Yr Adfail

Oddi ar Wicidestun

gan Dafydd ap Gwilym

“Tydi, y bwth tinrhwth twn,
Yrwng weundir a gwyndwn,
Gwae a’th weles, dygesynt,
Yn gyfannedd gyfedd gynt,
Ac a’th wŷl heddiw’n friw frig
Dan do ais, dwyndy ysgig;
A hefyd ger dy hoywfur
Ef a fu ddydd, cerydd cur,
Ynod, ydd oedd ddiddanach
Nog yr wyd, y gronglwyd grach,
Pan welais, pefr gludais glod,
Yn dy gongl un deg yngod,
Forwyn, bonheddig fwyn fu,
Hoywdwf yn yonghydu,
A braich pob un gofl fun fudd,
Yn gwlm arngylch ci gilydd;
Braich meinir, briwawch clod;
A’m braich innau, somau syml,
Dan glast asw dyn glwys disyml
Hawddfyd gan fasw i’th laswydd,
A heddiw nid ydyw’r dydd.”


“Ys mau gŵyn, geirswyn gwersyllt,
Am hynt a wnaeth y gwynt gwyllt.
Ystorm o fynwes dwyrain
A wnaeth gur hyd y mur main.
Uchenaid gwynt, gerrynt gawdd,
Y deau a’m didoawdd.”


“Ai’r gwynt a wnaeth helynt hwyr?
Da y nithiodd dy do neithiwyr.
Hagr y torress dy esyth;
Hudol enbyd yw’r byd byth.
Dy gongl, mau ddeongl ddwyoch,
Gwely ym oedd, nid gwål moch.
Doe’r oeddud mewm gradd addwyn
Yn glyd uwchben fy myd mwyn;
Hawdd o ddadl, heddiw’dd ydwyd,
Myn Pedr, heb na chledr na chlwyd.
Amryw bwnc ymwnc amwyll,
Ai hwn yw’r bwth twn bath twyll?”


“Aeth talm o waith y teulu,
Dafydd å chroes; da foes fu.”