin bu gwasgarawc
- Y gylchwy dan y gymwy bu adenawc
- Yn dyd gwyth bu ystwyth neu bwyth atveillyawc
- Dyrllydei vedgyrn eillt mynydawc
36
[golygu]- Ny wnaethpwyt neuad mor diessic
- No Chynon lary vronn geinnyon Wledic
- Nyt ef eistedei en tal lleithic
- E neb a wanei nyt adwenit
- Raclym e waewawr
- Calch drei tyllei vydinawr
- Rac vuan y veirch rac rygiawr
- En dyd gwyth atwyth oed e lavnawr
- Pan gryssyei gynon gan wyrd wawr
37
[golygu]- Disgynsit en trwm yg kessevin
- Ef diodes gormes ef dodes fin
- Ergyr gwayw rieu ryvel chwerthin
- Hut effyt y wrhyt elwry elfin
- Eithinyn uoleit mur greit tarw trin
38
[golygu]- Disgynsit en trwm yg kesseuin
- Gwerth med yg kynted a gwirawt win
- Heyessyt y lavnawr rwg dwy vydin
- Arderchawc varchawc rac gododin
- Eithinyn uoleit mur greit tarw trin
39
[golygu]- Disgynsit en trwm rac alauoed wyrein
- Wyre llu llaes ysgwydawr
- Ysgwyt vriw rac biw beli bloedvawr
- Nar od uch gwyar fin festinyawr
- An deliit kynllwyt y ar gynghorawr
- Gorwyd gwareurffrith rin ych eurdorchawr
- Twrch goruc amot emlaen ystre ystrywawr
- Teilingdeith gwrthyat gawr
- An gelwit e nef bit athledhawr
- Emyt ef krennit e gat waewawr
- Catvannan er aclut clotvawr
- No chynhennit na bei llu idaw llawr
40
[golygu]- Am drynni drylaw drylenn
- Am lwys am difiwys dywarchen
- Am gwydaw gwallt e ar benn
- Y am wyr eryr gwydyen
- Gwyduc neus amuc ac wayw
- Ardullyat diwyllyat e berchen
- Amuc moryen gwenwawt
- Murdyn a chyvrannv penn
- Prif eg weryt ac an nerth ac am hen
- Trywyr yr bod bun bratwen
- Deudec gwenabwy vab gwen
41
[golygu]- Am drynni drylaw drylenn
- Gweinydyawr ysgwydawr yg gweithyen
- En aryal cledyual am benn
- En lloegyr drychyon rac trychant unben
- A dalwy mwng bleid heb prenn
- En e law gnawt gwychnawt eny lenn
- O gyurang gwyth ac asgen
- Trenghis ny diengis bratwen
42
[golygu]- Eurar vur caer krysgrwydyat
- Aer cret ty na thaer aer vlodyat
- Un ara ae leissyar argatwyt
- Adar brwydryat
- Syll o virein neus adrawd a vo mwy
- O damweinnyeit llwy
- Od amluch lliuanat
- Neus adrawd a vo mwy
- Enawr blygeint
- Na bei kynhawel kynheilweing
43
[golygu]- Pan vuost di kynnivyn clot
- En amwyn tywyssen gordirot
- O haedot en gelwit redyrch gwyr not
- Oed dor diachor diachor din drei
- Oed mynut wrth olut ae kyrchei
- Oed dinas e vedin ae cretei
- Ny elwit gwinwit men na bei
44
[golygu]- Ket bei cann wr en vn ty
- Atwen ovalon keny
- Pen gwyr tal being a dely
45
[golygu]- Nyt wyf vynawc blin
- Ny dialaf vy ordin
- Ny chwardaf y chwerthin
- A dan droet ronin
- Ystynnawc vyg glin
- A bundat y
- En ty deyeryn
- Cadwyn heyernyn
- Am ben vyn deulin
- O ved o vuelin
- O gatraeth werin
- Mi na vi aneurin
- Ys gwyr talyessin
- Oveg kywrenhin
- Neu cheing e ododin
- Kynn gwawr dyd dilin
46
[golygu]- Goroled gogled gwr ae goruc
- Llary vronn haeladon ny essyllut
- Nyt emda daear nyt emduc
- Mam mor eiryan gadarn haearn gaduc
- O nerth e cledyf claer e hamuc
- O garchar amwar daear em duc
- O gyvle angheu o anghar dut
- Keneu vab llywarch dihauareh drut
47
[golygu]- Nyt ef borthi gwarth gorsed
- Senyllt ae lestri llawn med
- Godolei gledyf e gared
- Godolei lemein e ryuel
- Dyfforthsei lynwyssawr oe vreych
- Rac bedin ododin a brennych
- Gnawt ene neuad vyth meirch
- Gwyar a gwrymseirch
- Keingyell hiryell oe law
- Ac en elyd bryssyaw
- Gwen ac ymhyrdwen hyrdbleit
- Disserch a serch ar tro
- Gwyr nyt oedyn drych draet fo
- Heilyn achubyat pob bro
48
[golygu]- Llech leutu tut leu leudvre
- Gododin ystre
- Ystre ragno ar y anghat
- Angat gynghor e leuuer cat
- Cangen gaerwys
- Keui drillywys
- Tymor dymhestyl tymhestyl dymor
- E beri restyr rac riallu
- O dindywyt yn dyvu
- Wyt yn dy wovu
- Dwys yd wodyn
- Llym yt wenyn
- Llwyr genyn llu
- Ysgwyt rugyn
- Rac tarw trin
- Y dal vriw vu
49
[golygu]- Erkryn e alon ar af (ar)
- Er y brwydrin trin trachuar
- Kwr e vankeirw
- Am gwr e vanncarw
- Byssed brych briwant barr
- Am bwyll am disteir am distar
- Am bwyll am rodic am rychward
- Ys bro ys brys treullyawt rys en riwdrec
- Ny hu wy ny gaffo e neges
- Nyt anghwy a wanwy odiwes
50
[golygu]- Ny mat wanpwyt ysgwyt
- Ar gynwal carnwyt
- Ny mat dodes y vordwyt
- Ar vreichir mein-llwyt
- Gell e baladyr gell
- Gellach e obell
- Y mae dy wr ene gell
- Yn cnoi anghell
- Bwch bud oe law idaw
- Poet ymbell angell
51
[golygu]- Da y doeth adonwy at wen
- Ym adawssut wenn heli bratwen
- Gwnelut lladut llosgut
- No moryen ny waeth wnelut
- Ny delyeist nac eithaf na chynhor
- Ysgwn drem dibennor
- Ny weleist e morchwyd mawr marchogyon
- Wynedin my rodin nawd y Saesson
52
[golygu]- Gododin gomynaf dy blegyt
- Tynoeu dra thrumein drum essyth
- Gwas chwant y aryant heb emwyt
- O gussyl mab dwywei dy wrhyt
- Nyt oed gynghorwann
- Wael y rac tan veithin
- O lychwr y lychwr lluch bin
- Lluchdor y borfor beryerin
- Llad gwaws gwan maws mur trin
- Anysgarat ac vu y nat ac aneurin
53
[golygu]- Kywyrein ketwyr kywrennin
- E gatraeth gwerin fraeth fysgyolin
- Gwerth med yg kynted a gwirawt win
- Heyessit e lavnawr rwng dwy vedin
- Arderchauc varchawc rac gododin
- Eithinyn voleit murgreit tarw trin
54
[golygu]- Kywyrein ketwyr kywrenhin
- Gwlat atvel gochlywer a eu dilin
- Dygoglawd ton bevyr beryerin
- Men yd ynt eilyassaf elein
- O brei vrych ny welych weyelin
- Ny chemyd haed ud a gordin
- Ny phyrth mevyl moryal eu dilin
- Llavyn durawt barawt e waetlin
55
[golygu]- Kywyrein ketwyr kywrenhin
- Gwlat atvel gochlywer eu dilin
- Ef lladawd a chymawn a llain
- A charnedawr tra gogyhwc gwyr trin
56
[golygu]- Kywyrein ketwyr hyuaruuant
- Y gyt en un vryt yt gyrchassant
- Byrr eu hoedyl hir eu hoet ar eu carant
- Seith gymeint o loegrwys a ladassant
- O gyvryssed gwraged gwyth a wnaethant
- Llawer mam ae deigyr ar y hamrant
57
[golygu]- Ny wnaethpwyt neuad mor dianaf
- Lew mor hael baran llew llwybyr vwyhaf
- A chynon laryvronn adon deccaf
- Dinas y dias ar llet eithaf
- Dor angor bedin bud eilyassaf
- Or sawl a weleis ac a welav
- Ymyt en emdwyn aryf gryt gwryt gwryaf
- Ef lladei oswyd a llavyn llymaf
- Mal brwyn yt gwydynt rac y adaf
- Mab klytno clot hir canaf
- Yty or clot heb or heb eithaf
58
[golygu]- O winveith a medweith
- Dygodolyn gwnlleith
- Mam hwrreith
- Eidol enyal
- Ermygei rac vre
- Rac bronn budugre
- Breein dwyre
- Wybyr ysgynnyal
- Kynrein en kwydaw
- Val glas heit arnaw
- Heb giliaw gyhaual
- Synnwyr ystwyr ystemel
- Y ar weillyon gwebyl
- Ac ardemyl gledyual
- Blaen ancwyn anhun
- Hediw an dihun
- Mam reidun rwyf trydar
59
[golygu]- O winveith a medweith yd aethant
- E genhyn llurugogyon
- Nys gwn lleith lletkynt
- Cyn llwyded eu lleas dydaruu
- Rac catraeth oed fraeth eu llu
- O osgord vynydawc wawr dru
- O drychant namen un gwr ny dyvu
60
[golygu]- O winveith a medveith yt gryssyassant
- Gwyr en reit moleit eneit dichwant
- Gloew dull y am drull yt gytvaethant
- Gwin a med amall a amucsant
- O osgord vynydawc am dwyf atveillyawc
- A rwyf a golleis om gwir garant
- O drychan riallu yt gryssyassant
- Gatraeth tru namen vn gwr nyt atcorsant
61
[golygu]- Hv bydei yg kywyrein pressent mal pel
- Ar y e hu bydei ene uei atre
- Hut amuc ododin
- O win a med en dieding
- Yng ystryng ystre
- Ac adan gatvannan cochre,
- Veirch marchawc godrud e more
62
[golygu]- Angor dewr daen
- Sarph seri raen
- Sengi wrymgaen
- Emlaen bedin
- Arth i arwynawl drussyawr dreissyawr
- Sengi waewawr
- En dyd cadyawr
- Yg clawd gwernin
- Eil nedic nar
- Neus duc drwy var
- Gwled y adar
- O drydar drin
- Kywir yth elwir oth enwir weithret
- Ractaf ruyuyadur mur catuilet
- Merin a madyein mat yth, anet
63
[golygu]- Ardyledawc canu kyman caffat
- Ketwyr am gatraeth a wnaeth brithret
- Brithwy a wyar sathar sanget
- Sengi wit gwned bual am dal med
- A chalaned kyuurynged
- Nyt adrawd kibno wede kyffro
- Ket bei kymun keui dayret
64
[golygu]- Ardyledawc canu kyman ovri
- Twrf tan a tharan a ryuerthi
- Gwrhyt arderchawc varchawc mysgi
- Ruduedel ryuel a eiduni
- Gwr gwned divudyawc dimyngyei
- Y gat or meint gwlat yd y klywi
- Ae ysgwyt ar y ysgwyd hut arolli
- Wayw mal gwin gloew o wydyr lestri
- Aryant am yued eur dylyi
- Gwinvaeth oed waetnerth vab llywri
65
[golygu]- Ardyledawc canu claer orchyrdon
- A gwedy dyrreith dyleinw aeron
- Dimcones lovlen benn eryron
- Llwyt ef gorevvwyt y ysgylvyon
- Or a aeth gatraeth o eur dorchogyon
- Ar neges mynydawc mynawc maon
- Ny doeth en diwarth o barth vrython
- Ododin wr bell well no Chynon
66
[golygu]- Ardyledawc canu kenian kywreint
- Llawen llogell byt bu didichwant
- Hu mynnei engkylch byt eidol anant
- Yr eur a meirch mawr a med medweint
- Namen ene delei o vyt hoffeint
- Kyndilic aeron wyr enouant
67
[golygu]- Ardyledawc canu claer orchyrdon
- Ar neges mynydawc mynawc maon
- A merch eudaf hir dreis gwananhon
- Oed porfor gwisgyadur dir amdrychyon
68
[golygu]- Dyfforthes meiwyr molut nyuet
- Baran tan teryd ban gynneuet
- Duw mawrth gwisgyssant eu gwrym dudet
- Diw merchyr peri deint eu calch doet
- Divyeu bu diheu eu diuoet
- Diw gwener calaned amdyget
- Diw sadwrn bu divwrn eu kytweithret
- Diw sul eu llavneu rud amdyget
- Diw llun hyt benn clun gwaetlun gwelet
- Neus adrawd gododin gwedy lludet
- Rac pebyll madawc pan atcoryet
- Namen un gwr o gant ene delhet
69
[golygu]- Mochdwyreawc y more
- Kynnif aber rac ystre
- Bu bwlch bu twlch tande
- Mal twrch y tywysseist vre
- Bu golut mynut bu lle
- Bu gwyar gweilch gwrymde
70
[golygu]- Moch dwyreawc y meitin
- O gynnu aber rac fin
- O dywys yn tywys yn dylin
- Rac cant ef gwant gesseuin
- Oed garw y gwnaewch chwi waetlin
- Mal yuet med drwy chwerthin
- Oed llew y lladewch chwi dynin
- Cledyual dywal fysgyolin
- Oed mor diachor yt ladei
- Esgar gwr haual en y a bei
71
[golygu]- Disgynnwys en affwys dra phenn
- Ny deliit kywyt kywrennin benn
- Disgiawr breint vu e lad ar gangen
- Kynnedyf y ewein esgynnv ar ystre
- Ystwng kyn gorot goreu gangen
- Dilud dyleyn cathleu dilen
- Llywy llyvroded rwych ac asgen
- Anglas asswydeu lovlen
- Dyphorthes ae law luric wehyn
- Dymgwallaw gwledic dal
- Oe brid brennyal
72
[golygu]- Eidol adoer crei grannawr gwynn
- Dysgiawr pan vei bun barn benn
- Perchen meirch a gwrymseirch
- Ac ysgwydawr yaen
- Gyuoet a gyuergyr esgyn disgyn
73
[golygu]- Aer dywys ry dywys ryvel
- Gwlat gord garei gwrd uedel
- Gwrdweryt gwaet am iroed
- Seirchyawr am y rud yt ued
- Seingyat am seirch seirch seingyat
- Ar delw lleith dygiawr lludet
- Peleidyr en eis en dechreu cat
- Hynt am oleu bu godeu beleidryal
74
[golygu]- Keint amnat am dina dy gell
- Ac ystauell yt uydei dyrllydei
- Med melys maglawr
- Gwrys aergynlys gan wawr
- Ket lwys lloegrwys lliwedawr
- Ry benyt ar hyt yd allawr
- Eillt wyned klywere arderched
- Gwananhon byt ved
- Savwy cadavwy gwyned
- Tarw bedin treis trin teyrned
- Kyn kywesc daear kyn gorwed
- But orfun gododin bed
75
[golygu]- Bedin ordyvnat en agerw
- Mynawc lluydawc llaw chwerw
- Bu doeth a choeth a syberw
- Nyt oed ef wrth gyued gochwerw
- Mudyn geinnyon ar y helw
- Nyt oed ar lles bro pob delw
76
[golygu]- An gelwir mor a chynnwr ym plymnwyt
- Yn tryvrwyt peleidyr peleidyr gogymwyt
- Goglyssur heyrn lliveit llawr en assed
- Sychyn yg gorun en trydar
- Gwr frwythlawn flamdur rac esgar
77
[golygu]- Dyfforthes cat veirch a chatseirch
- Greulet ar gatraeth cochre
- Mae blaenwyd bedin dinus
- Aergi gwyth gwarth vre
- An gelwir ny faw glaer fwyre
- Echadaf heidyn haearnde
78
[golygu]- Mynawc gododin traeth e annor
- Mynawc am rann kwynhyator
- Rac eidyn aryal flam nyt atcor
- Ef dodes e dilis yg kynhor
- Ef dodes rac trin tewdor
- En aryal ar dywal disgynnwys
- Can llewes porthes mawrbwys
- O osgord vynydawc ny diangwys
- Namen vn aryf amdiffryf amdiffwys
79
[golygu]- O gollet moryet ny bu aessawr
- Dyfforthyn traeth y ennyn llawr
- Ry duc oe lovlen glas lavnawr
- Peleidyr pwys preiglyn benn periglawr
- Y ar orwyd erchlas penn wedawr
- Trindygwyd trwch trach y lavnawr
- Pan orvyd oe gat ny bu foawr
- An dyrllys molet med melys maglawr
80
[golygu]- Gweleis y dull o benn tir adoun
- Aberth am goelkerth a disgynnyn
- Gweleis oed kenevin ar dref redegein
- A gwyr nwythyon ry gollessyn
- Gweleis gwyr dullyawr gan awr adevyn
- A phenn dyvynwal a breych brein ae cnoyn
81
[golygu]- Mat vydic ysgavynwyn asgwrn aduaon
- Aelussawc tebedawc tra mordwy alon
- Gwrawl amdyvrwys goruawr y lu
- Gwryt vronn gwrvan gwanan arnaw
- Y gynnedyf disgynnu rac naw riallu
- Yg gwyd gwaed a gwlat a gordiynaw
- Caraf vy vudic lleithic a vu anaw
- Kyndilic aeron kenhan lew
82
[golygu]- Carasswn disgynnu yg catraeth gessevin
- Gwert med yg kynted a gwirawt win
- Carasswn neu chablwys ar llain
- Kyn bu e leas oe las uffin
- Carasswn eil clot dyfforthes gwaetlin
- Ef dodes e gledyf yg goethin
- Neus adrawd gwrhyt rac gododyn
- Na bei mab keidyaw clot un gwr trin
83
[golygu]- Truan yw gennyf vy gwedy lludet
- Grodef gloes angheu trwy angkyffret
- Ac eil trwm truan gennyf vy gwelet
- Dygwydaw an gwyr ny penn o draet
- Ac ucheneit hir ac eilywet
- En ol gwyr pebyr temyr tudwet
- Ruvawn a gwgawn gwiawn a gwlyget
- Gwyr gorsaf gwryaf gwrd yg calet
- Ys deupo eu heneit wy wedy trinet
- Kynnwys yg wlat nef adef avneuet
84
[golygu]- Ef gwrthodes tres tra gwyar llyn
- Ef lladei val dewrdull nyt echyn
- Tavloyw ac ysgeth tavlet wydrin
- A med rac teyrned tavlei vedin
- Menit y gynghor men na lleveri
- Lliaws ac vei anwaws nyt odewyt
- Rac ruthyr bwyllyadeu a chledyvawr
- Lliveit handit gwelir llavar lleir
85
[golygu]- Porthloed vedin
- Porthloed lain
- A llu racwed
- En ragyrwed
- En dyd gwned
- Yg kyvryssed
- Buant gwychawc
- Gwede meddawt
- A med yuet
- Ny bu waret
- An gorwylam
- Enyd frwythlam
- Pan adroder torret ergyr
- O veirch a gwyr tyngir tynget
86
[golygu]- Pan ym dyvyd lliaws pryder
- Pryderaf fun
- Fun en ardec
- Aryal redec
- Ar hynt wylaw
- Ku kystudywn
- Ku carasswn
- Kelleic faw
- Ac argoedwys
- Guae gordyvnwys
- Y emdullyaw
- Ef dadodes arlluyd pwys ar lles rieu
- Ar dilyvyn goet
- Ar diliw hoet
- Yr kyvedeu
- Kyvedwogant ef an dyduc ar dan adloyw
- Ac ar groen gwynn goscroyw
87
[golygu]- Gereint rac deheu gawr a dodet
- Lluch gwynn gwynn dwll ar ysgwyt
- Yor yspar llary yor
- Molut mynut mor
- Gogwneif heissyllut gwgynei gereint
- Hael mynawc oedut
88
[golygu]- Diannot e glot e glutvan
- Diachor angor ygkyman
- Diechyr eryr gwyr govaran
- Trin odef eidef oed eiryan
- Ragorei veirch racvuan
- En trin lletvegin gwin o bann
- Kyn glasved a glassu eu rann
- Bu gwr gwled od uch med mygyr o bann
89
[golygu]- Dienhyt y bob llawr llanwet
- E hual amhaual afneuet
- Twll tall e rodawr
- Cas o hir gwythawc
- Rywonyawc diffreidyeit
- Eil gweith gelwideint a mallet
- Yg catveirch a seirch greulet
- Bedin agkysgoget yt vyd cat voryon
- Cochro llann bann ry godhet
- Trwm en trin a llavyn yt lladei
- Garw rybud o gat dydygei
- Cann calan a darmeithei
- Ef gwenit adan vab ervei
- Ef gwenit adan dwrch trahawc
- Un riein a morwyn a mynawc
- A phan oed mab teyrn teithyawc
- Yng gwyndyt gwaed glyt gwaredawc
- Kyn golo gweryt ar rud
- Llary hael etvynt digythrud
- O glot a chet echyawc
- Neut bed garthwys hir o dir rywonyawc
90
[golygu]- Peis dinogat e vreith vreith
- O grwyn balaot ban wreith
- Chwit chwit chwidogeith
- Gochanwn gochenyn wyth geith
- Pan elei dy dat ty e helya
- Llath ar y ysgwyd llory eny llaw
- Ef gelwi gwn gogyhwch
- Giff gaff dhaly dhaly dhwc dhwc
- Ef lledi bysc yng corwc
- Mal ban llad llew llywywc
- Pan elei dy dat ty e vynyd
- Dydygei ef penn ywrch pen gwythwch penn hyd
- Penn grugyar vreith o venyd
- Penn pysc o rayadyr derwennyd
- Or sawl yt gyrhaedei dy dat ty ae gicwein
- O wythwch a llewyn a llwyuein
- Nyt anghei oll ny uei oradein
91
[golygu]- Peum dodyw angkyvrwng o angkyuarc
- Nym daw nym dyvyd a uo trymach
- Ny magwyt yn neuad a vei lewach
- Noc ef nac yng cat a vei wastadach
- Ac ar ryt benclwyt pennawt oed e veirch
- Pellynic e glot pellws e galch
- A chyn golo gweir hir a dan dywarch
- Dyrllydei vedgyrn un mab feruarch
92
[golygu]- Gueleys y dull o bentir a doyn
- Aberthach coelcerth a emdygyn
- Gueleys y deu oc eu tre re ry gwydyn
- O eir nwython ry godessyn
- Gueleys y wyr tylluawr gan waur a doyn
- A phen dyuynwal vrych brein ae knoyn
93
[golygu]- Gododin gomynnaf oth blegyt
- Yg gwyd cant en aryal en emwyt
- A guarchan mab dwywei da wrhyt
- Poet yno en vn tyno treissyt
- Er pan want maws mor trin
- Er pan aeth daear ar aneirin
- Mi neut ysgaras nat a gododin
94
[golygu]- Llech llefdir aryf gardith tith ragon
- Tec ware rac gododin ystre anhon
- Ry duc diwyll o win bebyll ar lles tymyr
- Tymor tymestyl tra merin llestyr
- Tra merin llu llu meithlyon
- Kein gadrawt rwyd rac riallu
- O dindywyt en dyuuwyt yn dyvuu
- Ysgwyt rugyn rac doleu trin tal vriw vu
95
[golygu]- Dihenyd y bop llaur llanwet
- Y haual amhal afneuet
- Twll tal y rodauc
- Cas o hir gwychauc
- Rywynyauc diffret
- Eil with gwelydeint amallet
- Y gat veirch ae seirch greulet
- Bit en anysgoget bit get
- Uoron gwychyrolyon pan ry godet
- Trwm en trin a llain yt ladei
- Gwaro rybud o gat dydygei
- Gant can yg calan darmerthei
- Ef gwenit a dan vab uruei
- Ef gwenit a dan dwrch trahauc
- Un riein a morwyn a menauc
- A chan oed mab brenhin teithiaug
- Ud gwyndyt gwaet kilyd gwaredawc
- Kyn golo gweryt ar grud hael etvynt
- Doeth dygyrchet y get ae glot ae echiauc
- Uot bed gorthyn hir o orthir rywynauc
96
[golygu]- Am drynnv drylav drylen
- Am lwys am diffwys dywarchen
- Trihuc baruaut dreis dili plec hen
- Atguuc emorem ae guiau hem
- Hancai ureuer uragdenn
- At gwyr a gwydyl a phrydein
- At gu kelein rein rud guen
- Deheuec gwenauwy mab gwen
97
[golygu]- Am giniav drylav drylen
- Trym dwys tra diffwys dywarchen
- Kemp e lumen arwr baruawt asgell
- Vreith edrych eidyn a breithell
- Goruchyd y lav loften
- Ar gynt a gwydyl a phryden
- A chynhyo mwng bleid heb pren
- Eny law gnavt gwychlaut ene lenn
- Prytwyf ny bei marw morem
- Deheuec gwenabwy mab gwen